Cofnodion:
Cyflwynodd Roger Hoggins yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Mark Hand.
Her:
A allem ni gael eglurhad pellach ar gyllid a chostau?
Ystyriwyd bod astudiaeth Dyffryn Gwy yn gyfle i ddod â chynghorau cymuned at ei gilydd. Edrychwyd arno fel arbrawf, ar un ystyr, a chafodd y fantais ychwanegol o gael ffin gorfforol gan ei fod wedi'i leoli yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy - roedden nhw wedyn yn cael mewnbwn ac yn helpu'n sylweddolgyda'r cyllid. Daeth yr holl waith a’r ymgynghoriad i £49m, ond efallai na fyddai angen i adroddiadau eraill fod mor helaeth ac felly mor gostus. Mae'r cynghorau cymuned dan sylw wedi codi eu praeseptau er mwyn codi arian i gyfrannu tuag at arwyddion newydd.
Efallai bod gan bentrefi eraill ddiddordeb, felly beth yw manteision ac anfanteision y dull hwn?
Drwy ddod â'r cynghorau cymuned at ei gilydd, roedden nhw'n gweithredu gyda'i gilydd, a helpodd hyn hwy i weithio tuag at nod cyffredin. Un o wendidau'r dull gweithredu yma yw os yw un o'r cynghorau cymuned yn dweud nad ydyn nhw'n cytuno nac yn dymuno cymryd rhan bellach.
Does dim sôn amdano ar hyn o bryd, ond mae'n risg. Roedd arwyddion yn enghraifft dda o waith cydweithredol cadarnhaol, er ar fater cymharol fach: erbyn hyn mae arwyddion ym mhobman yn hysbysu'r cyhoedd eu bod yn yr AHNE, pob un â chefndiroedd yn gysylltiedig â'r pentrefi unigol, ac felly'n helpu i greu hunaniaeth i'r AHNE a'r pentrefi o’i mewn.
Rydym wedi gallu gweithredu ar y cyd wrth gyflwyno'r pentrefi ar gyfer y materion rheoli cyflymder; yn yr un modd, gyda'r neuaddau pentref, byddwn ni'n gallu gweithio ar draws ardal Dyffryn Gwy. Mae p'un a yw cynghorau cymuned eraill am weithredu ar y cyd yn rhywbeth y gellid ei archwilio ond yn yr achos hwn, roedd bod yn yr AHNE yn dod â nhw at ei gilydd yn haws ac yn rhesymegol. Mae'n ymddangos ei fod yn dod â mwy o hyder i'r cynghorau cymuned i fod yn fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd. Rydym yn ceisio creu diwylliant lle mae cynghorau cymuned a thref yn rhagweithiol wrth weithio gyda'r Cyngor Sir, yn hytrach na gweithredu fel unigolion.
Mae cyllid Teithio Llesol yn tueddu i ganolbwyntio ar ganol trefi, yn hytrach na phentrefi - nid yw'n ymddangos bod ystyriaeth am Deithio Llesol yn cysylltu pentrefi â threfi?
Dylid fod wedi datgan y term 'Teithio Llesol' fel cerddwyr a seiclwyr. Mae uno pentrefi i drefi yn bwynt da. Mae'n debyg bod angen ei godi mewn mannau eraill rywbryd ond ie, ar hyn o bryd, mae cyllid wedi'i anelu'n bennaf tuag at ganol trefi.
Faint gymerodd i wneud y gwaith?
Dechreuodd y broses ym mis Hydref 2019 yn Nhyndyrn pan wnaethom lunio agenda a gofyn am gymorth gan gynghorau cymuned. Aethom i Catbrook i ysgrifennu'r cylch gorchwyl, yna gweithio o gwmpas pentrefi lleol mewn cyfarfodydd amrywiol. Fe wnaeth y broses arafu rywfaint gyda'r pandemig. Digwyddodd rhywfaint o ymgysylltu â rhanddeiliaid dros Dimau ac roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach ar-lein. Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r gr?p llywio o'r diwedd ym mis Mawrth 2022.
Faint mae'r gwaith hwn yn cysylltu â'r RLDP, a pha effaith fyddai'n ei gael ar hynny?
Nid yw'n eistedd gyda'r CDLlA. Mae'r gyrwyr y tu ôl i hyn yn creu lleoedd a'r hunaniaeth a rennir yn yr AHNE, gan lywio twristiaeth, yr hyn sy'n gweithio'n dda i gymunedau, a diogelwch priffyrdd. Yr unig fater perthnasol gyda'r CDLlA yw'r angen am dai fforddiadwy yn y cymunedau hynny, a sut mae'n cael ei ddarparu.Mae cysylltiad rhwng hyn a'r adroddiad nesaf, a'r cwestiwn am Deithio Llesol, yn ymwneud â maint y cyllid a'r adnodd i gefnogi'r uchelgeisiau hyn – mae'r uchelgais yn llawer mwy nag adnoddau, ac nid yw'r ffyrdd o gyflawni rhai o'r amcanion yn hysbys eto. Mae Seminar Aelodau ar 8fed Gorffennaf ar Deithio Llesol, a fydd yn gyfle da i ofyn cwestiynau a cheisio eglurder ar y mater hwnnw.
Mae hybu mannau gweithio a rennir yn allweddol er mwyn caniatáu i bobl weithio lle maen nhw'n byw ond mewn llawer o bentrefi mae diffyg band eang neu signal ffôn da - a gafodd hynny ei ystyried yn yr adroddiad?
Sonnir am gysylltedd yn yr adroddiad ond dydw i ddim yn si?r beth yw'r diweddaraf ar ei wella mewn pentrefi, er yn sicr mae prosiectau ar y gweill i wneud hynny - gallwn ofyn am ddiweddariad.
.
Ydy'r adroddiad hwn yn cynrychioli gwerth da am arian? Fyddech chi'n defnyddio Arup eto?
O ran gwerth am arian, fe aethom ni drwy broses dendro ond mae'n anodd ateb yn bendant. O bosib byddem ni'n gwneud yr un peth eto, roeddem ni wedi gwneud llawer o waith gydag Arup yn y blynyddoedd diwethaf, ond does dim teyrngarwch penodol yno. Roedd y broses hon yn cynnwys datblygu'r digwyddiad ymgynghori ar-lein, llunio ystafelloedd rhithwir ac ati - efallai yn y dyfodol, o ystyried ein profiad diweddar, efallai y byddwn yn gwneud mwy o hyn yn fewnol.
.
Ble mae'r ymdeimlad o flaenoriaethu, lle mae cyllid ar gael? A oes prynu i mewn gan awdurdodau cyfagos? Nid yw'r mesurau teithio cynaliadwy yn mynd i'r afael â'r agwedd ymddygiadol - beth arall allwn ni ei wneud i ennill cefnogaeth a newid ymddygiadau?
Bydd angen ymagwedd bragmataidd: mae'n debyg y bydd blaenoriaethau yn cael eu penderfynu gan ba gyllid fydd ar gael. Mae cael cynllun yn rhoi'r ardal mewn lle gwell pe bai cyfleoedd i gynnig am gyllid yn cyflwyno’u hunain. Mae AHNE Dyffryn Gwy wedi bod yn bartner proffidiol oherwydd ei bod wedi gallu codi arian. Bydd llawer yn dibynnu ar y gr?p cyflenwi i weithio gyda'r prosiectau a'r swyddogion i edrych ar ba gyllid allai fod ar gael, beth allai'r Cyngor Sir a/neu Gynghorau Cymuned gynhyrchu, a'r hyn a allai ddod drwy AHNE Dyffryn Gwy. Er mwyn cadw bywyd yn yr adroddiad, bydd angen i bethau barhau i symud, bydd angen cyhoeddi datganiadau i'r wasg am lwyddiannau a nodau'r dyfodol am yr hyn sy'n cael ei gyflawni a'r camau/uchelgeisiau nesaf e.e. terfynau cyflymder yn dod i mewn, nodweddion porth fel arwyddion, er, ie, efallai na fydd hyn yn ddigon i newid ymddygiad yn llwyr, ond dylai gael rhywfaint o effaith.
O ran prynu i mewn, mae Swydd Gaerloyw a Fforest y Ddena yn ymwybodol o'r adroddiad hwn. Bydd AHNE Dyffryn Gwy yn mynd â'r adroddiad i'w phwyllgor i'w fabwysiadu hefyd, a fydd yn rhoi ffordd i mewn i ni i'r awdurdodau eraill hynny
Sut allem ni reoli disgwyliadau yn y cymunedau?
Un ffordd fyddai trwy gadw'r cyhoedd yn ymwybodol drwy'r cyfryngau a datganiadau i'r wasg am yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sy'n dod nesaf - penawdau am bethau gweladwy y mae pobl yn mynd i'w gweld yn newid.
A allwn ni barhau ag ystafelloedd rhithwir ac ati er mwyn diweddaru'r preswylwyr a'u hysbysu?
Defnyddiwyd y broses honno ar gyfer astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent, gan dderbyn 6000 o drawiadau a 330 o ymatebion, ac mae'n rhoi gwybodaeth ddemograffig hefyd (os yw'r cyhoedd yn dewis ei darparu), a oedd yn gymysg. Defnyddiwyd yr un peth ar gyfer digwyddiad ymgynghori AHNE Dyffryn Gwy, gan gofrestru tua 2500 o drawiadau - er nad yw trawiadau yn golygu ymatebion.Ar gyfer y cyntaf, efallai na fyddai 330 o ymatebion o 6000 o drawiadau yn swnio'n lluosog ond byddai'r nifer o ymatebion i unrhyw ymgynghoriad arall yn dda iawn. Ond mae darn o waith i'w wneud i gymysgu'r ar-lein gyda dulliau ymgynghori mwy traddodiadol. Fe weithiodd ar-lein yn dda iawn fel dewis amgen yn ystod y pandemig.
Mae'n bryder mai dim ond 4 wythnos yw cyfnod ymgynghori Hyb Trafnidiaeth Cas-gwent, gan ystyried bod cynghorau cymuned ond yn cyfarfod bob mis.
Yn ddelfrydol, byddai'r cyfnod ymgynghori wedi bod yn 6 wythnos ond yn yr achos hwn roedd angen cyfaddawd.
O ran ceisio cyrraedd pob aelod cyhoeddus posib, roedd astudiaeth Arup yn ystafell rithiol ond doedd dim modd gweld y ddogfen gyfan - dylai'r ddogfen ymgynghori lawn fel dogfen pdf a dogfen eiriau ar gyfer ymateb di-rithiol fod ar y wefan. A ellid gwneud y newidiadau hynny ar yr astudiaeth hon neu yn y dyfodol?
O ran ceisio cyrraedd pawb parthed ymgynghoriad yr Hyb Trafnidiaeth, roedd y datganiad i'r wasg yn cynnwys y rhif ffôn i bobl gysylltu os oedden nhw eisiau copi caled, ac fe ddylai fod wedi bod ar dudalen flaen ein gwefan - byddwn yn gwirio hynny. Gwnaethom bostio llawer o ddogfennau copi caled ar gyfer Cam 2 Trafnidiaeth Cas-gwent, felly nid oedd gennym y feirniadaeth honno. Mae'r testun ar y wefan ynghylch gofyn am gopïau caled o ddogfen Hyb Trafnidiaeth Cas-gwent. Wrth edrych ymlaen, ar-lein - gydag ystafelloedd rhithwir - yn apelio at rai pobl, o bosib yn denu rhai na fyddai fel arall yn cymryd rhan. Ond fe ddylai copïau caled ac wyneb yn wyneb ddal i fod yn rhan ohono, felly fydd yn gymysgedd. Rydym ni wedi gweld beth sy'n bosib ei gyflawni gyda'r dechnoleg oherwydd Covid, ond ni ddylai reoli popeth.
Pam fod Whitebrook ar goll o'r adroddiad, a beth am Lanisien? Dylid cyfrif ardaloedd a welir o fewn yr AHNE fel rhan ohoni e.e. Llanisien, Llansoi a'r cwm i lawr o Devauden.
Roedd dadl yngl?n â pha bentrefi i'w cynnwys yn yr astudiaeth - gadawyd Whitebrook allan ond mae'n ddogfen fyw ac mae'n ddigon posib y gellid ailedrych arni i gynnwys pentrefi ac ardaloedd eraill. Hyd a lled yr astudiaeth oedd ffin yr AHNE; Roedd Llansoy tu allan i hyn ond mae Llanisien i mewn fel rhan o Drellech United.
Ail-agor cledrau rheilffordd e.e. y twnnel o Dyndyrn i Gas-gwent: mae twnnel hir o Whitebrook i Redbrook lle mae ardaloedd lle gellid gwella'r wyneb, i gynyddu'r nifer o bobl sy'n ei ddefnyddio.
Gallai traciau rheilffordd a gwella cledrau beicio fod yn gyfrwng defnyddiol i'r gr?p hwn symud ymlaen, gan fod ymestyn y traciau presennol eisoes yn cael ei drafod. Os yw'r gr?p hwn yn cymryd hynny ymlaen neu'n gweithredu fel gr?p lobïo ar ei gyfer mae'n rhywbeth y gellir ei weithio allan wrth i ni symud ymlaen - nid yw'n rhan o'r cynllun ar hyn o bryd, ond gellir ei gynnwys wrth iddo gael ei ddiweddaru.
Sut allwn ni ddenu ffermwyr? Oes mwy o wybodaeth am ffosffadau ac ati a sut mae cynnwys ffermwyr?
Mae afonydd a halogiad yn disgyn y tu allan i'r gr?p hwn fel y mae’r sefyllfa ar hyn o bryd. O ran ffermwyr, y syniad oedd chwilio am gynlluniau peilot i roi cynnig ar ddulliau newydd a allai weithio e.e. newid defnydd tir, lleihau gwrtaith. Mae'n fater o ddod o hyd i'r cyfleoedd hynny a'u profi. Mae'n fater o weithio gyda ffermwyr unigol a'r NFU neu FUW.
Sut fydd y genhedlaeth h?n yn yr ardaloedd hyn - demograffeg fawr – yn dysgu am yr ymgynghoriad, os nad ydyn nhw'n hoffi defnyddio'r rhyngrwyd?
Cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu yn y wasg, bod copi caled ar gael, ond mae'n bwynt teg yngl?n ag ymgynghori'n helaethach yn y dyfodol, fel y trafodwyd eisoes - mae yna waith i'w wneud yn bendant yno.
Beth am yr ymwybyddiaeth o unigrwydd a lles i'r bobl hynny allu rhyngweithio ag eraill, gan sicrhau eu bod yn defnyddio eu hybiau neuadd bentref?
Mae'r defnydd o neuaddau pentref fel hybiau, boed hynny ar gyfer cyd-weithio neu ddefnydd cymunedol, a manteisio’n fwy arnynt nag a wneir ar hyn o bryd, yn rhywbeth y mae Dyffryn Gwy wedi creu cyllid ar ei gyfer gobeithio - mae cais am arian grant wedi'i wneud - ac ar y pwynt hwn mae swyddog ar gael i weithio gyda'r neuaddau pentref i weld sut olwg fyddai ar eu dyfodol.
Mae croeso mawr i'r adroddiad ond mae'n codi llawer o gwestiynau ychwanegol am ddemograffeg heneiddio'r cymunedau, ansawdd eu bywydau, a theithio rhwng y pentrefi. Sut bydd y pwyntiau hyn yn cael sylw?
Dydyn ni ddim yn gallu ateb rhai o'r pwyntiau hynny yma. Dyma adborth allai fynd i'r Cabinet: gallai'r pwyllgor ofyn am ymestyn rôl y gr?p a maint yr adroddiad, er mwyn mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn. Gallai hyn wedyn fynd yn ôl i'r Cynghorau Cymuned iddyn nhw fod yn rhan - fel hyn gellid defnyddio'r gr?p i fynd i'r afael â'r pryderon hyn ynghylch natur wledig, er nad dyna oedd y cylch gwaith gwreiddiol.
Yn yr AHNE, y prif fwgan yw ei hafon lygredig iawn. A fydd yn cael effaith ar dwristiaeth ac agweddau eraill sy'n dod o dan yr adroddiad hwn? Mae'r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Amgylchedd mewn cysylltiad ag awdurdodau cyfagos yn barod - a ddylai hyn fynd i'r Cabinet gyda chais ychwanegol ei fod wedi'i glymu, lle bo'n bosib, gyda'r gwaith arall yn y Cabinet yngl?n â'r afonydd?
Dylai, rydym yn ymwybodol o sgyrsiau sy'n digwydd gydag Aelodau'r Cabinet am effaith halogi afonydd, sy'n fater eang y tu hwnt i gylch gwaith y gr?p sy'n cael ei ystyried yn unig.
Crynodeb y Cadeirydd:
Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Dyfodol Pentrefi Dyffryn Gwy ac roedd yn fodlon ei gymryd i'r Cabinet, ond gyda'r argymhelliad bod y cynllun yn cyd-fynd â llifoedd gwaith eraill sy'n cael eu gwneud ar ffosffadau a llygredd afonydd h.y. bod y ddau gr?p yn gweithio gyda'i gilydd i gysoni eu gwaith. Cytunodd y pwyllgor hefyd y bydden nhw'n hoffi cyflwyno'r adroddiad ar Afonydd a Chefnfor sydd i fod i gael ei ystyried gan y Cyngor ar yr 22ain o Fedi i'r Pwyllgor Craffu Lle ar y 15fed o Fedi, i gynnal craffu cyn penderfyniadau.
Dogfennau ategol: