Agenda item

Craffu’r Cynnig i Ail-wampio Theatr y Borough (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd Dave Baxter, Rheolwr Theatr y Borough, yr adroddiad ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Cath Fallon a Mark Hand.

 

Her:

Gan faint y cododd y costau? A yw’r cynnydd oherwydd deunyddiau?

 

Roedd gwerth ychwanegol ar rai elfennau h.y. gan fod angen gwneud rhywbeth, sylweddolem y byddai’n fuddiol gwneud pethau eraill yr un pryd. Fe wnaeth Maintfesurydd gostio popeth i lle y credem y dylai fod, ac wedyn aethom allan i’r farchnad ar gyfer y prif gontractwr. Y contractwr a ddewiswyd oedd y cynnig gorau ac isaf. Felly, roedd yn broses gystadleuol ac yn dilyn yr un llwybr â phrosiectau eraill e.e. canolfan gelfyddydau yng Ngorllewin Cymru a wnaeth brosiect cyfalaf, lle dyblodd costau. Dylid ei ystyried fel buddsoddiad, oherwydd yn ogystal â bod yn adnodd i’r gymuned leol, mae’n sbardun ar gyfer diwylliant a chyfleoedd ar gyfer addysg, cydlyniaeth gymdeithasol ac yn y blaen.

 

A fu’n achos o wneud elw gormodol?

 

Gan edrych ar y darlun ehangach, ac o drafodaethau gyda’r penseiri allanol, nid yw’n ymddangos fod hynny’n wir. Nid yw’r sefyllfa hon yn anarferol ac mae’r contractwr wedi cytuno cadw’r pris hyd fis Medi, tu hwnt i pryd yr oedd yn rhaid iddynt.

 

Mae angen mewnbwn ariannol sylweddol gan y cyngor. Ydych chi’n hyderus na fydd hyn angen mwy a mwy o gyllid yn y blynyddoedd i ddod?

 

Ydym, rydyn ni’n hyderus ac yn ei weld fel adnodd i Sir Fynwy i gyd. Mae’n achos o fod yn ofalus gydag adnoddau diwylliannol. Wrth edrych ar y map cod post o’r rhai a fu’n bresennol mewn sioe a gynhaliwyd yn y castell yn ddiweddar, roedd y gynulleidfa wedi mynychu o dde’r sir hyd at Flaenau’r Cymoedd. Dylid gweld rheolaeth a chyfeiriad y theatr fel ased strategol. Mae’n bwysig iawn i’r Fenni ond mae angen iddo fod yn fuddiol ar gyfer y sir gyfan. Mae tair elfen i ganolfan gelfyddydau lwyddiannus: y cyfleusterau eu hunain (offer a safle), y staff a’u datblygiad sgiliau (yn achos y Borough, staff a gwirfoddolwyr medrus) a’r berthynas gyda’r gymuned a’r cyswllt gyda’r gymuned. Mae’n her ac mae’n gwestiwn o sut y gallwn roi budd i’r holl ardal: i ni, mae’n achos o fod â’r adnoddau hynny.

 

Mae’n anffodus fod costau wedi codi ond mae’n hanfodol fod yr ailwampio hwn yn mynd yn ei flaen. Defnyddiwyd y theatr am 100 mlynedd ac mae’n dod â llawer o fusnes i’r dref.

 

Mae pwysigrwydd y theatr i hunaniaeth y Fenni yn gysylltiedig gyda thrafodaethau am y siarter creu lleoedd – mae ystyried hunaniaeth unigryw a diwylliant y dref yn rhan allweddol o’r dull creu lleoedd. Mae’r mater hefyd yn cysylltu gydag ystyriaeth o ddyfodol ein trefi a’n stryd fawr: fel y soniodd yr aelod, gallai min nos yn y theatr gyda phryd o fwyd cyn hynny a/neu ddiod wedyn fod yn rhan sylweddol o economi ac apêl ddiwylliannol y Fenni.

 

Ni chafodd £279k ei benderfynu eto. A yw’r cyfarfod sydd ar y gweill gyda Cyngor Tref y Fenni i drafod y diffyg hwnnw?

 

Ydi, mae’r sgwrs ar 15 Medi er mwyn trafod ymestyn y rhaglen adnewyddu ac unrhyw gefnogaeth bosibl y gallai cyngor y dref ei roi i fynd i’r afael â’r diffyg hwnnw.

 

Os nad yw cyngor y dref yn cynnig datrysiad i’r diffyg, lle ydym ni’n mynd wedyn?

 

Rydyn ni’n edrych am opsiwn ar gyfer cyllid benthyciad drwy’r bwrdd gweithiau cyhoeddus, ond gobeithiwn y gall cyngor y dref ymuno â ni.

 

Mae’r syniad o fedru tynnu’r seddi fel y gellid ei ddefnyddio fel un ystafell fawr ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau yn un diddorol. Mae pryder serch hynny am golli pydew y gerddorfa.

 

Rydym wedi sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen gyda’n defnyddwyr i edrych ar wahanol gynlluniau ar gyfer y gerddorfa, a byddwn yn eu cynnwys mewn trafodaethau gyda’r tîm dylunio dros tua’r mis nesaf. Diolch i Aelod Cabinet Dymock am ei chefnogaeth, yn neilltuol wrth symud ymlaen â’n perthynas gyda grwpiau rhanddeiliaid a defnyddwyr. Rydym yn awyddus i gadw ymlaen gyda hynny ac i weithio’n agos gyda nhw. Llawer o ddiolch i’r staff a’r tîm drwy gydol y cyfnod hwn hefyd.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae nifer o aelodau wedi siarad yn angerddol o blaid adnewyddu’r theatr gan sôn am ei phwysigrwydd hanesyddol a chyfredol i’r dref a’r ardal yn ehangach. Yn ychwanegol, gwnaeth y Cynghorydd Dymock, Aelod Cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol, y sylwadau dilynol:

 

Gwerthfawrogir sylwadau’r Aelodau yn fawr. Mae nifer fawr o’r cyhoedd wedi fy stopio yn y stryd i ofyn am ail-agor y theatr. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud hynny gan gofio mor arbennig y mae i’r dref ond hefyd i’r rhai sy’n ymweld â Sir Fynwy. Mae’n adeilad bendigedig  ac mae Dave Baxter yn rheolwr gwych a staff rhagorol. Diolch i’r cynghorwyr Sheila Woodhouse a Tudor Thomas, a fu’n gefnogol iawn. Rydym wedi trefnu teithiau i grwpiau defnyddwyr rannu’r hyn a ddarganfuwyd yn yr ymchwiliad ac esbonio’r rheswm pam y cynyddodd y costau. Fe wnaethom hefyd gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gyda grwpiau defnyddwyr. Gobeithio y bydd y cyngor llawn yn cefnogi’r prosiect.

 

 

Dogfennau ategol: