Skip to Main Content

Agenda item

Cais DM/2020/01288 – Cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol i ystafell gyfarpar, wal gadw, tanc olew a sied ardd fel y’u codwyd. The Gables, Lôn Wainfield, Gwehelog, Brynbuga.

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i addasu amod 3 fel a gannlyn.

 

·         O fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd hwn bydd manylion y tri blwch ystlum ac adar, un i'r blaen a’r ddau sydd agosaf at gefn yr adeilad, fel y dangosir ar luniad LSC/01 A, yn cael eu cyflwyno i a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio lleol.  Dylid cyflwyno’r manylion sydd wedi’u cymeradwyo o fewn tri mis o’r gymeradwyaeth a'u cadw felly am byth.

 

Roedd Ms. A.M. Smale, a oedd yn gwrthwynebu'r cais, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ac amlinellwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Amod 1 adroddiad y swyddog yn gofyn i'r Pwyllgor gymeradwyo cynlluniau yn y tabl isod.  Fodd bynnag, nid oes tabl yn yr adroddiad i'w adolygu. Mynegwyd pryder ynghylch pa luniau oedd angen eu cymeradwyo a chwestiynwyd a oedd y tabl wedi'i gyhoeddi mewn digon o bryd er mwyn rhoi cyfle iddo gael ystyriaeth briodol.

 

·         Dywed y Gwasanaeth Cynghori Cynllunio Llywodraeth Leol mewn perthynas ag Amodau Cynllunio 'a yw'n rhan o ardal y cais?' Dim ond i’r linell goch o fewn y cais y mae amod dilys yn berthnasol oni bai ei fod yn amod Grampian.  Os yw y tu allan i'r llinell goch mae angen iddo fod yn rhan o gytundeb Adran 106.

 

·         Mae Amod 2 adroddiad y swyddog yn ei gwneud yn ofynnol i waith ecoleg gael ei wneud ar dir sydd y tu allan i linell goch y cais.  Mae'n debygol na fydd modd gorfodi’r amod yma.

 

·         Mae Porth Cynllunio Sir Fynwy o dan y pennawd 'do I need SAB approval' yn diffinio gwaith adeiladu o dan Adran 3 Deddf Rheoli D?r Llifogydd 2012 fel unrhyw beth sy'n cwmpasu tir megis patios neu fan parcio car (drive) yn strwythur at ddibenion cymeradwyaeth SAB. Mae'r ddeddf yn berthnasol i bob gwaith dros 100 metr sgwâr. Mae adroddiad y cais yn nodi nad yw’r cais cyfochrog yn cynnwys ardal adeiladu newydd.   Fodd bynnag, teimlwyd mai celwydd yw hyn, a phe byddai’n cael ei dderbyn y bydda’n torri’r ddeddf.  Mae lluniad yr ymgeisydd yn nodi bod ardal y gwaith adeiladu’n 333 metr sgwâr - ardal sydd wedi ei chreu gan y wal gadw a adeiladwyd yn anghyfreithlon.

 

·         Mae'r cynllun draenio arfaethedig tu allan i'r llinell goch felly does dim modd ei reoli drwy'r caniatâd cynllunio yma.

 

·         Mae’r gwaith peirianneg arfaethedig yn yr ardd gefn yn agos at goed, nid oes arolwg coed wedi ei wneud ac nid oes datganiad dull aboriamaeth wedi ei gyflwyno. Teimlwyd y dylid cywiro hyn cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y cais.

 

·         Mae adroddiad y cais yn nodi bod gan y garej arfaethedig uwch lefel ar gyfer gofod storio ychwanegol.  Byddai garej un llawr gyda gofod atig neu hyd yn oed adeilad un llawr a hanner yn ddigon.

 

·         Mae'r adroddiad garej arfaethedig yn nodi fod y cynnig yn dderbyniol ochr yn ochr â'r eiddo sy'n berchen arno.  Awgrymwyd, gan nad yw uchder yr adeiladau’n cael eu dangos mewn cyd-destun, ei bod yn anodd deall maint yr hyn sy’n cael ei gynnig a barnu a yw'n dderbyniol ac yn cydymffurfio â Pholisi DES1. Mae'n hanfodol bod y t? presennol yn cael ei ddarlunio’n gywir ar ddarluniau’r garej arfaethedig er mwyn sicrhau fod penderfyniad yn cael ei wneud yn seiliedig ar y wybodaeth orau.

 

·         Mae'r adroddiad yn cyfeirio at garejis atodol eraill ar Wainfield Lane. Roedd y gwrthwynebydd wedi gwneud astudiaeth fanwl gan nodi nad oes gan y garejis dan sylw ddau lawr.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gynnal ei arolygiad safle ei hun er mwyn penderfynu a yw'r maint arfaethedig yn briodol neu a fyddai garej un llawr gyda gofod storio yn yr atig yn gynnig gwell.

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â’r cynllun tirwedd arfaethedig - gofynnwyd a yw’n ddigonol o ystyried dirywiad y gwrych ar y ffin, a'r difrod a wnaed i goed yn sgil y gwaith adeiladu anghyfreithlon.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch cywirdeb a dilysrwydd cyfreithiol y cais ac adroddiad y cais.  Gofynnodd y gwrthwynebydd i'r materion yma gael eu cyfeirio at ymgynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor Cynllunio er mwyn sicrhau bod y cyngor cywir yn cael ei roi i'r Aelodau.

 

·         Nid oes anghydfod o ran ffiniau gyda T? Cerrig.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiadau yr Ardal wrth y Pwyllgor:

 

·         O ran yr ymadrodd 'tabl isod' yn yr amod, yn y cyd-destun yma mae'n cyfeirio at y ddogfen hysbysiad o benderfyniad ac yn eiriad safonol o fewn amod cynllunio.   Mae'n amlwg o fewn yr adroddiad pa gynlluniau sy'n cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor.

 

·         O ran y llinell goch a rhai o'r gwelliannau ecolegol a gynigiwyd, rhoddwyd sylw i'r mater hwn yng nghyflwyniad y Swyddog, ac o ganlyniad fe adolygwyd geiriad Amod 3.

 

·         Mae SAB yn gorff cymeradwyo ar wahân i'r Cyngor a chyfrifoldeb ar yr ymgeisydd yw gwneud cais am y caniatâd hwnnw.

 

·         Mae Swyddog Coed y Cyngor wedi ymweld â'r safle. Nid oes unrhyw un o’r coed yn destun gorchymyn cadw coed unigol na gr?p.

 

·         Cynhaliwyd archwiliad o'r safle ar y 7fed o Fehefin 2022.

Roedd Mr. P Sulley, yr ymgeisydd, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais a ddarllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:

 

'Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro sawl pwynt a wnaed mewn perthynas â'r cais cynllunio a gyflwynwyd ar gyfer cynllunio ôl-weithredol. Hoffwn hefyd ymddiheuro am beidio â llwyr sylweddoli'r angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladu'r ystafell waith yn ôl tua diwedd 2016. Fel y trafodwyd gyda'r swyddog cynllunio, roeddwn dan yr argraff nad oedd angen caniatâd cynllunio ar unrhyw adeilad a oedd yn llai na 12 metr sgwâr, ond nid oeddwn wedi sylweddoli nad oedd hyn yn berthnasol i adeiladau sy’n cael eu hadeiladu o flaen eiddo. Dyma'r pwyntiau yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau.

 

Cyfeiriad at 5.2.1 Y Cyflwyniad

 

  • Mae trigolion The Gables yn deall y dylid bod wedi gofyn am ganiatâd cynllunio cyn cychwyn unrhyw waith adeiladu fel yr amlinellir uchod. Pe byddem wedi sylweddoli ein camgymeriad byddem wedi cyflwyno cais cynllunio bryd hynny.

 

  • Dim ond ar ôl cael gwared â’r Conwydd a’r Leylandii y daethpwyd o hyd i’r goeden Dderwen ar ffin yr eiddo. Roedd yn cael ei thagu gan Eiddew.  Ers i’r coed a’r Eiddew o'i chwmpas gael eu torri, mae'r Dderwen wedi ffynnu.

 

Cyf: - 5.2.3 – sylwadau mewn perthynas â dyluniad yr adeiladau

 

  • Pan fydd y garej yn cael ei adeiladu, a'r gwrych yn aeddfedu, ni fydd yr ystafell blanhigion i'w gweld o'r lôn.

 

Cyf: - 5.2.4 Mwynder Preswyl

 

·         Er mwyn ceisio cuddio’r ystafell blanhigion oddi wrth eiddo cyfagos, ac er mwyn paratoi i ddatblygu’r eiddo ymhellach, plannwyd Gwrych Ffawydden. Dewiswyd y gwrych gan Ty-Gerrig ac fe’i cyd-blannwyd gyda The Gables.  Ar ôl iddo aeddfedu'n llwyr, fe ddylai gyrraedd uchder o rhwng 3m-5m ac felly bydd yn lleihau effaith weledol unrhyw agwedd ar yr ystafell blanhigion sydd i’w gweld.

 

Cyf: - 5.2.6 Rheoliadau Adeiladu ac Iechyd yr Amgylchedd

 

  • Bydd y ffliw domestig newydd yn cael ei lleoli ymhellach o'r ffin. Yn wreiddiol 1.8m, safle newydd 6m a 4m yn uwch.

 

Cyf: - Bioamrywiaeth / Ecoleg

 

  • Mae cynllun tirlunio llawn wedi cael ei gyflwyno sy’n rhoi manylion am yr holl goed newydd sydd wedi eu plannu.

 

  • Mae 2 flwch ystlumod ARUNDEL yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi'u gosod i flaen a chefn yr eiddo. Mae 7 bocs adar wedi’u gosod led led yr eiddo, ac mae adar wedi/ yn nythu ynddynt drwy gydol y tymor nythu.

 

Rydym o’r farn nad oes wnelo gwrthwynebiad rhai o drigolion Wainfield Lane ddim â’r datblygiad / gwelliannau i’r eiddo, yn enwedig o ystyried fod pob eiddo’n unigryw ac nad oes unrhyw safon na gorffeniad y dylid meincnodi yn eu herbyn.

 

Roedd trigolion, gan gynnwys trigolion T?-Gerrig, yn ganmoliaethus iawn ac yn gefnogol i ddatblygiad cychwynnol Y Gables. Ar y pryd, roedd yr ystafell blanhigion eisoes wedi ei hadeiladu. 

 

Mae datblygiad y Gables yn tynnu at y terfyn, ond rydym mewn sefyllfa anffodus am ein bod yn gorfod brwydro i gwblhau gwaith y gobeithiwn, a fydd yn gweddu â’r eiddo eraill ar Wainfield Lane. Gobeithiwn y bydd y Pwyllgor Cynllunio yn gefnogol ac yn ein cynorthwyo i gwblhau'r datblygiad hwn.'

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         O ran gwneud cais ar wahân i systemau Draenio Trefol Cynaliadwy, awgrymwyd y byddai cyfanswm ardal y llawr dros 100 metr sgwâr ac o ganlyniad byddai angen cymeradwyaeth ar wahân gan y Cyngor Sir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir B. Callard ac eiliodd y Cynghorydd Sir J. McKenna y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01288 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a bod amod 3 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

·         O fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd hwn bydd manylion y tri blwch ystlum ac adar, un i'r blaen a’r ddau sydd agosaf at gefn yr adeilad, fel y dangosir ar luniad LSC/01 A, yn cael eu cyflwyno i a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio lleol.  Dylid cyflwyno’r manylion sydd wedi’u cymeradwyo o fewn tri mis o’r gymeradwyaeth a'u cadw felly am byth.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                      -           16

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Ymatal                                     -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gymeradwyo cais DM/2020/01288 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i ddiwygio amod 3 fel a ganlyn:

 

·         O fewn tri mis o ddyddiad y caniatâd hwn bydd manylion y tri blwch ystlum ac adar, un i'r blaen a’r ddau sydd agosaf at gefn yr adeilad, fel y dangosir ar luniad LSC/01 A, yn cael eu cyflwyno i a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio lleol.  Dylid cyflwyno’r manylion sydd wedi’u cymeradwyo o fewn tri mis o’r gymeradwyaeth a'u cadw felly am byth.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: