Agenda item

Drafft Gyfrifon Cyngor Sir Fynwy

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro'r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2020/21.  Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau'r Pwyllgor i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Diolchodd Aelod i'r Swyddog a'r staff am baratoi'r ddogfen yn enwedig yn ystod y pandemig, a holodd yr Aelod y diffyg sylweddol yn y gronfa bensiynau.  Eglurwyd bod cynnydd sylweddol yn atebolrwydd y gronfa bensiwn (rhagwelir y bydd cynnydd o £74.6m) sydd wedi cael effaith negyddol ar y fantolen.  Nodwyd bod hyn yn deillio o brisiad canol-tair blynedd o'r gronfa bensiwn a gynhaliwyd gan yr Actiwari.  Ni fydd y codiadau canlyniadol mewn atebolrwydd pensiwn yn digwydd nes ymgymryd â'r prisiad nesaf. Ni fydd unrhyw ofyniad i dalu gor-gyfraniadau i'r gronfa nes bod y prisiad wedi'i gwblhau.  Mae'r prif ffactorau yn cynnwys y gyfradd ddisgownt a ddefnyddir gan yr Actiwarïaid a'r ffactor chwyddiant.  Ym mis Mawrth 2020, roedd y gyfradd ddisgownt a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r atebolrwydd yn seiliedig ar economi a marchnad mewn cythrwfl oherwydd y pandemig. Rhan o'r effaith yw symudiad blwyddyn ar ôl blwyddyn lle mae Cynnyrch y Llywodraeth wedi sefydlogi dros 15 mis a rhagwelir y bydd asedau a ddelir gan y gronfa bensiwn yn dychwelyd llai nag ym mis Mawrth 2020.  Daw'r effaith fwyaf o'r ffactor chwyddiant a ddefnyddir oherwydd y gofyniad i'r gronfa seilio chwyddiant ar CPIH (Mynegrif Prisiau Defnyddwyr gyda chostau Tai) o 2030 ymlaen sy'n cynyddu cyfradd chwyddiant ar y taliadau a wneir o'r gronfa, a'r atebolrwydd.  Roedd hwn yn rheoliad newydd o fis Rhagfyr 2020 nad oedd yn hysbys pryd y paratowyd cyfrifon 2019/20. Mae'r awdurdod yn trafod gyda'r gronfa bensiwn i ddeall a fydd yn arwain at ofyniad i gynyddu cyfraniadau bob blwyddyn o 2022/23 ymlaen.

 

Gofynnodd yr Aelod a oedd unrhyw arwydd o'r effaith debygol ar y gyllideb o ran cyfraniadau uwch.  Cadarnhawyd nad oes rhagolwg ar gael.  Mae'r prisiad tair blynedd yn fanwl iawn a hyd nes ei fod wedi'i gwblhau ni fyddai'n bosibl rhagweld yr effaith.   Sicrhawyd yr aelodau, os bu unrhyw symud mewn atebolrwydd, mai'r bwriad yw adennill yr atebolrwydd dros nifer sylweddol o flynyddoedd.

 

Gofynnodd Aelod a oedd newidiadau i fuddsoddiadau yn effeithio ar yr atebolrwydd e.e. penderfyniadau gwyrdd ac eco ym mhortffolio buddsoddi'r gronfa bensiwn.  [Gweithrediad: Cyfeirir yr ymholiad hwn at y gronfa bensiwn a chaiff ei adrodd yn ôl i Aelodau'r Pwyllgor.]

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Swyddog Adnoddau, os bydd angen cynyddu cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr, y byddai hyn yn cael ei reoli dros gyfnod estynedig. Amlygwyd, fel sydd wedi digwydd o'r blaen, y gellir cynyddu cyfraniadau'n raddol i reoli'r diffyg.  Derbynnir hysbysiad ymlaen llaw i alluogi trefniadau.  Bydd yr atebolrwydd cynyddol yn berthnasol ledled y DU ac mae'n debygol y bydd pwysau ar y Llywodraeth i weithredu.

 

Esboniwyd bod gr?p buddsoddi cyfrifol a moesegol sy'n adrodd i Gronfa Bensiwn Gwent Fwyaf/Torfaen i sicrhau cronfa gynaliadwy (20%) sy'n sicr o gwrdd ag enillion meincnod penodol.  Mae asedau buddsoddi'r cronfeydd wedi gwella'n dda o fis Mawrth 2020 ond nid i lefel i wneud iawn am y cynnydd mewn atebolrwydd pensiwn.

 

O ran buddsoddiad moesegol a chyfrifol, rhagwelwyd y byddai cyfalafu marchnadol mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn denu llawer o fuddsoddiad yn y sectorau hynny gan gynnwys cronfeydd pensiwn.

 

Holodd Aelod am weddillion cyllideb ysgolion (dim ond dwy ysgol sydd â chyllidebau diffyg ar ddiwedd mis Mawrth 2021) a gofynnodd am gynlluniau i leihau’r gwargedion gan nodi’r grantiau hwyr a dderbyniwyd ar gyfer costau cynnal a chadw ac adfer safonau addysgol.  Esboniwyd y gofynnwyd i ysgolion sydd â gwargedion sylweddol baratoi cynlluniau buddsoddi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.  Derbyniwyd y cynlluniau hyn a chânt eu gweithredu yn amodol ar i'r symiau grant gael eu defnyddio at y dibenion y cawsant eu dyfarnu ar eu cyfer.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y cyfrifon yn gliriach ac yn haws eu darllen nag o'r blaen a chroesawodd yn benodol cynnwys y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Gyhoeddus (CIPFA) sy'n deall datganiadau ariannol awdurdodau lleol a chrynodeb o ddatganiadau sylfaenol 2020/21.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ynghylch gwahanol symiau a gofnodwyd ar gyfer derbyniadau cyfalaf yn yr adroddiad (£7.4m) a'r tabl (£1m). Esboniodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro fod y tabl yn dangos swm y derbyniadau cyfalaf (£1m) a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn i ariannu gwariant cyfalaf.  Mae'r adroddiad yn cofnodi bod £7.4m wedi'i dderbyn yn ystod y flwyddyn gyda gwahaniaeth net o £6.4m sy'n cynrychioli'r cynnydd mewn derbyniadau cyfalaf am y flwyddyn.

 

Yn unol â'r arghymellion, mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio:

 

1)    Wedi nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2020/21 a thynnu sylw at unrhyw ymholiadau a sylwadau.

Wedi nodi y bydd y Datganiad cyfrifon archwiliedig ar gyfer 2020/21, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor, yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor hwn yn ystod yr hydref.

Dogfennau ategol: