Agenda item

Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid

To provide a report on the aims and objectives of the service and to discuss the outcomes for children and young people and the impact of the service.

Cofnodion:

Cyflwynodd Chesney Chick y cyflwyniad ac ateb cwestiynau aelodau.

Her:

Pa mor fuan ydych chi’n dod i wybod am ddarpar droseddwyr?

Gwasanaeth ataliol ydyn ni. Bu symud cyn i mi ymuno â’r tîm o ddelio gyda phobl yn y ddalfa i ddelio gyda phobl yn y gymuned, mewn ffordd ataliol. Gweithiwn yn agos iawn gyda’n cydweithwyr mewn gwasanaethau plant, addysg ac asiantaethau partner arall i ddynodi’r rhai a all fod wedi cael pwyntiau sbardun – p’un ai a gawsant brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu fel arall – sy’n awgrymu y gallent ddod i’n sylw. Wedyn edrychwn ar wasanaethau mewn cysylltiad gyda phartneriaid tebyg i’r Gwasanaeth Ieuenctid i ddatblygu adnoddau o fewn maes neilltuol, os oes rhai problemau yn dechrau dod i’r amlwg. Os yw ar sail unigol, byddai angen i ni edrych os oes gwasanaeth mewnol a allai ddiwallu’r angen hwnnw.

Fel enghraifft, yn ystod y cyfnod clo gwelwyd cynnydd mewn trais domestig (plentyn ar brif ofalwr). Nid oedd yr wybodaeth a’r data oedd ar gael gan wasanaethau plant Sir Fynwy a Torfaen yn awgrymu fod hynny’n broblem i ni, ond fe wnaethom sylweddoli efallai nad oeddent efallai y gwir ffigurau gan nad oeddent yn cynnwys ysgolion. Fe wnaethom greu dwy swydd o fewn gwasanaethau plant a fyddai’n helpu gyda’r broses, gan helpu i adnabod achosion posibl a cheisio eu dal yn ataliol.

A fu cynnydd mewn bwlio ar-lein a dylanwadu yn ystod y cyfnodau clo, ac a fu modd i chi wneud unrhyw beth amdano?

Nid oedd unrhyw ddata i awgrymu y bu cynnydd ond clywsom fod potensial ar gyfer cynnydd. Ond ni ddaeth dim byd yn uniongyrchol i sylw’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig fe wnaethom ddefnyddio llwyfannau digidol fel Teams i gysylltu gyda’r plant yr oedden yn ymwneud â nhw, yn arbennig yn ystod yr haf: fe wnaethom roi cwisiau iddynt, er enghraifft, anfon tasgau atynt drwy’r post ac yna gysylltu â nhw i’w marcio, yna roi gwobrau ac ati. Y syniad oedd dal ati i ennyn eu diddordeb. Cawsom ein synnu ar yr ochr orau gyda’r ymateb i’r sesiynau hynny – roedd rhai yn ei chael yn haws cysylltu ar-lein nag a fyddent wedi gwneud fel arall.

Gan fod yn wasanaeth ar y cyd gyda Thorfaen, a oes dadansoddiad o’r niferoedd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol? A yw’r rhain wedi newid dros gyfnod?

Oes, mae dadansoddiad y gallwn ei gyflwyno yn nes ymlaen os yw’r pwyllgor yn dymuno. Mae gwahaniaethau hirsefydlog rhwng y ddwy ardal ac nid yw hynny wedi newid yn ystod y pandemig. Mae’n anodd rhoi rhifau penodol ar hyn o bryd ond fel arfer, er enghraifft, os oes 10 o Dorfaen byddai’r nifer o Sir Fynwy yn 5-7 mae’n debyg. Mae awgrym fod y bwlch yn cau, fodd bynnag. Mae cymhlethdodau’r achosion yn aros yr un fath ac mae’r problemau gwraidd nodweddiadol yn aros yn gyson yn y ddwy ardal.

Mae adroddiadau i’r Pwyllgor Dethol Oedolion yn awgrymu fod pobl ifanc sydd angen cartref yn cyflwyno gydag anghenion mwy cymhleth. Nid ydynt yn troseddu o reidrwydd ond a oes unrhyw gysylltiad rhwng y Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid a thai, a pha gefnogaeth a roddir yng nghyswllt anghenion cymhleth?

Ydi, mae’n hysbys iawn fod plant yn dod trwodd gydag anghenion mwy cymhleth. Ar gyfer pob achos y mae’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid yn ymwneud ag ef mae gennym Banel Ailsefydlu, sy’n edrych yn benodol ar ein strategaeth gadael, er enghraifft, yn achos plentyn a fu yn y ddalfa ac sy’n dychwelyd i’r gymuned. Yn yr un modd, mewn achos atal, ar gyfer plentyn a ddaeth i ddiwedd eu gorchymyn, byddai’r panel yn trafod yr achos i sicrhau fod y lefel iawn o gefnogaeth iddynt pan fyddant yn gadael ein darpariaeth. Mae tai ar y panel hwnnw, ynghyd â Gyrfa Cymru, Iechyd, gweithiwr cyffuriau o Engage, ac eraill i sicrhau fod y pecyn cyfredol o gefnogaeth yn y gymuned ar y lefel gywir. Mae gennym berthynas waith dda gyda Tai.

Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb am dai ond nid o reidrwydd gyfrifoldeb diogelwch neu iechyd yng nghyswllt camddefnyddio cyffuriau a phroblemau cymhleth o’r math hwn. A ydynt yn canfod problemau yng nghyswllt y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer yr anghenion ychwanegol hynny na all landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu darparu?

Ydynt. O’n safbwynt ni, mae’n hanfodol ein bod drwy’r broses asesu yn adnabod anghenion creiddiol y plentyn - gall hyn yn aml gael ei guddio gan bethau eraill. Yn hanesyddol, fe allem fod wedi gweithio ar broblem cyffuriau sydd mewn gwirionedd yn broblem llesiant emosiynol/iechyd meddwl. Rydyn ni’n ceisio sicrhau y caiff hyn ei drin pan gaiff y pecyn cefnogaeth ei baratoi.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i chi am yr adroddiad hwn. Mae’r pwyllgor yn gliriach ar sut y mae Covid wedi effeithio ar y gwasanaeth – bu’n gyfnod anodd i bawb, ond yn neilltuol ar gyfer rhai pobl ifanc sydd mewn amgylchiadau anodd. Bu’n ddefnyddiol clywed am y gefnogaeth a gafodd teuluoedd yn ystod y cyfnod clo. Rydym wedi trafod atal, sy’n allweddol, gan nad ydyn eisiau i blant sy’n dod i gylch gorchwyl y wasanaeth symud ymlaen i droseddu pan fyddant yn eu harddegau ac yn oedolion ifanc. Mae’n galonogol clywed am y gefnogaeth a roddir.

 

Dogfennau ategol: