Agenda item

Asesiad Anghenion Poblogaeth

Craffu ar yr asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth a gynhaliwyd gan yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol fel sydd angen gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 cyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

 

 

Cofnodion:

Phil Diamond gyflwynodd y cyflwyniad ac atebodd gwestiynau'r aelodau, gyda sylwadau ychwanegol gan y Cynghorydd Penny Jones a Richard Jones.

 

Her:

 

O ran Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a sawl sydd wedi ymgeisio, a allwch chi egluro'r diagramau ymhellach ar dudalen 49?

 

Rydym wedi cael ein harwain gan aelodau etholedig i edrych ar effaith ranbarthol y GCAu, sydd ar gael i unrhyw breswylydd i addasu eu cartref er mwyn galluogi pobl i fyw yn eu cartref eu hunain yn hirach. Ond mae cost deunyddiau adeiladu wedi cynyddu, tra bod eu hargaeledd wedi gostwng.  Rydym hefyd wedi gweld effaith llai o Therapyddion Galwedigaethol, sydd fel arfer yn ymweld â phobl yn eu cartref eu hunain i asesu pa addasiadau sydd eu hangen.  Unwaith eto, mae hyn yn effaith ar y gweithlu; gyda llai o Therapyddion Galwedigaethol ar gael, rydym wedi gweld mwy o amseroedd aros ar gyfer yr asesiadau hynny.

 

Mae canllawiau diweddar Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno asesiad ariannol.  Yn anffodus, mae hyn yn digalonni rhai pobl - maen nhw'n teimlo y gallai'r asesiad effeithio arnyn nhw mewn ffyrdd eraill.  Ond y bwriad yw sicrhau bod gan y bobl gywir fynediad i'r GCAu. Mae hyn oll yn gwaethygu'r mater ac yn arwain at ofn y bydd llai o bobl yn gwneud cais am y grantiau. Bydd hi'n anoddach i'r rhai sydd ddim yn gwneud cais i fyw yn eu cartrefi eu hunain, gan arwain o bosib at fwy o gwympiadau a derbyniadau i'r ysbyty. Ar draws y rhanbarth, rydym yn cysylltu gyda'r 5 arweinydd comisiynu o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, ac yn edrych ar gyllid Llywodraeth Cymru sydd ar gael i ni i helpu gydag addasiadau mwy i gartrefi h.y. y rhai sy'n fwy na £36k. Oherwydd bod y pandemig yn gefndir i'r gwaith hwn, mae materion a heriau eraill yn debygol o ddod i'r blaen dros y 12-18 mis nesaf. Unwaith y bydd gwaith mapio a dadansoddi effaith wedi'i gynnal ar draws y 5 awdurdod, gallai hynny ddod yn ôl i'r pwyllgor hwn am drafodaeth ehangach.

 

Mae un o'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn Eitem 6, o dan Iechyd Meddwl, yn cynnwys "dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gynyddol o iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd i leihau stigma a helpu i geisio cefnogaeth yn gynharach."  Sut ydych chi'n bwriadu cyflawni hyn?

 

Ar ôl cyhoeddi'r AAP, bydd gofyn i ni gynhyrchu ymateb i'r cynllun gweithredu, felly bydd yr holl anghenion sy'n dod i'r amlwg yn cael eu hamlygu, a thrwy gynllun ardal byddwn yn gosod y camau i fynd i'r afael â nhw. Y lle cyntaf i ddechrau yw plant a phobl ifanc - addysgu a hysbysu ar gyfnod cynnar am iechyd meddwl. Felly, mae llawer iawn o waith yn digwydd yn yr ysgolion, yn Sir Fynwy drwy'r agenda ysgolion iach yn enwedig. Yn gyffredinol, mae'n achos o ymwybyddiaeth y cyhoedd.  Rydym wedi datblygu gwefan gyda'r bwrdd iechyd, o'r enw Melo, gyda gwybodaeth i'r cyhoedd am wasanaethau a chamau y gallant eu cymryd.  Yn gynyddol, mae pobl yn fwy cyfforddus yn cyfaddef eu bod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl - mae elusen sy'n gweithio gyda Dreigiau Cymru yn enghraifft o shifft bositif.  Rydym yn gweithio gydag ysgolion a'r trydydd sector i gael cymaint o wybodaeth â phosibl a chyfleu'r neges y dylid ystyried y cymorth sydd ei angen ar gyfer iechyd meddwl yr un fath â help sydd ei angen ar gyfer iechyd corfforol.

 

Ar gyfer parhad, mae Sir Fynwy yn borffor ar y graffiau yn yr adroddiadau, ond nid yn gyson.

 

Mae hynny'n sylw defnyddiol iawn, diolch.

 

Mae pwysau cynyddol ar ofalwyr, a'r galw amdanynt, sy'n ymddangos yn anghynaladwy.  Sut gall Gwent ymdopi yn y dyfodol?  A yw’r cyllid yn debyg yn y 5 cyngor?

 

Ydy, mae'n ymddangos yn anghynaladwy.  Mae ffocws drwy Lywodraeth Cymru, yn benodol, grant o £1m i ofalwyr sy'n cael ei ddosbarthu ledled Cymru bob blwyddyn sy'n ein galluogi i edrych ar ddatrysiadau rhanbarthol.  Mae gennym fwrdd gofalwyr rhanbarthol, wedi ei gadeirio gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, gyda chynrychiolwyr o iechyd, y sector cymunedol a gofalwyr eu hunain yn eistedd arno. Y pwynt allweddol yw bod angen i ni wrando arnyn nhw er mwyn cefnogi gofalwyr.  Rydyn ni'n gwybod bod seibiant i ofalwyr yn hollbwysig, a fydd angen buddsoddiad.  Mae pobl eisiau atebion mwy addasadwy a hyblyg.  Er enghraifft, efallai mai dim ond am ddwy awr y gallai fod angen i ofalwr gamu i ffwrdd.  Felly, llais y gofalwr sy'n hollbwysig, a seibiant yw'r prif fater sy'n codi tro ar ôl tro. Mae mynediad at wybodaeth hefyd yn bwysig.  Mae un unigolyn sy'n darparu gofal am dros 50 awr yr wythnos yn anghynaladwy, felly mae'n gwestiwn o sut allwn ni gefnogi hynny.  Mae Llywodraeth Cymru a'r strategaeth genedlaethol gofalwyr yn canolbwyntio'n fawr ar y broblem hon, fel y byrddau rhanbarthol, ond nid yw'n broblem sy'n debygol o gael ei datrys yn y dyfodol agos.

 

A oes posibilrwydd i chwilio am wirfoddolwyr seibiant ymysg teulu a chymuned y rhai sydd â dementia, yn enwedig am gyfnod bach o amser?

 

Ie, yn bendant. ‘Cyfeillio’ yw’r term a ddefnyddir yn eang ar gyfer datrysiadau o’r math hwn ac mae’n rhywbeth y mae’r Gymdeithas Alzheimer wedi’i gymryd ymlaen, er enghraifft. Mae rhai cymunedau'n gwneud hyn yn awtomatig.  Mae rhai sy'n ymddeol eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, felly mae gennym gyfle gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio i gynyddu gwirfoddoli.  Mae cymorth cymheiriaid gyda gofalwyr hefyd yn bwysig: mae caffis dementia-gyfeillgar, er enghraifft, wedi darparu’r math hwn o gymorth ehangach yn flaenorol.

A yw'r dystiolaeth wedi cael ei bwydo i mewn i Asesiad Lles Gwent?  Sut bydd yn cael ei ddefnyddio gan y BGC i benderfynu ar flaenoriaethau'r dyfodol?

 

Rydym wedi gweithio'n agos iawn ers nifer o flynyddoedd i sicrhau bod aliniad a gwerth mawr rhwng yr asesiadau.  Er enghraifft, bydd anghenion gofalwyr yn dod i fyny drwy'r ymarferion ymgysylltu asesu lles, ond does dim angen i Asesiad Lles gynnwys gwybodaeth am ofalwyr am fod dyletswydd statudol yn y AAP i edrych ar eu lles. Ond bydd cyfeiriadau yn y dogfennau ar gyfer lle gellir dod o hyd i'r wybodaeth, yn hytrach na'i dyblygu. Dylai'r dull cydweithredol arwain at ymateb cydweithredol, fel bod gorgyffwrdd a dyblygu ymdrechion yn cael eu lleihau.  Yn yr AAP, mae blychau wedi'u hamlygu i gyfeirio meysydd perthnasol yn yr asesiad lles. Mae'r cynlluniau lliw a'r ffont ac ati hefyd yn gyson rhwng y ddau felly maent bron yn ddwy ran o'r un ddogfen. Bydd sylwadau o heddiw yn cael eu bwydo i'r AAP terfynol pan fydd yn mynd i'r Cyngor i gael ei gytuno. Bydd sut yr ydym yn ymateb i'r materion a nodwyd yn cyflwyno cyfleoedd i weithio rhwng yr hyn sydd bellach yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol Gwent. 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch am y cyflwyniad cynhwysfawr ar ddarn pwysig o waith.  Mae addysg mewn ysgolion i dynnu stigma o faterion iechyd meddwl yn allweddol.  Mae gwelliant mawr eisoes wedi bod o'i gymharu â'r degawdau blaenorol.  Ailadroddodd y Cynghorydd Penny Jones bwysigrwydd y gwaith hwn, a thynnodd sylw i'r gr?p Strategaeth Gofalwyr sy'n gweithio ym mhob asiantaeth ac sy'n cefnogi gofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn llawer mwy ymwybodol o'u rôl.  Mae'n amlwg bod angen mwy o gyfleusterau seibiant.  Mae'r cynnydd yn y grwpiau oedran o bobl dros 65 a phobl dros 85 oed yn syndod a bydd yn gofyn am lawer mwy o gefnogaeth yn cael ei ddarparu. Mae'r mater gofal yn parhau, gan ddod â straen enfawr ar ddarparwyr.  Mae strwythur gyrfa a thâl yn yrwyr allweddol i weld a yw pobl yn dewis mynd i mewn i'r proffesiwn hwnnw.

 

 

Dogfennau ategol: