Agenda item

Fformiwla Ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer ysgolion

Ymgynghori â'r Pwyllgor Dethol ar y newidiadau i'r fformiwla ariannu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Wellington yr adroddiad ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Yr her:

A oes esboniad pellach ar gyfer y gwahaniaeth rhwng y ddau fodel? Pa un fyddai’r opsiwn gorau?

Mae’r ddau fodel yn debyg iawn o ran yr hyn y maent yn ei gynnig. Pe baem yn dewis cyllid sy’n rhoi swm uwch ar sail nifer y disgyblion, yna byddai ysgolion sydd â mwy o ddisgyblion yn elwa’n fwy, ond pe baem yn dewis y cyllid o 70% yna byddant yn cael ychydig yn llai. Nid oedd y gweithgor yn ffafrio’r naill fodel na’r llall ond roedd yn teimlo y dylid cyflwyno’r ddau opsiwn i ysgolion i’w hystyried, ac mae’n ymrwymedig i’r egwyddorion sy’n ymwneud â nifer y disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol, yn hytrach nag unrhyw beth arall sy’n sbarduno’r fformiwla.

Mae’r ffaith bod yr atebion yn y tabl yn ddienw yn ddealladwy, ond a ellir dod i unrhyw gasgliad drwy edrych ar yr ymatebion gan ysgolion – a oes cyswllt rhwng maint yr ysgolion a’u hymatebion, neu a oes cysylltiad rhwng yr ymatebion gan ysgolion uwchradd a chynradd?

Gan edrych ar nifer y disgyblion, gall rhai penaethiaid ddyfalu pa ysgol yw eu hysgol hwy. Mae gan ein hysgolion cyfun fwy o ddisgyblion, felly o ran y  ddau fodel, bydd ysgolion uwchradd yn derbyn mwy o gyllid, a bydd ysgolion cynradd llai yn derbyn llai o gyllid. Pan fo gan ysgolion nifer fawr o ddatganiadau, a bod cynllun gweithredu ysgol ynghyd â datganiadau ar waith, byddai newid o gyllid uwch ar gyfer ADY a’i seilio ar nifer y disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol, yn golygu bod yr ysgolion ar eu colled. Dyna pam iddynt nodi’n glir iawn eu bod am i’r cyllid pontio hwnnw fod ar waith, er mwyn i ysgolion allu symud o’r hen fodel i’r un newydd (bydd hwn ar waith am hyd at 3 blynedd), ac er mwyn lleihau’r tarfu o ran cyllid, staffio ac – yn bwysicach – y cymorth i’r disgyblion hynny.

A yw ysgolion sydd â mwy o ddisgyblion ag anghenion arbennig nag ysgolion eraill yn parhau i dderbyn mwy o gyllid, ac os bydd plentyn yn symud i ysgol arall, a yw’r cyllid hwnnw yn mynd gyda’r plentyn?

O ran y model newydd, cynigir y bydd y cyllid yn aros yn ei le am y flwyddyn ariannol gyfan, gan roi hyblygrwydd i ysgolion allu cynllunio cyllid a staff ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Os bydd disgybl yn gadael i fynd i ysgol arall, ni fydd y cyllid yn symud gydag ef. Byddai’r cyllid wedi symud gyda’r disgybl o dan yr hen system, a byddai’r aelod o staff sy’n cynorthwyo’r plentyn hwnnw yn colli ei swydd yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, os bydd teulu sydd â phlentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn symud i’r sir, gall y cyngor ddarparu cyllid untro, i ddarparu cymorth ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf, ond ar ôl hynny, byddai’r plentyn wedi’i gofrestru yn yr ysgol ac yn derbyn cyllid o dan y system newydd hon.

A gafwyd unrhyw adborth am yr hollt mewn cyllid o 75% a 25%? Pa effaith fyddai hyn yn ei gael?

Trafodwyd hyn yn y gweithgor; ac roedd yn well ganddynt y fersiynau 70/30 neu 80/20, a dyma pam ein bod wedi cyflwyno’r argymhellion hynny. O ran adborth gan ysgolion, nid ydym wedi derbyn ymatebion eto gan mai dim ond ar 10 Ionawr yr anfonwyd yr ymgynghoriad.

O ran yr ysgolion hynny a allai ddod o dan ddau bennawd h.y., nifer helaeth o ddisgyblion ag ADY a nifer helaeth o ddisgyblion, beth fydd yn digwydd i’r ysgol 3-19 yn y Fenni? A oes digon o hyblygrwydd pan fydd popeth ar-lein?

Trafodwyd hyn yn fanwl yng nghyfarfod y gweithgor. Rydym yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gobeithio y bydd yr ysgol 3-19 ar-lein yn fuan yn y dyfodol agos. Mae’n rhywbeth y dylem weithio arno fel rhan o’r fformiwla. Gyda’r fformiwla hwn, rydym yn awyddus iawn i roi hyblygrwydd i bob ysgol: gwyddom yn y flwyddyn gyntaf, y dylem ystyried pob un o’r pethau hyn wrth iddynt godi a bod yn agored i’r holl fanylion. Dyma pam yr ydym am gynnal adolygiad llawn ar ôl 12 mis, a dychwelyd i’r cyllid pontio, er mwyn rhoi sefydlogrwydd i ysgolion barhau fel y maent ar hyn o bryd. Wrth i ni symud ymlaen, i ddatblygu’r fformiwla, bydd angen newid y fformiwla cyfan ar gyfer yr ysgol 3-19 newydd – bydd angen mwy na dim ond yr agwedd dysgu ychwanegol.

Pryd y gwneir y penderfyniad terfynol o ran 70 neu 80%?

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 11 Chwefror, anfonir yr argymhellion at y fforwm cyllideb ysgolion i’w hystyried. Caiff adroddiad y Cabinet ei ddrafftio, a byddant yn gwneud penderfyniad terfynol yn y cyfarfod ar 2 Mawrth. Felly, mae’r broses yn un gyflym ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r gwaith a wnaed. Rydym yn hapus â’r system cyllid pontio. Rydym wedi egluro rhai o’r rhifau, yn arbennig y rhai sy’n ymwneud â maint ysgolion ac ysgolion cynradd ac uwchradd, ac yn hapus bod gwahanol fesurau wedi’u trafod a bod sefyllfa’r ysgol 3-19 newydd wedi’i hystyried. Bydd hyn yn system decach sy’n galluogi ysgolion i gynllunio’n effeithiol. Mae’r pwyllgor yn hapus i’r ymgynghoriad fynd yn ei flaen a chael ei gynnwys yn adroddiad y Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: