Agenda item

Cyflogaeth a Sgiliau

Adrodd ar gynnydd ar y rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni wrth ddatblygu'r sector sgiliau a chyflogaeth (y mae Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu hefyd yn craffu arno).

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu wedi craffu ar yr adroddiad hwn ac y daw gerbron y pwyllgor ar sail gwybodaeth i ddiweddaru aelodau ar weithgareddau’r Tîm Cyflogaeth a Sgiliau. Gofynnodd y Cadeirydd i’r swyddogion i gyflwyno’r adroddiad yn gryno, gan roi sylw i’r prif bwyntiau:

 

·         Cafodd y Tîm ei ailstrwythuro nawr gyda darpariaeth yn awr yn cynnwys Kickstart, InFuSe a thîm cyflenwi estynedig Cymunedau dros Waith a Mwy.

·         Mae Kickstart yn rhaglen cyflogaeth y Deyrnas Unedig a ddatblygwyd mewn ymateb i Covid 19 ac mae’n rhan o ymateb Covid Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fewn eu ‘Cynllun Swyddi’, gan anelu i greu miloedd o swyddi nawr a gyllidir yn llwyr ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r cynllun yn gydnaws gyda Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru wrth baratoi am newid blaengar ym myd gwaith, gan ymateb i fylchau sgiliau presennol a’r dyfodol a rhoi dull wedi’i bersonoli at gymorth cyflogadwyedd. Mae’r Cynllun yn anelu i greu lleoliadau gwaith chwe mis ar gymhorthdal llawn ar gyfer unigolion 16-24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn risg o ddiweithdra hirdymor.

·         InFuSe yw rhaglen gwasanaethau dyfodol arloesol y sector cyhoeddus Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n anelu i feithrin sgiliau a chapasiti ar gyfer arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r rhaglen yn galluogi gweithwyr cyflogedig i geisio mynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau lleol byd go iawn, yn cynnwys datgarboneiddio cerbydau’r Cyngor, effeithiolrwydd ynni cartref, cyfleoedd am ynni o faw c?n, cynyddu cadwyni cyflenwi drwy gaffaeliad a datblygu cymunedol seiliedig ar asedau.

·         Mae’r Tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn arwain ar/cyflenwi prosiectau gydag amcangyfrif gwerth o £2.4m ym mlwyddyn ariannol 2021-22 yn unol â thargedau a deilliannau prosiect.

·         Daw Ysbrydoli i Gyflawni, Ysbrydoli i Weithio a Sgiliau Gwaith, sy’n brosiectau a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, i ben ym mis Rhagfyr 2022 pan ddaw ffrwd cyllid yr Undeb Ewropeaidd i ben. Mae hyn yn rhoi her i gynaliadwyedd NEET awdurdodau lleol a ffigurau diweithdra. Bydd colli darpariaeth ynghyd â phrofiad, gwybodaeth a setiau sgiliau y timau hyn yn cael effaith negyddol ar breswylwyr Sir Fynwy.

·         Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn arwain ar bapur cyflogadwyedd ar ran deg awdurdod lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n nodi gofynion cyflogaeth a sgiliau y rhanbarth ar gyfer y dyfodol ac yn ymchwilio sut y gall y Gronfa Rhannu Ffyniant gefnogi hyn yn y dyfodol.

·         Aiff yr adroddiad a gymeradwywyd gan Fwrdd Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy gabinet pob Awdurdod Lleol.

·         Yn y cyfamser, cyflwynwyd cais Cronfa Adnewyddu Cymunedol ar gyfer cyllid tymor byr rhwng mis Awst 2021 a mis Mawrth 2022 yn barod am gynnig dilynol i’ Gronfa Rhannu Ffyniant y Deyrnas Unedig yn 2022/23.

·         Gobeithir y bydd y cynnig yn hybu’r gwasanaeth presennol drwy:

-       Datblygu system brysbennu - dull i sicrhau atgyfeiriadau i’r gefnogaeth gywir;

-       Cyflogi Gweithiwr Ymgysylltu Llesiant;

-       Gwella ymgysylltu digidol ac allgymorth;

-       Cyrchu cyfleoedd cyflogaeth mewn Adeiladu a Digidol;

-       Targedu cymorth cyflogaeth ar gyfer y digartref/rhai mewn risg o ddod yn ddigartref.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm a roddodd eu hamser i gyflwyno i aelodau ar led eu gwaith a gwahoddodd gwestiynau gan aelodau.

 

Cwestiynau gan Aelodau:

 

·         A gaf eglurhad os yw pobl ifanc yn cymryd blwyddyn allan o brifysgol yn cael eu cyfrif fel NEET?

 

Ydynt, byddai hyn yn cynnwys unrhyw un nad yw’n ymwneud ag unrhyw hyfforddiant addysgol, felly gall hyn gynnwys athletwyr a phobl sydd â llawer o resymau gwahanol felly mae’n bwysig fod y tîm yn ymchwilio’r ffigurau er mwyn penderfynu pam nad yw pobl mewn addysg neu gyflogaeth ac os y byddent yn cael budd o’n gwasanaethau. Mae rhai pobl ifanc yn dioddef pryder a byddent yn manteisio o gael cefnogaeth a drwy’r pandemig, daeth yn fwy amlwg. Gall rhai fod yn colli cymorth y dylent fod yn ei gael o wasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion ond yr allwedd i hyn yw deall y rhesymau a helpu i’w cefnogi. Mae’r Panel Help Cynnar yn effeithlon wrth roi’r pwynt mynediad hwnnw a bod yn angor iddynt, yn neilltuol os ydynt yn derbyn cymorth barhaus.

 

·         Mae’n galonogol clywed fod ‘Ysbrydoli i Gyflawni’ yn dechrau ym mlwyddyn 6. Os yw cyllid i ddod i ben, a fedrwch fanylu ar eich sefyllfa cyllid y dyfodol?

 

Buom yn llwyddiannus yn ddiweddar yn sicrhau cyllid interim cyn cyllid Ffyniant y Deyrnas Unedig a rydym yn gweithio fel 10 awdurdod lleol i benderfynu beth sy’n dod nesaf yn nhermau ymagwedd ranbarthol at gynllun cyflenwi lleol. Rydym eisiau parhau i roi cefnogaeth ar gyfnod allweddol 2 hyd at gyfnod allweddol 3 a hoffem ddychwelyd yn yr haf gyda diweddariad ar hynny.

 

·         A ydych mewn cyswllt llawn gyda’r 4 ysgol gyfun?

 

Mae gennym weithiwr ym mhob un o’r ysgolion sy’n rhan o’r staffio ac mae hynny wedi ei gwneud yn bosibl rhoi cymorth yn ei le yn gyflym iawn, yn wahanol i rai ysgolion eraill mewn gwledydd eraill lle mae cymorth yn fwy ar sail ‘galw heibio’. Ystyriwn bod hyn yn allweddol.

 

·         Wrth edrych ar Atodiad 3 a’r gwahanol gynlluniau, nid wyf yn si?r os yw’r cyfranogwyr yn dod o Sir Benfro, felly mewn adroddiad pellach a fedrem gael dadansoddiad fel y gallwn wneud cymariaethau. Byddai hynny’n ddefnyddiol.

Mae’r niferoedd yn benodol i Sir Fynwy ond gallaf roi rhifau ar gyfer Gwent yn ehangach os hoffech wneud y cymariaethau hynny.

 

Datganodd Maggie Harris fuddiant personol ond heb fod yn rhagfarnu fel llywodraethwr Ysgol Gynradd Deri View.

 

·         Gall y systemau cymorth hyn fynd dan y radar os na wyddir amdanynt. Mae’r math yma o systemau tebyg i’r System Help Cynnar yn eu galluogi i alw mewn a allan o fywydau plant fel sydd angen ac mae’n ddull cymorth gwerthfawr tu hwnt ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n llwyr gefnogi eich gwaith.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

                                

Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm am eu gwaith gwerthfawr yn cefnogi pobl ifanc ar y cam pontio rhwng cyfnod allweddol 2 (cynradd) i gyfnod allweddol 3 (cyfun) a dywedodd bod yr ymyriadau yn hollbwysig ar gyfer y plant nad yw eu rhieni efallai yn gallu eirioli ar eu rhan. Cafodd y pwyllgor sicrwydd yn nhermau’r sefyllfa cyllid parhaus i sicrhau nad yw’r bobl ifanc hyn yn parhau mewn sefyllfa o beidio bo mewn addysg na chyflogaeth, felly roedd yn galondid i’r pwyllgor glywed am y gefnogaeth a roddir i bobl ifanc yn yr amgylchiadau hyn. Cytunodd y pwyllgor i wahodd swyddogion i ddychwelyd yn haf 2022.

 

Dogfennau ategol: