Agenda item

Cais DM/2020/00933 – Garej ddwbl ar wahân gyda gofod storio drosti. The Gables, Lôn ?Wainfield, Gwehelog, Brynbuga.

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd Ms. A.M. Smale, a oedd yn gwrthwynebu'r cais, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio.  Mae manylion y gwrthwynebiad wedi'u hamlinellu yn y cais cynllunio blaenorol DM/2020/01288.

 

Roedd Mr. P Sulley, yr ymgeisydd, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais a ddarllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:

 

'Hoffwn gymryd y cyfle hwn i egluro sawl pwynt a wnaed mewn perthynas â'r cais cynllunio a gyflwynwyd ar gyfer garej ddwbl gyda gofod storio uwch ei ben fel a ganlyn: -

 

Cyf: - 5.2.4 Mwynder Preswyl

 

·         Rydym yn nodi’r sylwadau a wnaed mewn perthynas â barn y cymydog ar y garej unwaith y bydd wedi ei adeiladu. Er hyn, hoffem nodi bod mwyafrif llethol trigolion y lôn yn gallu gweld garejis ei gilydd. Er mwyn cuddio ein garej rhag eiddo cyfagos, ac er mwyn paratoi at ddatblygu’r eiddo, plannwyd Gwrych Ffawydden. Dewiswyd y gwrych gan drigolion T?-Gerrig ac fe’i plannwyd ar y cyd â thrigolion The Gables. Unwaith y bydd yn gwbl aeddfed, dylai’r gwrych gyrraedd uchder o rhwng 3m-5m a bydd, felly, yn lleihau effaith weledol unrhyw agwedd ar y garej.

 

·         Yn anffodus, mae trigolion T?-Gerrig wedi torri o leiaf 0.5 metr oddi ar dop y gwrych yn ddiweddar, golyga hyn na fydd yn tyfu cymaint.

 

·         Mae maint y garej wedi ei gynllunio i gwrdd ag anghenion y perchennog. Does dim gofod ar gyfer storio yn yr eiddo gan fod yr ystafelloedd gwely yn y gofod to.  Er bod gwrthwynebiadau wedi'u gwneud o ran uchder yr adeilad, mae’r effaith weledol ar eiddo cyfagos yn cael ei leihau oherwydd topograffi'r tir. Mae sawl eiddo arall ar Wainfield Lane sydd, hefyd, â garejis uchder dwbl.

 

Cyf: - Bioamrywiaeth / Ecoleg

 

 

 

Yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y swyddog cynllunio, rydym o’r farn nad oes wnelo gwrthwynebiad rhai o drigolion Wainfield Lane ddim â’r gwaith o ddatblygu/gwella’r eiddo, yn enwedig o ystyried fod pob eiddo’n unigryw, ac nad oes safon na gorffeniad y dylid meincnodi yn eu herbyn.

 

Cafodd y gwaith cychwynnol i'n heiddo ei wneud yn dilyn cytundeb llawn gyda thrigolion T?-Gerrig. Roeddynt yn gefnogol yn y lle cyntaf. Oherwydd ddigwyddiadau anffodus, nid dyma’r sefyllfa bellach, ac er fod y gwaith ar ddatblygu The Gables yn tynnu tua’r terfyn, rydym mewn sefyllfa anffodus am ein bod yn gorfod brwydro i gwblhau gwaith y gobeithiwn, a fydd yn gweddu â holl gartrefi eraill Wainfield Lane.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Bydd y simnai ar gyfer y ffliw yn gadael yr eiddo drwy do’r garej,

 

·         Mae'r gofynion o ran dilysu ar gyfer y cais wedi'u bodloni - mae lluniadau cywir wedi’u derbyn.

 

·         Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar  safle'r tanc olew drwy adran Rheoli Adeiladu'r Cyngor neu drwy arolygydd cymeradwy sy’n gweithio i swyddogaeth rheoli adeiladu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir J McKenna ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2020/00933 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           14

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal                        -            0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynom gymeradwyo cais DM/2020/00933 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: