Cofnodion:
Mynychodd yr aelod lleol dros Larkfield y cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
· Mae’r Clwb Pêl-droed angen datblygu’r cae er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda meini prawf Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn galluogi’r clwb i gamu mlaen o fewn strwythur y gynghrair.
· Mae’r clwb wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac mae angen iddo gymryd ei gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol o ddifri fel cymydog da.
· Mae pryderon yn lleol o ran ei gapasiti presennol a’i allu i reoli traffig ar ddiwrnod gêm a thraffig a ddaw yn sgil cystadlaethau pêl-droed a gynhelir yn y clwb. Mae’r cynigion ychwanegol wedi gwneud y pryderon yn waeth.
· Pwysleisiwyd fod angen i’r clwb ddangos tystiolaeth o ran y camau y mae’n bwriadu eu cymryd i reoli parcio ar y safle a thraffig ar y ffyrdd. Mae angen i hyn gael ei wneud drwy gyfrwng Cynllun Rheoli Traffig ac mewn partneriaeth weithredol gyda’r Heddlu er mwyn osgoi problemau pellach o ran sefyllfa parcio trigolion yn ystod y dyddiau y mae gêm yn cael ei chynnal. Mae’r cynlluniau diwygiedig o ran capasiti parcio ar y safle, a datblygu Cynllun Rheoli Traffig yn gam mawr y mlaen o ran mynd i’r afael â phryderon y preswylwyr. Mae’r cynllun yn ddibynnol ar wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol.
· Tynnodd yr Aelod Lleol sylw at ymateb yr Adran Priffyrdd a amlinellir yn yr adroddiad. Ystyriwyd fod angen sefydlu mecanweithiau adolygu er mwyn rhoi cyfle i’r holl randdeiliaid werthuso pa mor llwyddiannus y mae’r cynllun wedi’i gyflwyno ac a oes angen cymryd camau pellach, megis cyflwyno rheoliadau traffig, yn y dyfodol.
· Dylid rhoi’r Cynllun Rheoli Traffig ar waith cyn i’r datblygiad gael ei gwblhau er mwyn mynd i’r afael â’r problemau traffig sy’n bodoli’n barod.
· Yn dilyn adolygiad o’r cynlluniau, mae’n ymddangos mai bach iawn fydd effaith weledol y ddwy eisteddle newydd. Er hyn, teimlwyd fod angen i’r Pwyllgor asesu lleoliad yr eisteddleoedd drosto ei hun cyn gwneud penderfyniad ar y cais.
· Mae angen i’r clwb ddod o hyd i ffordd o gyd-fyw gyda phreswylwyr a sicrhau fod unrhyw effaith, nawr ac yn y dyfodol yn cael ei reoli a’i liniaru’n briodol.
Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Datblygu fel a ganlyn:
· Nid oes ymateb wedi’i dderbyn gan yr Heddlu hyd yma.
· Yn dilyn derbyn sylwadau gan yr Adran Priffyrdd, teimlwyd fod y cynllun yn ymarferol a’i fod yn cynnig gwelliant ar y sefyllfa bresennol.
· Mae’r Adran Priffyrdd yn cytuno i’r cynllun arfaethedig yn ddarostyngedig i amodau.
· Bydd yr amod sy’n ymwneud â’r Cynllun Rheoli Traffig yn dod i rym ar y dyddiad y mae’r caniatâd cynllunio’n cael ei roi.
· Nid oes sail i wrthwynebu gan fod y cynnig o ran y sefyllfa parcio a darparu Cynllun Rheoli Traffig yn welliant aruthrol o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol.
· Mater i’r Heddlu a’r Adran Priffyrdd fyddai gorfodaeth o ran unrhyw broblemau parcio.
Yn dilyn adolygu’r adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae angen cefnogi’r clwb i ddatblygu
· Mae’r Clwb yn gwneud cais yn ôl-weithredol am eisteddle sy’n bodoli’n barod. Ystyriwyd mai priodol fyddai gwneud cais am Gynllun Rheoli Traffig a fyddai’n cael ei orfodi gan yr Heddlu a’r Adran Priffyrdd.
· Nid oedd modd ychwanegu amod ychwanegol a fyddai’n golygu cyflwyno gorchymyn rheoleiddio traffig yng nghyffiniau’r Clwb am fod hyn yn gorwedd o fewn cwmpas deddfwriaeth y Ddeddf Priffyrdd ac nid yw’n rhan o gylch gwaith deddfwriaeth Cynllunio.
Rhoddodd yr Aelod Lleol grynodeb fel a ganlyn:
· Mae’n anffodus nad yw’r Heddlu wedi gallu rhoi sylwadau ar y cais yma eto.
· Y gobaith oedd y byddai modd i’r Cyngor Sir fod yn hwylusydd o ran ymgysylltiad rhwng y Clwb a’r Heddlu er mwyn sicrhau fod gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi’n briodol.
· Mae’r Adran Priffyrdd wedi tanlinellu’r problemau presennol o ran parcio ar strydoedd preswyl. O ganlyniad i ehangu’r cyfleusterau bydd y problemau’n gwaethygu os nad ydynt yn cael eu rheoli mewn modd priodol.
· Efallai y bydd angen ystyried cyflwyno gorchymyn gwahardd parcio neu orchymyn parcio i breswylwyr yn unig os yw’r Cynllun Rheoli Traffig yn methu â mynd i’r afael â’r problemau o ran priffyrdd.
Wrth gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12
Yn erbyn cymeradwyo - 0
Yn ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynom y dylid cymeradwyo cais DM/2021/01277 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: