Skip to Main Content

Agenda item

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Craffu ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-2021.

 

Cofnodion:

Roedd Alan Burkitt wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau’r Aelodau.  

 

Her:

O ran anabledd, a ydym yn medru cynnig cyflogaeth i bobl sydd yn agosáu at ymddeoliad, neu wedi ymddeol?

 

Y cwestiwn yw a oes yna gyfyngiad ar y person yr ydym am gyflogi, o fewn y nodweddion gwarchodedig: er enghraifft, ni ddylai oedran wneud gwahaniaeth yngl?n ag a ddylid cyflogi rhywun. Bydd person h?n yn cynnig cyfoeth o brofiad ond mae angen taro cydbwysedd rhwng hyn  a’r angen i gyflwyno gweithwyr iau i’r sefydliad. Mae’r sefyllfa gyfredol o ran gweithio gartref wedi newid pethau - er enghraifft, mae person ag anabledd corfforol a fyddai wedi cael trafferth yn teithio i’r swyddfa nawr yn medru gweithio gartref gyda llai o gyfyngiadau. Gydag achos diweddar o berson ifanc ag awtistiaeth a’i gyflogwr yn ansicr sut i ddiwallu ei anghenion, rydym wedi gweithio er mwyn trefnu profiad gwaith ar ei gyfer a’i fentora. Felly, mae llawer o waith i’w wneud yn y maes hwn sydd yn cael ei wneud yn y cefndir.  

 

Mae’r term ‘cyflog bwlch rhwng y rhywiau’ yn peri penbleth yn sgil y gwahaniaeth rhwng y swyddi a’r gwahaniaeth rhwng y sawl sydd yn gwneud yr un rôl. Ai term Llywodraeth Cymru yw hwn?

 

Ydy - nid yw’r bwlch o reidrwydd yn ymwneud gyda’r gwahaniaeth rhwng y sawl sydd yn gwneud yr un ôl ond mae’n cymharu swyddi tebyg - gyda lefelau o gyfrifoldebau cymharol. Er enghraifft, fel cymdeithas, mae yna gwestiwn yngl?n â’r angen i hurio mwy o ofalwyr (sydd yn tueddu i fod yn fenywod) - a oes angen i ni asesu’r sgiliau sydd angen i fod yn ofalwr un-i-un, ac ailystyried yr hyn y maent yn cael eu talu, yn sgil yr hyn y maent yn cyfrannu ac yn darparu? Mae’n anodd cynnig manylion penodol ond mae’n ymwneud gyda phroblem sydd yn golygu, yn hanesyddol, nad yw gyrfa sydd wedi dominyddu gan fenywod yn cael ei thalu'r un peth â gyrfa sy’n cael ei dominyddu gan ddynion sydd  â sgiliau cyfatebol. Ni ddylid cael ystrydebau rhyw nawr o fewn swyddi ac mae angen newid hyn. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni adrodd arno fel  rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb.    

 

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ymwneud â’r geiriad. Cafwyd problem yn y gorffennol o fenywod yn cael eu talu’n llai na dynion tra’n gwneud yr un rôl. Ar y llaw arall, mae yna rai dynion sydd yn aros gartref nawr gan fod y partner yn medru ennill mwy o arian, ac felly, mae pethau’n dechrau newid.  

 

Oes, mae cryn ffordd i fynd ond rydym yn gweithio ar hyn. 

Ar dudalen 11, amcan 3, mae yna gyfeiriad at y platfform digidol  ‘Box Clever’. A ydych wedi ail-ddechrau profi hyn?

 

Ar yr adeg yr oedd yr adroddiad yn cael ei lunio, cafodd ei oedi yn sgil y pandemig. Nid oes yna wybodaeth bellach ar gael eto ond gallaf gadarnhau hyn a diweddaru Aelodau.  

 

Pa effaith y bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn cael ar yr adroddiadau yma?

 

Mae nawr yn rhan o’r broses Asesiadau Integredig (cafodd ei gyflwyno fis Mawrth diwethaf). Pan  mae swyddogion yn cynnal  Asesiad Effaith, mae’n rhaid iddynt ystyried y ddyletswydd economaidd-gymdeithasolh.y. os oes rhywbeth yn yr adroddiad o bosib yn mynd i gael effaith ariannol, rhaid iddynt ystyried a thrafod hyn. Hyd yma, mae wedi bod yn fwy tebygol fod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses o lunio’r Gyllideb neu os ydym yn ystyried strategaeth brisio er enghraifft.   Nid yw pob adroddiad sydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet, Cyngor neu Aelodau  Cabinet Unigol yn effeithio ar benderfyniadau ym mhob un maes.  Nid oes yna esiampl benodol yn y broses Asesiad Effaith Integredig hyd yma.  

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i’r Swyddog Burkitt am yr adroddiad. Mae’r  Pwyllgor yn derbyn yr argymhellion.  

 

Dogfennau ategol: