Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2022/23

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i'r papurau ar gyfer yr eitem hon - ar gael fel rhan o Agenda'r Cabinet y 19eg Ionawr 2022 . 

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Phil Murphy gyflwyniad gyda Nicola Wellington. Atebodd y Cynghorydd Murphy, Will McLean, Tyrone Stokes a Jane Rodgers gwestiynau’r aelodau.

Her:

Mae ysgolion yn parhau i dderbyn cyllid grant ar ddiwedd y flwyddyn – a all y pwyllgor hwn gael adroddiad ar yr hyn y gwariodd ysgolion y cyllid hwn arno a bydd yw effaith y gwariant hwnnw?

Bu swm sylweddol o gyllid grant i ysgolion mewn blynyddoedd diweddar a drwy gydol y pandemig bu ffrydiau cyllid sylweddol tebyg i gynllun ‘Recriwtio, Adfer, Codi Safonau’ er mwyn cefnogi dysgwyr a’u helpu i ddal lan a chau’r bwlch a allai fod wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Gweithiwn yn agos gyda’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i ddeall effaith y gwariant hwnnw – byddai’n adroddiad da iawn i ddod ag ef i’r pwyllgor hwn, byddai.

Gyda balansau ysgolion yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, sut fydd Cyngor Sir Fynwy yn cadw’r fantol rhwng gwariant ysgolion a gwariant arall yr awdurdod lleol wrth symud ymlaen?

Wrth i ni fynd drwy’r flwyddyn mae’r awdurdod wedi wynebu pwysau sylweddol yn ein cyllideb Anghenion Dysgu Ychwanegol a fu’n anodd i ni ei reoli; yn neilltuol, gostau plant yn parhau yn y sir. Mae’n addas i ni weithio gyda’r ysgolion mewn ffordd aeddfed i ddeall beth yw’r anghenion – mae’r gwaith y bu Nicola Wellington yn arwain arno yn diwygio methodoleg dirprwyo ar gyfer cyllid anghenion ychwanegol yn enghraifft wych o hynny. Gobeithiwn weld mwy o waith fel hyn yn y dyfodol. Mae’n debyg y bydd ysgolion yn gweld cynnydd eto mewn balansau ar ddiwedd eleni, sy’n debyg o gael ei chwyddo gan grantiau ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd gan rai ohonynt feini prawf gwariant penodol (ac felly yn cyfrif yn yr adroddiad y gwneir cais amdano yn y cwestiwn cyntaf), tra bydd eraill yn mynd yn uniongyrchol i’r llinell waelod.

Mae’n hanfodol ein bod yn glir iawn gyda’r ysgolion pan fo balansau sylweddol wedi cronni fod ganddynt gynlluniau cadarn sy’n cynrychioli gwariant effeithlon ar eu hysgolion. Rydym yn siarad gyda’r ysgolion am sut y gallwn eu helpu i wneud hynny, gan sicrhau eu bod yn deall hyblygrwydd llawn a photensial caffael, meddwl am yr economi cylchol, ac os oes gwariant cyfalaf, eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd wybodus sy’n diwallu ymrwymiadau am gynllunio, rheoli adeiladu ac yn y blaen. Wrth i ni symud ymlaen, mae’n debyg y bydd angen ail-fantoli’r arian y mae ysgolion yn ei ddal eu hunain a’r arian y gallwn ei fforddio’n ganolog i’w cefnogi.

Mae’r gyllideb yn sôn am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng nghyswllt y Fenni a Chas-gwent. A allwch roi sylw ar y cynnydd?

Rydym yn cyrraedd amser tyngedfennol yng nghyswllt yr ysgol newydd yn y Fenni gyda chyflwyno achos busnes llawn yn y dyfodol agos, yn ogystal â’r cais cynllunio. Ar 19 Ionawr cytunwyd cymryd y cam terfynol yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â chau’r ddwy ysgol ac agor ysgol newydd. Daeth y cyfnod galw mewn i ben ddydd Gwener felly caiff hynny ei weithredu ar 1 Medi 2023. Fel y mae’r cynlluniau ar gyfer y Fenni yn symud ymlaen, rydym yn ymwybodol iawn o’r datblygiad rydym eisiau iddo ddigwydd yng Nghas-gwent. Rydym wedi recriwtio aelod newydd i’r tîm, Tim Bird, fel Cynghorydd Addysgol – mae’n gweithio gyda Cath Saunders (Arweinydd Prosiect 21ain Ganrif) ar Gas-gwent a’r potensial yno.

Mae pwysau cyllideb yn parhau ac yn cynyddu. A allwn gael sicrwydd na fydd byth gwtogi yn y dull gweithredu atal ar gymryd plant i ofal?

Gyda Gwasanaethau Plant, y pwysau yw ein galluogi i ddal i ymarfer yn yr un ffordd. Gyda’r pwysau ar y gyllideb rydym yn edrych ar gydnabod y newid yn anghenion plant, ac er i ni gael sicrwydd fod nifer y plant sy’n derbyn gofal yn gwastatau, rydym yn cael mwy o gostau uchel – angen mwy o leoliadau pwrpasol un-i-un. Mae’r pwysau £1.3m yn ehangu i 4 cyfnod: edrych ar fynd i’r afael â’r pwysau cyllideb ar gyfer y plant hynny sydd angen lleoliadau pwrpasol drud (mae’r rhain yn tueddu i fod tu allan i’r sir), sefydlogi ein gweithlu, cydnabod y pwysau y mae’r llysoedd yn ei roi arnom, a gwobrwyo’r strwythur tâl i’n gofalwyr sy’n berthnasau yn dilyn rhai achosion cyfreithiol mewn awdurdodau lleol eraill. Gallwn roi sicrwydd nad ydym yn edrych ar newid y ffordd yr ydym yn ymarfer. Ein mandad o hyd yw cymorth cynnar ac atal ym mhob rhan o’r system, a sylweddolwn mai dyna’r ffordd i ni adeiladu teuluoedd cynaliadwy a chydnerth hirdymor.

Yng nghyswllt setliad Llywodraeth Cymru, a ydym yn cael ein neilltuo oherwydd ein bod yn Sir Fynwy neu a oes set benodol o feini prawf?

Na, nid yw oherwydd ein bod yn Sir Fynwy. Mae mwy na hanner cant o feini prawf tebyg i’r math o dai, y math o ffyrdd sydd gennym, ardaloedd o amddifadedd ac yn y blaen. Mae’r meini prawf yma’n newid drwy’r amser. Eleni, newidiodd y fantol fel mai ni oedd yn derbyn y cyllid gorau, yn hytrach na’r gwaethaf, ond nid oes gwarant y bydd hynny’n digwydd eto. Felly, caiff y setliad ei benderfynu gan y ffordd y mae’r fformiwlâu yn symud.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion. Cafodd llawer o feysydd eu hegluro ar gyfer y pwyllgor. Cawsom sicrwydd am sicrhau cydbwysedd yng nghylch ysgolion, sydd wedi cael cyllidebau uwch ond mewn cyfnod o anawsterau enfawr. Mae’n bwysig mai’r plant hynny a ddioddefodd yn neilltuol yn ystod y pandemig yw’r rhai o gefndiroedd mwy amddifadus yn gyffredinol. Mae pwysau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y sir yn eithaf mawr. Dylai fformiwla newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol olygu gwell cyllido a threfniadaeth. Mae Cas-gwent yn gonsyrn mawr, yn neilltuol ar gyfer y bobl sy’n byw yno. Mae’r pwysau plant sy’n derbyn gofal bob amser yn faes o gonsyrn – mae’n rhaid diogelu’r gyllideb honno ac mae’n anos ei rhagweld na meysydd arall o wasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Mae sylwadau’r swyddogion am y maes hwn yn galondid. Rydym yn falch i glywed nad yw Llywodraeth Cymru yn trin Sir Fynwy yn wahanol i awdurdodau eraill, ac mae’n dda gweld y caiff tâl ei drin yn ganolog.

Mae’r pwyllgor yn hapus gyda’r cynigion gyllideb a ddaethpwyd o’n blaen heddiw.

 

Dogfennau ategol: