Cofnodion:
Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r wyth amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanbadog y cyfarfod trwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau a ganlyn:
· Mynegwyd pryder y gallai'r tir rhwng Fferm Henrhiw a'r Ysguboriau fod wedi gwahanu.
· Roedd y ddwy sied y cytunwyd arnynt yn benderfyniadau a ddirprwywyd gan swyddogion beth amser yn ôl.
· Mynegwyd pryder y byddai uchder yr adeiladau arfaethedig yn ormodol ar gyfer lleoliad gwledig a gofynnwyd a oedd angen adeilad o'r fath ar gyfer ffermio defaid.
· Mae angen ail-werthuso'r safle cyfan.
· Mae'r cais am y garafán breswyl ar y safle i'w lleoli filltir i ffwrdd ac mae ar wahân i Fferm Henrhiw.
· Ystyriwyd nad oedd y byndiau ar y safle wedi'u cytuno.
· Mae rhan o safle'r cais wedi'i lleoli ar safle llawr caled anawdurdodedig. Ystyriwyd na ddylid cymeradwyo'r cais felly.
· Gofynnodd yr Aelod lleol i'r Pwyllgor Cynllunio ohirio ystyried y cais i gynnal adolygiad llawn o'r cynnig a chynnal archwiliad safle.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Mae'r adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol a storio offer.
· Mae angen yr adeilad newydd arfaethedig gan nad yw'r adeiladau presennol yn addas at y diben ar gyfer ehangu'r ddiadell ddefaid. Mae angen i'r adeilad arfaethedig fod yn uchder penodol i ganiatáu awyru a byddai'n cynorthwyo i ehangu'r fenter hon.
· Mae'r fenter yn uned ar wahân i'r brif fferm.
· Roedd rhai Aelodau o'r farn y byddai archwiliad safle yn fuddiol cyn penderfynu ar y cais.
· Bydd cymeradwyo'r cais yn awdurdodi'r elfen o lawr caled a amlinellir yn yr adroddiad.
· Dim ond am gyfnod cyfyngedig o amser y mae defaid y tu mewn. Mae poly-twnneli yn opsiwn arall i'w ddefnyddio adeg ?yna.
Crynhodd yr Aelod lleol trwy fynegi ei chefnogaeth o poly-twnnel ar y safle yn lle'r adeilad amaethyddol ychwanegol arfaethedig.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir D. Evans y dylid cymeradwyo cais DM/2020/00636 yn ddarostyngedig i'r wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Cynigiwyd hefyd gan y Cynghorydd Sir A. Webb ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir S. Woodhouse ein bod yn bwriadu gohirio ystyried cais DM/2020/00636 i ganiatáu i'r Pwyllgor Cynllunio gynnal archwiliad safle cyn ailgyflwyno'r cais i Bwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w benderfynu.
Yn gyntaf, ystyriodd y Pwyllgor Cynllunio'r cynnig i gymeradwyo'r cais, fel a ganlyn:
O blaid cymeradwyo - 7
Yn erbyn cymeradwyo - 7
Ymataliadau - 0
Roedd y bleidlais yn gyfartal. Felly, arferodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw a phleidleisiodd yn erbyn cymeradwyo.
Ni chariwyd y cynnig.
Ystyriodd y Pwyllgor Cynllunio'r cynnig i ohirio'r cais i gynnal archwiliad safle cyn ailgyflwyno'r cais i Bwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w benderfynu.
O blaid gohirio - 10
Yn erbyn gohirio - 3
Ymataliadau - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynom ein bod yn bwriadu gohirio ystyried cais DM/2020/00636 i ganiatáu i'r Pwyllgor Cynllunio gynnal archwiliad safle cyn ailgyflwyno'r cais i Bwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w benderfynu.
Dogfennau ategol: