Skip to Main Content

Agenda item

Polisi Palmant Caffi - Craffu cyn penderfynu ar y polisi diwygiedig hwn (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Roedd Paul Keeble wedi rhoi cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Mark Hand.

Her:

Ym mharagraffau 7 and 7.1, o dan y goblygiadau ar adnoddau: faint fydd yr ymgynghorydd yn costio? A fydd yn cael ei dalu gan y ffi nominal o £10? Os na, pam?

Ni fydd y ffi £10 yn talu am yr adnodd staffio mewnol neu ymgynghorydd a bydd rhaid talu am hyn o’n cyllideb. Nid oes amser gennym gyda’r polisi dros dro i amlinellu ac ymgynghori ar ffi newydd a gofyn i’r Aelod Cabinet i gytuno ar hyn cyn bod y cyfnod cyn-etholiadol yn dechrau. Y ffordd orau yw parhau fel hyn dros dro a datrys hyn unwaith ein bod wedi cadarnhau’r gost o ddarparu’r gwasanaeth a gosod y ffi yn briodol y flwyddyn nesaf.

A oes modd cynnal yr arolwg hwn yn fewnol gan ein gweithwyr ein hunain?

Nid oes digon o staff gennym. Roeddem wedi cael caniatâd yng Ngorffennaf i lenwi nifer o swyddi gwag a chreu rhai newydd; rydym dal yn mynd drwy’r broses hon. Mae llenwi’r swydd yma wedi cymryd amser ac wedi bod yn anodd,    ac mae nifer o swyddi dal yn wag. Nid yw’r adnodd gennym yn fewnol eto, a hynny yn sgil yr holl waith arall sydd yn cael ei wneud gan y tîm.    

Pan fydd y trefniadau wedi eu cytuno a’r meysydd wedi eu nodi, a fydd modd hysbysu’r sawl sydd â nam ar eu golwg bod rhywbeth ar y llawr, os nad oes yna rwystrau diogelwch?  

Os bydd yna  rwystrau diogelwch, byddant wedi eu gorchuddio er mwyn helpu’r sawl sydd â nam ar eu golwg, a byddem yn croesawu unrhyw  awgrymiadau eraill yngl?n â sut i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth. Bydd hyn yn rhan o’r broses adolygu, pan ein bod yn ymgysylltu gyda grwpiau gwahanol.  

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ‘gerddwyr’ h.y. y sawl sydd yn cerdded. Ond mae defnyddwyr eraill yn defnyddio’r llwybr - a oes modd defnyddio term gwell?

Mae hyn yn bwynt da ond nid ydym yn sicr pa derm arall y mae modd ei ddefnyddio.  

Rhaid i bawb sydd â thrwydded gael yswiriant atebolrwydd ag isafswm o £5m. Pa sicrwydd ydych wedi derbyn bod pob man trwyddedig wedi sicrhau a’n meddu ar y fath yswiriant?  

Mae yswiriant yn rhan o’r broses drwyddedu – mae’n ddogfen gytunedig gyfreithiol  a byddem angen gweld rhan o’u hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyn rhoi trwydded. Mae’n amod o’r drwydded.  

A ydym yn delio gydag achosion o gaffis yn mynd y tu hwnt i’w ffiniau?

Mae yna duedd o hyn yn digwydd sydd wedi ei nodi yn yr adran Werthuso, gan fod pobl anabl yn aml yn cael eu heffeithio pan fydd busnesau yn gwthio eu ffiniau ymhellach na’r hyn a ganiateir. Dyma pam, fel rhan o’r polisi dros dro, ein bod angen cynllun sydd yn cael ei fonitro yn aml fel ein bod - pan yn cynnal arolygon - yn medru arolygu’r mannau yma a’n sicrhau eu bod yn gyson gyda’r hyn sydd ar y cynllun. Dylem ystyried marcio cerbytffordd wrth i ni fynd ymlaen. Bydd syniad gwell gennym o sut i reoli hyn wrth i’r pandemig encilio.

Nid ydym am weld y polisi fel rhywbeth sydd yn cyfyngu pobl gymaint fel nag ydynt yn medru parhau fel ydynt nawr, oni bai bod hyn yn anniogel. Er enghraifft, storio bwyd a diodydd yn yr awyr agored. A oes yna amgylchiadau ar gyfer hyn, er enghraifft yn ystod G?yl Fwyd Y Fenni?

Mae hyn yn ymwneud yn fwy ag Iechyd Amgylcheddol gan fod angen cwrdd â’r safonau bwyd.  Felly, os nad yw’r safle yn cynnig bwyd a diodydd, ni fyddai’r polisi dros dro  yr ydym yn ei gynnig yn caniatáu iddynt gael trwydded gan na fyddent yn cwrdd  â’r safonau bwyd. Mae gwyliau bwyd yn cael eu rheoli fel digwyddiadau gwahanol - ni fyddent yn briodol i dderbyn trwyddedau caffi palmentydd.

O ran tynnu celfi oddi yno, a oes yna ffafriaeth ar gyfer celfi sydd eisoes yno a heb fod yn beryglus?

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig y dylid symud pob dim y tu hwnt i’r oriau agor, er mwyn cadw’r briffordd yn glir, gan fod y celf yn medru cael eu fandaleiddio neu achosi niwed. 

Mae rhai strwythurau yn cael eu caniatáu ar y priffyrdd er bod  angen ystyried hyn yn ofalus gan fod angen cynnal mynediad ar gyfer gwneud gwaith gynnal a  chadw neu waith ar gyfleustodau.  Mae’r King’s Head yng Nghas-gwent yn enghraifft: yn sgil  llechwedd yr ardal lle y mae pobl yn eistedd, paratowyd lle ar gyfer byrddau a chadeiriau ac nid oes modd clirio’r rhain bob nos, ac felly, mae yna drefniadau penodol yn eu lle. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai disgwyl bod y byrddau, cadeiriau a rhwystrau yn cael eu tynnu oddi yno bob nos, fel sydd yn digwydd ar y cyfandir.  

Beth yw’r polisi gyda’r Byrddau A?

Y bwriad yw ehangu’r polisi fel rhan o’r adolygiad er mwyn cynnwys Byrddau A a’r elfen hysbysebu, gan gynnwys hysbysebu ar ymbaréls, baneri ayyb. Ar hyn o bryd, nid yw hyn yn y polisi er mwyn cynnal yr amgylchedd a gwneud y trefi yn fwy deniadol  ond mae disgwyl ystyried hyn yn y dyfodol a byddai’n gyfle i gael adborth gan fusnesau a chwsmeriaid. Roeddem am osgoi sefyllfaoedd lle y mae unrhyw ofodau yn cael eu defnyddio ar gyfer hysbysebu. 

A oes yna lefydd lle y mae busnesau agos yn fodlon i gaffi/bwyty i ddefnyddio’r darn o flaen eu heiddo hwy?

Pe bai cymdogion yn cytuno i wneud hyn, byddem o bosib yn ei ystyried ond byddai’n rhaid adlewyrchu hyn yn y polisi gan na fyddai’r rhan fwyaf o fusnesau cyfagos yn  dymuno hyn.

Ai dim ond pren neu fetel a ganiateir yn unig? Mae rhai celfi plastig cryf a dymunol ar gael.  

Mae rhai celfi plastig yn medru ymddangos yn ddymunol ond mae hyn hefyd yn ymwneud gyda defnyddio llai o blastig os yn bosib. Mae pren a metel o safon uchel fel arfer ond mae modd ystyried posibiliadau eraill wrth i ni symud ymlaen.  

Bydd cyfarpar yn cael ei osod ar y priffyrdd cyhoeddus. A fyddai’n bosib ystyried yr opsiwn i  gynnig y llefydd yma ar brydles i’r busnesau perthnasol, yn hytrach na bod y Cyngor yn gyfrifol amdanynt?

Byddem yn medru ystyried prydles ar gyfer tir Cyngor Sir Fynwy ond nid ar gyfer y priffyrdd cyhoeddus  gan eu bod o dan gylch gorchwyl y Ddeddf Priffyrdd, sydd yn amlinellu’r  fframwaith cyfreithiol. Mae unrhyw gyfarpar sydd yn cael ei osod ar y priffyrdd cyhoeddus yn cael ei ystyried yn rhwystr; mae ond modd caniatáu hyn  drwy gyfrwng trwydded gan yr Adran Briffyrdd. Nid yw’n anghyffredin  i ni ganiatáu trwyddedau ar gyfer nifer o bethau ond dyma’r broses nad rhaid i ni sicrhau cydymffurfiaeth gyda nifer o feini prawf.  

Felly, yr Adran Briffyrdd yn unig sydd yn gyfrifol am reoli hyn?

Ar y cyfan – ond hefyd drwy ymgynghori gyda chydweithwyr Trwyddedi ac Iechyd Amgylcheddol - mae pawb ohonom yn cael mewnbwn. 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i chi am eich adroddiad. Rydym wedi craffu’r polisi  a’r cynnig i adolygu’r polisi gan gynnwys y ffi i wneud cais yn ystod 2022, i adlewyrchu’r newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion gorau drwy gyfrwng polisi diwygiedig a’r strwythurau ffioedd sydd yn cael eu cyflwyno i’r Aelod Cabinet ar gyfer ei gymeradwyo.  Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori gyda fforymau busnes a phartïon eraill a chanddynt ddiddordeb, a bydd eu hawgrymiadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r polisi diwygiedig. Mae’n dda gweld y bydd y polisi yn rhan o ymgynghoriad ac yn cael ei adolygu drwy gydol y cyfnod a bydd angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y polisi yn llwyddiannus.

Rydym yn gobeithio bod y pwyntiau a wnaed gan Aelodau yn cael eu hystyried, yn enwedig mewn perthynas gyda’r sawl sydd â nam ar eu golwg ac eithriadau ar gyfer gadael byrddau a chadeiriau yn yr awyr agored, y deunyddiau sydd yn cael eu defnyddio a bwyd a diod.

Mae’r Pwyllgor yn dymuno gweld y pwyntiau yma yn cael eu cynnwys fel argymhellion.  

 

 

Dogfennau ategol: