Agenda item

Cais DM/2019/00800 – Dymchwel byngalo a’r tai allan ac adeiladu dwy annedd dau lawr gyda mynediad o’r briffordd, Homestead, Lôn Wainfield, Gwehelog, Brynbuga.

Cofnodion:

Trafodwyd yr adroddiad ar y cais a’r ohebiaeth a ddaeth i law yn hwyr, a gyflwynwyd i wrthod y cais am un rheswm, fel a ganlyn:

 

·         Nid yw adeiladu dwy annedd ar y safle hwn yn gofyn am ddatblygiad mewnlenwi gan nad yw’n fwlch bach rhwng anheddau presennol ac felly byddai’r datblygiad yn mynd yn groes i Bolisi H3 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Roedd y cais wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ar 2 Chwefror 2021. Cydsyniwyd i ddymchwel byngalo a’i dai allan ac adeiladu dwy annedd sengl. Wedi hynny, roedd y penderfyniad yn destun Adolygiad Barnwrol gan breswylydd lleol, a’r unig sail a ddefnyddiwyd i herio’r caniatâd cynllunio oedd bod rhan o adroddiad y swyddog yn gamarweiniol iawn wrth drafod trefniadau draenio d?r budr, a hynny gan fod yna ganllaw o fewn dogfen gymeradwy H2 sy’n awgrymu y dylai caeau draenio fod o leiaf 15 metr i ffwrdd o adeilad. Pe byddai hynny wedi cael ei gymhwyso yn yr achos hwn, byddai wedi golygu bod gofyn i bob un o’r caeau draenio arfaethedig fod bum metr ymhellach o D? Cwtch a’r adeiladau arfaethedig.

 

Roedd y barnwr wedi dod i’r casgliad a ganlyn:

 

“O ddarllen adroddiad y swyddog yn ei gyfanrwydd, a oedd yn cynnwys adroddiad blaenorol, nodir pryderon y gwrthwynebwyr a’r cyngor cymuned lleol ynghylch y trefniadau draenio d?r budr, ac mae’r rhain yn cynnwys cyfeiriadau at yr hanes sy’n bodoli o ran trafferthion draenio yn yr ardal a’r ffaith bod y safle ar glai i raddau helaeth. Wrth ymdrin ag amwynder, nid yw’r adroddiad ond yn trafod amwynder gweledol a phreifatrwydd. Rwy’n credu, drwy beidio cyfeirio at y Cylchlythyr neu Ddogfen Gymeradwy H2, mae’r aelodau, hyd yn oed os ydynt yn ddarllenwyr hyddysg, yn debygol o fod wedi cael yr argraff, yn sgil y ffaith i’r swyddogion rheoli adeiladu bennu bod y cynigion draenio yn bodloni gofynion Rheoliadau 2010, bod hyn yn golygu mai dyna fyddai diwedd y mater o ran cynigion o’r fath. Yng nghyd-destun y maes cynllunio, rwy’n credu nad dyna’r achos. Roedd gadael y sefyllfa fel yna heb ymdrin yn llawn â digonoldeb y cynigion draenio yn y cyd-destun hwn yn gamarweiniol iawn yn fy nhyb i.”

 

Ar y sail hon, cafodd y penderfyniad ei ddiddymu, ac felly mae’r cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ei ystyried. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cynnal ail-arfarniad llwyr ar gyfer y cynnig datblygu yng ngoleuni’r dyfarniad hwn, ac mae wedi cynnal ymgynghoriad pellach ar ffurf ‘hysbysiad codi safle’ ar y safle ynghyd ag ymgynghori â’r cyngor cymuned lleol, partïon cyfagos ac ymgyngoreion statudol.

 

Amlinellodd Aelod lleol Llanbadog, a ddaeth i’r cyfarfod wedi iddo gael ei wahodd gan y Cadeirydd, y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi dadlau yn erbyn y cais hwn yng nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio, ac mae bellach yn falch bod swyddogion yn argymell y dylid gwrthod y cais erbyn hyn.

 

·         Mae’r safle eisoes wedi cael ei fewnlenwi gyda datblygiad T? Cwtch, ac nid oes rhagor o le o fewn y safle ar gyfer mewnlenwi annedd ychwanegol.

 

·         Nid yw’r cynnig presennol yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio H3.

 

·         Mae crib to T? Cwtch yn uwch nag a gynigiwyd yn wreiddiol. Roedd y datblygiad a gynigiwyd yn cynnig crib to a fyddai hyd yn oed yn uwch na Th? Cwtch.

 

·         Mae’r datblygiad presennol eisoes yn amlwg yn y tirlun, a byddai’r ddwy annedd arfaethedig hyd yn oed yn uwch na Th? Cwtch a byddent yn amlwg yn y tirlun.

 

·         Nid oes unrhyw ffactorau lliniarol sy’n cefnogi’r cynnig am ddau d? mawr ar y safle.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog cynllunio.

 

Roedd Ms. L. Young wedi creu recordiad llais yn ymwrthod â’r cais. Cyflwynwyd y recordiad i’r Pwyllgor Cynllunio, ac amlinellwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae’r gwrthwynebwr yn croesawu argymhelliad y swyddog y dylid gwrthod y cynnig gan nad yw’n cydymffurfio â pholisi mewnlenwi’r cynllun lleol.

 

·         Mae Homestead eisoes wedi cael plot mewnlenwi sydd bellach i’w weld ar ffurf T? Cwtch.

 

·         Mae preswylwyr lleol wedi dadlau na fyddai ychwanegu rhagor o dai mawr ar y safle yn cydymffurfio â’r polisi mewnlenwi gan nad yw’n llenwi bwlch bach rhwng anheddau presennol.

 

·         Os yw’r Pwyllgor Cynllunio yn cefnogi argymhelliad y swyddog y dylid gwrthod y cynnig, gall y sawl sydd wedi gwneud y cais dal apelio fel bod arolygydd annibynnol yn cael y gair olaf yngl?n â’r mater.

 

·         Os yw’r cynnig yn destun apêl, byddai preswylwyr lleol yn cefnogi Cyngor Sir Fynwy yn brwydro yn erbyn y cynllun, ond byddent hefyd yn gwrthwynebu’r ddwy annedd am resymau heblaw’r polisi mewnlenwi yn unig.

 

·         Mynegodd y gwrthwynebydd ei siom nad oedd adroddiad y swyddog yn cydnabod ac yn cynnwys rhesymau pellach dros wrthod y cynnig, megis gwaethygu’r tirlun gan y byddai’r ddwy annedd arfaethedig yn dalach na Th? Cwtch a chan y byddent ar ben gallt.

 

·         Mae swyddogion wedi ymddiheuro am daldra T? Cwtch a gafodd ei gymeradwyo o dan bwerau dirprwyedig. Rhoddwyd sicrwydd i’r preswylwyr lleol na fyddai hyn yn digwydd eto.

 

·         Mynegwyd siom hefyd nad oedd adroddiad y swyddog yn cydnabod y problemau draenio a fyddai’n codi pe byddai’r anheddau’n cael eu hadeiladu.

 

·         Mae’r safle’n rhy fach i gynnig digon o le parcio ac nid oes dim lle i allu troi cerbyd.

 

·         Nid oes digon o dir ar gael i ddelio â draenio d?r budr ac ni fyddai hyn yn bodloni rheoliadau adeiladu, a dyma oedd rheswm yr adolygiad barnwrol. Mae diffyg draenio d?r budr hefyd yn golygu nad oes lle i ddarparu gwasanaeth tirlunio.

 

·         Am y rhesymau oll sydd wedi eu crybwyll, roedd y gwrthwynebydd yn cefnogi’n gryf argymhelliad y swyddog y dylid gwrthod y cais.

 

Roedd Mr. G. Buckle, sef asiant y sawl a wnaeth y cais, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r cais, a darllenwyd y datganiad hwnnw i’r Pwyllgor Cynllunio gan y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu. Dyma’r datganiad:

 

‘Mae adroddiad y swyddog yn enghraifft gywilyddus o droi’n ôl arno’i hun, ac mae’n amlwg bod y Cyngor yn ofni camau cyfreithiol gan gymdogion dig, yn hytrach nag apêl gan y sawl sy’n gwneud cais. Dylai cynghorwyr ofyn pam, ar ddau achlysur arall, yr argymhellwyd y dylid cymeradwyo’r cais gyda phleidlais unfrydol o’i blaid ar y ddau achlysur. Cydymffurfir â Pholisi H3, fel ag y gwnaed yn yr apêl a gymeradwywyd (cyf: APP/E6840/A/12/2174137) ar y safle gyferbyn â Homestead, Luxfield (cyf: DC/2011/00977). Mae’r Cyngor hefyd wedi cynnal dadl a chymeradwyo safle tebyg yn The Narth (cyf: DM/2019/00280). Dymchwel un t? a chreu dwy annedd yn ei le. Mae’r adroddiad blaenorol a gafodd ei lunio gan swyddogion yn ei gwneud yn glir y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei ddyfarnu mewn pentrefi bach i fewnlenwi ar raddfa fach gyda dim mwy nag un neu ddwy annedd, o lenwi bwlch bach rhwng anheddau presennol neu ddatblygiad preswyl. Yn dilyn yr Adolygiad Barnwrol, ni welodd y Barnwr unrhyw broblem gyda’r cynnig: mae paragraff 32 o’r dyfarniad yn rhoi cyfle i swyddogion lenwi’r bylchau a nodwyd gan y barnwr a chymeradwyo’r cynnig. Mae dyletswydd ar gynghorwyr i gwestiynu swyddogion pam y mae adroddiad yn troi ar ei ben yn llwyr gan roi sêl bendith i wrthod cynnig. Mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i drin y cais gyda gofal dyladwy ynghyd â gwyliadwriaeth, cymhwystra, gonestrwydd ac uniondeb. Mae fy nghleientiaid wedi cydymffurfio’n llwyr â phob cais am wybodaeth bellach gan swyddogion y Cyngor, ac maent wedi cydymffurfio’n llwyr gyda Pholisi’r Cyngor. Pan wnaeth fy nghleientiaid fynd i gyfarfod y cyngor cymuned, cytunwyd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau pellach i’r cynnig. Oll oedd y cymydog a wrthwynebodd ei eisiau oedd gwaith draenio, ac mae hyn wedi bod yn destun craffu gan y Gwasanaeth Rheoli Adeiladu a Chyfoeth Naturiol Cymru ar ddau achlysur, a chymeradwywyd y cais gan Aelodau’r Cyngor yn flaenorol. Mae fy nghleientiaid yn deulu ifanc gyda dau o blant, maen nhw wir yn ceisio creu bywyd iddyn nhw eu hunain yng Ngwehelog; yn yr un modd â theuluoedd eraill yn yr ardal gyfagos, sydd wedi adeiladu a byw mewn tai mewnlenwi newydd. Mae’r cais, fel y cyflwynwyd gan y swyddogion, yn amlygu pryderon y barnwr, a’r ffaith bod yr unig reswm y diddymwyd y caniatâd mewn perthynas â draenio bellach wedi ei ddatrys. Mae’r cais hwn wedi cael ei fetio a’i graffu gan gymdogion a’r cyngor cymuned dros bedair gwaith, ac mae’n anodd credu bod y cyngor cymuned yn dal i ailadrodd gwrthwynebiadau a gafwyd dair blynedd yn ôl, sydd bellach heb fawr o berthnasedd os o gwbl. Mae fy nghleientiaid wedi bod mewn cyswllt uniongyrchol gyda Craig O’Connor ac Andrew Jones, sydd wedi rhoi gwybod iddynt fod y cais yn un cryf iawn na ellid ei wrthod. Gofynnaf i aelodau’r Cyngor wrthdroi argymhelliad y swyddogion unwaith eto a chymeradwyo’r cais hwn. Mae’n ddyletswydd ddemocrataidd arnoch chi i gwestiynu’r newid meddwl llwyr a gafwyd gan eich swyddogion. Mae’n annerbyniol gwrthod o ystyried bod y cynllun wedi cael cefnogaeth lawn gan swyddogion ac Aelodau dros y pedair blynedd ddiwethaf, a hynny heb unrhyw bryderon yn cael eu codi ynghylch Polisi H3. Yn dilyn penderfyniad yr Adolygiad Barnwrol, fe wnaethom gwrdd â’r swyddogion cynllunio ynghyd â Thîm Cyfreithiol Sir Fynwy. Cytunwyd bod y cais am ddau d? yn dderbyniol a’i fod yn gais cryf. Roedd rhaid inni ddelio â materion draenio ffosffad newydd, a gododd yn y cyfamser, ac fe wnaethom ni hynny, ac mae hyn wedi ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni soniwyd unwaith am Bolisi H3 yn ystod proses yr Adolygiad Barnwrol. Mae cymdogion wastad am fygwth Adolygiad Barnwrol arall, ond drwy wrthod y cais a phasio’r cyfrifoldeb yn ei flaen i’r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny drwy apêl, mae hyn yn enghraifft o esgeuluso dyletswydd yn llwyr, gyda phenderfyniad yn cael ei wneud am resymau ariannol yn unig o bosibl. Mae fy nghleientiaid yn haeddu cael eu trin yn gydradd a chyda pharch, felly gofynnaf ichi benderfynu ar y cais ar sail ei rinweddau fel yr ydych chi wedi ei wneud yn flaenorol, a chymeradwyo’r cais.

 

O ystyried adroddiad y cais a’r sylwadau sydd wedi eu cyflwyno, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mynegodd yr Aelodau eu cydymdeimlad gyda’r sawl a gyflwynodd y cais. Fodd bynnag, byddai’n anodd mynd yn groes i ddyfarniad yr adolygiad barnwrol a’r sylwadau sydd wedi eu cyflwyno mewn perthynas â mewnlenwi’r safle.

 

·         Roedd yr adolygiad barnwrol yn ymwneud yn gyfan gwbl â’r mater o ran draenio d?r budr ar y safle.

 

·         Roedd y swyddogion cynllunio wedi cynnal ail-arfarniad llawn ar gyfer y cynllun gydag ymgynghoreion mewnol.

 

·         Mae’r cynllun yn mynd yn groes i Bolisi Cynllunio H3.

 

·         Yn ogystal â pheidio cydymffurfio â Pholisi H3, roedd un Aelod yn credu nad oedd y cais ychwaith yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio DES1. Fodd bynnag, dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod swyddogion wedi dod i’r casgliad nad oes ond lle i un rheswm dros wrthod y cais hwn, ac mai Polisi Cynllunio H3 oedd y rheswm hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Jordan y dylid gwrthod cais DM/2019/00800 am y rheswm a ganlyn, ac ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sir G. Howard:

 

Nid yw adeiladu’r ddwy annedd ar y safle hwn yn cael ey ystyried yn ddatblygiad mewnlenwi gan nad yw’n fwlch bach rhwng yr anheddau presennol ac felly byddai’r datblygiad yn mynd yn groes i Bolisi H3 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

Rhoddwyd y penderfyniad i bleidlais, a phleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid gwrthod y cais            -           8

Yn erbyn gwrthod y cais         -           2

Ymatal rhag pleidleisio            -           1

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig i wrthod y cais.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais DM/2019/00800 am un rheswm, sef y rheswm a ganlyn:

 

Nid yw adeiladu’r ddwy annedd ar y safle hwn yn cyfrif i fod yn ddatblygiad mewnlenwi gan nad yw’n fwlch bach rhwng yr anheddau presennol ac felly byddai’r datblygiad yn mynd yn groes i Bolisi H3 o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

 

 

Dogfennau ategol: