Skip to Main Content

Agenda item

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Cofnodion:

Cyflwynodd Sharon Randall-Smith yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

Herio:

A allem gael mwy o fanylion am sut mae darpariaeth trochi hwyr yn gweithio?

Mae'r ddarpariaeth drochi hwyr yr ydym wedi'i nodi yn y CSGA wedi dechrau fel cynllun peilot – mae'r awdurdod lleol wedi ariannu hyn fel y gallwn ddatblygu'r model cywir i ni. Mae trochi Cymraeg yn edrych yn wahanol ym mhob awdurdod yn dibynnu ar eu man cychwyn, eu natur wledig, agosrwydd ac ati.  Rydym wedi gwneud ymchwil i wahanol fodelau gydag Ysgol Y Ffin: maent wedi ymweld ag ysgolion eraill sy'n cynnig darpariaeth drochi Cymraeg, wedi cael cyswllt â chydweithwyr ledled Cymru, wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ac wedi dechrau datblygu ein model ein hunain.  Ar hyn o bryd, mae gennym ddau ddisgybl yn derbyn cymorth Cymraeg dwys am gyfran o'r dydd, ac yna'n treulio amser yn eu dosbarthiadau eu hunain fel bod ganddynt fynediad llawn i'r cwricwlwm. Mae hyn yn Ysgol Y Ffin oherwydd bod hynny yn yr ardal lle gwyddom fod angen i ni dyfu'r cyfleoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyn gynted â phosibl.  Ond mae angen i ni edrych ar hyn yn ehangach ar draws yr awdurdod, gan ystyried ein dyhead i gael 120 fesul carfan – bydd angen i ni edrych ar y datblygiad hwn pan fyddwn yn edrych ar y drydedd ysgol yn ardal Trefynwy. Bydd y ddarpariaeth drochi bresennol yn edrych ar sut y gallwn gynyddu dros amser.  Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y gallwn wneud cais fel awdurdod lleol am grant trochi Hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg, o hyd at £100 mil – byddwn yn cyflwyno ein ffurflen gais cyn y dyddiad cau ar ddiwedd mis Mawrth, a byddwn yn gwybod sut y byddwn yn ei defnyddio i gyflymu'r pethau yr ydym eisoes wedi'u rhoi ar waith, yn enwedig hyfforddiant i'n hysgolion cyfrwng Cymraeg wrth gyflwyno technegau trochi.

Beth yw ein darpariaeth a'n strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â therapi lleferydd ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae hon yn her ar draws y rhanbarth, yn gyffredinol.  Mae gennym un aelod Cymraeg o'n tîm Anawsterau Dysgu Penodol, sy'n fuddiol iawn i ni a'n dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Bydd yn rhaid i ni weithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg yn y gwasanaethau sy'n cefnogi ein pobl ifanc gyda lleferydd ac iaith a chyfathrebu.  Mae Jacquelyn Elias a'i thîm yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr rhanbarthol i symud hynny ymlaen cyn gynted â phosibl.  Mae'n anodd iawn dod o hyd i rywun sy'n gymwys i ddarparu'r ddarpariaeth a hefyd yn siarad Cymraeg, felly'r uchelgais i wneud hynny o fewn oes y Cynllun.  Fodd bynnag, nid oes neb yn tanbrisio'r her honno.

O ran disgyblion sy'n symud o'r cynradd i'r uwchradd dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o ddisgyblion wedi cael eu tynnu'n ôl o addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd yr amgylchiadau yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.Sut y darperir ar gyfer y disgyblion hyn?  Beth mae'r cyngor sir yn ei wneud i helpu'r nifer sylweddol hon o ddisgyblion, ac osgoi draenio disgyblion o addysg gyfrwng Cymru yn y dyfodol?

Dewis rhieni ydyw, fodd bynnag, mae pryder bod y niferoedd sy'n trosglwyddo yn is nag y buont, yn hanesyddol. Rydym yn rhan o fwrdd partneriaeth newydd gyda Thorfaen er mwyn i ni edrych ar y materion a'r heriau sy'n codi yn ein disgyblion sy’n trosglwyddo, ac edrych ar ansawdd addysg, a sicrhau y gallwn gynyddu'r trosglwyddiad i Ysgol Gyfun Gwynllyw. Mae Ysgol Is Coed yng Nghasnewydd wedi sefydlu eu darpariaeth drochi i alluogi ac annog mwy o fyfyrwyr i symud o'r cynradd i'r uwchradd. Dros y cyfnod, gobeithiwn gynyddu'r gyfradd drosglwyddo.  O fewn y Cynllun, mae nodyn hefyd ein bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau lleol eraill i allu edrych ar ddarpariaeth uwchradd arall a allai alluogi rhai o'n dysgwyr i deithio mewn llai o amser i ddarpariaeth uwchradd.  Ar hyn o bryd gall disgyblion o Drefynwy ymdopi â’r daith i'r Fenni am y cyfnod cynradd, ond mae'n anodd ychwanegu'r amser teithio i Ysgol Gyfun Gwynllyw ar ben hynny – ceir trafodaethau ynghylch hynny o fewn Rhaglen Band C Ysgolion yr 21ain Ganrif.

O ran Deilliant 1 a mwy o blant 3 oed yn derbyn addysg drwy'r ddarpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg, o gofio bod nifer o feithrinfeydd yn breifat, sut fyddech chi'n rhagweld y bydd hyn yn digwydd?A roddwyd unrhyw ystyriaeth i ddarpariaeth feithrin dwy iaith?

Mae Deilliant 1 yn edrych ar gynyddu nifer y plant sydd mewn darpariaeth addysg gynnar.  Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Mudiad Meithrin, sefydliad sy'n ein helpu i sefydlu cyfleusterau gofal plant cyfrwng Cymraeg.  Mae tri yn y sir wedi'u cysylltu'n agos â'r ysgolion; o fewn oes y CSGA, ein nod yw cynyddu hyn i bump. Bydd hyn yn darparu hyd at 63 o leoedd, ychydig dros hanner yr hyn y byddem yn chwilio amdano erbyn diwedd y cyfnod o ddeng mlynedd.  Byddant yn ein helpu i ganfod a recriwtio ymarferwyr cyfrwng Cymraeg i weithio yn y lleoliadau hynny.  Mae'n her ac yn cysylltu â Deilliant 7 yngl?n â'r gweithlu. Yna bydd gan ein plant yr opsiwn o drosglwyddo i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg – mae un eisoes yn Ysgol Y Fenni, bydd un yn Ysgol Y Ffin, a byddwn yn edrych i'r ysgol newydd yn Nhrefynwy.  Mae gan ein hymarferwyr eisoes fynediad at gyfleoedd hyfforddi sylweddol i ddatblygu'r Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, sydd hefyd ar gael i ymarferwyr iaith Gymraeg.  Rydym yn ceisio meithrin sgiliau Cymraeg ar draws ein carfan gyfan o ddysgwyr.

Sut mae pobl sydd â sgiliau iaith gwahanol yn cael eu heffeithio? h.y. trochi o aelwyd lle siaredir Saesneg drwy'r amser yn erbyn un lle siaredir Cymraeg drwy'r amser?

Mae'r rhan fwyaf o'n dysgwyr sy'n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi cyfrwng Saesneg.  Rydym wedi canfod bod rhieni ar ryw adeg yn amharod i gymryd rhan mewn addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant os nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain.  Felly, rydym yn ceisio datblygu, drwy ein trochi, sut y gallwn gefnogi rhieni hefyd.  Gallwn edrych ar ddulliau llwyddiannus a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill.  Yn ystod y pandemig, mae ein hysgolion cyfrwng Cymraeg wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth ddarparu llawer o gymorth ychwanegol i rieni i gefnogi dysgu eu plant.  Gallwn hefyd edrych ychydig ymhellach ar sut rydym yn cynnig sesiynau cefnogol i rieni eu hunain.

Mae'r cynllun yn sôn am y niferoedd anghymesur sy'n dewis y tu allan i ddarpariaeth y sir – a oes unrhyw astudiaeth wedi'i gwneud ynghylch pam y dewisir Wyedean?

Nid ydym bob amser yn gwybod y rhesymau pan fydd myfyrwyr a rhieni yn gwneud eu dewis wrth drosglwyddo ym Mlwyddyn 7.  Weithiau, oherwydd bod eu brodyr a'u chwiorydd eisoes mewn ysgol, mae teuluoedd wedi symud i Sir Fynwy a bod ganddynt gysylltiad presennol â'r ysgol, ac efallai y bydd dewis yn seiliedig ar gynnig y cwricwlwm, sy'n wahanol iawn yng Nghymru.  Weithiau mae'r penderfyniad yn seiliedig ar sut mae'r rhieni'n teimlo am y plentyn fel dysgwr.  Mae'n batrwm tebyg mewn awdurdodau eraill sydd mewn sefyllfa debyg.  Mae agosrwydd Wyedean at Gas-gwent yn ffactor.  Mae darpariaeth bob amser ar gyfer teuluoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith, felly mae'r dewis yno i'r ddau.  Nid oes gan rieni sydd am gael darpariaeth Gymraeg yr un faint o ddewis â'r rhai sy'n ceisio darpariaeth Saesneg.  Pwrpas y CSGA yw cynyddu'r cyfleoedd i rieni gymryd rhan yn hynny a hyrwyddo nifer o fuddion dwyieithrwydd.

Byddai arolwg ar gyfer Cas-gwent/Wyedean yn ddefnyddiol.

Byddai'n rhesymol i ni edrych ar y rhesymau dros ddewisiadau trosglwyddo, ond ni allwn bob amser warantu bod yr hyn a gawn yn ôl yn ymateb cywir neu lawn. Wrth symud ymlaen, ni fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi fel na fydd hynny'n cael ei ddefnyddio fel mesur atebolrwydd o ran dewisiadau.

Mae'n siomedig nad yw'r ysgol newydd yn Nhrefynwy yn mynd i ddod i'r adwy nawr tan fis Medi 2023, yn enwedig gan ei bod yn daith hir i ddisgyblion yr ardal honno deithio i Ysgol Y Ffin ac Ysgol Gymraeg Y Fenni.

Mae'r awdurdod lleol wedi treulio cryn dipyn o amser yn ceisio dod o hyd i ateb addas ar gyfer Trefynwy, gydag ardaloedd y tu mewn a'r tu allan i'r dref wedi cael eu hystyried.  Yn ddiweddar, rydym wedi cadarnhau nad yw'r holl dir posibl o faint addas ar gael i ni, neu mae o fewn ardaloedd gorlifdir. Felly, rhaid i ni edrych o fewn ein darpariaeth bresennol yn awr i weld lle y gallwn gartrefu egin-ysgol, a fydd yn cynnwys ymgynghori ffurfiol, a chyfnod penodol o amser. Ond os gall y broses rywsut symud yn gyflymach nag a ddisgwyliwn, byddwn yn gwneud hynny.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch am yr adroddiad cynhwysfawr a'r diweddariad, yn enwedig mewn perthynas â thechnegau trochi hwyr.  Rydym wedi ystyried meysydd pwysig eraill megis ADY a throsglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd a materion gyda Gwynllyw, y mae angen i ni gadw llygad arnynt. Mae angen i ni bwyso ar ddarpariaeth uwchradd gyda threfniant teiran rhwng Powys, Blaenau Gwent a Sir Fynwy, sy'n bwysig iawn o ran amser teithio. Gwnaethom hefyd ystyried mater darpariaeth y blynyddoedd cynnar.  Mae'r her o ran y gweithlu yn sylweddol, ac yn bwysig iawn, yn ogystal â'r gefnogaeth i rieni.