Agenda item

Cais DM/2020/01495 – Annedd 4 ystafell newydd ar dir sydd ger Gwesty’r Royal George. Tir i’r gorllewin o Westy’r Royal George, Heol Forge, Tyndyrn.

Cofnodion:

Trafodwyd yr adroddiad ar y cais ynghyd â gohebiaeth a ddaeth i law yn hwyr, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio i’w ystyried ar 1 Mawrth 2022. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor oedi’r amserlen ar gyfer ystyried y cais er mwyn rhoi amser i swyddogion drafod â’r sawl a wnaeth y cais gyda’r gobaith o ganfod nifer y mannau parcio a oedd ar gael ac ym mhle y byddant yn cael eu lleoli ar y safle. Gan hynny, ailgyflwynir y cais i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Amlinellodd Aelod lleol Llanarfan, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae gwrthwynebiadau Cyngor Cymuned Tyndyrn i’r cais wedi cael sylw yn y wasg. Darllenwyd manylion y gwrthwynebiadau i’r Pwyllgor.

 

·         Dylid rhoi sylw i sylwadau’r Cyngor Cymuned wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

·         Mae’r Aelod lleol yn cynrychioli teimladau cryf y preswylwyr lleol sy’n gwrthwynebu’r cais. Yn benodol, y problemau o ran y trefniadau parcio ar safle’r gwesty a’r pryderon a godwyd ynghylch y prinder llefydd parcio.

 

·         Mae meysydd parcio cyfagos yn aml yn llawn ar benwythnosau ac yn ystod yr wythnos cânt eu defnyddio gan gerddwyr a thwristiaid yn rheolaidd. Mae twristiaeth yn dioddef yn Nhyndyrn oherwydd y diffyg llefydd parcio yn y pentref yn gyffredinol. Tyndyrn yw’r ardal fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn y Sir.

 

·         Mae ffotograffau wedi cael eu cyflwyno i amlygu’r problemau parcio.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol yn gallu cyfrifo faint o lefydd parcio fyddai eu hangen i ddiwallu gofynion ymwelwyr dydd, preswylwyr a staff.

 

·         Mae’r perchnogion yn awyddus i fyw ar y safle a rheoli’r gwesty.

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch sylwadau’r asiant.

 

·         Os byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnwyd am amod pellach bod yr eiddo newydd ynghlwm wrth y gwesty ac na chaiff ei drin fel cais ar wahân.

 

·         Mae Heol Forge yn gul a’r palmant yn fach. Byddai cerbydau brys yn cael trafferthion wrth ddefnyddio’r lôn hon. Nid yw’r broblem o ran parcio wedi cael ei datrys ac nid oes ymweliad safle mewnol wedi cael ei gynnal.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol yn derbyn argymhelliad y swyddog fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gwrthod y cais.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae’r ardal sy’n cynnwys y 12 lle parcio yn eiddo i’r sawl sy’n gwneud y cais, sef perchnogion y gwesty.

 

·         Ni fyddai’r cyfleusterau parcio a ddarperir ar gyfer y datblygiad arfaethedig ond i’w defnyddio gan y sawl sy’n aros yn y t? ac nid i’w defnyddio gan y gwesty.

 

·         Mae’r cynllun maes parcio ar gyfer y gwesty a’r cabanau gwyliau yn ddigonol i’w ddefnyddio gan y gwesty wrth ychwanegu’r annedd a amlinellir yn yr adroddiad. Mae’r Adran Briffyrdd hefyd wedi cadarnhau y byddai’r maes parcio yn cydymffurfio â’r canllawiau priodol. Byddai 34 lle parcio yn ddigonol i ddarparu 16/17 ystafell wely ynghyd â thri lle parcio i staff. Gall llefydd parcio ychwanegol hefyd gael eu defnyddio ar gyfer dibenion eraill megis y siop goffi ac ardal fwyta bar y lolfa.

 

·         Ystyriodd Aelod a ddylid gosod safon parcio hybrid yn yr achos yma yn sgil defnydd y gwesty. Wrth ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu mai cerbyty hanesyddol yw hwn, gyda 34 lle parcio ar gyfer 16/17 ystafell wely, ambell aelod o staff, y diben ychwanegol ar gyfer ardal y bwyty a’r bar a’r siop goffi. Yn y cyd-destun hwn, ystyrir bod hyn yn gyfran resymol o lefydd parcio ar gyfer y math yma o adeilad a’r nifer o bobl a fydd yn ei ddefnyddio. Mae meysydd parcio eraill yn yr ardal y gellid eu defnyddio ar yr amseroedd prysuraf.

 

·         Wrth ymateb i gwestiynau a godwyd, nodwyd bod yr Adran Briffyrdd wedi gweld manylion diwygiedig gan yr asiant a’i bod yn parhau i beidio gwrthwynebu’r cais ar seiliau priffyrdd, sy’n cynnwys cyfleusterau parcio o flaen y safle.

 

·         Nodwyd nad yw’r Adran Gynllunio yn gallu atal y mater o ran gwahanu’r tir. Felly, ni ellir mynnu bod tir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion parcio.

 

·         Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu wrth y Pwyllgor y dylai’r Pwyllgor ystyried y tir ar gyfer yr annedd arfaethedig fel llecyn annibynnol o dir yn ei hawl ei hun, yn annibynnol ar y gwesty.

 

Daeth yr Aelod lleol i gasgliad drwy ddweud ei bod yn parhau i bryderu am y cyfleusterau parcio ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Webb ein bod yn ystyried gwrthod cais DM/2020/01495, ac ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sir L. Brown, ar y seiliau a ganlyn:

 

Byddai adeiladu’r annedd arfaethedig yn cael gwared ar ardal a ddefnyddiwyd yn hanesyddol ar gyfer parcio cwsmeriaid a staff y gwesty a’r dibenion sy’n gysylltiedig â hynny. Mae ei golli ar gyfer y pwrpas hwnnw yn debygol o arwain ar fwy o gerbydau wedi’u parcio ar y stryd ar lonydd cul yn yr ardal gan waethygu amwynder lleol a diogelwch priffyrdd, a byddai’n mynd yn groes i Bolisi DES1 d) o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid gwrthod y cais            -           5

Yn erbyn gwrthod y cais         -           7

Ymatal rhag pleidleisio            -           1

 

Pleidleisiwyd yn erbyn y cynnig i wrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01495 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106, ac ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sir J. Becker.

 

Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid cymeradwyo’r cais                 -           7

Yn erbyn cymeradwyo’r cais  -           5

Ymatal rhag pleidleisio                        -           1

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01495 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.

 

 

 

Dogfennau ategol: