Agenda item

DM/2020/00400: Adeiladu lôn seiclo gaeedig, mynediad i gerbydau a maes parcio – Tir drws nesaf i’r Fferm Cae Rasio a Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Llan-ffwyst, Y Fenni

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei chymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys yr amodau diwygiedig mewn gohebiaeth hwyr, yr amod ychwanegol ar y Cynllun Rheoli Digwyddiadau a datrys yr asesiad priodol yn ymwneud â phroblem ffosffadau draeniad aflan gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Llan-ffwyst Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Mynegwyd pryder am broblemau traffig o amgylch y safle, yn neilltuol broblemau parcio posibl yn digwydd ar y safle ar gyfer y digwyddiadau mwy a gynhelir yn y safle.

 

·         Dynodwyd safle’r ysgol fel ardal bosibl ar gyfer darparu parcio ar yr achlysurol hyn. Fodd bynnag, pan fyddai hynny’n llawn, gallai cerbydau fod yn debygol o barcio yn y stad breswyl gyfagos sydd eisoes yn profi traffig ysgol.

 

·         Awgrymwyd y gallai cae heb fod o fewn y terfyn llinell goch ddarparu tua 300 o ofodau parcio. Ni chynigiwyd bod hyn yn amod yn yr adroddiad. Cafodd y safle hefyd ei gynnig fel safle ar gyfer rhandiroedd felly ni fedrid ei ddefnyddio ar gyfer parcio ceir ychwanegol.

 

·         Gall mynediad i’r safle fod yn anodd gyda llawer o draffig yn yr ardal ar rai adegau o’r dydd. Byddai traffig ychwanegol o’r llwybr seiclo a gynigir yn gwaethygu’r problemau traffig yn yr ardal. Cynhaliwyd arolygon trafnidiaeth ar ddydd Sul yn ystod y cyfnod clo nad yw’n adlewyrchu’n gywir y symudiadau cerbyd yn yr ardal. Ystyriwyd y dylid bod wedi cynnal arolwg pellach.

 

·         Mynegwyd pryder am sut y gweithredid yr amod i reoli d?r brwnt.

 

·         Roedd cynyddu s?n gan y gynulleidfa yn mynychu digwyddiadau mawr ar y safle yn achos pryder.

 

·         Mae angen trafod diogelwch tu allan i oriau.

 

Mewn ymateb, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu yr wybodaeth ddilynol i’r Pwyllgor:

 

·         Yng nghyswllt y materion am leoedd ychwanegol i barcio, dywedodd fod swyddogion yn edrych ar roi hyn yn amod yn y Cynllun Rheoli digwyddiadau.

 

·         Byddai d?r brwnt yn fater i’r Awdurdod ei weithredu a’i fonitro. Fel ran o’r Cynllun Draeniad D?r Brwnt, byddem yn edrych am gynllun gan y contractwr a benodir iddynt gadarnhau i ble y byddant yn symud y gwastraff i sicrhau y caiff ei osod tu allan i’r ardal ffosffadau.

 

·         Bydd y digwyddiadau a gynhelir ar y safle ar raddfa lai a rhagwelir mai nifer fach o gynulleidfa a ddisgwylir.

 

·         Gellir rheoli diogelwch tu allan i oriau drwy gael rhwystr i atal y trac rhag cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Seilwaith Cymunedol yr wybodaeth ddilynol i’r Pwyllgor:

 

·         Cafodd yr ardal ychwanegol ar gyfer parcio ei hystyried fel safle bosibl ar gyfer rhandiroedd. Fodd bynnag, cafodd y safle ei ddiystyru gan fod y cae mewn gorlifdir ac mae llifogydd yno ar rai adegau o’r flwyddyn.

 

·         Ni ragwelir y cynhelir llawer o ddigwyddiadau mawr ar y safle.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar gyfer y maes parcio ychwanegol ac os y gellid ychwanegu ychwanegu amod ar gyfer defnydd y tir tu allan i’r terfyn llinell goch, nodwyd y byddai adran gyfreithiol yr Awdurdod yn trafod y mater hwn cyn cyhoeddi penderfyniad.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn am ffosffadau, nodwyd fod yr Awdurdod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a rheoleiddwyr amgylcheddol i sicrhau nad oes unrhyw lwybrau i’r gwastraff hwn fynd i’r cwrs d?r. Mae mesur lliniaru sef cynllun Rheoli Draeniad D?r Brwnt yn cael ei gynnig y byddai’n rhaid i bob contractwr sy’n cael gwared â gwastraff gydymffurfio ag ef. Byddai hyn yn amod. O ran ymgynghori â D?r Cymru, nid yw fel arfer yn rhoi sylwadau ar fanylion gwneud penderfyniadau’r awdurdod cynllunio lleol yng nghyswllt effaith posibilrwydd ffosffadau yn mynd i’r cwrs d?r. Mae’r awdurdod lleol yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, y rheoleiddiwr amgylcheddol yn y cyswllt hwn.

 

·         Mae mwy o agweddau cadarnhaol i’r cais na’r rhai negyddol.

 

·         Trydydd parti yw prif berchen y pwll d?r yn y safle.

 

·         Caiff mesurau seilwaith gwyrdd sylweddol eu darparu yn y safle drwy amod.

 

·         Bydd darpariaeth toiledau dros dro yn ei lle nes y bydd datrysiad i fater ffosffadau. Cynhelir sgyrsiau cadarnhaol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a D?r Cymru gyda golwg ar drin mater tymor hirach darpariaeth toiledau yn y safle.

 

·         Defnyddir y cynllun rheoli ar gyfer digwyddiadau mwy. Mae digwyddiadau mwy hefyd angen gr?p cynghori diogelwch digwyddiadau gyda golwg ar leihau’r effaith yn yr ardal. Fodd bynnag, ni fydd y mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yn y safle yn sbarduno’r math hwn o gonsyrn.

 

·         Ni fedrwn fynnu bod yr ymgeisydd yn darparu goleuadau ffotofoltaig (PV) fel rhan o’r cais cynllunio.

 

·         Bydd y cylch ar gyfer cerbydau olwyn yn unig. Caiff ei ffensio bant i atal mynediad heb awdurdod tu allan i’r amser defnyddio a drefnwyd. Caiff y llwybrau troed cyhoeddus a aiff drwy’r safle ei dargyfeirio o amgylch tu allan y ffens.

 

Rhoddodd yr Aelod lleol grynodeb fel sy’n dilyn:

·         Nid yw’r arolwg traffig yn nodweddiadol gan iddo gael ei gynnal ar ddydd Sul yn ystod cyfnod clo.

 

·         Gallai arolwg ychwanegol fod wedi dynodi gwelliannau i’r safle y gellid bod wedi eu gweithredu.

 

·         Mae’r Aelod lleol eisiau gweld darpariaeth seiclo yn y Fenni.

 

·         Ar yr achlysur hwn, penderfynodd yr Aelod lleol i ymatal rhag pleidleisio ar y cais gan fod ganddo bryderon am y materion priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Feakins ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. Harris fod cais DIM/2020/00400 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys yr amodau diwygiedig mewn gohebiaeth hwyr, yr amod ychwanegol ar gyfer y Cynllun Rheoli Digwyddiadau a datrysiad i’r asesiad priodol yn ymwneud â mater ffosffadau draeniad d?r brwnt gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Pan gafodd y mater ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol.

Dros gymeradwyo                  12

Yn erbyn cymeradwyo           0

Ymatal                         3

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2020/00400 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys yr amodau diwygiedig mewn gohebiaeth hwyr, amod ychwanegol y Cynllun Rheoli Digwyddiadau a datrys yr asesiad priodol parthed y mater ffosffadau draeniad d?r brwnt gyda Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol: