Cofnodion:
Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd wedi ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a bod yna amod ychwanegol y dylid cynnal uchder y clawdd ar flaen y ffin ar isafswm uchder o ddau fetr.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Rogiet, a oedd wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:
· Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddeddfwriaeth sydd yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i ystyried y fath geisiadau. Nid yw ystyried o reidrwydd yn golygu cymeradwyo.
· Mae’r Aelod lleol wedi cysylltu gyda thrigolion sydd yn byw ger y safle a Chyngor Cymuned Rogiet.
· Mae Cyngor Cymuned Rogiet wedi cyflwyno sawl gwrthwynebiad i’r cais.
· Mae’r cais yn cyfeirio at garafán statig fawr ac adeilad bloc sy’n cael ei ddefnyddio fel stabl sydd wedi disodli adeilad pren. Nid oes unrhyw geffylau wedi eu cadw ar y safle ers adeiladu’r stabl.
· Mae’r stabl presennol i’w drawsnewid i mewn i ystafell ddydd a fydd yn estyniad parhaol i’r garafán statig. Mae yna gysylltiadau hefyd i’r bibell garthffosiaeth ac mae’r Aelod lleol yn ystyried hyn yn drefniant parhaol.
· Mae’r Aelod Lleol yn credu bod cymeradwyo’r cais hwn yn mynd i arwain at safle preswyl parhaol.
· Mae ymdrechion blaenorol i ddatblygu’r safle wedi eu gwrthod gan fod ceisiadau wedi eu cyflwyno y tu hwnt i dermau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Rhaid ystyried unrhyw amddiffyniadau sy’n cael eu darparu gan y CDLl.
· Tra nad yw’r ardal o dan ystyriaeth yn rhan o’r lletem las, mae wedi bod yn rhan o’r olygfa wledig.
· Dyfynnwyd y gwrthwynebiad gan y ‘Landscape Green Infrastructure’ o fis Rhagfyr 2021. Ystyriwyd bod y materion sydd wedi eu codi fel rhan o’r gwrthwynebiad ond wedi eu lliniaru’n rhannol gan y diwygiadau i’r cais gwreiddiol.
· Roedd yr ymgeiswyr wedi cynnig yr un safle fel safle ymgeisiol ar gyfer tai o dan y CDLl diwygiedig, gan awgrymu y byddai’n fwy hawdd i’r ymgeisydd i sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer datblygu tai.
· Ystyriwyd bod pob cam o’r broses cais yn ffordd o sicrhau tai parhaol ar y safle. Fodd bynnag, mae’r adroddiad ar y cais yn ystyried hyn fel rhywbeth amherthnasol. Mynegwyd pryderon yngl?n ag a oedd y cais yn gais dilys ar gyfer t? teuluol neu a oedd yn fenter sydd yn ceisio sicrhau budd ariannol o’r farchnad dai.
· Ystyriwyd bod yr ymgeisydd yn ystyried yr opsiynau gyda’r nod i fanteisio i’r eithaf ar y tir fel ased cynllunio.
Wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae yna angen am safleoedd cyfreithlon ar gyfer teithwyr o fewn y Sir.
· Dyma safle bach gydag un garafán, un ‘touring pitch’ ac un ystafell ddydd.
· Mae yna gyfleustodau ar y safle fel pibell dd?r yfed a thrydan.
· Mae’r safle wedi ei sgrinio’n dda gyda chlawdd a ffens panel, ac ni fyddai hyn yn cael effaith weledol adweithiol o’r heol neu’r ardal gyfagos. Dylid cynnal y clawdd fel ‘laurel’ neu’i ddisodli gan glawdd na sydd yn gollwng dail. Dylid gofyn am gyngor gan yr ecolegydd yngl?n â’r mater hwn. Gallai swyddogion ystyried diwygio tirwedd y cynlluniau.
· Bydd yr eiddo sydd agosaf i’r safle yn medru cadw ei breifatrwydd yn sgil cyfeiriadedd yr eiddo.
· Os caiff ei gymeradwyo, dylid cynnal uchder y clawdd gydag isafswm uchder o ddau fetr, fel sydd wedi ei nodi.
· O ran mynediad i’r safle, roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno dyluniad sydd yn cwrdd â gofynion yr Adran Briffyrdd. Bydd y mynediad presennol yn cael ei ddiwygio’n briodol ac yn unol gyda’r safonau cyfredol os yw’r cais yn cael ei gymeradwyo.
· O ran y trefniadau draenio, os yw’r bibell garthffosiaeth ar gael yn y lôn gyfagos neu drwy’r B4245, mae dyletswydd ar D?r Cymru i gysylltu eiddo preswyl. Felly, bydd hawl gan yr ymgeisydd i gysylltu gyda’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Nodwyd y bydd D?r Cymru yn cysylltu’r safle gyda’r system garthffosiaeth gyhoeddus.
· Roedd y Pennaeth Cynllunio wedi hysbysu’r Pwyllgor bod modd ychwanegu amod, sef bod y mynediad ar gyfer y cynllun diwygiedig yn cael ei adeiladu cyn dechrau defnyddio’r safle.
Roedd y Cynghorydd Sir J. McKenna wedi cynnig, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir A. Webb, bod cais DM/2021/01695 yn cael ei gymeradwyo, yn seiliedig ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a’r amodau ychwanegol canlynol:
· Rhaid cynnal uchder y clawdd ar y ffin sydd o flaen y safle ar isafswm uchder o 1.8 metr, a hynny am byth.
· Bydd manylion o ran paratoi’r tirwedd yn cael eu rhannu o ran y math o glawdd a ddefnyddir.
· Bydd y clawdd a’r mynediad yn cael eu gosod/adeiladu yn unol gyda’r cynlluniau cymeradwy, a hynny cyn gwneud defnydd o’r safle.
Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y canlyniadau canlynol:
O blaid y cynnig - 12
Yn erbyn y cynnig - 1
Wedi ymwrthod - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Roeddem wedi cytuno y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/01695, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a’r amodau ychwanegol canlynol:
· Dylid cynnal uchder y clawdd ar flaen y ffin i isafswm o 1.8 metr o uchder, a hynny am byth.
· Bydd manylion am baratoi’r tirwedd yn cael eu cyflwyno er mwyn deall y math o glawdd sydd i’w ddefnyddio.
· Bydd y clawdd sydd i’w osod a’r mynediad sydd i’w adeiladu yn gyson gyda’r cynlluniau cymeradwy cyn bod y safle yn dechrau cael ei ddefnyddio.
Dogfennau ategol: