Agenda item

Cais DM/2021/01562 – Newid defnydd o C3 (annedd) i C4 (Tŷ Amlfeddiannaeth). Plot 5, Lower Hardwick, Hardwick Hill, Cas-gwent.

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan Aelod lleol Larkfield, Cas-gwent, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd:

 

·         Mae’r problemau sy’n cael eu cysylltu’n aml â thai amlfeddiannaeth yn cynnwys gwaethygiad mewn cydlyniant cymdeithasol gyda nifer uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd hirdymor a theuluoedd sefydlog.

 

·         Mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol, s?n a throseddau posibl eraill yn gysylltiedig.

 

·         Ansawdd waeth i’r amgylchedd lleol a chyflwr strydoedd yn sgil mwy o lygredd sbwriel, tipio anghyfreithlon a mwy o adeiladau mewn cyflwr gwael.

 

·         Newid cymeriad yr ardal.

 

·         Mwy o straen o ran parcio cerbydau.

 

·         Llai o gyfleusterau cymunedol i deuluoedd a phlant.

 

·         Yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei chanllawiau ar dai amlfeddiannaeth bod eu natur yn golygu nad oes cysylltiad rhwng y tai hyn a phreswylwyr ar incwm isel a grwpiau bregus ac y gallant fod yn fwy dwys nag aelwydydd sengl.

 

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau lleol i roi’r gorau i  ddefnyddio tai amlfeddiannaeth a newid i dai mwy hunangynhwysol. Roedd y ceisiadau gwreiddiol ar gyfer yr holl dai ar y safle yn rhai i anheddau preswyl teuluol.

 

·         Mae angen rhagor o dai i deuluoedd yng Nghas-gwent.

 

·         Mae trafferthion eisoes yn bodoli o ran mynediad at y safle o deithio tua Lôn Hardwick Hill (Hardwick Hill Lane) oddi ar yr A48 a thua’r safle ei hun. Mae pryderon o ran y briffordd wedi eu mynegi gan yr Adran Briffyrdd, ac mae hyn yn cynnwys y straen o ran parcio a fydd yn cael ei achosi ar y strydoedd cyfagos os cymeradwyir y cais.

 

·         Mae’r cais ar gyfer pum ystafell wely, ond does dim ond tri lle parcio. Mewn gwirionedd, bydd mwy na thri char yn cael eu parcio yn y dreif, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl yn teithio ar Lôn Hardwick Hill.

 

·         Gan nad oes system unffordd ar Lôn Hardwick Hill, bydd trafferthion difrifol o ran y ffordd i mewn/allan a manwfro cerbydau.

 

·         O ran logisteg, mae’r safle yn anymarferol ar gyfer y cais hwn gan y bydd yn andwyol i ddiogelwch y briffordd.

 

·         Mae’r cais wedi ei leoli o fewn parth rheoli ansawdd aer ac mae’r man mynediad at Lôn Hardwick Hill gyferbyn â thiwb tryledu sy’n mesur lefelau’r llygredd yn yr ardal honno o’r parth. Yn y man mesur hwn y mae’r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid yn y parth cyfan ers cael gwared ar dollau’r bont, sydd wedi arwain at ragor o draffig a mwy o lygredd.

 

·         Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd. Mae gan Bolisi Cynllunio rôl sylweddol i’w chwarae wrth gynorthwyo’r awdurdod i ddelio â’r rhybudd digwyddiad critigol hwnnw.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol pa ymgynghoriad a wnaed gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol a Llywodraeth Cymru o ran y trefniadau i oruchwylio’r ffordd y caiff y parth ei reoli.

 

·         Byddai cymeradwyo’r cais hwn yn mynd yn groes i’r parth rheoli ansawdd aer a’r datganiad argyfwng hinsawdd.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae angen i ddarpariaeth tai gael ei rheoli’n briodol. Mynegodd un Aelod bryder y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd mewn tai amlfeddiannaeth os na chânt eu rheoli’n gywir.

 

·         Mae tai amlfeddiannaeth yn chwarae rôl wrth ddarparu llety i bobl broffesiynol / gweithwyr allweddol.

 

·         Ystyriwyd nad oes unrhyw resymau cynllunio materol dros wrthod y cais hwn.

 

·         Mynegwyd pryderon y byddai’r t? amlfeddiannaeth arfaethedig yn cael ei redeg gan landlord preifat ac nid landlord cymdeithasol cofrestredig.

 

·         Mynegwyd pryder a oedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi H9(d) oherwydd y ddarpariaeth parcio ar y safle. Mae’r datblygiad yn agos ar y gyffordd â Hardwick Hill, ac mae trafferthion traffig eisoes yn bodoli yn y lleoliad hwn.

 

·         Wrth ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu wrth y Pwyllgor fod y safle o fewn pellter cerdded / seiclo i ganol tref Cas-gwent. Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio’r angen i beidio â dibynnu ar safonau parcio a fyddai wedi bod yn berthnasol yn y gorffennol yn y lleoliad hwn. Gan hynny, mae achos cryf i ddadlau bod tri lle parcio ar gyfer chwe unigolyn yn y t? hwn yn rhesymol. Mae’r canllawiau parcio wedi cael eu gosod, yn yr achos hwn, mewn ffordd synhwyrol, cymesur a chynaliadwy, a gellir dadlau bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi H9.

 

·         Wrth ymateb i gwestiwn a godwyd am yr angen i osod drysau tân o fewn y t? amlfeddiannaeth. Byddai’r mater hwn yn cael ei bennu drwy’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu gyda golwg i gymeradwyo rheoliadau adeiladu yn y t?.

 

·         Nodwyd nad yw’r adran Iechyd Amgylcheddol wedi gwrthwynebu’r cais. Ni ddylai cymeradwyo’r cais greu unrhyw effaith bellach na’r defnydd sydd eisoes yn gyfreithlon ar gyfer y safle, sef annedd aelwyd sengl.

 

Daeth yr Aelod lleol i’r casgliad a ganlyn:

 

·         Mae’r t? yn annedd deuluol ar hyn o bryd, a gallai gael ei werthu’n annedd deuluol hefyd.

 

·         Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y gall tai amlfeddiannaeth weithio yn yr awdurdod hwn, er enghraifft, i gynnig trefniadau llety wedi’i gynorthwyo i oedolion sydd ag anableddau dysgu neu oedolion sydd angen gofal ychwanegol. Gallai hyn weithio gan na fyddai gan rai o’r preswylwyr gar.

 

·         Ystyriwyd nad yw’r nod polisi’n gywir ar gyfer tai yn yr ardal na’r sir.

 

·         Nid yw’r cais yn y lleoliad cywir oherwydd y cyfyngiad ar fynediad traffig a’r straen parcio ychwanegol, ynghyd â’r materion rheoli ansawdd aer sydd wedi eu codi.

 

·         Ystyriwyd y byddai angen mwy na thri lle parcio. Nid oes darpariaeth i ymwelwyr barcio ger y t?.

 

·         Bydd effaith andwyol ar ansawdd aer os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

·         Os caiff y cais ei gymeradwyo, dylid ystyried amodau i gyfyngu ar nifer yr ystafelloedd i dri ac yna amwynder byw ynghyd â’r ardal o ran traffig a gellid gwella’r trefniadau parcio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir J. Becker, wedi’i ategu gan y Cynghorydd Sir A. Webb, y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01562 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac y dylai amod 4 gael ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

Ni chaiff y t? gael mwy na chwe pherson yn preswylio ynddo ar unrhyw adeg o fewn defnydd Dosbarthiad C4 (T? Amlfeddiannaeth)

 

Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                      -           11

Yn erbyn y cynnig       -           1

Ymatal rhag pleidleisio            -           1

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01562 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar ddiwygio amod 4 fel a ganlyn:

 

Ni chaiff y t? gael mwy na chwe pherson yn preswylio ynddo ar unrhyw adeg o fewn defnydd Dosbarthiad C4 (T? Amlfeddiannaeth)

 

 

 

 

Dogfennau ategol: