Cofnodion:
Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr, Prif Swyddog, Adnoddau a Swyddog a151 a Phennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid yr Asesiad o Dryloywder y Broses Cyllideb a Digonolrwydd yr Adroddiad Cronfeydd wrth Gefn.
Gan gyfeirio at bob un o’r argymhellion yn eu tro, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i roi sylwadau a gofyn cwestiynau.
Argymhelliad 1: Roedd Aelod yn falch i weld fod y lefelau cronfeydd wrth gefn yn gadarnhaol ond holodd am gronfeydd wrth gefn ysgolion, yn neilltuol Ysgol Cas-gwent sydd â diffyg o tua £330,000 gyda dim ond un ysgol gynradd arall â chyllideb ddiffyg. Holodd os oes cynllun adfer cadarn yn ei le ar gyfer Ysgol Cas-gwent. Cadarnhawyd fod gan Ysgol Cas-gwent gynllun adfer cadarn ac y dylai’r diffyg ostwng ymhellach erbyn diwedd eleni gyda gostyngiad pellach ar y gweill dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r Aelod Cabinet Adnoddau ac Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc hefyd wedi gofyn am sicrwydd am gynllun adferiad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet fod defnyddio y caiff defnydd derbyniadau cyfalaf i gynyddu’r gyllideb refeniw ar gyfer eitemau ailwampio gwasanaeth ei drin gan nad yw hyn yn ymarfer cynaliadwy.
Craffodd a chymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio farn y RFO ar gadernid y broses cyllideb a digonolrwydd cronfeydd wrth gefn (atodiad 1) a bod hynny yn ei dro yn galluogi rhoi diweddariad llafar i’r Cabinet ar 2 Mawrth a’r Cyngor ar 3 Mawrth fel sydd angen.
Argymhelliad 2: Eglurodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod defnydd amcanol cronfeydd wrth gefn yn y tymor canol yn seiliedig ar yr hyn sy’n hysbys ac y gellid disgwyl newidiadau wrth i’r broses cyllideb a chynllunio ariannol tymor canol esblygu. Caiff y newidiadau eu hadrodd i’r Pwyllgor eu hystyried.
Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r rhagolwg o ddefnydd cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2022/23 a blynyddoedd y dyfodol fel y’u crynhoir yn nhabl 1 yr adroddiad hwn ac a fanylir yn atodiad 2.
Argymhelliad 3: Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weithredwr er y cynnydd mewn balansau ysgol, bod y patrwm cyffredinol o ostyngiad mewn balansau ysgol dros gyfnod yn dal i achosi problem sylfaenol fod ysgolion yn gweithredu tu hwnt i’w modd ac y dylai’r Pwyllgor gadw hyn mewn cof.
Nododd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio faint y gwelliannau a ragwelir mewn balansau ysgol a gaiff eu crynhoi yn nhabl 2 a’u manylu yn atodiad 3 sydd wedi ei seilio ar ac yn cael ei yrru gan i ba raddau fod y cymorth grant hwyr sylweddol a digynsail a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion ar ddiwedd 2020/21 yn fwy nag effaith cynlluniau buddsoddi ysgolion, ac yn arbennig dderbyn mwy o grant Llywodraeth Cymru nad oedd yn y gyllideb a dderbyniwyd ar ddiwedd 2021/22.
Argymhelliad 4: Heb unrhyw sylwadau neu gwestiynau pellach, cydnabu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio adfer balansau cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi dros gyfnod gweinyddol y cyngor hwn ac mae hynny wedi galluogi sefydlogi balansau yn unol â’r protocol ar gyfer cronfeydd wrth gefn a gymeradwywyd gan y Cabinet yn 2015, er bod hynny yng ngoleuni risgiau sy’n parhau dros y tymor canol sydd i’r graddau na fedrir eu lliniaru yn gwneud defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn unwaith yn unig ac chyfyngedig a balansau derbyn cyfalaf y gellir ei defnyddio.
Argymhelliad 5: Atgoffodd y Dirprwy Brif Weithredwr yr aelodau bod y strategaeth cyllideb ar gyfer 2022/23 yn cynnwys nifer o risgiau sylweddol ac arwyddocaol yn gysylltiedig â digartrefedd, gofal cymdeithasol oedolion, incwm canolfannau hamdden ac yn y blaen. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o gyllid grant penodol sylweddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn hwyr yn y flwyddyn. Gyda chynllun adfer y gyllideb, mae hyn yn golygu fod y sefyllfa yn y flwyddyn wedi symud o ddiffyg i warged. Mae hyn wedi galluogi’r cynigion cyllideb terfynol a gallu disgwyliedig i ail-lenwi cronfeydd wrth gefn ymhellach ar gyfer y risgiau hysbys a thebygol gan felly ostwng yr angen posibl am weithredu ar unwaith i adfer y gyllideb. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sylw at y potensial ar gyfer cynnydd mewn biliau cyflogau. Cynhwyswyd lwfans am yr hyn a ragwelir ond bydd yn rhaid ymdopi ag unrhyw gynnydd pellach anhysbys.
Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y strategaeth a’r dull gweithredu cyfredol ar gyfer cronfeydd wrth gefn sy’n mynd ati i sicrhau fod gorchudd cronfeydd wrth gefn yn ei le ar gyfer risgiau cyllidebol sy’n parhau ar gyfer 2022/23 ac o ragolwg tanwariant ar gyfer 2021/22.
Argymhelliad 6: Nododd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fod balans Cronfa’r Cyngor yn ystod canol y dangosydd 4% i 6% ac a gaiff ei ystyried gan swyddog A151 y Cyngor i fod yn lefel dderbyniol a darbodus.
Argymhelliad 7: Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi rhoi ystyriaeth i ostyngiad mewn balansau derbyniad cyfalaf y gellir eu defnyddio ac unwaith yn unig sy’n parhau i gefnogi cynlluniau cynnal a buddsoddi cyfalaf y Cyngor, ac a ddefnyddiwyd yn fwyaf diweddar i ateb costau refeniw yn gysylltiedig gyda diwygio gwasanaeth dan ganllawiau Llywodraeth Cymru (atodiad 5 a 6).
Argymhelliad 8: Nododd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio nad yw defnydd presennol derbyniadau cyfalaf defnyddiol yn gynaliadwy ac i’r graddau y caiff balansau eu dihysbyddu bydd angen i’r Cyngor gael benthyca heb ei gefnogi i gyllido ei gynlluniau cyfalaf yn y dyfodol ac i’r graddau nad yw grantiau a chyfraniadau eraill ar gael.
Argymhelliad 9: Gofynnodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gynnal adolygiad o’r polisi cronfeydd wrth gefn a dod ag ef yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei ystyried cyn mynd i’r Cabinet i’w ystyried ar gyfer ei fabwysiadu yn dilyn all-dro 2021/22 ac yn barod am strategaeth a chynllun y gyllideb ar gyfer 2023/24 a dros gyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canol.
Argymhelliad 10: Gofynnodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Ymchwil am roi ystyriaeth i gryfhau cydymffurfiaeth gyda Chod Rheolaeth Ariannol CIPFA y mae angen i’r pwyllgor lywyddu drosto.
Dogfennau ategol: