Skip to Main Content

Agenda item

Gofal Cartref

Trafod yr heriau cyfredol sydd  yn cael eu hwynebu o fewn y sector gofal a’r cyd-destun yn Sir Fynwy.

 

Cofnodion:

Gwnaed y cyflwyniad gan Eve Parkinson ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Tyrone Stokes.

Heriau:

A oes gwahaniaethau rhwng pecynnau gofal a gofal cartref? A ydym yn gweithio law yn llaw ag awdurdodau iechyd neu ar wahân?

Yn bennaf, yr un peth yw pecynnau gofal a gofal cartref. Byddem yn asesu rhywun; mae'r mwyafrif yn dod o dan yr awdurdod lleol oni bai ei fod yn ofal iechyd parhaus. Yn dilyn asesiad, darperir y pecyn gofal naill ai gan ein gwasanaethau gofal cartref mewnol neu ddarparwyr a gomisiynir. Galluogi, ail-alluogi a’r achosion mwy cymhleth yw’r gwasanaeth mewnol ar y cyfan.

A ydym yn rhannol gyfrifol am flocio gwelyau os nad oes gennym ddigon o staff i wneud yr asesiadau'n gyflymach?

Mae ein staff yn mynd i mewn i'r ysbytai i wneud yr asesiadau. Ond ar ôl yr asesiad, pan benderfynir bod angen pecyn gofal ar y person dan sylw y mae’r maen tramgwydd, lle na allwn ddarparu'r hyn y mae'r asesiad wedi'i benderfynu. Mae'r system gyfan yn gymhleth iawn. Nid yw mor syml â rhywun yn cael eu derbyn i'r ysbyty ond yna ni allwn eu rhyddhau oherwydd nad oes gennym becyn gofal. O safbwynt Llywodraeth Cymru weithiau ni ddylai pobl fod wedi cael eu derbyn i'r ysbyty – mae lefel o geisio osgoi risg o ran derbyniadau – ac mae'r dystiolaeth yn amlwg iawn, cyn gynted ag y derbynnir rhywun sydd â sawl cyflwr, neu sy'n h?n, maent yn dirywio'n gyflym iawn. Mae rhai pobl sy'n mynd i'r ysbyty nad oes angen dim arnynt, ac erbyn iddynt fod yn barod i'w rhyddhau, mae angen llawer o gymorth arnynt.

Felly, mewn ysbyty gofal critigol h.y. Y Faenor, bydd yr asesiad yn cael ei wneud pan fyddant yn trosglwyddo o'r fan honno i ysbyty arall, e.e. Nevill Hall?

Na, rydym yn asesu yn Y Faenor hefyd.

Felly gellir tybio bod therapyddion galwedigaethol yn yr ysbyty yn gwneud asesiad? A yw'r asesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o hynny? Sut mae'n gweithio o ran rhyddhau pobl o wardiau?

Mae'n amrywio ar draws y sir: mae model ychydig yn wahanol yn Nevill Hall gan fod Therapyddion Galwedigaethol y Bwrdd Iechyd yn trosglwyddo i'n tîm – felly mae’n wasanaeth mewngymorth yn Nevill Hall, ac rydym yn gweithio gyda'n pobl ein hunain. Felly, ar y cyfan, mae ein gweithwyr cymdeithasol ein hunain, therapyddion galwedigaethol a nyrsys yn gwneud gwaith mewngymorth yn yr ysbyty. Yn Ysbyty Brenhinol Gwent mae'r model yn wahanol. Mae gennym Weithiwr Cymorth Adsefydlu a nyrs Cyswllt Rhyddhau o dîm Cas-gwent yn mynd i’r ysbyty i nodi’r bobl o Sir Fynwy a'u rhyddhau. Yn ysbytai cymunedol Cas-gwent a Bro Mynwy mae ein tîm integredig yn gweithio'n llwyr ynddynt.

Yn y tabl ar dudalen 7, mae 104 o bobl heb yn aros am ofal yn y cartref. Sut mae’n nhw’n cael eu cefnogi yn y cyfamser?

Yn aml, teulu a gofalwyr sy'n eu cefnogi. Mae'n fater o unrhyw gymorth ychwanegol, seibiant neu ddarpariaeth gwasanaeth dydd ond mae'n heriol iawn. Os bydd y sefyllfa'n gwaethygu, rydym yn ceisio gwneud ein gorau i dynnu rhywbeth at ei gilydd, ond nid oes gennym y staff. Rydym yn cael sgyrsiau dyddiol gyda'r ysbyty i ganfod pa risg y mae pobl yn ei wynebu pan gânt eu rhyddhau.

O ran gofal cartref, yng Nghymru mae cap ar yr hyn y mae’n rhaid i deulu ei gyfrannu.  Efallai y bydd goblygiadau ariannol yn gysylltiedig â mynd i gartref gofal oherwydd, yn ôl pob tebyg, nid yw'r cap yn berthnasol? Sut y byddai hynny'n gweithio'n ariannol i bobl sy'n ei chael yn anodd?

Mae'r asesiad ariannol wedi'i osod fel deddf gyfreithiol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae rhywun y nodwyd bod angen gofal arnynt yn cael asesiad ariannol. Ar gyfer gwasanaethau dibreswyl (sy'n cynnwys gofal cartref), mae uchafswm tâl o £100 yr wythnos y gallwn ei godi. Caiff hynny ei gynnal gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, felly'r mwyaf y bydd yn rhaid i rywun ei dalu yw £100. Nid oes cap o ran gofal preswyl. Felly, efallai y bydd angen penodol ar rywun, lle mae angen iddynt fynd i gartref gofal, ond os yw'r asesiad ariannol yn penderfynu y gall fforddio talu am y gofal hwnnw ei hun, ni fydd ganddynt hawl i unrhyw gymorth ariannol gan yr awdurdod lleol. Mae hwn weithiau'n arwain at wrthdaro h.y. pan fydd rhywun yn ddigon ffit i gael eu rhyddhau o'r ysbyty, mae'r asesiad ariannol yn dweud bod angen iddynt fynd i gartref gofal, ond y gall fforddio talu ei hun. Mae gwasanaethau iechyd i’w cael am ddim ond cyn gynted ag y bydd angen ymyrraeth gofal cymdeithasol, codir tâl amdanynt o dan y Ddeddf.

Hyd yn oed mewn cartrefi gofal, mae elfen o gymorth y dylai'r bwrdd iechyd gyfrannu ati.

Oes. Gyda chartrefi gofal mae dau lwybr: gofal preswyl neu ofal nyrsio, sef yr hyn rydych chi’n cyfeirio ato. Mae gofal iechyd parhaus yn cael ei ariannu 100% gan ofal iechyd. Os oes angen i rywun fynd i gartref gofal ond gydag elfen fach o ddarpariaeth nyrsio, gelwir hynny'n 'ofal nyrsio am ddim'. Bydd yr awdurdod iechyd yn talu am yr elfen gofal nyrsio, ac mae tâl atodol y mae'r bwrdd iechyd yn ei dalu, ond mae costau llety yn daladwy gan yr awdurdod lleol, sef yr elfen asesiad ariannol.

Gan fod y broses mor gymhleth, a yw'n fwy costus? A ellid ei symleiddio?

Ydy, mae'n gymhleth, ac mae wedi bod felly erioed, gan fynd yn fwy costus ers i'r Ddeddf ddod i rym yn 2014. Mae gennym gyfraddau gwahanol ar gyfer yr uchafswm o'i gymharu â Lloegr, sy'n golygu bod trigolion Lloegr yn defnyddio cartrefi gofal Sir Fynwy, sy'n creu cymhlethdod ychwanegol.

Ond gall hyn gymryd amser, yn enwedig os oes apeliadau yn erbyn yr asesiad ariannol, gan ddod yn ôl at flocio gwelyau. A ydym yn dweud nad yw'r broses mor syml ag y dylai fod?

Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, a rhan ohoni yw cynnal asesiad sy'n seiliedig ar brawf modd i benderfynu a all pobl fforddio talu am eu gofal eu hunain. Rydym yn ceisio gwneud hyn cyn gynted â phosibl, ond mae angen i ni sicrhau ei fod yn gadarn, yn gyfartal ac yn deg. Mae ymgysylltu da â'r teulu yn bwysig iawn, gan gynnwys bod yn onest weithiau. Mae hawl i wrthod yr asesiad ariannol ond mae hynny'n golygu, os yw'r person yn mynd i ofal preswyl, eu bod yn ildio unrhyw gymorth ariannol gan yr awdurdod lleol. Y rhai sydd yn yr ysbyty sy'n aros am gartrefi gofal preswyl neu gartrefi gofal nyrsio fel arfer yw'r rhai nad oes ganddynt y gallu i wneud y penderfyniad hwnnw eu hunain, sy'n ychwanegu haen arall o gymhlethdod. Mae dod i'r penderfyniad er lles pennaf y person hwnnw yn cynnwys y teulu, a phan nad oes atwrneiaeth arhosol, mae'n cyrraedd y llysoedd – ni allwn hwyluso'r broses o ryddhau'r claf nes bod y llys wedi gwneud penderfyniad.

Ydyn ni'n cael llawer o apeliadau?

Rydyn ni'n cael llawer, gyda chynnydd yn ddiweddar. Mae cwmnïau cyfreithiol a chynghorwyr ariannol yn cymryd rhan gynyddol. Cyn 2014, efallai bod 1-2 apêl y mis, nawr mae'n 3-4 y dydd. Mae hyn yn cymryd llawer o amser ac yn ddrud, ond mae gan bobl yr hawl i herio.

Onid yw'n bryd edrych ar ba mor gymhleth yw pethau, a dychwelyd at system symlach, yn enwedig o ran darparu pethau ein hunain yn hytrach na phrynu gwasanaethau gan gwmnïau preifat?

Er ein bod yn rhoi rhywfaint o'n gofal i gontractwyr allanol, mae'n ffordd i ni gyflawni ein dyletswyddau. Mae gofalwr sy'n mynd i mewn yn gwneud hynny ar ran Cyngor Sir Fynwy. Rydym wedi bod yn cyflogi mwy o ofalwyr mewnol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cymaint felly fel ei bod, yn y rhagolwg ym mis 9, yn un o'r rhesymau pam rydym yn parhau i orwario mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae cyfraniadau pensiwn yn ffactor yma: yn y sector preifat mae cyfraniad y cyflogwr yn 3% ond yng Nghyngor Sir Fynwy mae'n debycach i 23-4%, felly ar unwaith mae mwy o orbenion o gyflogi ein gofalwyr ein hunain. Hefyd, os yw'r sector allanol yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gofalwyr, yna byddwn ninnau hefyd. Mae'n dod yn ôl at y ffaith nad yw gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn ddiwydiant deniadol i bobl ymuno ynddo – mae swyddi mewn archfarchnadoedd a bariau yn aml yn talu mwy, er enghraifft. At hynny, mae'n rhaid i ofalwr fod wedi'u cofrestru h.y. wedi cymhwyso, ond nid oes angen cymhwyster ar y swyddi hynny sy'n talu'n well.

A ydym yn gwybod a yw’r cwmnïau preifat a ddefnyddiwn yn ariannol gadarn, neu a oes unrhyw risg y gallent fynd i’r wal?

Ar hyn o bryd nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gwmnïau sydd ar y dibyn. Fodd bynnag, maent o dan bwysau ariannol eithriadol sy'n cael eu cuddio ar hyn o bryd gan Gronfa Galedi Covid – pan ddaw hynny i ben ymhen 29 diwrnod cawn ddarlun cliriach o'r heriau. Rydym yn cynnal trafodaethau cyson â'r darparwyr i ddeall unrhyw anawsterau sydd ganddynt. Weithiau rydym wedi cael dychweliadau sylweddol gan gwmnïau nad ydynt ar y dibyn ond sydd wedi penderfynu nad yw gweithio yn Sir Fynwy yn hyfyw iddynt mwyach; maent felly wedi rhoi rhybudd i ni ar rai pecynnau gofal, y mae rhai ohonynt yn sylweddol, gan greu llawer o straen i fynd i'r afael â hwy. Yn aml, nid yw'n gost-effeithiol i gwmnïau ddod â'u gofalwyr i Sir Fynwy o Flaenau Gwent, dyweder, yn hytrach na'u bod yn aros yn y sir honno i weithio.

A oes unrhyw wirionedd yn yr honiad y gall rhywun adael yr ysbyty heb gael asesiad?

Rydym yn cadw llygad ar bob un o'n cleifion ysbyty: gwyddom pwy sy'n cael eu derbyn a phryd, gyda rhestrau'n cael eu hanfon atom bob dydd. Rydym yn weithgar iawn yn y sgyrsiau am y risgiau wrth ryddhau, pa gymorth sydd ganddynt gartref, ac ati. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ddarparu’r adnoddau gorau posibl iddynt.

A ellir darparu hyfforddiant i aelodau o'r teulu sy'n darparu gofal? Mae cyfleusterau cam-i-lawr wedi'u darparu ar gyfer cleifion sy'n gadael Ysbyty Brenhinol Gwent. Beth am y rheini yn Sir Fynwy?

Rydym yn gweithio'n agos gydag aelodau'r teulu, yn enwedig o ran codi a chario ac offer. Ar hyn o bryd mae cynllun o'r enw Step Closer To Home lle mae'r bwrdd iechyd yn ariannu pobl sy'n mynd i leoliad preswyl fel cam i lawr o'r ysbyty. Felly, bydd yr ysbyty'n rhyddhau'r person i gartref, nid o reidrwydd yn Sir Fynwy. Mae'r bwrdd iechyd yn darparu'r cyllid am 6 wythnos, ac ar ôl hynny os nad ydym wedi dod o hyd i becyn gofal o hyd, rydym yn ceisio asesu'r person er mwyn deall eu hanghenion hirdymor, p'un a oes angen iddynt aros yn y lleoliad preswyl neu chwilio am opsiynau eraill. Mae’n sefyllfa gymhleth iawn. Mae'r cyllid ar gyfer Step Closer to Home yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth; bydd yn rhaid i  ni ystyried bryd hynny beth fydd yr opsiynau eraill. Rydym yn cael llawer o drafodaethau gyda chydweithwyr ynghylch sut i atal rhywun rhag mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf: pe baem yn cael cynnig mwy rhagweithiol a chadarn yn y gymuned yna gallem atal llawer o hyn.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i swyddogion am yr adroddiad hwn a'u hymdrechion parhaus mewn maes anodd iawn. Mae gan y pwyllgor bryderon mawr ynghylch recriwtio a'r gallu i ddenu staff i ofal cymdeithasol. Mae'r aelodau wedi mynegi eu hanfodlonrwydd yn gryf o ran cymhlethdod y system ond maent yn ddiolchgar iawn i swyddogion am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth weithio ynddi.

Tynnodd Peter Davies, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Prif Swyddog Adnoddau, sylw at yr her o ran fforddiadwyedd. Rhoi Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar sail gynaliadwy yw un o amcanion y gyllideb ddrafft. Mae gan Gyngor Sir Fynwy risg gyllidebol sylweddol oherwydd breuder y system. Mae'n iawn fod y rhai sy'n darparu gofal yn cael eu talu ar gyfradd addas; mae ymdrechion clir gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn, ac i geisio denu a chadw'r cyflenwad cywir o lafur o safon. Mae gwneud/parhau i wneud gwaith wedi'i dargedu yn ein cangen gomisiynu. Rydym wedi ceisio sicrhau bod Cymdeithas Trysoryddion Cymru, cyllid llywodraeth leol a CLlLC yn cyd-fynd yn agosach â gwaith y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda'r nod o gydweithio i lunio sut fath o beth fyddai system gynaliadwy ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Rydym am gyflwyno achos busnes gwybodus iawn i Lywodraeth Cymru, i gymryd rhan mewn sgwrs ystyrlon am symud Gofal Cymdeithasol i Oedolion i ddyfodol cynaliadwy.

 

 

Dogfennau ategol: