Agenda item

Ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Fframwaith Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r unigolion a oedd yn bresennol yn ffurfio Gweithgor er mwyn darparu sylwadau ar y ddogfen ymgynghori, gyda’r nod o lunio ymateb ffurfiol erbyn y dyddiad cau, sef 16eg Gorffennaf 2021.

 

Cwestiwn 1 – Pa mor dda y mae’r canllaw yn esbonio sgôp Gwerthoedd, Crefydd, Moeseg (GCM) a’i gyd-destun oddi mewn i’r Maes  Dyniaethau?

 

Roedd sylwadau yn cynnwys:

 

·         Gellir gwella’r ddogfen ac roedd y fersiwn flaenorol yn fwy hawdd ei deall ac yn llai cyfreithiol. Anghytunwyd y dylid cyfyngu’r elfen gyfreithiol i  droednodyn.

·         Rhaid bod yn eglur o ran y gofynion cyfreithiol, yn enwedig gyda’r traddodiadau crefyddol sydd yn rhai Cristnogol yn bennaf a’r prif grefyddau eraill. Mae defnyddio’r ymadrodd “Amrywiaeth o grefyddau” yn anghywir gan ei fod ond yn cynnwys Cristnogaeth a’r prif grefyddau yng Nghymru.  

·         Mae angen bod yn eglur i CYSAGau/SAC bod arolygon o ysgolion ffydd dal yn cael eu cynnal gan ysgolion ffydd eu hunain ac nid rôl y CYSAGau yw hyn.

·         Mae unrhyw  GCM sydd ei angen yn gorfod cael ei bennu gan yr Esgob.

·         Mynegwyd cefnogaeth i dud. 6, para. 4 “bydd deall y cysyniad o addysg yn caniatáu dysgwyr i adeiladu dealltwriaeth gadarn o grefydd a phwysigrwydd y ffyrdd gwahanol y caiff ei ddiffinio” ond awgrymwyd ychwanegiad: “o fewn Cristnogaeth a’r prif grefyddau sydd i’w canfod yng Nghymru”.

·         Angen mwy o bwyslais er mwyn adlewyrchu’r ffaith mai’r prif draddodiad yng Nghymru yw Cristnogaeth a sut y mae modd ei ystyried o sawl persbectif gwahanol.

·         Hoffem weld Cymdeithas Cymru o’r CYSAGau yn rhoi canllawiau i’r CYSAGau eraill ac ysgolion ar bob un prif ffydd arall. Rhaid bod pob un ffydd ar y CYSAG yn cael ei gynrychioli er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth well o sawl ffydd wahanol o gwmpas y byd. Mae arbenigwyr ffydd yn medru cynnig arbenigedd ar gyfer dysgu proffesiynol.

·         Nid oes un grefydd yn fwy pwysig nag un arall. Mae’n dda fod plant yn cael dysgu am grefyddau gwahanol.

·         Mae’r diffiniad o brif grefyddau yn gyfrifoldeb i’r ysgolion – rhaid cael hyblygrwydd yn y cwricwlwm er mwyn caniatáu hyn. Gyda chredoau athronyddol, na sy’n grefyddol, yn cael eu dysgu, mae yna bryder bod crefydd yn cael ei gywasgu o’r cwricwlwm. 

·         Nid yw’r canllaw yn adlewyrchu’r berthynas rhwng GCM a Dyniaethau yn gyffredinol. Mae yna gyfeiriadau annigonol e.e. datganiadau “beth sy’n bwysig”. Mae angen cryfhau rôl GCM o fewn Dyniaethau.

·         Roedd yna syndod bod y canllaw i’w osod o fewn y canllaw Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn newid natur y ddogfen. Mae’n dod yn statudol ar y cam yma, yn hytrach na’n cael ei fabwysiadu fel maes llafur cytunedig.

·         Nid yw rhannau o’r canllaw yn gyson gyda’r canllaw Dyniaethau. Mae’n llawer iawn mwy  cyfarwyddol na gweddill y canllaw.  Wedi symud o leol i genedlaethol.   Mae’r berthynas rhwng GCM a Dyniaethau wedi newid. Nid yw’n gyson gyda’r canllawiau ar gyfer enghreifftiau o’r testunau eraill. Mae’r ddogfen hon yn statudol, ac felly, bydd ysgolion yn credu mai’r ysgolion (teithiau) yw’r unig ddull o wneud hyn. Nid yw testunau eraill yn cynnwys enghreifftiau. Nid ydym am gyfyngu creadigrwydd ac arloesedd. Hoffwyd y Teithiau ond byddai modd camddeall hyn fel yr unig ddull o wneud hyn. 

·         Mae’r deunydd sydd wedi ei ddarparu yn oddrychol yn hytrach na’n wrthrychol.  Mae’r duedd o ddatblygiad ysbrydol yn torri ar draws y broses o ailenwi i GCM, gan fod rhai yn mynd i wadu fod yna ysbryd i’w ddatblygu.  Ni fyddai disgwyl i ddysgwyr i fynd ar daith ysbrydol ond profiad o ddysgu. Nid yw’r ffaith fod hyn yn gorgyffwrdd yn  helpu.

·         Gellid ymhelaethu mwy ar y dull integredig/amlddisgyblaethol. 

·         Roedd yna wahaniaeth barn o’r hyn a olygir gan lensys – credwyd ei fod yn golygu ystyried cysyniadau/persbectif gwahanol  o  onglau gwahanol ac ni chyfeiriwyd at  ysbrydolrwydd.

·         Mae angen diffiniad eglur o’r hawl i  dynnu yn ôl o Addysg Grefyddol. 

·         Mae angen datganiad i esbonio'r hyn a olygir gan addysg sydd yn gritigol, wrthrychol ac amlblwyfol. 

·         Yr ymateb cyffredinol wrth ymateb i C1 – Nid yn Dda Iawn.

 

Cwestiwn 2 – A yw’r canllaw, yn ei gyfanrwydd, yn eglur a’n ddefnyddiol i chi yn eich rôl?

 

Roedd sylwadau yn cynnwys:

·         Mae’r cwestiwn yn aneglur yngl?n ag a yw cyfeirio at CYSAG ai peidio.

·         Mae arolygu’r Ysgolion Ffydd yn gyfrifoldeb ar yr ysgolion. A yw’n rhestr o’r pethau sylfaenol ac yna’r athrawon/ysgolion sydd yn gyfrifol am ei weithredu? Mae CYSAG yn darllen arolygiadau/adroddiadau o ysgolion gwahanol er mwyn pennu a ydynt yn cwrdd â’r gofynion cyfreithiol sylfaenol o ran cadarnhau a yw’r ysgolion yn cydymffurfio. 

·         Mae canllaw statudol yn derm anghywir – dylai  fod yn seiliedig ar leoliaeth. Gan ei fod yn gyfrifoldeb ar yr ALl, ni ddylai fod yn statudol. Dylid rhoi cyfarwyddyd i roi syniadau i’r holl CYSAGau.

·         Nid oes yna ddealltwriaeth ddigonol o rôl y CYSAGau a byddai mwy o ddiddordeb mewn cyfranogiad pe bai hyn yn fwy eglur.  

·         A oes modd cael dull rhanbarthol tuag at gynrychiolaeth ranbarthol gan fod Awdurdodau Lleol eraill yn cael trafferth yn sicrhau amrywiaeth.  

·         Mae hanes gwych gan CYSAG Sir Fynwy o  weithio ag ysgolion.

·         Cyfrifoldeb yr ALl yw creu CYSAG - mae CYSAG ond yn medru dylanwadu ar yr Aelodau  Cyfetholedig.

·         Mae’n ddiddorol fod yna ddylanwad gwleidyddol. A oes yna gyfrifoldeb ar aelodau etholedig er mwyn sicrhau cynrychiolaeth briodol. Efallai bod angen  tynhau’r diffiniad o gred grefyddol/na sy’n grefyddol, athronyddol. Yn y cylchlythyr cyntaf a gyhoeddwyd, rhaid ei fod yn debyg i grefydd a oedd yn  ddefnyddiol.

·         Mae’r ddau ddiffiniad agoriadol yn wan ac  nid ydynt yn ddefnyddiol. Byddai adnabod gr?p athronyddol sydd yn gydradd gyda grwpiau crefyddol a astudir yn ddefnyddiol ynghyd ag ail-ddiffinio crefydd.  Mae gwahaniaethu rhwng y sawl sydd yn adnabod eu hunain fel rhai na sy’n grefyddol a  dyneiddwyr yn bwysig (maent yn cynrychioli cyfran fechan o’r sawl na sydd yn grefyddol) a gallai fod yna ddylanwad anghymesur.  Rhoddwyd yr enghraifft na fyddai pawb sydd yn adnabod eu hunain fel Dyneiddiwr yn  ymuno gyda Humanists UK.  Nid yw crefyddau pwysig wedi eu cynnwys e.e. Bwdhaeth, Janeism

·         Mae’r Comisiwn Elusennau yn cynnig diffiniad defnyddiol o Addysg Grefyddol.  

·         Yn aneglur ar y cyfan

 

Cwestiwn 3 – A yw’r canllaw yn cynnig gwybodaeth berthnasol i gefnogi ymarferwyr pan yn dylunio eu cwricwlwm ysgol ar gyfer CGM?

 

Roedd sylwadau yn cynnwys

 

·         Bydd Canllaw “Sut i wneud” yn fwy defnyddiol ar gyfer dylunio’r cwricwlwm e.e. sut i esbonio’r datganiadau Beth Sy’n Bwysig ayyb

·         Mae dysgu proffesiynol yn  hanfodol. Roedd y deunydd enghreifftiol yn dda. Byddai ysgolion ynysig o bosib yn cael her yn dod o hyd i gymorth. Dywedodd athrawon bod rhaid iddynt chwilio’r canllaw am gymorth. Mae’r help gan CYSAGau yn cael ei werthfawrogi. 

·         Gan fod yna  restr o gwestiynau yn y canllaw ar gyfer yr ysgolion i’w defnyddio, bydd yna gydbwysedd rhwng yr hyblygrwydd a ganiateir a’r samplau er mwyn sicrhau cydbwysedd.   

·         Mewn awdurdod gwledig, mae’n fwy anodd na rhai trefol i ddod o hyd i amrywiaeth o ffydd. Bydd rhaid i’r CYSAG weithio gyda’r GCA er mwyn ystyried hyn.  

·         A yw CYSAGau yn medru gweithio gyda’i gilydd er mwyn cefnogi ysgolion i fabwysiadu dulliau amrywiol?

·         Gwahoddwyd cynrychiolwyr athrawon i gynnig sylwadau yma.

 

Cwestiwn 4 – Gan feddwl am bob adran yn y canllaw, a ydych yn teimlo:

 

Roedd sylwadau yn cynnwys:

 

·         Mae angen gwella’r cyflwyniad. Mae’n rhy gyfreithiol, ac nid yw’n ysbrydoli angerdd ar gyfer y pwnc. Mae angen defnyddio tôn well  er mwyn gwerthu’r pwnc. Y peth pwysicaf yw bod CYSAGau, meysydd llafur cytuendig ayyb - dylai  (g) fod yn (a).

·         Dylid adnabod unrhyw fylchau ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae cynrychiolwyr ffydd yn aml yn cael eu diystyru. Mae CYSAGau yn medru helpu gyda dysgu proffesiynol

·         Mae angen datganiad o’r hyn y dylai cynhadledd maes llafur cytunedig ei gynnwys.   

 

Cwestiwn 5 – A yw’r canllaw yn cynnig cefnogaeth ddigonol i’r holl ymarferwyr ar gyfer cynllunio a dysgu CGM?

 

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

·         Nid oes digon o gyfeiriadau at ddatganiadau “Beth Sy’n Bwysig”.

·         O blaid teithiau. Yn anodd oherwydd y meysydd pwnc gwrthgyferbyniol. O ran cynllunio, dylid datgan y dylai dulliau integredig neu amlddisgyblaethol fod yn dderbyniol.  

·         Mae yna ddiffyg diffiniadau eglur e.e. o ran ystyr crefydd. 

·         Mae angen ychwanegu enghreifftiau neu ychydig o eiriau er mwyn esbonio sut i ddelio gyda CGM; rhaid bod yn weladwy, yn gadarn ac o safon uchel.

·         Gwahoddwyd athrawon i gynnig sylwadau yma.

 

Cwestiwn 6 - A oes angen cymorth ychwanegol (e.e. dysgu proffesiynol ac adnoddau) er mwyn sicrhau bod y canllaw yn cael ei weithredu’n llwyddiannus?

 

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

 

·         Cytunwyd bod angen ymatebion gan athrawon er mwyn cefnogi’r achos cryf ar gyfer adnoddau ychwanegol a hyfforddiant cadarn ar gyfer pob un cam. Mewn ysgolion, dim ond ychydig o athrawon sydd ar gael i drafod syniadau. Mae angen i CYSAGau i gynorthwyo gyda hyn. 

·         Mae angen egluro’r dulliau cenedlaethol a lleol gyda phwyslais o’r hyn a olygir o ran bod yn wrthrychol, yn gritigol ac amlblwyfol

·         Efallai y bydd athrawon yn cael trafferth gyda dileu’r hawl i dynnu yn ôl o addysg CGM ac addysg Cydberthynas a   Rhywioldeb. Mae angen sensitifrwydd yn y rhan yma o’r canllaw.    

·         Mae hawl gan athrawon hefyd i dynnu yn ôl o ddysgu CGM. Mae  angen mwy o wybodaeth yma.  

·         Os yn gwbl wrthrychol ac addysgol – pam fyddai unrhyw riant/athro am ddefnyddio’r hawl yma.  

·         Roedd yna ddiddordeb yngl?n ag a oedd unrhyw ddisgresiwn gan Benaethiaid o ran tynnu yn ôl a’r canlyniadau sydd yn deillio o hyn. Eglurwyd bod  plentyn yn gymwys i dderbyn addysg CGM ac nid oes hawl gan y Pennaeth i ganiatáu plentyn i dynnu yn ôl. Mae angen i Benaethiaid i wybod am yr hyn sydd yn digwydd yn yr ystafelloedd ddosbarth o ran CGM.      

 

 

Cwestiwn 7 – Mae’r cwestiwn yma ar gyfer awdurdodau lleol a Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Addysg Grefyddol (CYSAGau).

 

Roedd sylwadau yn cynnwys:

·         Mae angen bod y berthynas rhwng y maes llafur cytunedig a’r  canllaw i fod yn fwy eglur.

·         Mae sicrhau bod y maes llafur cytunedig (a gyflwynwyd gan Gymdeithas Cymru o’r CYSAGau) yn ymdrin â’r elfennau cyfreithiol sylfaenol - mae’r fframwaith AG yn cynnwys  llawer o hyblygrwydd ac mae’r un newydd yn symud i ffwrdd o hyn.  

 

Cwestiwn 8 – Hoffem wybod eich  barn ar effaith y canllaw CMG ar yr iaith Gymraeg:

 

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

 

·         Mae’n broblem sydd wedi ei dogfennu fod unrhyw adnoddau/canllawiau sydd yn deillio o newidiadau i’r cwricwlwm yn golygu bod y fersiynau Saesneg yn cael eu datblygu yn gyntaf a fersiynau Cymraeg yn dilyn wedi hyn. Mae hyn yn sgil y pwysau sylweddol sydd ar staff i gyfieithu. Mae’r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu y bydd mwy o ddysgwyr yn cael eu heffeithio gan hyn. Mae’r ymdrech i gyhoeddi’r ddwy fersiwn ar yr un pryd yn medru gosod dysgwyr iaith Saesneg  o dan anfantais hefyd gan fod hyn yn arwain at oedi.

·         Dylai dysgu proffesiynol fod yn y ddwy iaith. 

 

Cwestiwn 9 – Esboniwch hefyd sut ydych yn credu bod y canllaw CGM yn medru cael ei ffurfio neu newid:

 

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

 

·         Ymgysylltu gyda mudiadau crefyddol a’r rhai na sydd yn grefyddol mewn cymunedau lleol. Dylid pwysleisio  fod Penaethiaid yn caniatáu mynediad i gymunedau ffydd i wneud hyn. Nid yw’r agwedd hon yn rhywbeth sydd yn ddisgresiwn i’r Pennaeth.  

·         Dylai ysgolion fod yn gwneud cysylltiadau da gyda chymunedau lleol. Efallai nad yw rhai o’r grwpiau yn ymwybodol o’r angen i fod yn wrthrychol, yn gritigol ac amlblwyfol ac yn ceisio proselytio. Mae’n ddefnyddiol nodi fod hyn yn farn bersonol.   

·         Mae Penaethiaid Ysgol angen y disgresiwn, nid Penaethiaid CGM. 

 

Cwestiwn 10 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes unrhyw faterion penodol gennych nad ydym wedi  eu hystyried, yna defnyddiwch y gofod yma er mwyn eu nodi. 

 

Ni wnaed unrhyw sylwadau ychwanegol

 

Cytunwyd y byddai Paula yn llunio ymateb drafft a fyddai’n cael ei rannu erbyn 30ain Mehefin. Bydd  Paula yn derbyn sylwadau sydd i’w cynnwys hyd at 28ain Mehefin 2021.   Bydd sylwadau ar y drafft terfynol yn cael eu derbyn hyd at 12fed Gorffennaf 2021 fel ei fod yn medru cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, sef 16eg Gorffennaf.