Agenda item

Craffu’r Gyllideb: Craffu’r cynigion ar gyfer cyllideb 2022/23.

Defnyddiwch y ddolen hon er mwyn darllen y papurau ar gyfer yr eitem hon – mae ar gael fel rhan o agenda’r Cabinet  ar gyfer 19eg Ionawr 2022. 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Phil Murphy y cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r aelodau gyda Ian Saunders, Jonathan Davies, Frances O’Brien, Mark Hand a Cath Fallon.

 

Her:

A allwn gael trosolwg o statws ein cronfeydd wrth gefn a sut y gallem o bosibl eu cynyddu yn y dyfodol?

 

Fe wnaethom lwyddo i gynyddu ein cronfeydd wrth gefn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Maent tua £7m. Mae’r weinyddiaeth hon wedi llwyddo i aros o fewn ei chyllideb bob amser a gobeithiwn gael gwarged erbyn 31 Mawrth - os felly, byddwn yn medru parhau i gefnogi ein cronfeydd wrth gefn. Fe wnaeth yr enilliad TAW mawr ychydig flynyddoedd yn ôl hynny ac roedd gwarged sylweddol ar y gyllideb y llynedd, gan roi £4.6m. Felly mae’r cronfeydd wrth gefn yn cadw lan yn dda, ond nid yw’n cymryd llawer i roi tolc mawr ynddynt.

 

A yw MonLife yn rhoi adenilliad priodol ar fuddsoddiad? A yw’n benderfyniad ariannol cadarn?

 

Y broblem gyda MonLife ar hyn o bryd yw na allant gael y nifer arferol o defnyddwyr oherwydd cyfyngiadau Covid. Gyda’r gwelliannau a wnawn i’n canolfannau hamdden rydym yn canfod fod aelodaeth yn codi’n sylweddol. Roedd Trefynwy eisoes yn gwneud yn dda iawn. Mae’r Fenni yn cael adolygiadau da a bydd Cil-y-coed yn gweld cynnydd sylweddol os yw cynnig codi’r gwastad yn llwyddiannus yn yr ail gylch. Os llwyddwn i gadw y cynnydd mewn defnyddwyr, byddant yn talu amdanynt eu hunain a ddylai roi sicrwydd yn nhermau’r darlun hirdymor.

 

Mae diben MonLife yn ehangach na chanolfannau hamdden ac uchelgais iechyd, llesiant, lles meddwl ac yn y blaen. Cafodd dyfodol y gwasanaethau hyn ei benderfynu lai na dwy flynedd yn ôl, canlyniad hynny oedd bod y Cyngor eisiau model mewnol – roedd edrych ar y wahanol fodelau yn broses 4-blynedd. Mae’r enilliad ar fuddsoddiad o MonLife yn amlwg, oherwydd y buddion enfawr y mae’n eu rhoi. Mae cynghorau eraill sydd wedi allanoli wedi colli rheolaeth ar opsiynau prisio, lle gallwn ni gan bennaf gadw ein prisiau yn fforddiadwy ar gyfer teuluoedd Sir Fynwy.

 

Pa ffioedd sy’n cael eu cynyddu a gan faint?

 

Mae’n rhestr enfawr. Cafodd ffioedd eu cynyddu gan cyn lleied ag sydd modd, lle’n bosibl; 2.5% yw’r cyfartalog. Ond caiff rhai eu gosod yn allanol, felly nid oes gennym unrhyw ddewis amdanynt. Mae’r rhestr lawn ym mhapurau’r Cabinet y mae dolenni iddynt ar yr agenda. Yr unig feysydd lle’r ydym yn edrych ar gynyddu ffioedd yw Menter a Gofal Cymdeithasol.

 

Cafodd yr ymrwymiad i faterion argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol ei nodi – a fedrwn gael manylion beth mae hynny yn ei gynnwys?

Mae ystod mawr o bethau, tebyg i geir trydan, treialon gyda hydrogen, y posibilrwydd o ail fferm solar, yr elw o siopau ailddefnydd yn mynd i blannu coed ac yn y blaen. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf anelwn drawsnewid ein fflyd – mae hynny’n un o’r pethau allweddol - ond hefyd bethau fel buddsoddiadau mewn tiroedd a bioamrywiaeth. Mae hyrwyddo ac annog cerdded a seiclo fel rhan o Deithio Llesol hefyd yn bwysig iawn. Mae hyrwyddo yn neilltuol o bwysig yn yr ardal hon, yn arbennig mewn ysgolion a ledled cymunedau, felly dyna lle mae angen i beth o’r cyllid fynd er mwyn gostwng teithiau car heb fod yn hanfodol.

 

Mae un cynnig mandad cyllideb penodol am swydd ychwanegol o fewn y tîm traffig a diogelwch ffyrdd i gydweithio’n agos gydag ochr priffyrdd traffig diogelwch ffyrdd a’r tîm teithio llesol i edrych ar wella llwybrau diogelach i ysgolion – gobeithio y bydd hyn yn rhoi ffyrdd amgen i blant gyrraedd yr ysgol. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o fewn ysgolion i annog dulliau eraill o drafnidiaeth – mae hynny’n parhau, a sicrhawyd cyllid ychwanegol eleni ar gyfer hyfforddiant seiclo oedolion. Mae gwaith adfywio canol trefi yn gysylltiedig â’r gwaith teithio llesol, gan gefnogi masnachu awyr agored a’u gwneud yn fwy cyfeillgar i bobl ac yn cael eu domiynyddu lai gan geir.

 

A yw’r pwysau cyllideb Ailgylchu a Gwastraff £1.22m oherwydd nifer uwch o breswylwyr yn defnyddio gwasanaethau? Mae arbediad o £860k o aildendro contractau – a yw’r arbediad hwnnw yn ychwanegu at neu’n gwrthbwyso’r pwysau ar y gyllideb?

 

Bu cynnydd sylweddol mewn cyfraddau ailgylchu (yn arbennig ers cyflwyno’r system archebu), sy’n costio llawer mwy. Mae’r cynnydd mewn deunydd ailgylchu a deunydd a gesglir ar ymyl y ffordd yn golygu fod angen adnoddau ychwanegol h.y. cerbydau a staff. Mae hefyd gostau gwaredu ychwanegol. Mae’r arbediad drwy ailgaffael y contract ailgylchu aelwydydd o Viridor i Suez.

 

Nid wyf erioed wedi cael cynifer o ymholiadau am golli casgliadau ag a gefais yn yr ychydig fisoedd diwethaf. A oes rheswm dros hyn? Wnaethon ni ddim sicrhau cerbydau ychwanegol yn ddiweddar oherwydd fod y contract yn dod i ben neu ein bod angen rhai gwahanol? A oedd hyn oherwydd y cynnydd mewn ailgylchu?

 

Mae’r ffaith y caiff mwy o ddeunydd ei gasglu wrth ochr y ffordd yn porthi’r gofyniad am fwy o staffio a cherbydau. Cafodd casgliadau eu colli wrth i staff newydd ddod yn gyfarwydd gyda’u rowndiau. Rydym yn cynnal adolygiad o’r system i ddeall pam fod gennym gymaint o alw yn dod i mewn yng nghyswllt casgliadau a gollwyd.

 

Mae gennym bwysau o £781k o beidio gwireddu buddsoddiadau. Beth ydyn ni’n ei wneud i liniaru hynny? Ai yw oherwydd nad yw ein buddsoddiad strategaeth bellach yn addas i’r diben, yn dilyn Covid? A yw’r pwysau yn cynnwys Parc Manwerthu Spytty a’r golled bosibl o incwm yn adeilad Mitel?

Mae’n cynnwys y ddau. Mae’n rhaid i’r ateb i hyn fod yn ofalus iawn gan fod llawer o waith masnachol sensitif yn mynd rhagddo. Rydym bron yn sicr o fod yn dyfarnu gofod i gwmnïau, yn arbennig yn Castlegate. Ymddengys fod llawer o waith yn dod i ffrwyth, ond ni fedrir rhoi mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.

 

 

 

Mae pwysau fel canlyniad i effaith gronnus costau trysorlys a benthyca – ydyn ni wedi newid ein strategaeth? Beth yw’r rhagolygon? Beth fydd ein dull gweithredu yn y dyfodol ar gyfer benthyca a rheoli trysorlys?

 

Bydd y strategaeth trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn mynd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar 28 Chwefror, fydd yn esbonio llawer o’n hymagwedd at fenthyca ar gyfer y flwyddyn nesaf a chaiff ei derbyn gan y Cyngor llawn ar 3 Mawrth. Ers 2-3 blynedd buom ar waelod cromlin cost trysorlys ac mewn amgylchedd cost llog isel tu hwnt. Er bod hyn wedi ein galluogi i gynnal costau trysorlys isel ac y bu hynny o fudd i’r gyllideb refeniw, rydym hefyd yn gorfod cydbwyso’r sefyllfa honno gyda chadw llygad ar y tymor canol – mae angen i ni gloi sicrwydd i’r gyllideb refeniw. Weithiau daw hynny ar gost tymor byr, er enghraifft bu ein benthyca dros y 12 mis diwethaf yn dymor byr ond roedd cyfle ym mis Rhagfyr i gymryd benthyciad 50-mlynedd gyda’r Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus. Gwnaethom hynny, gan fenthyca ar gyfraddau hanesyddol isel a wnaeth ein galluogi i gloi sicrwydd am 50 mlynedd. Mae gennym ymrwymiadau fel ysgol 3-19 y Fenni, y bydd yn rhaid i ni fenthyca i dalu ein cyfran o’r gost. Mae angen i ni gael strategaeth gytbwys.

 

Ar hyn o bryd mae gennym fenthyca, sydd ychydig yn is na’n hangen, felly rydym yn defnyddio adnoddau mewnol i gyllido elfen o hynny, sy’n parhau i gadw costau trysorlys yn isel. Mae’r gost fenthyca gronnus yn llwyr oherwydd fod ein gwariant cyfalaf yn y tymor canol. Er ein bod ar waelod cromlin cost trysorlys, rydym yn cymryd camau i roi peth sicrwydd ynddo, fel nad ydym yn agored i gynnydd mewn cyfraddau llog a fedrai fod ar y gorwel.

 

Ond mae’r £1.3m yn fwy na’r hyn y gwnaethom ei ragweld – pam?

 

Nid yw oherwydd ei fod £1.3m yn fwy nag y gwnaethom ragweld ond mae cyllideb y trysorlys yn gyllideb cost-lawn, felly nid yw un flwyddyn byth yn mynd i fod yr un fath ag un arall. Yr hyn a welwn yw fod costau’n newid o un flwyddyn i’r llall, oherwydd y bu’n rhaid i ni fenthyca ar gyfer rhai cynlluniau, cyfraddau wedi newid ac ati. Roedd bob amser yn ffactor hysbys; nid yw ein cynlluniau cyfalaf wedi newid yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

Mae’r adroddiad yn dweud y byddwn yn talu mwy i’n staff gofal. Faint sydd wedi newid ers y cyflwynwyd y cynnig ym mis Tachwedd i gynyddu tâl ein staff gofal cymdeithasol? A yw’n weithredol ar gyfer y rhai y mae gennym gontract gyda nhw h.y. asiantaethau gofal preifat? Mae’n gwestiwn perthnasol i’r pwyllgor hwn oherwydd mai’r sector gofal yw’r sector cyflogaeth sy’n tyfu fwyaf.

Rydym yn gweld cynnydd uwch nag erioed gan ein darparwyr gofal oherwydd eu gofyniad i dalu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol – mewn gwirionedd. maent yn gorfod talu mwy na hynny i ddenu a chadw staff. Mae’n ymwneud yn gyffredinol â phwysau cysylltiedig â thâl; yn dod drwy’r system. Eve Parkinson neu Jane Rodgers fyddai yn y sefyllfa orau i roi manylion pellach.

 

Caiff nifer o swyddogion eu hariannu gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dod i ben ym mis Hydref. Beth yw’r risg na fydd cyllid yn ei le yn dod ar gael?

Bydd diwedd cyllid Ewropeaidd â goblygiadau ar gyfer nifer o swyddogion ar draws yr awdurdod, ar wahanol gyfnodau dros yr ychydig flynyddoedd ariannol nesaf. Rydym yn gwneud llawer o waith i fapio ein staff, i ddeall eu sgiliau a gweld lle gellid eu hadleoli. Ond rydym yn aros ar hyn o bryd i ganfod beth sy’n digwydd gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn ymchwilio beth fedrid ei wneud gyda chyllid ychwanegol. Byddir yn gofyn i’r swyddogion perthnasol am ymateb llawn i’r cwestiwn hwn a chaiff hynny ei gylchredeg.

 

Ar faint o swyddogion mae hyn yn effeithio?

Mwy na 20 mewn Cyflogaeth a Sgiliau, yn ogystal â’r tîm Rhaglen Datblygu Gwledig. Mae’n anodd rhoi niferoedd pendant gan y bydd rhai yn symud ymlaen i raglenni a gaiff eu cyllido mewn ffordd arall.

 

Dogfennau ategol: