Agenda item

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Cael diweddariad llafar ar gasgliadau'r broses ymgynghori, cyn adrodd i'r Cabinet.

 

Cofnodion:

Gwahoddwyd y Pennaeth Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc i gyflwyno diweddariad byr ar y casgliadau o’r broses ymgynghori oedd yn cynnwys digwyddiadau wyneb i wyneb gyda rhanddeiliaid a phenaethiaid ysgolion. Tynnodd y swyddog sylw at y pwyntiau dilynol:

·         Derbyniwyd pump ymateb ffurfiol hyd yma, ond disgwylir mwy cyn y dyddiad cau.

·         Un casgliad allweddol yw fod cefnogaeth gyffredinol ar gyfer twf y Gymraeg ar draws Sir Fynwy.

·         Mae peth siom y bydd ein hysgol egin ar agor o 2023 ac nid o 2023. Hefyd, beth pryderon gan yr ysgolion cyfrwng Saesneg ar yr effaith a gaiff arnynt, a sut y byddwn yn sicrhau fod ein cynllun yn ddigon cadarn i ddatblygu’r Gymraeg yn ein holl ysgolion, cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg.

·         Rydym wedi trafod y cynllun yn llawn gydag Estyn ac yn disgwyl eu hymateb.

·         Rydym wedi gweithredu o amgylch yr ysgol egin a drafodwyd yn eich cyfarfod blaenorol gan anelu i sefydlu ysgol egin cyn gynted ag sydd modd ond yn sylweddoli fod rhai heriau sylweddol wrth gyflawni hyn yn gyflym gyda’r angen am broses ymgynghori lawn ac etholiad ym mis Mai 2022. Fodd bynnag, rydym yn hyderus y gallwn gael hynny yn ei le ar gyfer mis Medi 2023. Ar gyfer plant sy’n edrych ar fynychu’r ysgol honno o fis Medi 2022, byddwn yn edrych ar ddarparu ysgol egin ar gyfer dosbarth derbyn a blwyddyn 1 yn y cyfamser, a byddwn yn anelu i gyfathrebu hynny i rieni cyn gynted ag sydd modd fel y gallant wneud eu cynlluniau.

·         Bydd angen i’r Cabinet ac wedyn Lywodraeth Cymru gymeradwyo’r drafft Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

·         Rwy’n falch i’ch diweddaru fod y cyngor wedi sefydlu cynllun peilot 3 blynedd ar gyfer darpariaeth trochi hwyr sy’n mynd rhagddo gydag ychydig o ddisgyblion yn mynychu ac ymddengys ei fod yn cael cryn effaith yn barod ar Ysgol y Ffin a cheisiadau ar gyfer 2023, ac felly mae hyn yn gynnydd enfawr ar yr hyn sydd gennym hyd yma. Er mwyn cyflymu’r gwaith hwn, rwy’n falch i’ch hysbysu fod y cyngor wedi gwneud cais am ac wedi derbyn tua £84,000 mewn arian grant i gefnogi trochi hwyrach dros y 2 dymor nesaf, yn seiliedig ar staffio ac adnoddau ychwanegol a thechnegau hyfforddiant, fydd yn ein helpu gyda galw uwch yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am y diweddariad cynhwysfawr a gwahoddodd gwestiynau gan aelodau. Datganodd y Cynghorwyr Tudor Thomas a David Hughes fuddiant personol ond heb fod yn rhagfarnu fel llywodraethwyr Ysgol y Ffin, y Fenni.

 

Her gan Aelod:

 

·         Gan gydnabod y gall y cynlluniau gorau fynd o chwith oherwydd dylanwadau allanol, fodd bynnag mewn adroddiad llywodraethwyr diweddar gerbron bwrdd llywodraethwyr Brenin Harri, deallai aelodau fod rhai myfyrwyr a fu’n flaenorol yn derbyn darpariaeth Gymraeg yn Nhorfaen wedi canfod fod eu darpariaeth wedi dod i ben ac fel canlyniad yn mynd i Ysgol Brenin Harri, oedd yn ceisio eu cefnogi. A oes unrhyw gyllid ychwanegol a fedrai fod ar gael i Ysgol Brenin Harri i wneud hyn?

·          

Ar hyn o bryd, mae’r grant ar gyfer trochi hwyr, nid ar gyfer y rhai sydd eisoes yn siarad rhywfaint o Gymraeg. Fodd bynnag, mae ysgolion uwchradd mewn awdurdodau eraill wedi sefydlu darpariaeth trochi hwyr yn eu siroedd eu hunain. Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ac efallai y bydd cyllid yn y dyfodol, ond nid oes dim byd y gwn amdano ar hyn o bryd.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Diolchodd y cadeirydd i’r swyddog am roi’r diweddariad. Er ei bod yn siomedig y caiff yr ysgol egin ei gohirio, mae’r heriau yn anorfod ac mae’n dda gweld y cynllun peilot ar gyfer trochi hwyr a ymddengys yn gweithio yn nhermau cadw plant ynghyd mewn ysgolion a pharhau eu dysgu.