Skip to Main Content

Agenda item

Penodiadau i Bwyllgorau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a’r Swyddog Monitro yr adroddiad er mwyn penodi pwyllgorau ynghyd â’u haelodaeth a chylch gorchwyl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Bod y pwyllgorau yn cael eu penodi ynghyd â’u haelodaeth fel y’u nodir yn yr adroddiad, a’u cylch gorchwyl a atodir fel atodiadau.

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Sir David Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ategol: