Agenda item

New School in Abergavenny

Trafod y themâu sy’n dod i’r amlwg yn dilyn cau’r ymgynghoriad ar 22 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Roedd Will McLean wedi rhoi cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau’r aelodau.

Her:

Yn sgil y lefel isel o adborth gan y gymuned, a’r niferoedd sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad o’u cymharu gyda’r hyn sydd yn digwydd mewn ymgynghoriadau ar brosiectau tebyg eraill, a fydd angen cynnal ymgynghoriad pellach?  

Yn yr adolygiad o’r ardal dalgylch, roedd y rhan fwyaf o bobl yn bositif ond nid oeddynt wedi mynegi eu barn, ac felly, roedd y sawl a oedd yn gwrthwynebu wedi dominyddu. Pan oeddwn wedi gohirio’r ymarfer ac wedi ei gynnal eto yn y blynyddoedd diwethaf, un o’r darnau allweddol o adborth oedd bob pobl yn credu fod hyn yn mynd i ddigwydd ‘ta beth, ac felly heb gymryd rhan. Mae rhai o’r dulliau sydd wedi ei hamlinellu wedi cyffroi pobl - roedd  y ddadl ynghylch sefydlu darpariaeth a gynhelir/nas cynhelir wedi arwain at nifer o bobl yn lleisio barn amlwg.  Mae’r niferoedd sydd wedi cynnig adborth felly yn weddol debyg. Mae’r digwyddiadau ymgynghori sydd wedi eu cynnal wedi rhoi sicrwydd i bobl. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu fod angen ymgynghoriad pellach o ran llywodraethiant, er y bydd yna gryn dipyn o ymgynghori ar sut y bydd yr ysgol yn edrych, yn gweithredu ayyb. Mae  Tim Bird wedi ymuno gyda’r tîm o Ysgol Gyfun Trefynwy, lle’r oedd yn gyfrifol am ddarparu’r prosiect llwyddiannus a oedd gennym yno. Bydd yn medru cynnig profiad o’r cydweithredu a’r ymgysylltu a wnaed yno ac yn rhan o’r gwaith y byddwn yn ei wneud gydag ysgolion yn y dyfodol.  

Os mai’r penderfyniad yw mynd am feithrinfa nas cynhelir ym Mlwyddyn 3, ni fydd unman gan y plant Dechrau Deg i fynd iddo. Oni fydd Blwyddyn 3 yn dod yn elitaidd ac ar gyfer y bobl sydd yn medru fforddio talu am yr addysg honno?

Mae yna gynllun i adleoli ychydig o’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg a’i chynnwys yn y lleoliad ysgol newydd, a fydd yn fuddiol, a chadw’r Ganolfan    Acorn Centre ar safle Deri View ar gyfer y ddarpariaeth  Dechrau’n Deg. Felly, rydym am ehangu a datblygu’r cyfle ar gyfer ymgysylltu rhieni, a chefnogi’r plant hynny hefyd.  Rydym  yn anelu i greu’r ymdeimlad hyn o ran canolfannau teulu  a phlant; rydym yn gwybod pa mor bwysig yw 1000 diwrnod cyntaf plentyn a chyn bwysiced yw’r ffordd y maent yn symud i ddechrau bywyd ysgol. 

A ydym yn medru ystyried teithio ar gyfer plant sydd yn dymuno parhau i astudio yn y Gymraeg ar ôl TGAU, os nad oes opsiwn iddynt wneud hyn o fewn Sir Fynwy?

Roeddem yn credu bod y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn ddatblygiad positif gan y byddai’n rhoi datrysiad o fewn y sir ar gyfer medru cynnig addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl ysgol gynradd, ond wedi trafodaethau gyda chydweithwyr yn y fforwm, maent wedi bod yn eglur yngl?n â’r ffaith y byddai hyn yn effeithio ar brofiad y plant yma. Mae’r trafodaethau sydd i’w cynnal gyda chydweithwyr ym  Mlaenau Gwent, Merthyr a de Powys yn meddu ar y potensial i greu cyfle hyfyw yn y dyfodol. Os yw Ysgol Y Fenni yn symud i fod yn ysgol dwy ffrwd cyn hir, bydd  Ysgol Y Ffin yn dod yn ysgol un ffrwd - yn ehangu i 210 -, a gobeithio y bydd capasiti ychwanegol yn cael ei gyflwyno yng Ngogledd Ddwyrain y sir. Ond ni fydd y niferoedd hynny hyd yn oed yn cynnig digon o niferoedd i ni fedru cael ein darpariaeth uwchradd ein hunain yn Sir Fynwy.  Felly, bydd rhaid cydweithio ag eraill am gyfnod er mwyn symud ymlaen, ond bydd rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r pwynt am gludo disgyblion.   

A yw’n beth da i symud i gael un corff llywodraethu ar gyfer tair  elfen o addysg?

Mae’n bosib dweud yr un peth am gorff llywodraethu ar gyfer ysgol uwchradd fawr iawn.  Wrth i ni fynd drwy’r broses o ddwyn y corff llywodraethu at ei gilydd, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar y sgiliau a’r profiadau sydd angen arnom er mwyn sicrhau bod yr ysgol newydd - os byddwn yn mynd i’r cyfeiriad hwn - yn llwyddiannus. Ar draws y sir, mae  ein llywodraethwyr yn manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol a gynigir drwy’r GCA ac maent yn gwneud gwaith da iawn fel eiriolwyr ar ran y disgyblion yn eu hysgolion.  

Mae yna fanteision o gael darpariaeth meithrinfa breifat, a hynny o ran y gofal cofleidiol, ond mae yna risgiau hefyd. Mae’r risgiau yn cynnwys fod hwn yn fusnes sydd yn gorfod gwneud arian; mae darparwyr meithrinfeydd wedi dweud ei fod yn amhosib dibynnu ar yr arian sydd yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn unig ar gyfer llefydd yn y feithrinfa  - dyna pam fod y rhan fwyaf o ddarpariaeth breifat yn gofyn am daliadau ychwanegol. Mae hyn yn medru bod yn hynod anodd ar gyfer teuluoedd ar incwm isel - weithiau, mae’n  golygu nad ydynt yn manteisio ar y llefydd sydd ar gael neu’n  dewis cymryd llai o oriau na’r hyn y maent yn gymwys ar ei gyfer. Felly, mae yna bryderon sylweddol yngl?n â sut y bydd hyn yn digwydd. Pa fesurau sydd yn cael eu rhoi yn eu lle er mwyn atal hyn rhag digwydd? Mae busnesau preifat yn medru methu - pa fesurau sydd yn cael eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau bod y feithrinfa yn parhau ar y safle? Sut y byddwn yn sicrhau bod darparwr meithrinfa yn sicr o ddod i’r safle, a hynny o feddwl am y drafferth o sicrhau darpariaeth debyg mewn ysgol yn ne’r sir? 

Yn y broses o fynd i’r afael gyda hyn, mae’r defnydd o’r gair ‘preifat’ yn anffodus,  gan ein bod yn eglur mai lleoliad nas cynhelir yw hwn ac mae nifer o fodelau gwahanol ar gael. Yn Y Fenni,   mae sawl meithrinfa yn cael eu rheoli gan bwyllgorau a modelau llywodraethiant na sydd yn cael eu gyrru gan elw. Mae modd cynnal lleoliad nas cynhelir mewn nifer o ffyrdd. Mae pob plentyn yn gymwys ar gyfer 10 awr o addysg feithrin bob wythnos ac sydd am ddim, ac wedi hyn, mae yna lwfans gofal plant 30 awr ar gael, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Felly, rydym yn teimlo fod yna gyfleoedd ychwanegol, a chyllid ychwanegol  i ni fanteisio arno, er mwyn cefnogi oriau ychwanegol, a chyrraedd sefyllfa lle y mae plentyn yn medru derbyn 30 awr o ofal yn y lleoliad hwnnw.  Rydym yn ceisio dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng caniatáu pobl i gael mynediad at addysg feithrin ond hefyd yn caniatáu pobl i fynd yn ôl i’r gwaith os ydynt yn dymuno gwneud hynny er enghraifft. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi ei bod am weld hyn yn digwydd. Mae darpariaeth addysg feithrin yn Sir Fynwy yn economi gymysg mewn gwirionedd, gyda mwy o leoliadau nas cynhelir na’r rhai a gynhelir, er bod y niferoedd sydd yn mynychu yn weddol debyg. Mae yna fanteision eraill, fel medru cynnig 48 wythnos drwy gydol y flwyddyn a’r cynnig o 30 awr o ofal plant, a hynny o’u cymharu â lleoliad a gynhelir sydd ond yn cynnig darpariaeth yn ystod term ysgol. Felly, tra bod yna bryderon dealladwy am hygyrchedd, mae yna fanteision yn perthyn i’r cynnig hwn hefyd. 

A fydd yna CAA cynradd ac uwchradd? A yw'n gydnabyddiaeth fod anghenion ADY yn cynyddu ar draws y sir? Os caiff CAA ei sefydlu, a fydd hyn yn effeithio ar Gil-y-coed neu’r sir gyfan o ran lleihau’r capasiti mewn llefydd eraill?

Rydym yn sylwi ar dwf yn y nifer o blant sydd angen cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ar draws y sir. Un o’r meysydd mwyaf o ran galw yw plant sydd ag anghenion niwroddatblygol, gyda 36% o’r rhai hynny yn meddu ar ddatganiad.  Rydym am ddarparu darpariaeth arbenigol ar gyfer y plant hynny. Mae’r ddarpariaeth gyfredol yn Nghil-y-coed, Trefynwy, Deri View, ayyb. oll yn darparu ar gyfer ystod o anghenion gwahanol ond wedi i ni weld y dystiolaeth a’r gwaith sydd angen ei wneud ar gyfer hyn yn y dyfodol, roedd yn amlwg fod angen i ni ffocysu’n benodol ar anghenion niwroddatblygol cymhleth. Os ydym yn dilyn yr hyn sydd yn rhan o’r broses ymgynghori, bydd un CAA gan mai un ysgol fydd yno. Mae ysgol pob oed yn fodel sydd yn aml i’w weld mewn darpariaethau arbenigol annibynnol. O ran y broses ddylunio, byddwn yn gweithio gydag arweinwyr y lleoliadau presennol er mwyn deall yr hyn sydd yn gweithio orau.  

Nid oedd y ddogfen ymgynghori wedi sôn am fanteision ac anfanteision darpariaeth a gynhelir a darpariaeth nas cynhelir? O ran y 60 lle sydd wedi ei grybwyll, rydym yn tybio y bydd 30 yn y bore a 30 yn y prynhawn, ac felly, ni fydd cyfle i elwa ar y 30 awr o ofal plant am ddim y maent yn gymwys i’w dderbyn? A yw hyn wedi cael ei ystyried yn ddigonol?

Roedd y mater yma wedi ei drafod yn helaeth mewn cyfarfodydd. Roedd yna lefelau gwahanol o bryder. Roedd yna bryder  amlwg a fyddai yna ddarparwr preifat ar gael tra bod yna ail bryder yngl?n â natur a ‘rheolaeth’ y lleoliad a’r ddarpariaeth ac ymdeimlad y byddai plant yn elwa’n fwy pe baent o dan ‘rheolaeth’ yr ysgol rhwng bod yn 3 mlwydd oed a gweddill eu hamser yn yr ysgol. Ond mae yna esiamplau o leoliadau nas cynhelir ar safleoedd ysgol sydd yn gweithio’n dda iawn, gyda lefel dda o integreiddio. Roedd y trydydd pryder yn ymwneud gyda hygrededd a rhoi cyfleoedd cyfartal. Mae’n ysgogiad da yngl?n ag ystyried sut y dylem ymgysylltu yn y dyfodol. Yn y papur Cabinet, rydym yn ymwybodol o’r ymhelaethu ar y farn sydd wedi ei mynegi ac ystyried manteision ac anfanteision y darpariaethau a gynhelir/nas cynhelir. Rydym am ystyried yr hyn yr ydym yn medru ei wneud, a hynny o fewn ffiniau'r cod wrth i ni symud ymlaen.  

Rwyf yn bryderus iawn yngl?n â  chael meithrinfa nas cynhelir ar y safle. Mae  47% o blant Deri View yn cael Prydau Ysgol am Ddim ac mae hyn yn cynyddu - y ganran uchaf yn Sir Fynwy. Mae 40 o lefydd ADY wedi eu hariannu ac 20 heb eu hariannu, ac felly mae 25% yn y gr?p hwnnw. Mae 13% yn siarad Saesneg fel ail iaith. Felly, mae sefyllfa benodol iawn gennym. Mae darparydd preifat yn golygu diffyg rheolaeth gan nad yw o dan reolaeth y Pennaeth, yr uwch dîm rheoli neu’r llywodraethwyr.   I gael sefyllfa lle y mae angen pontio o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 3 nas cynhelir ac yna nol i’r Dderbynfa, wel mae hyn yn ymddangos yn  afresymegol. Ni fydd y rhieni yn medru fforddio’r gofal. Mae’r posibilrwydd ein bod yn colli’r holl waith caled sydd wedi ei wneud gan yr ysgol er mwyn sicrhau bod  y plant yma yn derbyn y gofal gorau a’r profiad pontio gorau - mae hyn yn echrydus. Nid oes unrhyw sôn am y rhieni yn  Deri View sydd wedi, gyda chefnogaeth cynghorwyr y dref, cyflwyno deiseb yn gofyn am barhau gyda’r ddarpariaeth a gynhelir. 

O ran y ddeiseb a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf o’r Cyngor llawn, efallai mai’r hyn y dylid gofyn yw a fyddai rhywun yn dymuno derbyn 6 awr o ofal plant am ddim y diwrnod, gan gynnwys addysg feithrin, mewn lleoliad a reoleiddir a’i arolygu gan  Estyn, gyda staff wedi eu cymhwyso mewn datblygiad plant ac yn datblygu ac yn darparu’r cwricwlwm i Gymru, o’i gymharu gyda’r 2.5 awr y maent yn derbyn ar hyn o bryd. Beth yw’r ateb o bosib? Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld mwy o hyblygrwydd o ran ein darpariaeth feithrin. Mae’n amlwg fod yna farn wahanol yngl?n â hyn a rhaid i ni dreulio amser nawr yn ystyried y manteision sydd ar y ddwy ochr. Gobeithio y bydd pwyntiau a nodwyd yn rhoi’r hyder i aelodau mewn lleoliadau nas cynhelir. Rhaid i ni fod yn ofalus pan yn trafod y mater nad yw 50% o’r rhieni yn y sir yn cael yr argraff anghywir  am y cwricwlwm,  gofal, arolygon ayyb.

Mae disgyblion a staff Brenin Harri’r VIII yn haeddu safle gwell na’r hyn sydd ganddynt. Mae Ysgol Gymraeg Y Fenni o dan ei sang: mae angen adeilad newydd bob blwyddyn er mwyn delio gyda’r disgyblion newydd sydd yn golygu bod yr ardal chwarae yn mynd yn llai ac yn llai. Yr amserlen a roddwyd y bore yma yw 3 mlynedd. A oes modd ymdrin â’r sefyllfa yn   Ysgol Gymraeg Y Fenni fel bod modd i ni symud ymlaen ynghynt gyda’r datblygiad?  

Rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau yn Ysgol Y Fenni. Mae 252 o ddisgyblion yno ar hyn o bryd a’r capasiti nawr yw  317, ac eithrio’r ddarpariaeth o ran y feithrinfa. Ac felly, mae yna le ar gyfer mwy o ddisgyblion. Rydym yn falch o weld twf addysg Gymraeg yng ngogledd y sir. Nid ydym yn credu fod yna unrhyw ffordd i gyflymu’r broses - y prif nod yw gweithio yn unol ag amserlenni’r prosiect. Mae’r amserlen ar gyfer y gwaith adeiladu yn heriol yn ogystal â sicrhau bod yr ysgolion yn symud draw yn y ffordd briodol.  

Mae problemau capasiti gydag Ysgol Gymraeg Y Fenni tra bod Ysgol Gymraeg Y Ffin angen mwy o blant.  A oes modd edrych ar ddau ddalgylch gyda’i gilydd? 

Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn Ysgol Y Ffin. Mae ehangu i 210 yn mynd i roi’r cyfle i gynnig gofal cofleidiol, ac rydym am ei gweld yn llwyddo fel ysgol lawn. Os oes modd gwneud rhywbeth am y dalgylch, yna byddwn yn gwneud hynny. Rydym am ystyried gogledd ddwyrain y sir hefyd o ran darpariaeth addysg cyfrwng  Cymraeg ychwanegol, ac felly, bydd angen i ni ystyried y dalgylch ar gyfer pob un o’n hysgolion cyfrwng Cymraeg.  

Crynodeb y Cadeirydd:

Ar y cyfan, mae’r pwyllgor o blaid y datblygiad. Mae adeilad Brenin Harri wedi bod mewn cyflwr truenus am gryn dipyn ac nid yw’n addas i’r diben. Mae’r ysgol yn ddarparwr sylweddol, yn gwasanaethu ardal fawr. Mae’n bwysig fod pobl sydd yn byw yn Sir Fynwy yn medru danfon eu plant drwy’r ysgolion sydd oll wedi eu lleoli yn y sir, os yn bosib. Mae yna bryderon am Deri View yn symud, ac rydym yn gwerthfawrogi hyn. Mae’n un o’r ardaloedd heriol yn y dref, ac yn yr awdurdod, o ran lefelau amddifadedd, darpariaeth prydau ysgol am ddim ayyb. Mae angen cryn dipyn o ofal felly wrth i ni drosglwyddo’r ysgol honno - mae symud yn medru bod yn drawmatig i blant a hyd yn oed i’r staff, ynghyd â rhieni.

Y prif beth i’w nodi yw’r gwrthwynebiad at ganolfan nas cynhelir ar gyfer plant ifanc sy’n 3 mlwydd oed, yn enwedig gan fod hon yn ardal o amddifadedd uchel – mae gofal plant mewn teuluoedd sydd ag adnoddau yn gostus ond yn fforddiadwy, ond mae hyn yn fwy o broblem ymhlith teuluoedd incwm isel. Ni fyddem yn argymell ein bod yn mynd yn ôl i ymgynghori gan y bydd hyn yn oedi’r broses eto. Gan ein bod nawr yn symud at wneud penderfyniad, fel awdurdod,  ac os oes modd ailystyried y ddarpariaeth addysg feithrin, yna nid oes gwrthwynebiad gan y pwyllgor hwn –  mae’r adborth fel arall wedi bod yn bositif. 

 

Dogfennau ategol: