Agenda item

Budget Monitoring

Cofnodion:

Roedd Tyrone Stokes a Nicola Wellington wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau gan aelodau.  

Her:

Nid oes digon o arian gan ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg; a ydych yn medru ehangu ar hynny a sut ydym yn delio gyda hyn? 

Gyda rhai ysgolion bach fel Ysgol Y Ffin, rydym wedi dysgu nad yw’r cyllid sydd yn cael ei bennu gan y fformiwla bob tro yn ddigon i dalu am gostau sefydlog yr ysgol. O dan y rheoliadau, rhaid i ni roi 70% yn seiliedig ar nifer y disgyblion, ac felly, os yw’r nifer yn llai, yna mae unrhyw arian dros ben yn medru cael ei wario yn erbyn costau’r safle a’r adnoddau, fel sydd yn digwydd mewn ysgolion mwy. Rydym yn gorfod delio gyda hyn bob blwyddyn ac rydym yn cynnig cymorth o dan y fath amgylchiadau. 

Nid oes digon o arian gan Ysgol Y Fenni. Rydym yn gweithio yn agos iawn gyda’r ysgol, yn ystyried y strwythurau staffio yn benodol. Mae’n ysgol sydd yn tyfu, gyda mwy o ddisgyblion yn dod i mewn, ond rydym yn credu y bydd adolygiad o’r strwythur staffio yn helpu gyda hyn.  

Diolch i’ch swyddogion am bob dim y maent yn ceisio gwneud er mwyn ceisio mantoli’r gyllideb. Mae’n anffodus bod Gwasanaethau Plant yn gorfod gorwario ei gyllideb bob tro.   

Nid yw hwn yn fater sydd yn effeithio ar Sir Fynwy neu Gymru’n unig ond mae’n digwydd ar draws y DU. Mae yna gynghorau fel Wakefield na sydd yn medru cynnig darpariaeth ar gyfer lleoliadau cost-uchel. Unwaith y mae awdurdod lleol yn mynd i ddarparwyr cost-uchel, mae’r darparwyr hynn yn gwybod nad oes opsiwn arall ar ôl gan yr awdurdod lleol. Rydym yn ceisio lleihau a negodi’r costau yma ond mae ein p?er dipyn yn llai na’r darparwr.  Rydym yn edrych ar ein Strategaeth Gwasanaeth Aml-Asiantaeth fel bod modd i ni gynnig mwy o gymorth drwy gyfrwng ein hadnoddau mewnol ond mesur dros dro yw hyn gan ein bod yn ceisio symud y plant yn ôl i’r sir ond mae hyn yn cael ei wneud nid yn unig ar sail cyllid – rhaid mai hyn yw’r peth cywir i’w wneud ar gyfer y plentyn Mae’r her gyfreithiol o ran gofalwyr dan berthynas  wedi ein harwain i gysoni’r cyfraddau yr ydym yn talu iddynt fel eu bod yn cyfateb i’r hyn yr ydym yn talu gofalwyr maeth. Nid oedd modd rhagweld hyn ac roedd yn gyfrifol am chwarter o’r gorwariant.

Mae Ysgol Uwchradd Cas-gwent eto mewn diffyg ariannol ond nid ysgolion eraill. A ydych yn medru cynnig rhai sylwadau am hyn? 

Mae Cas-gwent wedi wynebu sawl her sydd yn ymwneud gyda strwythur staffio y maent wedi ceisio ei weithredu Yn anffodus, oedwyd yr ailstrwythuro yn sgil y pandemig, ond mae wedi ei weithredu ers y mis hwn. Bydd yn cymryd amser cyn bod yr arbedion yn cael eu sicrhau ac roeddynt wedi wynebu blwyddyn o gostau uwch oherwydd dechreuodd y pandemig pan oeddynt am wneud y newid i’r strwythur staffio. Mae eu cynllun adferiad yn adlewyrchu’r oedi yma o ran yr amserlenni. 

O ran y gyllideb ADY, pa incwm sydd yn cael ei dderbyn er mwyn mantoli’r gyllideb nawr nad yw Mounton House yn weithredol mwyach?

Ydy, mae Mounton House wedi derbyn incwm gan fyfyrwyr sydd wedi eu gosod yno gan awdurdodau eraill. Mae’r incwm yr ydym yn derbyn nawr ar gyfer disgyblion sydd yn cael eu gosod yno gan awdurdodau lleol yn ein hysgolion prif ffrwd.   

Crynodeb y Cadeirydd:

O ran y ddarpariaeth ysgolion, nid ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa mor bositif: roedd llawer iawn mwy o ysgolion mewn diffyg ariannol ychydig yn ôl. Efallai mai’r unig beth positif sydd wedi dod o Covid yw’r help gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion fel eu bod mewn sefyllfa well. Mae bron yn amhosib rheoli cyllideb Gwasanaethau Plant ac mae’r pwyllgor am roi diolch i’r swyddogion am eu gwaith caled parhaus.