Agenda item

Craffu’r Prosiectau Adfywio arfaethedig a’r Ceisiadau am Grantiau Creu Lleoedd (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd Mark Hand yr adroddiad a’r atodiadau ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda Dave Loder:

 

Her:

Y cynnig i Lywodraeth Cymru am £554k – a oes ganddi unrhyw lais am y cyflwyniad dangosol a’r ffordd y caiff ei ddyrannu?

 

Mae’r cyllid yn gadarn. Mae’n ddegfed rhan gyfartal o’r swm a ddyrannwyd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Caiff ei weinyddu gan Rhondda Cynon Taf, sy’n broses a ddefnyddiwyd o’r blaen. Mae cwpl o gamau: yn gyntaf, cael cymeradwyaeth aelodau i’r hyn rydym yn ei awgrymu. Mae hefyd gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru eu bod yn hapus y bydd y prosiectau yn cyflawni’r deilliannau gofynnol ac yn diwallu telerau ac amodau’r grantiau. Yna mae’r trosolwg gan gydweithwyr ar sail ranbarthol – gan mai Rhondda Cynon Taf sy’n gweinyddu, nhw sy’n gyfrifol am y telerau ac amodau. Ar gyfer cyllid yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddo ffitio gyda strategaethau ehangach e.e. rhan arall o’r cyllid grant y gwnaethom gynnig iddo yw arian i ddatblygu, mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Cas-gwent, strategaeth gynhwysfawr ar gyfer y dref, gan  gysylltu gyda’u Cynllun Lle. Rydym hefyd wedi cyflwyno Trefynwy ar gyfer yr un peth rhag ofn fod arian dros ben. Os yw’r cyllid ar gael y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno cynnig ar gyfer y Fenni. Mae gennym strategaethau cynhwysfawr ar waith eisoes ar gyfer Cil-y-coed a Brynbuga. Ond rydym angen i’r dogfennau hynny fod yn eu lle i sicrhau y caiff y cynigion eu llywio yn y dyfodol a’u bod yn gydnaws gyda strategaethau ehangach a gytunwyd. Ond oes, mae cam lle mae Llywodraeth Cymru yn gwirio fod yr arian cywir yn cael ei wario ar y pethau cywir. Mae gennym ddialog barhaus a pherthynas gadarnhaol gyda’r swyddogion dan sylw.

 

Sut y bydd cymryd £250k o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer Theatr y Borough yn effeithio ar y prosiectau a amlinellir yn y cynigion dangosol?

 

Caiff Theatr y Borough ei restru yn Atodiad 2. Mae’r dyraniad o £250k a awgrymir yno eisoes. Nid yw’n effeithio ar ddim o’r cynigion eraill. Awgrymwn fod Heol yr Eglwys, Cil-y-coed yn mynd yng nghyflwyniad drafft 2022-23. Rydym ar fin sicrhau cyllid Teithio Llesol ar gyfer y llwybr hwnnw, a fyddai’r flwyddyn ariannol hon felly byddem yn defnyddio cyllid Teithio Llesol y flwyddyn ariannol hon a’r arian cyfatebol sydd ei angen gan Gyngor Sir Fynwy, a byddai arian Trawsnewid Trefi ar gyfer y flwyddyn newydd yn mynd â’r prosiect yn ei flaen. Yn gryno, gallai prosiectau Heol yr Eglwys a Theatr y Borough ill dau ddigwydd, ynghyd â’r prosiectau eraill a restrir yn y tabl.

 

Mae gennym gyfran 10% o’r grant creu lleoedd. A yw’r cynnig £75k ar gyfer Cas-gwent allan o’r grant hwnnw?

 

Na, mae tri pot gwahanol Trawsnewid Trefi. Y cyntaf yw’r grant creu lleoedd (£791k) a restrir yn atodiad 2. Mae hefyd gronfa refeniw, lle gwnaethom roi’r £75k ar gyfer strategaeth gynhwysfawr Cas-gwent. Y trydydd pot yw’r gronfa fusnes, lle’r ydym hefyd wedi rhoi rhai cynigion. Caiff eitemau eraill ar gyfer Cas-gwent (heblaw’r £75k ar gyfer y gronfa refeniw) eu rhestru yn erbyn y grant creu lleoedd a’r gronfa fusnes.

 

Bu’r hyn a wnaed yng Nghas-gwent yn y cyfamser yn hwyr yn y dydd ac eisoes yn disgyn yn ddarnau – pam nad ydyn ni’n cael y cyllid i unioni hynny?

 

Os yw’r Cabinet yn cymeradwyo y bydd y mesurau interim yn aros yn eu lle am fwy o amser, yna bydd yn rhaid ystyried rhai pethau fel palmant botymog eto ac ail-wneud yn unol â hynny. Fel mesur tymor byr, gofynnwyd i’r contractwr ddychwelyd a thrin y problemau uniongyrchol. Byddwn yn trafod cynnal a chadw y grisiau coffa gyda chydweithwyr. Ni wyddem am y problemau gyda’r tybiau blodau, ond gallwn adolygu eu hansawdd a’u hatgyweirio neu roi rhai newydd. Os yw’r Cabinet yn penderfynu peidio ymestyn y mesurau, yna ni fyddem yn gwneud hynny. Mae angen archwiliad diogelwch ar y croesiad sebra; mae gwaith yn mynd rhagddo a byddir yn hysbysu’r aelod am y sefyllfa ddiweddaraf. Byddai’r cyllid a drafodir yn rhoi cwmpas i ni edrych ar y mesurau a gweld os oes rhai a allai weithio’n well.

 

Felly a fydd yn rhaid i ni aros i’r arian hwn ddod trwodd i broblemau yng Nghas-gwent gael eu trin?

 

Na, mae angen i ni aros penderfyniad y Cabinet ar p’un ai i ymestyn y mesurau dros dro – unwaith fod y sicrwydd hwnnw gennym, gallwn wneud y gwelliannau angenrheidiol. Nid yw gosod tarmac newydd yn dibynnu ar unrhyw beth yn y papur hwn; cafodd yn awr ei gostio a rydym nawr yn ystyried y drefn gwaith, a bydd angen sgwrs gyda’r aelod ar wahân i’r cyfarfod hwn.

 

Mae’r rhestr yn Atodiad 2 yn ymddangos fel ychydig o fait accompli. Pa brosiectau eraill gafodd eu cyflwyno na chyrhaeddodd y rhestr yma?

 

Rydyn ni wedi ni wedi mynd drwy lawer o waith i ddynodi prosiectau a awgrymwyd a phenderfynu beth y gellir ei gyflawni; fe ddaethant, yn bennaf, o’r adolygiad o gyfarfodydd Ailagor Trefi gyda chynghorwyr sir, cynghorau tref/cymuned a chynrychiolwyr cydnerthedd busnes neu siambrau masnach. Aeth adroddiad blaenorol i’r pwyllgor hwn drwy’r awgrymiadau a’r canfyddiadau hynny. Rydyn ni hefyd yn cynnal gweithdy i swyddogion aml-ddisgyblaeth lle mae cydweithwyr yn cyflwyno llwyth o wahanol syniadau. Eleni, yn neilltuol, cafodd ei yrru’n bendant iawn gan yr hyn y gellir ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, os daw syniadau eraill i law, gellir eu hystyried.

 

Ydyn ni’n bwriadu llofnodi siarter Creu Lleoedd Cymru, ac ydych chi’n gweld hynny’n cael ei glymu mewn i’r strategaethau presennol?

 

Ydw. Dylai adroddiad Cabinet ar gyfer 15 Medi gael ei gyhoeddi yn yr ychydig ddyddiau nesaf lle’r ydym yn argymell llofnodi’r siarter. Mae’n sylfaen i hyn i gyd, gan mai creu lleoedd yw’r syniadau ehangach am sut ydym yn trin adfywio ffisegol. Ond mae hynny eisoes wedi ei ymwreiddio mewn polisi cenedlaethol a llawer o’r hyn a wnawn.

 

Os nad yw trefi eisiau parhau gyda’r trefniadau dros dro, a fedrai fod trefniant rhannu, lle mae rhai’n parhau gyda’r rheoliadau diwygiedig ac eraill yn dychwelyd i’r sefyllfa flaenorol?

 

Gallai, efallai y bydd y Cyngor eisiau symud ymlaen ond yn credu fod angen i ni ymgynghori mewn cymunedau, er enghraifft. Mae’r penderfyniad i gadw’r mesurau dros dro mewn rhai trefi ond eu tynnu o eraill yn bosibl, naill ai ar y dechrau neu dros y cyfnod 18-mis, fel y cwyd yr angen.

 

Yng nghyswllt Atodiad 1, a fu unrhyw geisiadau ar gyfer grantiau i drawsnewid o fanwerthu i breswylio?

 

Dim eto, ond nid yw’r meini prawf a chyfleoedd grantiau yn y cylch cyhoeddus eto. Unwaith y cafwyd cytundeb gan y Cabinet, byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i bethau fel y cynllun amlen i geisio cynyddu’r galw. Mae’r tîm Tai yn cynnal gwaith ar wahân i asesu pa gyfleoedd sydd yna ar gyfer defnyddiau preswyl yng nghanol y dref. Os yw hynny yn ffrwd cyllid a gyflwynwn, yna byddwn yn rhagweithiol wrth ei hyrwyddo. Ar gyfer y cynnig Blwyddyn 1, byddai angen i gyllid fod ar gael erbyn 31 Mawrth 2022, ond mae hynny’n rhywbeth y gallwn ei gynnwys yng nghynnig 2022-23. Mae hyn yn rhan o’n rhesymeg dros gyflwyno rhaglen dwy-flynedd, gan fod gan rai pethau amser arwain i mewn hir.

 

Unwaith y’i cymeradwywyd gan y Cabinet, fyddwn ni’n hysbysebu i’r gymuned fusnes yn gyffredinol y bydd y grantiau hyn ar gael?

 

Byddwn, byddwn yn cynnal ymwybyddiaeth a farchnata wedi’i dargedu. Os oes cynllun amlen mewn tref neilltuol, gwnawn yn si?r y rhoddir cyhoeddusrwydd i hynny yn yr ardal honno e.e. gwelliannau i flaen siopau Cil-y-coed.

 

Yn y cyflwyniad dangosol ar gyfer adnewyddu Theatr y Borough o £250ki, mae eu hadroddiad yn sôn am £175k

O’r £250k yn y tabl ar gyfer yr adroddiad hwn, mae 30% yn arian cyfatebol; felly mae’n £175k o grant a £75k o arian cyfatebol. Maent wedi eu cyfuno yn adroddiad Theatr y Borough.

 

Dogfennau ategol: