Agenda item

Craffu’r Gyllideb: Craffu’r cynigion cyllideb ar gyfer 2022/23. Bydd papur crynodeb ar gyfer y Pwyllgor Dethol ar Oedolion ar y meysydd o fewn ei gylch gorchwyl yn dilyn.

Defnyddiwch y ddolen hon er mwyn medru darllen y papurau ar gyfer yr eitem hon – sydd ar gael fel rhan o agenda’r Cabinet ar gyfer
19eg Ionawr 2022. 

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd y cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Phil Murphy.

 

Cafwyd crynodeb o’r pwysau ar y Gwasanaethau Oedolion gan Tyrone Stokes, Rheolwr Cyllid Gofal Cymdeithasol ac Iechyd:

 

Mae pwysau o fewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Dethol ar Oedolion yn cynrychioli £2.3 miliwn. O’r swm hwn, mae £1 filiwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion (SCH2), sy’n berthnasol i’r hyn sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth y flwyddyn nesaf.  Mae’r mwyafrif o’r pwysau hwn yn deillio o or-recriwtio gofalwyr i’n gwasanaeth gofal cartref mewnol, er mwyn i ni ddarparu gofal cartref i’n cleientiaid oherwydd natur fregus y farchnad gofal allanol.  Gweddill y pwysau yw’r hyn a nodwyd drwy gynnal y rhagolwg eleni.  Mae ychydig dros £100,000 yn cynrychioli’r gostyngiad yn y grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Chynaliadwyedd, sy’n cyfrannu at wasanaethau craidd.  Daw’r gweddill o gyfran y Pwyllgor Dethol ar Oedolion o’r cynnydd i’r cyflog byw gwirioneddol, sef £1.25 miliwn.

 

Mae yna werth £120,000 o arbedion o gynnydd i ffioedd a thaliadau; mae’r mwyafrif o hyn yn gysylltiedig â’r gwasanaethau Oedolion, yn benodol gwasanaethau preswyl a dibreswyl sy’n dibynnu ar brawf modd.  Mae cap o £100 yr wythnos ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau gofal cartref - sef yr uchafswm y byddai disgwyl i rywun ei gyfrannu, yn ôl y ddeddfwriaeth.  Ond nid oes unrhyw gap ar gyfer gofal preswyl h.y. os asesir y gall rhywun dalu’r ffioedd llawn eu hunain, dyna a godir.

 

Atebodd Phil Murphy, Tyrone Stokes, Eve Parkinson a Jonathan Davies gwestiynau’r aelodau.

 

Her:

 

Allwch chi esbonio’r gwahaniaeth rhwng y £900,000 ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r £250,000 ar gyfer Mynediad i Bawb?

 

Mae’r ddau yn grantiau gwahanol. Roedd y £900,000 wedi’i greu o’r gyllideb sylfaenol (a chynyddwyd i hynny y llynedd) – roeddem ni wedi’i gynyddu dros dro yn y blynyddoedd blaenorol.  Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gyfer addasiadau i bobl anabl, ac mae Mynediad i Bawb yn gyllideb ar wahân.

 

O ran Gofal Cymdeithasol a’r prinder gofalwyr, mae rhai wedi holi a hoffent gael eu gofalwyr eu hunain a chael y taliadau uniongyrchol yn ôl.  A oes cyfnod o amser safonol rhwng hawlio’r taliad yn ôl a’i dderbyn?

 

Nid yw taliadau uniongyrchol wedi newid:  maent wedi bod ar gael ers blynyddoedd lawer.  Pan fydd gweithiwr cymdeithasol yn asesu rhywun, rhoddir y dewis iddynt dderbyn taliad uniongyrchol, i’w ddefnyddio i gyflogi eu gofalwr eu hunain.  Ar ôl cynnal yr asesiad, a chytuno ar y cynllun gofal, rydym bob amser yn talu 4 wythnos ymlaen llaw, byth fel ôl-daliadau.  Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi wrth i ni drafod y costau ac wrth iddynt sefydlu cyfrif banc ond mae hynny bob amser wedi bod yn wir, ac mae’r taliad ymlaen llaw yn goresgyn hyn.

 

Pa ganran o bobl sy’n dewis eu gofalwyr eu hunain a derbyn taliadau uniongyrchol?
A yw hyn wedi cynyddu’n ddiweddar?

 

Tua 200 yw’r nifer sy’n manteisio ar hyn, 8-10% o’r hyn rydym yn ei ddarparu yn nhermau ein darpariaeth gofal cartref i gleientiaid.  Gwelwyd cynnydd bychan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn nifer y ceisiadau am daliadau uniongyrchol, sydd wedi creu rhai problemau capasiti.  Roedd gennym ôl-groniad oherwydd y cynnydd ac rydym wedi trefnu i aelod o staff dros dro weithio ar hyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol - maent yn cael trefn ar y sefyllfa yn gyflym ac yn dychwelyd i sefyllfa fwy sefydlog.

 

A fyddai gennym broblem ddifrifol pe na fyddai teuluoedd yn trefnu eu pecyn gofal eu hunain?

 

Mae gennym tua 200 o bobl sy’n trefnu eu gofal eu hunain ond mae gennym bobl hefyd nad yw gofal wedi’i drefnu ar eu cyfer.  Mae gan y Bwrdd Iechyd gynllun ar gyfer y rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, o’r enw ‘Cam yn Nes at Adref’ lle mae pobl yn cael eu lleoli ar leoliad preswyl tymor byr am tua 6 wythnos, wrth i’w trefniadau gofal gael eu gwneud.  Mae hyn yn bennaf ar gyfer pobl sydd eisiau dychwelyd adref neu sy’n chwilio am leoliad tymor hwy rhywle lle nad oes argaeledd ar hyn o bryd.  Mae 60+ o bobl wedi dilyn y llwybr Cam yn Nes at Adref; yn bennaf rydym wedi gallu eu helpu i ddychwelyd adref, ond mae’n her barhaus i wneud hynny.

 

Mae’n ymddangos y bydd llwyddo i ddod o hyd i ddarparwyr gofal yn y 12 mis nesaf yn anodd a byddwn yn annog mwy o deuluoedd i ymgymryd â’r gofal eu hunain, drwy’r taliadau uniongyrchol?  Mae’n ymddangos bod diffyg enfawr yn y gyllideb.

 

Gyda thaliadau uniongyrchol, ni ddefnyddir y rhain i gyd i gyflogi teuluoedd neu ffrindiau i fod yn ofalwyr – mae rhai pobl yn dewis cael yr arian i dalu’r asiantaeth gofal eu hunain oherwydd mae’n bosibl y bydd gofalwr penodol y maent yn dymuno eu cyflogi, yn hytrach na’r asiantaeth yn anfon y gofalwr ar ddyletswydd.

 

Yr achosion yr wyf yn ymwybodol ohonynt yw pan fyddant wedi cael gwybod nad oes unrhyw ofalwyr ar gael, ac maent wedi gorfod trefnu rhai eu hunain.

 

Mae diffyg argaeledd gofalwyr yn broblem genedlaethol, ac nid yw’n unigryw i Sir Fynwy.  Un o’r ffactorau yw gofal yn cael ei ystyried fel gyrfa.  Mae cyflwyniad y cyflog byw gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru yn helpu ond dim ond un elfen yw hyn - mae problem y farchnad sector gofal yn amlochrog ac mae wedi bodoli ers cryn amser.  Mae Covid wedi creu’r storm berffaith, yn dod â phopeth ynghyd.  Ni allwn ddatrys y broblem yn syml y flwyddyn nesaf - bydd angen strategaeth arnom ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yna’r 3-5 mlynedd ganlynol.  Byddwn yn cael cyfarfodydd i edrych ar sut y gallwn ddarparu gofal mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol.  Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda’n darparwyr annibynnol ar y modelau posibl hyn.  Rydym mewn sefyllfa heriol a chymhleth iawn ond rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn gallu’r cyflawni’r galw dybryd yn y ffordd orau bosibl.  Yn anffodus, rydym wedi gorfod gweithio drwy feichiau achosion a lleihau gofal i rai pobl er mwyn i ni allu cyflawni’r cynnydd yn y galw ond rydym ond wedi gwneud hynny pan oedd yn ddiogel gwneud hynny.

 

A ellir esbonio’r Cyflog Byw Gwirioneddol ymhellach?

 

Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yr isafswm cyfreithiol wedi bod mewn grym ers blynyddoedd lawer.  Cafodd ei bennu ar £8.91 yr awr.  Cynyddodd Canghellor y Trysorlys hyn yn ei gyllideb yn yr Hydref i £9.50, ac yna cynyddwyd y Cyflog Byw Gwirioneddol – sy’n ddewisol o £9.50 i £9.90.  Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ar 21ain Rhagfyr 2021, gwnaed ymdrech i weithredu’r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru, a thargedu Gofal Cymdeithasol fel y sector cyntaf, gan gwmpasu oedolion a phlant.  Yr hyn yr ydym wedi’i gostio yw effaith symud o’r isafswm cyflog cenedlaethol i’r cyflog byw gwirioneddol.  Y pwysau cyffredinol yw £1.9 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, y mae £1.25 ohono yn berthnasol i oedolion.  Rydym yn gobeithio cysylltu hyn â chynaliadwyedd – mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio fel catalydd i agor y ddadl ar gynaliadwyedd gyda’n partneriaid dibynadwy yngl?n â sut y gallwn gynnal y gofal yn Sir Fynwy yn y tymor hwy.

 

Mae’r cyllid ar gyfer datblygiad Crick Road yn cael ei ddarparu gan y gronfa Cyfalaf.  Beth am grantiau?

 

Mae hon yn bartneriaeth flaenllaw gydag Iechyd a defnyddir y Gronfa Gofal Canolraddol sy’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r gronfa hon yn ei blwyddyn olaf, ac ar ôl hynny bydd yn symud i’r Gronfa Trawsnewid.  Yn nhermau sicrhau’r cyllid hwn, rydym wedi gweithio’n ddiflino gyda’n partneriaid, ac nid oes unrhyw risg wrth symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf.  I esbonio, o ran y gyllideb Cyfalaf: rydym wedi sicrhau hyn ond mae cyllid yn cael ei ddarparu hefyd drwy drefniant benthyca darbodus fel rhan o gostau’r cynllun a gyflwynwyd i gynghorwyr sawl blwyddyn yn ôl – rydym yn parhau i gyflawni yn unol â’r adroddiad hwnnw.

 

O ran benthyca posibl, nid ydym yn benthyca ar gyfer unrhyw gynllun penodol – rydym yn benthyca pan fydd amodau’r farchnad yn briodol i ni wneud hynny.  Felly, byddwn yn rhoi’r gorau i fenthyca tymor hir er mwyn manteisio ar fenthyca tymor byr, neu byddwn yn defnyddio arian mewnol ar yr adeg iawn o’r flwyddyn yn hytrach na benthyca swm penodol o arian dros gyfnod estynedig sy’n gysylltiedig ag un peth penodol.  Felly, bydd yn rhaid i ni fenthyca i gynnal llawer o’r rhaglenni Cyfalaf ond ni fydd ar gyfer un rhaglen yn benodol.

 

Beth yw’r trothwy canrannol ar gyfer benthyca?

 

Mae gennym uchafswm awdurdodedig y mae’n rhaid i ni ei gymeradwyo ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, fel rhan o strategaeth y Trysorlys sy’n cael ei rheoli.  Mae’r uchafswm yn cael ei fonitro’n barhaus er mwyn sicrhau na fyddwn yn rhagori arno.  Mae gennym gryn dipyn o hyblygrwydd o fewn hyn – tua £30 miliwn.  Mae’r uchafswm yn cael ei adolygu fel rhan o’r strategaeth a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mawrth.

 

Oherwydd bod Sir Fynwy yn sir wledig, mae’n rhaid ein bod yn colli llawer o amser gofalu yn symud rhwng cleientiaid.  A oes gennym unrhyw amcangyfrif o’r amser gofalu a gollwyd, ac effaith hyn ar y ddarpariaeth gwasanaeth?

 

Ydy, mae bod yn ardal wledig yn golygu amser teithio.  Rydym yn ceisio trefnu’r rotâu yn briodol, yn arbennig yn fewnol; er enghraifft, ni ddisgwylir i ofalwr ym Mrynbuga deithio i’r Fenni ac yna yn ôl i Frynbuga awr yn ddiweddarach.  Rydym yn gweithredu ar sail ‘clwstwr’, ac yn ceisio lleihau’r amser teithio.  Rydym hefyd yn gweithio gyda’n sectorau gofal allanol i geisio sicrhau bod y contract sydd gennym gyda hwy yn sicrhau’r lefel isaf o amser cynhyrchiol a gollir.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch yn fawr i’r swyddogion am eu gwaith caled.  Mae’r Gyllideb yn arbennig o anodd, ac oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio yn Sir Fynwy, bydd pethau’n sicr o fod yn anoddach.  Y weledigaeth hirdymor yw ei bod yn anodd iawn canfod gofalwyr ac mae diffyg enfawr yn y gyllideb.  Hoffwn eich sicrhau y bydd diweddariad ar Crick Road yn cael ei gynnwys mewn agendâu yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: