Agenda item

Cais DM/2019/00184 – Cynnig am Log Pod a thoiled compost ar sylfaen garreg ar gyfer dibenion twristiaeth, rhoi wyneb carreg wedi’i rolio ar y lleoedd parcio presennol oddi ar y stryd a’r ardal troi, symud gwrych i wella gwelededd y fynedfa bresennol. Old Park Cottage, Heol Gethley, Parkhouse, Tryleg.

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol, y Cynghorydd Sir J McKenna, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd trigolion lleol wedi nodi bod y tir wedi'i adael i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac wedi cael ei werthu. Nodwyd fod hyn wedi achosi gofid ymysg trigolion.

 

·         Ystyriwyd nad oedd y tir wedi cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd ac roedd bellach yn fater sifil yn hytrach nag ystyriaeth cynllunio.

 

·         Dymuniad yr Aelod lleol oedd i’r tir barhau i fod mor gyfeillgar â phosibl i fywyd gwyllt a chael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd.

 

·         Mae'r cais ar gyfer un pod ac ystyriwyd na fyddai'r cais yn niweidiol i'r amgylchedd nac yn creu llawer o draffig ar y briffordd.

 

·         Mae'r fynedfa wedi'i lleoli ar ddarn syth o ffordd sy'n ymddangos yn ddiogel o ran mynd i mewn ac allan o'r safle.

 

·         Mae cynlluniau ar y gweill i gael gwared â 50 metr o'r gwrych. Gallai hyn gael effaith o ran dibenion cynefin. Fodd bynnag, bydd rhaglen ailblannu’n digwydd.

 

·         Mae'r Aelod lleol yn fodlon gydag amod 11 yr adroddiad sy’n nodi y bydd uchder y gwrych yn cael ei gadw i 2.4m o leiaf.  Bydd hyn hefyd yn sicrhau fod y pod yn llai gweladwy o'r briffordd.  Fodd bynnag, nodwyd y bydd y safle yn fwy agored yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd y bydd llai o ddail.

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â pha mor agos yw'r pod at eiddo cyfagos o ran llygredd s?n.  Fodd bynnag, cydnabuwyd mai dim ond dau berson fydd yn gallu cysgu yn y pod ac felly ychydig iawn s?n sy'n debygol o ddeillio o’r pod.

 

·         Nid yw'r perchnogion yn byw ar y safle. Mae angen sicrhau fod problemau o ran lefelau s?n gormodol yn cael eu datrys pe byddent yn codi, ac mae angen cael gwybod sut y byddant yn mynd i’r afael â hwy.

 

·         Nid oes cyfleusterau cawod a golchi dwylo ar y safle.  Nid oes d?r ar y safle ychwaith ar gyfer paratoi bwyd.

 

·         Dylid hybu twristiaeth o fewn Sir Fynwy.

 

·         Mae'n annhebygol y bydd un pod yn cael effaith fawr ar yr ardal.  Fodd bynnag, mynegodd yr aelod lleol y byddai’n pryderu pe byddai’r safle'n cael ei ehangu.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Yn wreiddiol, roedd y cynllun gyfer llain amwynder.  Fodd bynnag, nodwyd na fyddai hyn yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio.  Felly, newidiodd yr ymgeisydd y cynllun yn gynllun ar gyfer pod glampio.  Pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai amod yn cael ei osod a fyddai’n sicrhau na fyddai’r un ymwelydd yn cael aros yn hirach na 28 diwrnod y flwyddyn.

 

·         Archwiliwyd y gwrych gan ecolegydd. Teimlwyd y dylid cadw'r gwrych yn ei linell bresennol gan ei fod yn darparu preifatrwydd i drigolion cyfagos.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch diffyg darpariaeth d?r ar y safle. Fodd bynnag, nodwyd y byddai'r glampwyr yn ymwybodol o'r diffyg darpariaeth d?r ar y safle ac y byddent yn dod â'u cyflenwad d?r eu hunain.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir B Callard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P Murphy y dylid cymeradwyo cais DM/2019/00184 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn ogystal â’r amod y dylid cadw'r gwrych ar ochr y ffordd ger y fynedfa ond y dylid ei docio yn ôl i 0.9m o uchder wrth 5m ar y naill ochr i'r fynedfa arfaethedig. At hyn, dylid cynnal y gwyrych am byth. Bydd yr ymgeisydd yn nodi hyn ar gynllun cyn i'r penderfyniad gael ei gyhoeddi a bydd yr awdurdod cynllunio yn cyfeirio at y cynllun mewn amod diwygiedig.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                      -           15

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Ymatal                         -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynom gymeradwyo cais DM/2019/00184 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn ogystal â’r amod y dylid cadw'r gwrych ar ochr y ffordd ger y fynedfa ond y dylid ei docio yn ôl i 0.9m o uchder wrth 5m ar y naill ochr i'r fynedfa arfaethedig. At hyn, dylid cynnal y gwyrych am byth. Bydd yr ymgeisydd yn nodi hyn ar gynllun cyn i'r penderfyniad gael ei gyhoeddi a bydd yr awdurdod cynllunio yn cyfeirio at y cynllun mewn amod diwygiedig.

 

 

Dogfennau ategol: