Agenda item

Diweddariad Ysgol Cas-gwent

Derbyn adroddiad sefyllfa ar Ysgol Cas-gwent, fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog ei nodyn gwybodaeth, gan dynnu sylw aelodau at y pwyntiau allweddol:

 

·         Cyflwr yr adeilad – mae ffocws Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar ddarparu adeiladau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, h.y. carbon sero-net. Er y gwnaed peth gwaith yn Ysgol Cas-gwent, nid yw’r adeilad yn effeithiol o ran ynni ac mae angen gwaith sylweddol i’w godi i’r safon a ddisgwylir ar gyfer ysgol yr 21ain Ganrif.

 

·         Capasiti – Y capasiti presennol yw 1282 lle, gyda 738 disgybl ar y gofrestr gan olygu bod 544 lle gwag – 42%. Mae’n annhebyg y bydd y niferoedd yn newid yn sylweddol dros y 6 i 7 mlynedd nesaf heb unrhyw dwf sylweddol drwy enedigaethau byw neu ddatblygiadau tai i’w disgwyl. Mae’r ysgol hefyd yn gweld disgyblion yn symud ar hyn o bryd i Wyedean, tra bod y Pennaeth ac Ysgol Cas-gwent wedi gweithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd yn y clwstwr i annog mwy o blant i symud i Gas-gwent.

 

·         Bydd y gwaith yn dechrau yn y 12 mis nesaf i edrych ar addysg gynradd ac uwchradd yn holl ardal Cas-gwent i sicrhau fod y stad addysg yn addas i’r diben ac yn rhoi gwerth am arian.

 

Diolchodd y cadeirydd i’r swyddog am ei ddiweddariad a gwahoddodd sylwadau gan aelodau’r pwyllgor, fel sy’n dilyn:

 

 

Her Aelod: 

 

·         A wyddom os bydd costau diweddaru’r adeilad i gyrraedd y safon cynaliadwyedd gofynnol yn fwy na chost adeilad newydd a phryd y gwneir unrhyw benderfyniad? Fedrwch chi egluro’r cyfraddau cyllid band y mae’r nodyn yn cyfeirio atynt?

 

Rydych yn iawn a dangoswyd hyn gyda’r ddwy ysgol arall, felly mae angen arolwg manwl i ganfod os gall yr adeilad oddef y lefel honno o adnewyddu. Nid wyf wedi gweld y gyfradd ymyriad cyllid band ar gyfer y tro nesaf hyd yma gan fod gwaith yn dal i fynd rhagddo arno, felly byddwn yn aros eglurdeb ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd hynny gennym.

 

·      Sylweddolaf fod y ffocws ar ddatblygu Ysgol y Fenni ar hyn o bryd ond rwy’n falch i nodi fod gwaith yn mynd rhagddo i roi Cas-gwent mewn sefyllfa i fedru cynnig am y cyllid band C hwnnw pan ddaw ar gael, gan gydnabod ei fod ffordd bell i ffwrdd yn 2024-25. Rwy’n falch iawn i weld y gwelliannau a wnaethpwyd drwy gydol yr haf i wella’r amgylchedd dysgu gyda goleuadau newydd a gostwng yr ôl-troed carbon. Er fod cyllidebau dan bwysau, gobeithiwn y gallwn barhau i fuddsoddi yn yr ysgol. Fy nghwestiwn yw beth fwy fedrir ei wneud yn awr fel bod myfyrwyr Cas-gwent yn derbyn safonau amgylchedd dysgu cyfartal â’u cyfoedion?

·       

·      Rydym bob amser yn adolygu’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i ni ond mae bob amser yn fater o gadw’r fantol yn nhermau diwallu anghenion pob ysgol ond byddwn yn parhau i weld pa gwmpas sydd yna i wella’r ysgol, mae hynny’n rhywbeth y gallwn ymrwymo iddo.

·       

·      Hoffwn hefyd awgrymu arolwg o ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol gynradd i weld pam eu bod yn dewis Wyedean yn hytrach na Chas-gwent.

·       

Byddai arolwg yn syniad da i ddeall yr heriau. Mae Cas-gwent yn un o’r clystyrau lleiaf, llawer llai na’r Fenni er enghraifft. Rhai o’r negeseuon a glywn gan bobl yw fod y gwrthwyneb yn digwydd 20 milltir i’r gogledd yn Nhrefynwy gyda myfyrwyr o Loegr yn dymuno ymuno, ond mae’n syniad da i ofyn i rieni gan y gallai arolwg roi sylfaen tystiolaeth mwy meintiol ar gyfer gwneud casgliadau.

 

Mae’r adroddiad yn ceisio edrych ar gyflwr yr ysgol gynradd hefyd o gofio fod adeiladau dros dro yn dal i gael eu defnyddio, gan sylweddoli y byddai hyn yn dibynnu ar y cyllid cyfalaf sydd ar gael.

 

Rwy’n derbyn y pwynt. Efallai fod cost cael adeilad yn lle’r adeilad dros dro yn ormod, ond gallwn weld os oes unrhyw arian adran 106 neu ffrydiau cyllid eraill y gellid eu defnyddio i wneud gwelliannau.

 

·         Mae’r brîff yn awgrymu y disgwylir i nifer disgyblion aros fel y maent, ond gyda datblygiadau tai arfaethedig wrth gylchfan High Beech a hefyd yn Sedbury, byddai’n werth trafod hyn gyda Fforest y Ddena ac ydych chi wedi rhoi ystyriaeth lawn i ddatblygiadau tai y dyfodol ar hyd y ffin?

·          

·         Mae hyn yn gwestiwn da. Yn anffodus, ni fedrwn roi ystyriaeth i ddatblygiadau yn Lloegr ac yn yr un modd ein hysgolion ein hunain sydd ar y ffin gydag awdurdodau eraill yng Nghymru, ond gwyddom y gall fod sgil-effeithiau yn nhermau llai o’n preswylwyr yn anfon plant ar draws y ffin o gofio am y galw cynyddol am ysgolion lle mae datblygiad yn digwydd. Felly byddwn yn sicrhau ein bod yn gwybod am hyn ac yn rhoi ystyriaeth iddo yn y cyswllt hwnnw.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Hoffwn ddiolch i’r swyddog am y diweddariad ar y mater hwn. Mae ffocws Llywodraeth Cymru ar carbon sero-net yn werth ei nodi ac er ein bod yn cydnabod costau ôl-osod yr ysgol, mae’n rhaid i ni eich canmol ar y gwelliannau a wnaed hyd yma a fu’n rhagorol. Byddwn yn hoffi gweld buddsoddiad parhaus yn yr ysgol, gan fod 2024-25 beth amser i ffwrdd ac mae angen i ddisgyblion presennol gael budd. Deallwn y problemau capasiti, bod yn ysgol ar y ffin a fod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ei wneud am hynny. Teimlwn y byddai holiadur yn syniad da i gael data meintiol am resymau yn hytrach na dibynnu ar achlust. Bu’r adroddiad yn ddefnyddiol iawn a byddwn yn edrych ar ailedrych ar hwn yn ddiweddarach yn 2022.

 

Dogfennau ategol: