Cofnodion:
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais ar gyfer Trwydded Eiddo o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Llanvetherine Court, Llanvetherine Court Farm Road, Llanvetherine, y Fenni.
Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r ymgeiswyr, eu cynrychiolwyr cyfreithiol a’r gwrthwynebydd a chynrychiolydd o Gyfarwyddiaeth Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion a oedd yn mynychu ac wedi esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr ymgeiswyr a’r gwrthwynebydd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn yr adroddiad a’r asesiad o Effaith y S?n. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ymateb i sylwadau’r swyddog Iechyd Amgylcheddol.
Roedd y materion a’r manylion allweddol wedi eu rhannu ar lafar gyda’r Pwyllgor.
Wrth wneud hyn, nodwyd fod yna gais newydd ar gyfer trwydded mangre o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 wedi ei dderbyn gan Llanvetherine Court Partnership ar gyfer Llanvetherine Court, Llanvetherine Court Farm Road, Llanvetherine, y Fenni ar gyfer y canlynol:
Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth Wedi’i Recordio – Tu Fewn ac yn yr Awyr Agored
Gwerthu Alcohol– ar ac oddi ar y safle
• Dydd Gwener 12:00 - 00:00
• Dydd Sadwrn 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 00:00
• Dydd Sul 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 20:00
• Penwythnosau G?yl y Banc:
Dydd Sul 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 00:00
Dydd Llun 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 20:00
• Nos Calan 16:00 - 08:00
Lluniaeth gyda’r Nos
· Dydd Gwener 23:00 – 00:00
· Dydd Sadwrn 00:00 – 05:00
· Dydd Sul 23:00 – 00:00
Penwythnosau G?yl y Banc:
Dydd Sul 23:00 – 00:00
Dydd Llun 00:00 – 05:00
Nos Calan 00:00 – 05:00
Yn dilyn hyn, roedd y gwrthwynebydd, sef cynrychiolydd o Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
· Ar 8fed Chwefror 2022, roedd yr Adran Iechyd Amgylcheddol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn erbyn y cais am fangre drwyddedig ar gyfer Llanvetherine Court gan nad oedd yna wybodaeth ddigonol i gadarnhau amcan trwyddedu D, sef atal niwsans cyhoeddus, yn enwedig o ran sut y bydd y s?n yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau.
· Mae’r ymgeisydd wedi darparu Asesiad o’r Effaith S?n. Fodd bynnag, wedi adolygu’r cynnwys ac ystyried y cais yn ei gyfanrwydd, mae’r Adran Iechyd Amgylcheddol dal yn gwrthwynebu’r cais.
· Mae yna bryderon na fydd yna gydymffurfiaeth gyda’r amcan trwyddedu i atal niwsans cyhoeddus. Yn benodol, mae s?n o’r safle’r ymgeisydd yn meddu ar y potensial i achosi aflonyddwch i drigolion yn yr ardal ac arwain at gwynion.
· Mae hyn yn sgil yr oriau arfaethedig sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, gyda chynllun i gynnal digwyddiadau dros sawl diwrnod ar y rhan fwyaf o benwythnosau, yn enwedig rhwng 1af Ebrill a chanol Medi 2022 a phryderon am effaith gyffredinol hyn oll ar drigolion yn yr ardal yn sgil y digwyddiadau sydd i’w cynnal yn y Barn, sydd yn rhan o’r cais hwn, a’r safle ehangach yn Llanvetherine Court, lle mae yna gynlluniau i gynnal 5 digwyddiad cerddorol mawr ar gyfer 2022 wrth i’r safle barhau i ddatblygu.
· Mae safle’r cais mewn lleoliad gwledig gyda’r annedd agosaf tua 190 metr i ffwrdd. Mae yna anheddau eraill, a rhai busnesau, yn amgylchynu’r safle ar bellter amrywiol o hyd at 700 metr.
· Mae’r asesiad o effaith y s?n yn amlygu pryderon sylfaenol. Mae’n defnyddio lefel gefndirol o 27 desibel fel sylfaen i osod cyfyngiadau s?n. Mae’r cefndir yn y lleoliad gwledig hwn yn medru disgyn i 20 desibel neu hyd yn oed yn is, yn enwedig yn ystod yr oriau craidd o gysgu dros nos pan fydd y gerddoriaeth yn cael ei chwarae.
· Pan fydd cerddoriaeth dawns yn cael ei chwarae, sydd yn guriad bas sy’n cael ei ail-adrodd, bydd yna botensial - ar nosweithiau twym o haf pan fydd trigolion lleol yn cadw eu ffenestri ar agor - ar gyfer s?n i fod yn fyw clywadwy yn ystod oriau cysgu, gan achosi aflonyddwch ac arwain at gwynion.
· Mae’r adroddiad yn nodi bod ffenestr sydd ar agor yn debygol o leihau s?n rhwng 10 a 15 desibel. Mae’r adroddiad yn defnyddio’r gostyngiad o 15 desibel. Fodd bynnag, mae’r Adran Iechyd Amgylcheddol am fod yn fwy gofalus a defnyddio 10 desibel. Byddai defnydd gostyngiad o 10 ddesibel, yn gyfystyr â gostyngiad 20 desibel i rywun yn yr ystafell wely agosaf gyda’r potensial i’r person fedru clywed y s?n yn hwyr y nos gan greu aflonyddwch ar gyfer yr unigolyn.
· Mae’r adroddiad yn amlygu materion gyda rheoli cerddoriaeth yn y lleoliad, yn enwedig drysau’r ysgubor sydd i’w defnyddio gan westeion ac at ddibenion awyru.
· Mae’r adroddiad yn nodi nad yw cydymffurfiaeth gyda’r canllaw technegol perthnasol o reidrwydd yn golygu na fydd yna risg o effaith adweithiol. Mae’r adroddiad yn amlygu’r drafferth o osod amodau yngl?n â s?n y mae modd eu gweithredu, a hynny mewn ardal lle y mae’r potensial ar gyfer y lefel gefndirol yn isel iawn.
· Mae’r Adran Iechyd Amgylcheddol wedi cynnig 1.00am fel amser i orffen ar gyfer yr ymgeisydd a byddai’n argymell hyn wrth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio.
Roedd Aelodau o’r Is-Bwyllgor wedyn wedi gofyn cwestiynau i’r cynrychiolydd o’r Adran Iechyd Amgylcheddol a nodwyd y wybodaeth ganlynol:
· Mae 20 desibel yn cyfateb gyda lefel o anhyglywedd. Mae yna botensial bod rhai pobl yn medru clywed hyn yn oriau craidd y nos.
Roedd cynrychiolydd yr Ymgeiswyr wedi gofyn cwestiynau i’r cynrychiolydd o’r Adran Iechyd Amgylcheddol a nodwyd y wybodaeth ganlynol:
· Roedd cynrychiolydd yr ymgeisydd wedi cyfeirio at ohebiaeth e-bost dyddiedig 5ed Mawrth 2022 rhwng yr ymgeisydd a’r swyddog Iechyd Amgylcheddol a oedd yn cyfeirio at y nifer o ddigwyddiadau sydd wedi eu cynnal yn Llanvetherine Court yn 2019 heb unrhyw gwynion.
· Roedd y swyddog Iechyd Amgylcheddol wedi cydnabod bod yna waith wedi ei wneud yn yr Ysgubor sydd yn rhan o’r cais ar gyfer y fangre drwyddedig, a hynny er mwyn insiwleiddio’r eiddo yn well. Gwnaed y gwaith hwn yn 2019.
· Mae’r lefelau s?n cefndirol o 20 desibel yn seiliedig ar brofiad y swyddog Iechyd Amgylcheddol o fonitro s?n dros 20 mlynedd yn Sir Fynwy.
· Nid oes unrhyw dystiolaeth o ddarlleniadau desibel sydd i’w cyflwyno i’r Is-Bwyllgor Drwyddedu a Rheoleiddio.
· Mae’r swyddog Iechyd Amgylcheddol yn argymell caniatáu’r drwydded hyd at 1.00am ac yn fodlon bod yr ymgeisydd yn gwneud am 26 hysbysiad digwyddiad dros dro a fydda’n caniatáu’r ymgeisydd i gynnal digwyddiadau hyd at 6.00am.
· Nodwyd nad oes yna lefel desibel set o anhyglywedd wedi ei osod a bod 20 desibel yn dawel iawn. Fodd bynnag, yn ystod oriau man y bore gyda’r ffenestr ar agor mewn lleoliad gwledig a heb unrhyw s?n traffig yn y cefndir, gallai hyn ostwng i 20 desibel. Yn y fath amodau, mae yna botensial i glywed rhai lefelau s?n yn y cefndir gan arwain at aflonyddwch a chwynion.
Roedd yr ymgeisydd a’r cynrychiolydd wedi amlygu’r pwyntiau canlynol:
· Mae’r cais wedi ei ddiwygio ac newid yr oriau tan 6.00am, a hynny o’r pwynt cychwynnol o 8.00am. Rodd hyn yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Awdurdod Trwyddedu a oedd wedi arwain at y cytundeb hwn.
· Mae’r gwrandawiad ond yn mynd i’r afael gyda'r mater o niwsans cyhoeddus. Mae Heddlu Gwent yn derbyn na fydd yna unrhyw faterion yn ymwneud gyda chyfraith a threfn. Nid oes yna bryderon yn ymwneud gyda phlant neu ddiogelwch cyhoeddus.
· Mae cefndir yn y diwydiant cerddorol gan yr ymgeisydd.
· Prynwyd y fferm yn 2017. Mae’n fferm weithiol. Fodd bynnag, mae’r ymgeisydd yn bwriadu arallgyfeirio mewn modd cynaliadwy i mewn i’r sector lletygarwch.
· Mae’r cais cynllunio wedi ei gymeradwyo a chefnogwyd hyn gan yr Adran Iechyd Amgylcheddol.
· Mae Heddlu Gwent yn fodlon gyda’r adloniant sydd wedi ei reoleiddio a’r ffordd y mae’n cael ei gynnal a’i reoli gan yr ymgeisydd a staff.
· Mae’r math yma o adloniant yn addas ar gyfer yr oriau a ddymunir.
· Mae’r cais yn seiliedig ar dystiolaeth. Drwy gydol 2019, mae digwyddiadau llwyddiannus wedi eu cynnal fel rhan o adloniant sydd wedi ei rheoleiddio, a hynny tan 2.00am, 4.00am a 6.00am ar sawl achlysur. Nid oes unrhyw gwynion wedi eu derbyn yngl?n â’r defnydd o’r eiddo.
· Dengys hyn fod yr ymgeisydd yn medru hyrwyddo amcanion y drwydded a’n medru cynnal digwyddiadau na sydd yn arwain at y pryderon a fynegwyd gan y swyddog Iechyd Amgylcheddol heddiw.
· Nodwyd bod yna un gwyn wedi ei dderbyn yngl?n â s?n, a hynny yn dilyn digwyddiad yn 2021. Fodd bynnag, nid oedd y gwyn yma yn cyfeirio at y safle sydd yn cael ei drafod heddiw. Yn hytrach, roedd y safle yn Ysgubor ‘Dutch’ a oedd ar agor i’r elfennau ac ni weithredwyd mesurau i leihau’r s?n.
· Mae yna gyfathrebu gyda'r trigolion lleol am ddigwyddiadau yn digwydd drwy gylchgrawn y pentref ac mae’r ymgeisydd yn siarad gyda thrigolion lleol hefyd ar lefel unigol ac ar e-bost.
· Mae’r ymgeisydd wedi arddangos gallu i gynnal adloniant sydd yn cael ei rheoleiddio, a hynny heb greu niwsans cyhoeddus.
· Mae’r ymgeisydd wedi derbyn cyngor gan arbenigwr acwstig er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn cael ei wella er mwyn lleihau’r lefelau s?n. Mae yna lawr newydd wedi ei osod rhwng y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf sydd yn cynnwys mesurau i leihau s?n. Mae ffenestri dwbl i’w gosod er mwyn lleihau lefel s?n hyd yn oed ymhellach.
· Nid oes modd cymharu’r gwyn a dderbyniwyd o’r digwyddiad yn y gorffennol gyda’r cais hwn gan fod y mesurau i leihau s?n ar gyfer y cais hwn angen eu hystyried.
· Mae’r adroddiad acwstig yn dynodi fod cyfyngydd s?n sydd wedi ei osod at 100 desibel yn fewnol yn addas, p’un ai bod drysau ar agor neu ar gau. Ar y lefelau yma, ni fyddai modd i’r rhan fwyaf o drigolion, gyda’u ffenestri ar agor, i glywed y s?n. Nid oes yna dystiolaeth i herio’r adroddiad sydd yn ymwneud gyda’r safle hwn.
· Mae’r adroddiad acwstig yn dynodi nad yw’n debygol bod y gerddoriaeth i’w glywed gan drigolion sydd y tu mewn yn eu hanheddau ar ôl 23:00 .
· Mae’r ymgeisydd wedi gweithio gyda’r Awdurdod Lleol ac mae’r amodau wedi eu cytuno gyda’r Adran Drwyddedu. Mae’r ymgeisydd yn fodlon bod amod yn cael ei osod ar y fangre drwyddedig, sef nad oes modd cynnal unrhyw adloniant sy’n cael ei rheoleiddio ar y safle tan fod dyfais cyfyngu s?n yn cael ei osod. Bydd unrhyw gyfarpar i gynyddu’r s?n yn cael ei chwarae drwy’r system honno.
· Bydd angen i unrhyw ddigwyddiadau mawr fynd i gyfarfod o’r Gr?p Cynghori Diogelwch.
· Bydd trigolion lleol yn parhau i gael eu hysbysu o ddigwyddiadau sydd i’w cynnal.
· Mae oriau’r digwyddiad wedi eu lleihau i 6.00am.
· Nid oes unrhyw wrthwynebiad lleol wedi ei nodi o ran y cais.
· Mae’r Cynllun Rheoli S?n wedi ei baratoi.
· Mae’r ymgeisydd wedi plannu coed gyda’r nod o reoli lefelau
· Bydd gwiriadau s?n yn cael eu cynnal a’u nodi drwy gydol y nos pan fydd digwyddiad yn cael ei gynnal.
· Mae manylion cyswllt wedi eu rhannu gyda thrigolion lleol. Os oes rhywun yn cysylltu gyda’r ymgeisydd, bydd rhaid nodi hyn. Os oes cwyn, bydd rhaid nodi hyn a bydd rhaid i’r awdurdodau sy’n gyfrifol i ystyried y gwyn.
· Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymgeiswyr, gyda chyngor arbenigol, yn medru sicrhau bod y fangre drwyddedig yn medru bod yn llwyddiannus ac ni fydd yn cael effaith negatif ar y gymuned leol.
· Mae modd gosod amodau yn y drwydded fel a ganlyn:
· Rhwng 1af Ebrill a’r 30ain Medi, bydd y drwydded yn caniatáu gweithredu tan 6.00am.
· Rhwng 1af Hydref a’r 31ain Mawrth, bydd y drwydded yn caniatáu gweithredu tan 1.00am.
Roedd Aelodau o’r Is-Bwyllgor wedyn wedi gofyn cwestiynau i’r ymgeiswyr a’r cynrychiolydd a nodwyd y wybodaeth ganlynol:
· Byddai uchafswm o 200 o bobl yn medru mynychu digwyddiad yn yr ysgubor ar y safle.
· Mae tua 600 o goed dros ddau hectar wedi eu plannu a dylent aeddfedu mewn 10 i 15 mlynedd.
· Nid oes unrhyw fesurau lliniaru s?n wedi eu gweithredu ers 2019. Mae’r holl bryderon a nodwyd ers 2019 wedi eu datrys.
· Bydd y ffenestri dwbl yn cael eu gosod wythnos nesaf, gan gwblhau’r gwaith yn yr adeilad i liniaru s?n.
· Yn y 12 mis nesaf, mae yna gynnig i gynnal 20 digwyddiad ar y safle.
Rhoddwyd cyfle i’r Adran Iechyd Amgylcheddol a chyfreithiwr yr Ymgeiswyr i gynnig crynodeb.
Yn dilyn cwestiynau, roedd yr Is-Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a’u cynrychiolwyr cyfreithiol wedi gadael y cyfarfod ac wedi ystyried a thrafod y canfyddiadau.
Ar ôl ail-ddechrau’r cyfarfod, roedd y Cadeirydd wedi esbonio bod y Pwyllgor wedi penderfynu caniatáu trwydded newydd ar gyfer Lanvetherine Court, Llanvetherine, y Fenni, a hynny’n amodol ar yr amod sydd wedi ei gynnig gan yr ymgeisydd:
· Rhwng 1af Ebrill a’r 30ain Medi, bydd y drwydded yn caniatáu gweithredu tan 6.00am.
· Rhwng 1af Hydref a’r 31ain Mawrth, bydd y drwydded yn caniatáu gweithredu tan 1.00am.
Dogfennau ategol: