Skip to Main Content

Agenda item

Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai a Digartrefedd

Craffu’r Stratgaeth Rhaglen Cymorth Tai cyn cyflwyno’r strategaeth i Lywodraeth Cymru ar 31ain Mawrth. Adroddiad yn cynnwys Diweddariad ar Ddigartrefedd.   

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Stephen Griffiths yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gydag Ian Bakewell a Rebecca Creswell.

Heriau:

A fydd y drafft hwn yn mynd yn ddrafft llawn ac yna’n benderfyniad gan y cyngor llawn?

Bydd, mae gennym ganiatâd gan Lywodraeth Cymru i gytuno arno’n ôl-weithredol  (yn nhymor newydd y cyngor, ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf).

A fyddai ymyrraeth gynnar yn gweithredu ar y cyd â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? Sut y byddech yn canfod y rheini sydd mewn perygl, er mwyn ymyrryd yn gynnar?

Canfod aelwydydd sy'n cael problemau a allai arwain at ddigartrefedd yw'r her fwyaf. Rydym yn edrych ar ffyrdd o gasglu data a chasglu gwybodaeth gan lawer o sefydliadau, er enghraifft, pa mor agored i niwed yw aelwydydd sy'n profi ôl-ddyledion rhent. Gofynnir i'r rhai sy'n cael lwfans tai lleol am Daliad Tai Dewisol – mae hynny'n arwydd o sefyllfa a allai arwain at ddigartrefedd. Os tynnir ein sylw at hynny'n gynnar, yna gallwn ymyrryd yn gynnar i nodi anghenion a'r cymorth angenrheidiol. Rydym hefyd wedi cysylltu â phob asiant tai yn Sir Fynwy i roi cyfle iddynt dynnu sylw at unrhyw un o'u tenantiaid sy'n dechrau profi risg lefel isel. Rydym am gysylltu ag ymgyrch tlodi'r Cyngor hefyd i annog unrhyw un sy'n profi problem i siarad â ni.

A yw'n werth cynnal arolwg o’r bobl ifanc a'r rhai ag anghenion cymhleth, i ganfod sut y daethant i fod yn ddigartref, i helpu gyda gwaith atal?

Rydym yn edrych ar system i ganfod y rhai a allai ddod yn ddigartref er mwyn creu llwybr tai i ragweld achosion posibl o ddigartrefedd.

A yw'n bosibl newid yr amgylchiadau fel bod landlordiaid yn cael eu talu'n uniongyrchol o fudd-daliadau, yn hytrach na chan y person sy'n cael budd-daliadau?

Mae hyn yn anoddach nawr oherwydd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi newid y rheolau sy'n ymwneud â chredyd cynhwysol. Mae trefniant talu uniongyrchol yn bodoli ond mae'n anoddach nag yr arferai fod.

O ran atal, a allwn gymharu ein sefyllfa ni ag awdurdodau eraill, a chydweithio ar feysydd o brofiad penodol?

Strategaeth Gwent oedd y strategaeth ddigartrefedd flaenorol ond roedd y materion flwyddyn yn ôl mor ddifrifol fel bod pob awdurdod lleol am ganolbwyntio ar ei sefyllfa a'i ymateb ei hun, a arweiniodd at y strategaethau'n unigol. Ond rydym yn rhwydweithio'n agos iawn â'n cymdogion – mae cyfarfod heddiw rhwng yr awdurdodau lleol, er enghraifft – sy'n gyfleoedd i rannu a chymharu nodiadau. Mae cynllun gan Went i gefnogi'r rhai sy'n gadael y carchar. Wrth i bethau ddechrau dod nôl i drefn, bydd cydweithio ar ôl Covid yn cynyddu ymhellach.

Mae llawer o bwysau ar deuluoedd yn awr yn deillio o’r broblem yn ymwneud â chostau byw. Efallai, os oes gwasanaeth cyfryngu, na fyddai angen iddynt symud o lety dros dro i lety parhaol?

Mae gennym weithwyr cynhwysiant ariannol yn y tîm opsiynau tai i gefnogi pobl i wneud y gorau o’u gwariant ac incwm. Mae'r Porth Cymorth Tai hefyd yn gwneud llawer o'r gwaith hwn, fel y mae Cyngor ar Bopeth, felly mae'n rhan allweddol o'r hyn a wnawn. Wrth geisio canfod llety i rywun rydym yn gwneud asesiad fforddiadwyedd, er mwyn eu rhoi mewn llety sy'n gynaliadwy yn ariannol. Mae Gwasanaeth Cyfryngu Sir Fynwy, sydd ddim mor amlwg bellach, ond yn seiliedig ar yr awgrym hwn byddwn yn ei ailgodi ac yn sicrhau ei fod yn rhan o'r pecyn cymorth atal.

Faint o lety sydd wedi'i golli oherwydd bod llety rhent preifat yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad i'w osod fel Air BnB? A yw hyn yn broblem gynyddol?

Nid ydym yn ymwybodol o landlordiaid sy’n newid i Air BnB, ond dangosodd ein hastudiaeth flwyddyn yn ôl ddirywiad yn y farchnad. Adborth anecdotaidd a gaiff y tîm dewisiadau tai yw bod landlordiaid yn gwerthu. Felly’r teimlad yw bod y duedd ar i lawr, yn hytrach na bod y sefyllfa’n gwella.

A oes unrhyw asesiad neu waith modelu wedi'i wneud ynghylch yr argyfwng costau byw arfaethedig, yn enwedig yr effeithiau hirdymor?

Mae'r tîm Cymunedau a Phartneriaethau yn canolbwyntio ar y math hwn o fodelu, gan geisio deall y sefyllfa'n well. Mae modelu wrth wraidd y prosiect ailgartrefu cyflym; mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ddiffinio'r bwlch rhwng yr angen am dai a'r cyflenwad tai. Unwaith y byddwn wedi'i gwblhau, dylem gael nifer pendant o faint o eiddo rydym yn brin ohonynt, o ran digartrefedd, a bydd yn nifer i ni weithio tuag atynt yn adeiladol. Bydd gwaith ar dlodi a fforddiadwyedd yn llywio'r ffordd rydym yn diffinio’r bwlch.

A fu unrhyw ddatblygiad ym menter Llywodraeth Cymru i brynu hen eiddo e.e. Mulberry House? Oni fyddem mewn sefyllfa well o lawer pe na bai'n rhaid i ni ddibynnu ar landlordiaid preifat, ond a allem adeiladu ein hunedau ein hunain?

Trafodwyd Mulberry House o'r blaen mewn perthynas â'n cynllun gweithredu Gorfodi ym maes Eiddo Gwag, sy'n rhoi sefyllfa orfodi gryfach i ni os na fydd perchnogion yn rhyngweithio neu'n gweithio gyda ni'n briodol. Gallwn brynu eiddo yn uniongyrchol drwy'r llwybr hwnnw. Ond mae'r pwynt am y cyngor yn berchen ar lety a chael darpariaeth fwy uniongyrchol yn sgwrs allweddol sydd wedi bod yn digwydd ers peth amser. Mae'n cael ei hystyried o ddifrif, ac rydym wedi bod yn edrych ar lety gyda'r potensial hwnnw mewn golwg.

A yw cynnydd mewn cyfraddau llog a chostau byw wedi'i gynnwys?

Fyddwn ni ddim yn colli golwg ar hyn. Rydym wedi cael cyfnod o gyfraddau llog cymharol isel, ac nid yw adfeddiannu morgeisi yn nodwedd fawr o'n galw presennol. Cawn wybod amdanynt pan fyddant yn digwydd. Ond wrth symud ymlaen mae hyn yn rhywbeth i fod yn ymwybodol ohono, yn ogystal â chynnydd mewn biliau tanwydd a phwysau eraill yn y cartref.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae'r pwyllgor yn diolch i'r tîm am ei waith caled. Yn ogystal â'r prif gwestiynau, mae aelodau wedi mynegi pryder a yw nifer y tai yn y sir yn ddigonol ac wedi ailadrodd eu dymuniad i archwilio'r defnydd o eiddo gwag ar y stryd fawr ar gyfer tai i’r digartref a thai fforddiadwy. Gofynnodd y Cadeirydd i'r cynnydd mewn cyfraddau llog a chostau byw gael ei gynnwys yn yr adroddiad fel risg allweddol. Bydd y tîm yn dod â'r Cynnig Ailgartrefu Cyflym i'r pwyllgor nesaf.

 

 

Dogfennau ategol: