Agenda item

Adroddiad Perfformiad Diogelu’r Cyhoedd 2020/21 ac ymateb yr Adran i’r pandemig Coronafeirws

Ystyried yr adroddiad perfformiad ar gyfer y gwasanaeth.

 

Cofnodion:

Roedd David Jones a Gareth Walters wedi cyflwyno’r adroddiadau ac wedi ateb y cwestiynau gan yr Aelodau gyda  Gillian Dicken.

 

Her:

 

O ran yr ymateb i’r pandemig, a fyddech yn gwneud rhywbeth yn wahanol flwyddyn nesaf o’i gymharu â’r llynedd?

 

Rydym yn ystyried yr hyn a wnaethom drwy gyfrwng  Aneurin Bevan: mae’r 6 tîm ‘Profi, Olrhain a Diogelu’ yn ystyried y gwersi sydd wedi eu dysgu ayyb. Roeddem wedi ymateb yn dda, gyda’r trefniadau llywodraethu wedi eu cadarnhau yn gyflym ac wedi gweithio’n dda. Rydym wedi cynnig adborth nad yw cyhoeddiadau ar b’nawn Gwener yn ddefnyddiol ar gyfer y rhengflaen, gan fod darparwyr (e.e. ysgolion) eisoes yn brysur wrth geisio dehongli’r cyhoeddiad cyn diwedd yr wythnos. Gwers arall yw y byddai’n ddefnyddiol cyd-lunio ychydig o’r canllaw gyda’r swyddogion rhengflaen e.e. y Gweithdrefnau gweithredol Safonol, gan fod llawer iawn ohonynt wedi eu cyhoeddi. Bydd yna adroddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar y gwersi sydd wedi eu dysgu a’r hyn y byddem wedi ei wneud yn wahanol.  

 

Faint o fusnesau neu unigolion ydych wedi erlyn yn y 12 mis a beth oedd y canlyniad?

 

Roedd wedi mabwysiadu agwedd lle’r oeddem yn ceisio annog defnyddwyr busnes, yn hytrach  na’n ffocysu ar orfodaeth. Roedd Trwyddedu wedi cyhoeddi 8 hysbysiad  gwella  e.e. ar gyfer cwsmeriaid tafarn sydd yn tramgwyddo’r rheolau - roeddem wedi mynd at y Goruchwylydd Safle dynodedig ac wedi delio gyda’r cwynion ac wedi ymweld  eto gyda’r safle er mwyn sicrhau bod pethau wedi gwella.  Mae Heddlu Gwent yn hapus mynychu canol y trefi ar nos Sadwrn a mynd i dafarndai gwahanol, sy’n seiliedig ar ein cyngor. Bydd llawer ohonynt allan yn  ar  ‘Black Friday’. Yn sgil ein ffocws yn gweithio gyda busnesau yn hytrach na’u gorfodi, mae ond llond llaw o lefydd wedi eu herlyn. 

 

A oedd unrhyw le wedi ei erlyn gan nad oedd yr  hylif diheintio dwylo yn cydymffurfio gyda’r safonau?

 

Yn ffodus, nid oedd llawer o gwmnïau yn creu’r hylif diheintio yma, oni bai am ambell fragdy a oedd wedi dechrau gwneud hyn. Roeddem wedi cynnig cyngor iddynt er mwyn medru creu’r hylif. Roedd unrhyw beth a oedd yn methu cydymffurfio gyda’r safonau yn cael ei gasglu a’i ddifa. Roedd y wybodaeth wedi ei throsglwyddo wedyn i’r awdurdod cartref  er mwyn iddynt hwy gymryd camau gweithredu. Byddwn yn cadarnhau ag Aelodau'r nifer o achosion yr ydym wedi erlyn. Ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), rydym eto yn ceisio cynnig cyngor, yn gweithio’n agos gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, sydd wedi bod yn rhagweithiol yn cynnal gwiriadau. Mae busnesau Sir Fynwy wedi gwrando ar y cyngor a’i ddilyn. Rydym wedi cyhoeddi 22 hysbysiad gwella; 9 yn Lletygarwch, 6 yn Manwerthu Bwyd, 1 yn Manwerthu a 6 mewn gwasanaethau cyswllt personol agos, fel arfer siopau torri a thrin gwallt. 

 

Pa effaith y mae pasbortau Covid yn ei gael ar berfformiad y tîm?

 

Rydym wedi ceisio annog busnesau i gydymffurfio gyda phasbortau. Eto, mae cydymffurfiaeth wedi bod yn dda iawn.  Nid oes achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth gyda’r gofynion PPE. Bydd pasbortau yn ddefnyddiol iawn ar gyfer digwyddiadau sydd i’w cynnal e.e. y ras Nadolig ar Faes Rasio Ceffylau Cas-gwent gyda mwy na 8,000 o bobl. Nid yw’r Heddlu yn mynd i wneud unrhyw waith gorfodi ac felly, mae’r pwyslais ar fusnesau, sydd nawr yn cynnwys theatrau a sinemâu. Os ydym yn derbyn unrhyw gyhuddiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth, byddwn yn ymateb yn briodol.

 

Pwy sydd yn mynd i ofalu am Drwyddedu Strydoedd yn y Dyfodol?

 

Mae hyn dal yn cael ei drafod. Gan ddefnyddio Stryd  Cross yn y Fenni fel enghraifft, rhoddwyd grantiau ac rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Adran Briffyrdd. Bydd rhaid i ni adrodd nôl i’r Pwyllgor a chadarnhau’r manylion maes o law.  

 

A oes modd i ni fynd yn ôl i osod pwyslais ar fynd i’r afael gyda’r broblem o tipio anghyfreithlon yn y dyfodol?

 

Rydym wedi erlyn dau achos yn llwyddiannus, a dylai hyn ddanfon neges gref at eraill. Byddwn yn sicr yn ceisio rhoi blaenoriaeth i’r gwaith hwn eto Ond mae’n anodd dal troseddwyr, a hynny’n sgil amser a lleoliad y troseddau.   

 

Mae  Profi, Olrhain a Diogelu’ wedi bod yn wasanaeth ardderchog. A oeddech wedi trefnu hyn neu ai’r awdurdod iechyd sydd yn gyfrifol?

 

Mae’n cael ei ddarparu’n bennaf gan Gyngor Sir Fynwy. Mae staff gennym ar gytundeb sydd yn gweithio o fewn ein telerau ac amodau.   Rydym yn gweithio gyda phob achos o drosglwyddiad cymunedol sydd yn cynnwys mwy na 90%, tra bod y bwrdd iechyd yn delio gyda chleifion mewnol. Rydym yn delio gyda thua  80 o achosion y diwrnod. Rhaid i ni weithio gydag ysgolion er mwyn ceisio lleihau’r ymlediad. Mae’r gwasanaeth hwnnw wedi bod yn ardderchog. 

 

A yw’r cynnydd mewn cwynion  am reoli plâu yn ymwneud gyda gweini bwyd yn yr awyr agored neu mwy o bobl yn bwyta cludfwyd?

 

Mae modd ei briodoli o bosib i bobl yn aros gartref. Mae’r rhan fwyaf o gwynion yn dod gan aelodau’r cyhoedd ac nid ydynt yn ymwneud gyda busnesau. Mae’n medru bod mor syml â rhywun sydd yn gweithio gartref ac o bosib yn gweld llygoden ffyrnig yn mynd drwy’r ardd, sef rhywbeth na fyddent wedi gweld pe baent yn y swyddfa. Mae hyn yn  gwneud yn iawn am y gostyngiad yn y nifer sydd yn ymwneud gyda busnesau bwyd: roedd gwastraff bwyd wedi gostwng  oherwydd roedd yna gyfnod clo rhwng Rhagfyr a Mawrth, ac nid oedd busnesau bwyd ar agor. Mae’n gyson gyda’r cynnydd mewn cwynion am s?n: roedd hyn wedi cynyddu hefyd gan fod pobl yn treulio cymaint o amser gartref. 

 

O ran y synwyryddion ansawdd aer yn y pedair ysgol, mae’r adroddiad yn sôn am y ‘data a gasglwyd  a’r sgôp y bydd hyn yn offeryn addysgol bwysig’ - a yw hyn yn cael ei ddatblygu?

 

Rydym am ymgysylltu ysgolion  o ran hyn gan ei fod yn ymwneud gyda data byw. Roeddem wedi targedu Trefynwy a Chas-gwent gan fod yna gefnffyrdd sylweddol yn agos. Rydym yn ystyried hyn fel offeryn addysgol – os yw rhywun yn dioddef asthma, byddai’n ddefnyddiol cael gwybod os yw’r llygredd yn wael ar ddiwrnod penodol  er enghraifft. Nid yw hyn wedi digwydd eto oherwydd mae’r ysgolion wedi bod mor brysur yn ymateb i Covid.

 

Pa gyfran o fusnesau sydd wedi medru ail-ddechrau?

 

Tua 10% o’r 101 busnes newydd a agorodd yn 2020/21. Rydym yn gwthio am broses drwyddedu ar gyfer busnesau bwyd fel bod rhywun yn medru sefydlu busnes bwyd ar ôl colli swydd er enghraifft. Mae’n medru bod yn dipyn o faich  i ddechrau busnes bwyd, ac mae angen llawer o gyngor wrthym. Mae’r nifer o fusnesau sydd wedi agor wedi cynyddu ers yr adroddiad ac mae’r ffigwr erbyn hyn yn fwy na 170. Ni fyddwn yn gwybod yr union rif sydd wedi cau tan ein bod yn cynnal yr ymweliadau.  

 

A fydd yna broblem o g?n yn cael eu hesgeuluso pan fydd pobl yn mynd yn ôl i’r gwaith?

 

Mae hyn yn sicr yn bryder sydd wedi ei rannu gan elusennau gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r cytundeb  C?n Strae gennym sydd o bosib yn medru arwain at gynnydd yn y nifer o g?n strae. O’n persbectif ni, roedd  Operation Scout wedi ymweld ag eiddo yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar gan arwain at 240 o g?n yn cael eu symud oddi yno. Mae hyn yn codi cwestiynau yngl?n â ble y mae modd eu cadw ac yn rhywbeth i ni ystyried ac rydym wedi codi hyn gyda Llywodraeth Cymru. Gyda’r prosiect, rydym yn ceisio gwneud y cysylltiadau yma h.y. gyda thasglu’r llywodraeth a chynnig model i Gymru fel nad oes modd gwerthu un ci bach sydd heb ei gofrestru neu sydd heb drwydded. Efallai nad yw’n drwydded fasnachol ond byddai dal angen cofrestru. Byddai creu system ganolog ar gyfer casglu data  microsglodyn  yn bwysig iawn.

 

A yw Cyngor Sir Fynwy yn cynnig hyfforddiant ar gyfer tystysgrifau Hylendid Bwyd?

 

Mae ein tîm yn  darparu hyfforddiant hylendid bwyd, ond yn sgil y gwaith arolygu a cheisio cwblhau’r ôl-groniad, nid yw hyn wedi bod yn flaenoriaeth. Ni fyddwn yn gwneud hyn am sbel. Mae yna gorff arall o fewn Cyngor Sir Fynwy sydd yn darparu’r hyfforddiant, ac rydym yn gobeithio gweithio gyda hwy.   

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Mae’r pandemig wedi gosod llawer o bwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth  Diogelu’r Cyhoedd, a oedd eisoes o dan bwysau cyn y pandemig, ac felly, mae’r adroddiad hwn wedi ein caniatáu ni i gymharu’r gwaith yr oeddynt yn gwneud cyn y pandemig a'r hyn a wnaed yn ystod y pandemig.

Mae’r Gwasanaeth  Diogelu’r Cyhoedd yn gwneud gwaith eang iawn, sydd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach  Anifeiliaid Iechyd a Thrwyddedi. Rydym wedi clywed bod y cyfnodau clo wedi arwain at gynnydd yn y nifer o gwynion iechyd amgylcheddol, yn amrywio o s?n i  aflonyddu, tipio anghyfreithlon a chynnau tân a baw c?n, yn sgil mwy o bobl yn eu cartrefi a mwy o bobl yn gweld y digwyddiadau yma.    

 

Mae’r timau hefyd wedi gorfod delio gyda’r tasgau bob dydd, yn cynnal ymweliadau gyda sefydliadau er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag hylendid truenus yn ogystal â chefnogi busnesau yn ystod y pandemig. Rydym wedi clywed fod yna broblemau penodol ag adnoddau ym maes iechyd anifeiliaid yn sgil prinder staff a’r gwaith ychwanegol fel y rhaglen Bridio C?n, sydd yn  bartneriaeth y mae Sir Fynwy yn ei harwain.  

 

Mae ein gwaith craffu heddiw wedi ein harwain i ddod i’r casgliad fod y Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd wedi perfformio’n anhygoel yn ystod y pandemig, yn enwedig y Tîm Iechyd Amgylcheddol sydd wedi angen sefydlu Tîm  ‘Olrhain, Profi a Diogelu’ ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos ynghyd â’r cyfrifoldebau eraill. Rydym yn cydnabod fod darparu’r gwasanaeth ychwanegol hwn wedi bod yn dipyn o faich.  

 

Rydym yn cefnogi eich bod wedi mynegi’r pryderon yma am adnoddau gyda’r Cabinet. Hoffem ddiolch i chi a’ch tîm am eich gwaith pwysig ac rydych wedi ymgymryd  â’ch gwaith yn effeithiol iawn yn ystod cyfnod digynsail. Diolch i chi am gyflwyno eich adroddiad i ni heddiw. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Treharne bod yr elfen drwyddedi o’r adroddiad yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu.  

 

 

Dogfennau ategol: