Agenda item

Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd

Darparu adroddiad ar nodau ac amcanion y gwasanaeth a thrafod y canlyniadau i blant a phobl ifanc ac effaith y gwasanaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Charlotte Drury y cyflwyniad ac ateb gwestiynau aelodau gyda sylwadau ychwanegol gan Tyrone Stokes.

 

Her:

Pa ymwneud sydd yna gydag atgyfeirio dyledion fel bod teuluoedd yn rheoli eu cyllidebau?

 

Mae hyn yn un o’r pethau gwirioneddol werth chweil yn y llinell gymorth a sefydlwyd – cafodd y gweithiwr ei hyfforddi i roi cyngor sylfaenol ar hawl i fudd-daliadau. Gwnaeth Llywodraeth Cymru y gwaith hwn yn 2020/21 gan gynnig cyfleoedd hyfforddi i helpu cynyddu sgiliau pobl a fedrai fod mewn sefyllfa i gynnig cyngor. Mae gennym hefyd gysylltiadau da iawn rhwng y panel Cymorth Cynnar a’r panel Ymyriad Tai; mae gan y panel Ymyriad Tai lawer o gyfleoedd i bobl geisio cyngor yn ymwneud â hawl i fudd-daliadau, cyngor ar fudd-daliadau, cynyddu incwm, rheoli dyledion a chyngor ar ddyledion. Mae gennym weithiwr ar y ddau banel hynny i sicrhau ein bod yn cydlynu yn y ffordd gywir a fod pobl yn cael y cymorth cywir.

 

Mae pryderon am blant sydd heb gysylltu gyda gweithio ar-lein, sy’n dal i fod gartref nawr. A oes ffyrdd i’w hannog i ddod yn ôl i’r ysgol?

Oherwydd fod addysg mor bwysig, mae’r holl wahanol wasanaethau yn codi lan ar gefnogi plant yn ôl i addysg a chefnogi eu mynediad i ddysgu. Mae thema sylfaenol o addysgeg gymdeithasol ar draws y tirlun. Mae bron yr holl blant y mae ACT yn gweithio gyda nhw yn gwella eu presenoldeb addysgol. Yn nhermau pethau penodol, mae darn mawr o waith yn mynd rhagddo rhwng y seicolegwyr addysgol a chwnsela risg ysgolion i edrych ar osgoi ysgol seiliedig ar emosiwn  - mewn gwirionedd, mae gwreiddiau’r rhan fwyaf o osgoi ysgol mewn llesiant emosiynol h.y. plant heb fod yn hapus yn yr ysgol. Rwyf hefyd yn aelod o bwyllgor rheoli Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion Sir Fynwy, sy’n fy helpu i wneud cysylltiadau defnyddiol. Mae’n rhaid i wella dysgu plant a’u deilliannau dysgu fod wrth galon popeth a wnawn, ond nid yw’n ateb cyflym. Yn Sir Fynwy mae’n rhwyddach gweld y gwahaniaeth rhwng plant o gymunedau mwy llewyrchus a llai llewyrchus nag mewn awdurdodau eraill, a gwyddom fod hyn yn effeithio ar eu lles emosiynol.

 

A fu’r atgyfeiriadau yn neilltuol oherwydd bod teuluoedd wedi eu cyfyngu i un t??

I’r graddau yr oedd hynny yn ffactor, rydym fwy neu lai drwy hynny yn awr gan fod plant yn ôl yn yr ysgol ac oedolion yn ôl yn y gwaith. Mae lle bob amser yn ystyriaeth: mae cael mynediad i’r awyr agored, mannau gwyrdd ac yn y blaen mor bwysig i les pobl fel mai’r ateb yw ydi a nac ydi.

 

Mae’n wych gweld ein bod yn gwneud llawer o waith ar ymyriad.

Ni allwn byth wneud digon. Mae cyfeiriad teithio, yn yr ystyr o ddilyn dull ataliol, yn hollol wahanol erbyn hyn i’r hyn oedd 7 neu 8 mlynedd yn ôl. Dylai awdurdodau lleol yn cymryd plant i ofal bob amser fod y cam olaf a dim ond cael ei wneud os yw popeth arall wedi methu. Os gallwn wneud mwy o waith ‘ymhellach i lawr’ i sicrhau hynny, yna dyna’r cyfeiriad y byddwn yn parhau ynddo. Ac mae hefyd angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau: os ydym hyd yn oed i grafu wyneb galw, mae angen i ni ymestyn allan i’n cymunedau i dyfu’r adnodd a chryfder yno. Bydd ein ffocws nesaf ar sut y gwnawn hynny.

 

Yng nghyswllt y panel niwroddatblygiadol, mae rhieni yn teimlo os nad ydyn nhw’n mynd drwy’r  panel hwnnw ac yn mynd ymlaen i atgyfeiriad sgan llygaid, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gollwng. Beth fedrwn ni wneud i gefnogi’r rhai nad ydyn nhw’n cael atgyfeiriad i gael diagnosis i’w plant?

Os na chaiff rhieni eu derbyn, yna maent yn dod yn awtomatig i’r panel Cymorth Cynnar. felly dydyn nhw ddim yn cael eu gollwng, ond gallai deimlo felly os nad ydynt yn cael yr ateb maent eu eisiau. Mae’r panel Cymorth Cynnar yn ceisio edrych ar anghenion y teulu a’r hyn sydd ar gael, a allai gynnwys cefnogaeth i fynd yn ôl i’r broses sgan llygaid.

 

Yng nghyswllt tlodi: ar ôl 2 flynedd o Covid ac yn awr gydag argyfwng costau byw, a yw’r gwasanaeth yn ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau annisgwyl yn y dyfodol?

Mae Sir Fynwy bob amser wedi bod yn dda am addasu yn gynnar. Pan aethom i Covid, roedd y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion eisoes yn edrych ar blatfform digidol, felly digwyddodd hynny bron ar unwaith. Fe wnaethom sefydlu llinell gyngor a aeth yn fyw cyn diwedd Mawrth 2020. Fe wnaethom gynnig ymgysylltu rhithiol, sy’n gweithio’n dda iawn i rai plant, felly rydym yn cadw hynny a datblygiadau eraill sy’n ychwanegu gwerth fel rhan o’r dull cyfunol. Rydym hefyd yn bryderus am yr hyn a ddaw’r dyfodol i’n teuluoedd mwy bregus; y peth gorau y gallwn ei wneud yw cael y llinellau cywir o gyfathrebu ac eirioli dros y teuluoedd y gweithiwn gyda nhw gystal ag y gallwn. Rwyf wedi cwrdd gyda thîm Cyngor Sir Fynwy sy’n delio gyda tlodi, mae’n fater o gysylltu gwasanaethau a’r gwaith sy’n digwydd yn y gymuned, fel y gall pob agwedd ychwanegu gwerth i’r llall.

 

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda rhannau eraill o’r gwasanaeth a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy, dan Plant a Phobl Ifanc?

Mae cyswllt rhwng y gwasanaethau mewn amrywiaeth o leoedd. Mae’r panel Cymorth Cynnar yn un allweddol. Mae rhywun yn cael sedd ar y panel os gallant fynd ag atgyfeiriad a gwneud rhywbeth defnyddiol gydag ef. Rydym hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda chyfarfodydd aml-asiantaeth mewn ysgolion ac mae cysylltiad gwerthfawr iawn rhwng hynny a’r panel Cymorth Cynnar, gan y bydd yr ysgolion yn edrych ar anghenion disgyblion unigol a byddwn wedyn yn cysylltu i’r panel Cymorth Cynnar lle mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael. Darn arall o waith cyfredol, sy’n rhan o Plant a Phobl Ifanc, yw gwaith Arloesi Trawsnewid blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn cynnwys sefydlu hybiau cymunedol fydd yn galluogi pob plentyn 0-7 oed i gael gweithiwr proffesiynol sydd â diddordeb ynddynt. Mae’n ddull aml-ddisgyblaeth sy’n ymwneud â chefnogi gwytnwch teuluoedd, lles plant a datblygiad plant ar gam cynnar iawn. Mae’n dod â chyfleoedd cyffrous.

 

Ydych chi’n gweithio mor galed gyda llywodraethwyr ysgol arbenigol ag ydych chi gyda gweithwyr proffesiynol, neu a oes mwy y gallech ei wneud?

Gallwn bob amser wneud mwy. Rwy’n fwy na hapus i gael sgwrs am hyn i ymchwilio syniadau. Fel y soniwyd yn gynharach, bydd fy ffocws nesaf ar sut i weithio’n fwy agos gyda gweithgaredd yn y gymuned a sut i ddatblygu’r adnodd yn y ffordd honno. Mae gwaith partneriaeth yn fwy na chael pawb o amgylch yr un bwrdd, ond cael y bobl gywir o amgylch y byrddau cywir a chael y llinellau cyfathrebu cywir rhwng y byrddau hynny. Rwyf bob amser yn agored i glywed am rywbeth y gwnaethom ei golli neu gysylltiad arall y gallem ei wneud.

 

Ni chafodd plant yr un gefnogaeth fugeiliol yn ystod Covid. sut mae ysgolion yn llenwi’r bwlch hwnnw?

Mae gofal bugeiliol yn biler canolog ar gyfer ein holl ysgolion yn Sir Fynwy ond ni allaf siarad am hyn yn benodol. Rwy’n gwybod o gyfarfodydd aml-asiantaeth a gynhelir yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd fod gofal bugeiliol disgyblon yn hollbwysig. Mae’r panel Cymorth Cynnar yn neilltuol yn cynnwys yr holl wasanaethau gwahanol (e.e. shifft, Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol ac ati) sy’n hyrwyddo lles emosiynol.

 

Yng nghyswllt y bwlch mewn gwrando a chymorth i ddisgyblion, a oes cyfle i gynyddu’r sylfaen gwirfoddolwyr?

Mae gennym gryn nifer o wirfoddolwyr ar draws ein system. Cynigiwn leoliadau i fyfyrwyr ac rydym yn gweithio gyda cholegau. Mae gennym fyfyrwyr cwnsela, gwaith cymdeithasol a gwaith ieuenctid yn gwirfoddoli gyda ni, yn ogystal â rhai rhieni yn gwirfoddoli. Mae rhai o’r rhieni a dderbyniodd y gwasanaeth yn awr yn gweithio yn y gwasanaeth, mewn swyddi cyflog. Mae gennym hanes da o lwyddiant ar draws gwasanaethau cymorth cynnar i ddod â phobl i fewn ac ehangu ond mae mwy o botensial yno – er mwyn crafu wyneb galw mae angen i ni edrych sut ydym yn tyfu capasiti yn defnyddiai gwirfoddolwyr a lleoliadau. Mae hyfforddiant a chymorth cywir yn bwysig: unwaith y deuir â hynny i mewn, mae angen iddynt fod mewn strwythur lle gallant gael cefnogaeth a chysylltiadau allweddol.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i chi am yr adroddiad hwn a gwaith rhagorol y tîm, yn neilltuol yn sefydlu’r panel Cymorth Cynnar – y dull cymorth cynnar yw’r un gorau. Dymunai’r Cynghorydd Watkins hefyd ganmol tîm Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd, a gafodd ganlyniadau rhagorol.

 

Dogfennau ategol: