Skip to Main Content

Agenda item

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir R. John

Mae’r Cyngor hwn yn:

Condemnio cynlluniau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i dynnu’r cerbydau  ymateb cyflym o orsafoedd ambiwlans Trefynwy a Chas-gwent fel rhan o’r Adolygiad  o’r Amserlen/Darpariaeth Genedlaethol.

Yn credu fod israddio’r gorsafoedd yma yn mynd i roi bywydau trigolion yn Nhrefynwy, Cas-gwent a Chil-y-coed  mewn mwy o beryg, a hynny ar adeg y mae’r targedau ar gyfer ymateb i alwadau categori A sy’n ymwneud gydag achosion o beryg bywyd eisoes yn cael eu colli, er gwaethaf ymdrechion gorau'r parafeddygon a’r gweithwyr GIG rhengflaen.  

Yn gwrthwynebu unrhyw  gamau i israddio gorsafoedd ambiwlans yn Sir Fynwy ac yn galw ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru i ddileu’r cynlluniau yma.