Agenda item

Cylch Gorchwyl CYSAG a gyfer Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig (gweler y ddolen)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth: Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig yr adroddiad newydd i ystyried Cylch Gorchwyl CYSAG ar gyfer Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig. Bydd y cwricwlwm newydd yn golygu y bydd angen alinio maes llafur cytunedig newydd i’w gyflwyno yn ysgolion Sir Fynwy o 1 Medi 2022.

 

Rhaid trefnu Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn dilyn gweithdrefn a osodir gan Lywodraeth Cymru i gytuno ar y cyd ar faes llafur a gaiff wedyn ei gadarnhau gan y Cyngor. Caiff aelodaeth y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig hefyd ei nodi’n glir mewn canllawiau. Rhoddwyd yr amserlen ar gyfer y broses.

 

Wrth ystyried y Cylch Gorchwyl diwygiedig (Opsiynau 1 a 2) awgrymwyd gwneud y newid dilynol:

 

          Bydd enwadau Cristnogol ac enwadau crefyddol eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn adlewyrchu mewn modd priodol y prif draddodiadau crefyddol yn yr ardal, ynghyd â lle ar gyfer gr?p sydd â chredoau heb fod yn grefyddol “credoau athronyddol heb fod yn grefyddol”. Sylweddolir y bydd achlysuron pan fo budd effeithiolrwydd yn drech na’r gofyniad am gynrychiolaeth uniongyrchol gymesur (13 aelod).

 

Cytunodd y Swyddog Monitro gyda’r addasiad i’r geiriad i fod yn gyson â Deddf Addysg 1996 fel y’i diwygiwyd ac awgrymodd nad oedd diffiniad pellach o gredoau athronyddol heb fod yn grefyddol.

 

Dywedwyd fod CYSAG ar hyn o bryd yn brin o gynrychiolaeth o brif draddodiadau crefyddol eraill. Cytunwyd y byddai newid o CYSAG i CYS yn rhoi cyfle i geisio cynrychiolaeth o brif draddodiadau crefyddol eraill ar CYS. Yn y cyfamser, unwaith y cymeradwywyd y cylch gorchwyl, gellir anfon llythyrau i ychwanegu unigolion i’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig. Nodir fod hefyd opsiwn i gyfethol ymgynghorwyr.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cynrychiolaeth athrawon a byddai Opsiwn 1 yn parhau i ganiatáu cymdeithasau proffesiynol i wneud enwebiadau ond lle nad yw’n bosibl sicrhau cynrychiolwyr a bod swyddi yn dal yn wag, caniateir cysylltu gyda phenaethiaid ysgol. Dywedwyd fod a31 Deddf Addysg 1996 yn sôn am gymdeithasau athrawon a byddai cysylltu â phenaethiaid ysgol yn symud i ffwrdd oddi wrth hyn. Awgrymodd y Swyddog Monitro y byddai’n rhesymol a chymesur symud i ffwrdd er mwyn sicrhau prif nod y ddeddfwriaeth. Cadarnhawyd y bu’n anodd sicrhau cynrychiolaeth drwy’r cymdeithasau athrawon ac y byddai’n bosibl derbyn enwebiadau gan benaethiaid ysgol i’r cymdeithasau eu cymeradwyo.

 

Holodd Aelod am gynrychiolaeth credoau athronyddol heb fod yn grefyddol gan gyfeirio at yr ystod eang ohonynt a ph’un ai a ddylid cysylltu am gynrychiolwyr, a holodd pa newidiadau y mae’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn eu cynnig i’r canllawiau Crefydd Gwerthoedd a Moeseg. Dywedodd yr Aelod fod y crynodeb deddfwriaethol yn cyfeirio at ystod o gredoau crefyddol ac yn ei gysylltu gyda chyfraith achos Ewropeaidd. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn dal i nodi Cristnogaeth a phrif grefyddau fel y’u cynrychiolir yng Nghymru (wedi newid o’r Deyrnas Unedig) tra bod yr ystod yn dal yn weithredol i gredoau athronyddol heb fod yn grefyddol. Mae’n bwysig dynodi’r gynrychiolaeth fydd yn ein cynorthwyo i lunio’r maes llafur.

 

Cadarnhawyd fod gan yr Eglwys yng Nghymru gr?p o ymarferwyr sy’n gweithio ar ganllawiau Crefydd Gwerthoedd a Moeseg a bydd hynny ar gael ar-lein yn y dyfodol agos. Gellir rhoi cyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol. Mae’n alinio’n agos gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Crefydd Gwerthoedd Moeseg y cafodd yr holl gyngor ei roi a bod awdurdodau eraill yn ei ddilyn i fod mor gynhwysol ag sydd modd.

 

Gan ystyried credoau athronyddol heb fod yn grefyddol, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylid ceisiai sicrhau cydbwysedd gan roi’r enghraifft bod Dyneiddiaeth yn gred athronyddol heb fod yn grefyddol yn gwrthweithio credoau crefyddol lle gall manylder credoau un mater (e.e. feganiaeth, newid hinsawdd) gynnwys credo grefyddol. Bydd esboniad o sut y dynodwyd cynrychiolaeth yn rhoi tryloywder.

 

Cymeradwywyd Opsiwn 1.

 

 

Dogfennau ategol: