Agenda item

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Ysgol 3-19 y Fenni

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Martin Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg, yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys adeiladu ysgol 3-19 newydd ar safle Brenin Harri VIII yn Rhaglen Cyllid Cyfalaf y Cyngor. Sefydlir yr ysgol 3-19 newydd drwy gau Ysgolion Brenin Harri VIII ac Ysgol Deri View, fel y cytunwyd yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar 19 Ionawr 2022. Bydd y cyllid yn galluogi adleoli Ysgol y Fenni i safle presennol Deri View.

 

Roedd llawer o Aelodau yn awyddus i gefnogi’r argymhellion a chymeradwyo’r prosiect.

 

Gofynnwyd am sicrwydd y caiff cynlluniau cadarn ar gyfer teithio llesol eu datblygu ac y gosodir targedau o’r cam cynllunio, gan hyrwyddo opsiynau teithio llesol a chynaliadwy i sicrhau nad yw tagfeydd traffig yn gysylltiedig ag ysgolion yn arwain at ansawdd aer gwael yn yr ardal leol.

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol i gefnogi’r datblygiad:

 

·       Ymgysylltu gyda phreswylwyr o bob oed.

·       Safle dros dro yn y dref ar wahanol gyfnodau o gwblhau’r gwaith i gynyddu ymgysylltu, efallai safle parhaol yn y farchnad.

·       Cystadleuaeth i greu celfwaith neu gerflun i gael ei leoli yn yr ysgol.

·       Ymestyn llwybrau seiclo diogel i safle gollwng ar ymyl y dref lle gellid gosod raciau beic.

 

Ar ran y Gr?p Ceidwadol, canmolodd Arweinydd yr Wrthblaid yr holl swyddogion a fu’n ymwneud â’r prosiect a Ms. Lewis am ei harweinyddiaeth. Holodd os oedd swyddogion yn hyderus y bydd y cladin a ddefnyddir yn gynaliadwy.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad oedd yn galluogi datblygiad y drydedd Ysgol 21ain Ganrif.

 

Gofynnwyd cwestiwn am agwedd economaidd-gymdeithasol yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a’r effaith ar y rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn gefnogol i’r Asesiad ac esboniai y credai y byddai anghenion plant oedran cynradd yn cael eu diwallu’n llawer mwy effeithiol nag a fu’n bosibl yn y gorffennol.

 

Roedd swyddogion wedi rhoi sicrwydd yn flaenorol i’r Cynghorydd Sir Tony Easson na fyddai’r paneli cladin a ddefnyddir yn cynhyrchu fawr neu ddim mwg ac na fyddent yn cynhyrchu diferion fflamychol.

 

Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn nodi y cafwyd cymeradwyaeth y Gweinidog i’r Achos Busnes Llawn yn gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru a’u cyfraniad o £47,024,335 (67%) tuag at gyfanswm cost adeiladu ysgol 3-19 newydd o £69,292,62

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynyddu’r gyllideb gymeradwy o fewn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor o £43,000,000 i £69,792,623,  gan adlewyrchu’r gost adeiladu ddiwygiedig o £69,292,623 a £500,000 ychwanegol sydd ei angen ar gyfer gwelliannau cysylltiedig i briffyrdd.

 

Bod y Cyngor yn nodi y bydd y cynnydd yn y gyllideb angen ymrwymiad pellach o fenthyca’r Cyngor o £7,718,288 a bod costau cyllideb refeniw dilynol ar gyfer gwasanaethu’r benthyca hyn fel yr amlinellir yn adran adnoddau yr adroddiad hwn.

 

Bod y Cyngor yn nodi penodi Morgan Sindall Construction i adeiladu’r ysgol 3-19 newydd.

 

Datgan bod Ysgol Gynradd Gymraeg y Fenni dros ben y gofynion, ac y bydd y Tîm Datblygu Stadau yn gwaredu â hi ar delerau i’w cytuno mewn ymgynghoriad gyda’r Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ategol: