Skip to Main Content

Agenda item

Gan y Cynghorydd Sir Tudor Thomas i’r Cynghorydd Sir Jane Pratt, Cabinet Aelod ar gyfer Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth

A yw’r Aelod Cabinet yn medru egluro pam mae newid polisi wedi ei wneud o ran cadw arwyddion enw stryd yn Saesneg yn unig, ac nid dros gyfnod o amser, mynd at i ddarparu arwyddion stryd dwyieithog ar draws yr awdurdod.

 

Mae Sir Fynwy yn awdurdod yng Nghymru ac bydd y newid polisi hwn yn cael effaith negyddol ar iaith Gymraeg yn yr awdurdod. 

 

 

Translation:

 

Can the Cabinet Member clarify why the policy change has been made regarding keeping street name signs in English only and not over a period of time providing bilingual street signs across the authority.

 

Monmouthshire is an authority in Wales and this change of policy will have a negative effect on the Welsh Language in the authority.

 

 

 

Cofnodion:

A yw’r Aelod Cabinet yn medru egluro pam mae newid polisi wedi ei wneud o ran cadw arwyddion enw stryd yn Saesneg yn unig, ac nid dros gyfnod o amser, mynd at i ddarparu arwyddion stryd dwyieithog ar draws yr awdurdod.

 

Mae Sir Fynwy yn awdurdod yng Nghymru ac bydd y newid polisi hwn yn cael effaith negyddol ar iaith Gymraeg yn yr awdurdod. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Cynghorydd Sir Thomas am ei gwestiwn ac atebodd fod y Gymraeg yn rhan bwysig o ddiwylliant a threftadaeth ein sir. Fel cyngor rydym yn parhau’n ymroddedig i sicrhau fod ein henwau stryd newydd yn Gymraeg yn unig neu’n ddwyieithog. Ychwanegodd ei bod yn falch iawn o waith ein Swyddog Enwi Strydoedd a Swyddog Polisi’r Gymraeg sy’n gweithio’n agos i sicrhau fod enwau stryd newydd yn adlewyrchu hanes Cymreig yr ardal yn hytach na bod yn gyfieithiadau o enwau stryd cyffredinol Saesneg.

 

Roedd angen diweddaru ein polisi presennol gan ei fod yn sôn am Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a ddisodlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn cynnwys cyfeiriad i ddweud ein bod yn disgwyl y Cod Ymarfer gan Gomisiynydd y Gymraeg i lywio ein dull gweithredu ar gyfieithu enwau styrd presennol. I egluro, mae’r newid a wnaed yn cyfeirio’n unig at achosion lle mae placiau enw stryd presennol wedi eu difrodi a bod angen rhai newydd. Cafodd y polisi ei ddiweddaru ac mae’n awr yn cydymffurfio’n llwyr gyda Safonau’r Gymreg.

 

Roedd rhai adroddiadau yn y wasg wedi awgrymu fod Sir Fynwy ar ben ei hun wrth benderfynu na fyddai’n cyfieithu enwau strydoedd presennol sydd mewn un iaith ar hyn o bryd. Un o’n nodau yw sicrhau dull gweithredu cyson yn Ne Ddwyrain Cymru. Wrth ochr ein cymdogion yng Ngwent, mae’r rhai sy’n defnyddio’r un dulll gyda enwau stryd presennol yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Powys a Sir Gaerfyrddin.

 

Daeth yr Aelod Cabinet i ben drwy ddweud nad ydym yn gwanhau ein hymrwymiad ar enwau stryd newydd a gall archwiliad o enwau stryd newydd gadarnhau fod hwn yn awdurdod sy’n coleddu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

 

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Sir os yw’r newid mewn polisi yn adlewyrchu agwedd negyddol ddofn y weinyddiaeth Geidwadol at y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn Sir Fynwy.

 

Atebodd yr Aelod Cabinet fod twf yn y Gymraeg yn Sir Fynwy a’n bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar strategaeth newydd ar y Gymraeg sy’n anelu i fanteisio ar hyn a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Y llynedd roedd y Cabinet wedi ymrwymo i gynyddu’r gyllideb cyfieithu gan fwy na 20%. Rydym wedi gweithio gyda busnes lleol i ddatblygu’r sgwrsfot dwyieithog cyntaf gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae cynghorau eraill wedi ein dilyn yn hyn o beth. Mae ap FyNgwasanaethauCyngor yn hollol ddwyieithog ac mae’r tîm digidol yn comisiynu cyfieithydd i barhau â gwelliannau.

 

Mae gennym dros 2500 stryd yn Sir Fynwy, ac nid yw eu cyfieithu yn gywir a sensitif yn broses gyflym. Gallai achosi problemau i’r gwasanaeth os oes aelod o’r cyhoedd yn defnyddio fersiwn Gymraeg o enw stryd na chafodd ei ychwanegu at y Rhestr Gyfeiriadau Genedlaethol. Rydym yn ymroddedig i sicrhau y caiff enwau stryd Cymraeg eu cofnodi’n gywir ar y Rhestr i’n holl bartneriaid gael mynediad iddi pan fo angen.