Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2022/23 Bydd papur cryno ar gyfer y pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ar y meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn dilyn.

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i'r papurau ar gyfer yr eitem hon - ar gael fel rhan o Agenda'r Cabinet y 19eg Ionawr 2022 . 

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Phil Murphy wedi rhoi’r cyflwyniad gyda sylwadau ychwanegol gan Jonathan Davies. Carl Touhig a Jonathan Davies oedd wedi ateb cwestiynau’r Aelodau.  

Her:

Beth fydd yr effaith ar wastraff a gwasanaethau eraill, fel cynnal a chadw tiroedd?

Mae Gwastraff wedi ei effeithio’n benodol yn ystod y pandemig, yn enwedig o ran methu gwneud y gwelliannau a fwriadwyd. Ar nodyn positif, mae yna danwariant gennym, a fydd yn helpu’r gyllideb y flwyddyn nesaf; fodd bynnag, gan nad ydym wedi medru cyflwyno pob dim sydd wedi arwain at yr arbedion ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddwn angen gwario’r arian yma'r flwyddyn nesaf. Rydym wedi gweld  nifer gynyddol o bobl yn defnyddio’r safleoedd  CA yn hytrach na chasglu wrth ochr y ffordd, ac mae hyn wedi cynyddu ein cyfraddau ailgylchu yn sylweddol - sydd dipyn yn uwch na thargedau Llywodraeth Cymru eleni, er bod hyn yn gosod pwysau ychwanegol ar y rhengflaen.  

Yn 2021, roeddem wedi gweithredu rhaglen o  ddilyniant a chynllunio ar gyfer staff, hyfforddi mwy o yrwyr HGV, uwch lwythwyr, helpu pobl newydd i ddod i mewn i’r gwasanaeth ayyb. Mae hyn yn gost ychwanegol ond yn gwella’r cyfle sydd gan bobl yn y rhengflaen i ddatblygu yn eu gyrfaoedd. Mae’r Siopau Ail-ddefnyddio a Chaffis Atgyweirio yn mynd yn dda ond maent yn arwain at gostau ac nid ydym wedi llwyddo i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i greu incwm, yn sgil cyfnodau clo  Covid.

Mae’r newid i’r biniau gwastraff yr ardd wedi bod yn llwyddiant aruthrol, gan leihau’r cymhorthdal sydd ei angen gan y Cyngor er mwyn cynnal y gwasanaeth ond eto, mae yn fantais ac anfantais: mae poblogrwydd y gwasanaeth yn golygu  bod angen i ni brynu cerbyd arall. Nid oeddem wedi disgwyl y fath lwyddiant gyda chynnydd o 2,000 o gwsmeriaid. Bydd angen i ni hyrwyddo’r gwasanaeth er mwyn cael mwy o gwsmeriaid a sicrhau nad ydym ar ein colled. Mae llwyth gwaith y tîm cynnal a chadw tiroedd wedi cynyddu’n ddramatig. Rydym yn ceisio rhoi cynnig ar bethau newydd drwy’r amser fel No Mow May. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn dda i hyn, mae dal angen esbonio i eraill. Yn cydnabod y trafferthion a ddaw o gael gweithlu sydd yn heneiddio, rydym wedi cyflwyno cynllun dilyniant ymhlith y staff cynnal a chadw tiroedd, gan greu timau i wneud gwaith penodol ac mae ychydig o hyn yn creu incwm – ond rydym wedi cyrraedd  y penllanw ac mae angen i ni fuddsoddi mewn meysydd penodol o fewn y Cyngor.  

Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau grantiau ar gyfer prosiectau adfywio a gwella canol y trefi ond er mwyn sicrhau bod trefi dal yn edrych ar eu gorau, rhaid i gynnal y seilwaith sydd wedi ei osod. Mae hyn yn ychwanegu costau ond dyma’r peth cywir i’w wneud, yn enwedig wrth i ni ddenu ymwelwyr i ganol y trefi.   

Mae clefyd Chalara (coed ynn) yn effeithio ar y sir gyfan nawr, gyda chynnydd sylweddol yn y nifer o goed sydd wedi eu heffeithio. Eleni, byddwn yn apwyntio swyddog coed newydd a fydd yn nodi union leoliad y coed. Rydym wedi gofyn am gyllid cyfalaf ac yn gobeithio dechrau yn yr ardaloedd lle y mae’r clefyd yma ar ei waethaf.  

Roeddem wedi mynd allan i dendr ar y cytundeb HWRC a’r orsaf drosglwyddo: mae  Suez nawr wedi cymryd yr awenau gan Viridor.  Roedd llawer o’r egwyddorion a roddwyd yn eu lle wedi lleihau cost y cytundeb yn sylweddol - tua £300k– ac mae ychydig o incwm yn cael ei greu gan y contract. Felly, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu eleni ar ben yr arbedion sydd eisoes wedi eu gwneud.

Roedd yna sôn am ostyngiad yn nifidend y gwasanaeth amlosgfa o £46k - ai dyma’r gostyngiad  yn swm y difidend neu ai dyma’r hyn a dderbyniwyd gan y gwasanaeth amlosgfa?

Ie - dyma swm y gostyngiad. Roeddem yn arfer derbyn tua £140k y flwyddyn o’r difidend, sydd nawr yn mynd i newid yn sgil y rhesymau a amlinellwyd: mae mwy o gystadleuaeth, llai o ddibyniaeth ar arian wrth gefn gan y gwasanaeth amlosgfa. Maent yn chwilio am ffordd fwy cynaliadwy dros y tymor canolig, a’r cam cyntaf yw lleihau’r difidend. 

Beth yw ystyr ‘trefniadau gweithio gwahanol’ yn Swyddfa Bost Brynbuga?

Nid ydym yn medru rhoi ateb uniongyrchol y bore yma ond byddwn yn medru cynnig mwy o wybodaeth i Aelodau maes o law.  

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i’r swyddogion. Mae llunio cyllideb yn y fath gyfnod heriol yn dipyn o dasg. Mae rhai gwasanaethau fel Gwasanaethau Cynnal Priffyrdd a Gwastraff  o dan bwysau sylweddol. Mae ein timau wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth fynd i’r afael gyda’u dyletswyddau, yn enwedig yn sgil prinder staff. Mae yna ymdrechion llwyddiannus wedi bod fel No Mow May, a grantiau wedi eu sicrhau ar gyfer canol y trefi sydd wedi bod yn effeithiol. Mae’r Cyngor wedi ceisio gwneud pob dim i greu incwm er mwyn unioni’r golled mewn incwm. Ac felly, mae angen i ni fuddsoddi yn y gwasanaethau yma nawr. Mae hyn yn esbonio pam fod costau wedi cynyddu, ac  mae’r Pwyllgor yn cydnabod y sefyllfa heriol gyda’r pandemig, a’r llifogydd cyn hynny. Rydym wedi derbyn sicrwydd bod pob dim y gellir ei wneud wedi ei wneud.  

 

 

Dogfennau ategol: