Agenda item

Cyflwyniad ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - I’w trafod gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen yn dilyn yr Adolygiad Porth: Cyfeiriad strategol - amcanion a chynnydd hyd yma a'r manteision yn rhanbarthol ac yn lleol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Kellie Beirne y cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r aelodau, gyda sylwadau ychwanegol gan Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter.

 

Her:

Mae 54% o breswylwyr economaidd weithredol Sir Fynwy yn gorfod mynd allan o’r sir i weithio, ac mae gennym ardaloedd lle mae amddifadedd. Gall y boblogaeth sy’n heneiddio fynd yn anghynaliadwy. Petai rhywun am ddod â buddsoddiad mawr i Sir Fynwy, sut all y Fargen Ddinesig helpu ein swyddogion? Nid oes gennym y seilwaith ar gyfer denu diwydiant, na choleg Sgiliau.

 

Rydym wedi gwneud llawer o fuddsoddiadau unigol ond er mwyn cynyddu’r effaith yn y dyfodol mae’n rhaid i ni gael ein harian i is-gronfeydd felly petai cwmni mawr yn dod i Sir Fynwy, byddai Cronfa Safle Strategol, cyllid  busnesau bach a chanolig i helpu effaith ar y gadwyn gyflenwi, cronfa fuddsoddi arloesedd - oherwydd rydym yn gwybod bod darparu cyfalaf risg yn anodd - ac ati. Mae gennym rôl yno, a thrwy’r Bartneriaeth Sgiliau, sut ydym ni’n buddsoddi mewn datblygu talent, ond rhaid i ni edrych yn ehangach na’r Fargen Ddinesig, sydd yn ddim ond pot £500m. Mae angen i ni gysylltu â’r sgwrs ehangach e.e. y Banc Seilwaith Cenedlaethol, sydd â £12-14 biliwn. Sut y gallwn ddod ger eu bron a chyflwyno cynigion? Sut allwn ni ddylanwadu ar y llun gyda’r Porth Gorllewinol? Ni fydd pob ardal yn gallu cael coleg addysg bellach ar ei throthwy. Sut allwn ni greu’r cysylltiadau, fel pan fydd rhywbeth yn cael ei ddatblygu mewn un ardal, ei fod yn ystyried y darlun rhanbarthol? Mae’r pwynt am heneiddio yn bwysig iawn. Mae’r dull o ran heriau yn allweddol oherwydd y gallai’r datrysiadau i heneiddio gael effaith economaidd anferth. Weithiau gall y materion cymdeithasol hyn arwain at fanteision economaidd. Felly nid oes atebion syml i’r cwestiynau yma - mae’n ddarlun cymhleth. Yr allwedd yw dwyn at ei gilydd lawer o wahanol edafedd a chael lefel uchel o uchelgais.

 

Rydym yn uchelgeisiol iawn, ac mae ein lleoliad daearyddol yn ddelfrydol, ond efallai bod angen rhywfaint o help o ran sut yr ydym yn ymdrin â phethau a marchnata pethau?

 

Gallaf rannu’r safbwynt buddsoddi. Fel Bargen Ddinesig rydym yn gyfyngedig, ond fel rhanbarth dinesig gallem gymryd buddsoddiad tuag i mewn, amlygu rhai o’r ardaloedd mwy a dechrau rhoi mwy o bwyslais ar lawer o’r materion hyn. Mae peth rhwystredigaeth gan ein bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa dda ond bydd sut y byddwn yn cymryd y camau nesaf i ddatblygu’r gallu sefydliadol fel rhanbarth yn allweddol i gyflawni’r pethau hynny yr ydych newydd eu nodi.

 

O ran cydweithio gyda Bryste a’r Porth Gorllewinol, mae teimlad yn bodoli, gan ein bod ar y cyrion, efallai y gallwn syrthio rhwng Caerdydd a’r cymoedd a’r de orllewin. Sut yr ydym yn ymgysylltu â Bargen Ddinesig Bryste a sefydliadau academaidd yno, o ran datblygu sgiliau?

 

Rydym yn rhan o rwydwaith GW4 o brifysgolion - mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan amlwg yn hynny. Un o’r pethau yr ydym yn eu gweld yw, oherwydd bod gan brifysgolion rôl mor fawr i’w chwarae yn nyfodol ymchwil gwyddonol ac arloesedd, yn arbennig cyfnod cynnar ymchwil a datblygu, mae’r prifysgolion hynny wedi datblygu model o gyd-ddefnyddio cyllid Ymchwil Ansawdd. Os gallai hyn fynd ar raddfa fwy, byddai’n creu ysgogiad o ran sut y gallwn wedyn ddefnyddio a gwneud y wybodaeth yn fasnachol. Felly mae’r rhwydwaith hynny yn allweddol. Rydym hefyd yn rhan o’r fforwm Set Squared sy’n dwyn y prifysgolion hynny at ei gilydd. Yn ddiweddar, trwy Brifysgolion Cymru, mae’r Athro Graham Reed o UCL wedi cael ei ddwyn i mewn i wneud darn o waith ar sut y gall holl brifysgolion Cymru gydlynu a ffurfio cytundebau partneriaeth, felly pan fydd cyfleoedd buddsoddi mawr trwy’r cynghorau ymchwil amrywiol, bydd gennym lwyfan i adeiladu arno fel ein bod yn gallu gweithredu’n gyflym ein hunain - cyflymder a’r gallu i gystadlu sy’n bwysig.

 

Mae’n bwynt da am y Porth Gorllewinol a sut yr ydym yn datblygu’r cysylltiadau hynny gyda WECA a Bryste. Mae gwaith da hyd yn hyn: rydym wedi rhoi cais Cryfder mewn Lleoedd ar y cyd yn ymwneud â seibr, sy’n grant ymchwil ond hefyd ceisiadau, ac rydym yn dechrau chwilio am gyflymwyr arloesedd a fyddai’n cynyddu effaith lled-ddargludyddion ar draws y ddau ranbarth. Er mai yn y cyfnod cynnar yr ydym, rydym yn gwneud llawer o waith i ddynodi’r cryfderau hynny a rennir. Ni fyddwn yn gallu cydweithio ar bopeth, ac weithiau bydd arnom eisiau lle i gystadlu. Er enghraifft, yn ddiweddar fe wnaethom fynegi diddordeb yn y prototeip adweithyddion ymasiad niwclear – gwnaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gais, fel y gwnaeth Caerloyw. Ond ar faterion eraill, mae’n bwysig iawn bod cydweithio yn dod cyn cystadlu. Mae ffordd bell i fynd ond ein diddordeb allweddol yw bwa arloesedd: rwy’n gwybod ei fod yn cychwyn yn y triongl euraidd, yn llifo ar draws y wlad, ond yn stopio cyn cyrraedd Cymru. Ein her yw meddwl sut yr ydym yn defnyddio’r trosolion hynny – fel prifysgolion – i ysgogi buddsoddiad mewn Ymchwil a Datblygu, sy’n dod yn ôl at y ffordd yr ydym yn meddwl am y system addysg yn gyffredinol.

 

A ydym yn edrych o bosibl ar bethau fel datblygu brechlynnau a’r ochr weithgynhyrchu i gynnyrch meddygol?

 

Ein her fwyaf yw cael y gofod i ehangu ar gyfer gweithgynhyrchu gwerth uchel. Un o’r datblygiadau yr ydym yn gweithio arno yw’r cysyniad o barc Gwyddorau Bywyd a fyddai’n dwyn cyfleusterau ystafell lân a phrofi ar hap at ei gilydd ac ati. Mae’n debyg mai canolbwyntio ar y clwstwr TechMedd fydd y peth anoddaf y byddwn yn ei wneud oherwydd, er bod y diwydiant dyfeisiadau a diagnosteg yn y rhanbarth yn gryf, mae angen i ni wneud mwy i roi hwb a chefnogi’r cadwyni cyflenwi. Dyfeisiadau a diagnosteg TechMedd yn bendant yw’r maes mwyaf o botensial yn y tymor hir; mae gennym ragoriaeth ymchwil mewn meddygaeth fanwl gywir. Yr her logistaidd fawr yw sut i’w ddwyn at ei gilydd yn glwstwr rhesymegol. Bydd yn cymryd llawer o amser ac ymyrraeth gan y sector cyhoeddus. Mae’n fater o gael y cyfalaf risg yn ei le i gefnogi’r ymchwil a datblygu cynharach, cael y cyfleusterau a’r safleoedd ar gyfer ehangu gweithgynhyrchu, a sgiliau – nid oes gennym ddigon o’r sylfaen o sgiliau uchel i gefnogi’r sector yn ôl yr angen. Mae hefyd yn fater o gael strategaeth resymegol i’w ddwyn at ei gilydd. Rydym yn cyfweld yfory am rywun i ddod i mewn ac arwain y clystyrau hyn. Y maes hwn sydd â’r potensial mwyaf ond hwn fydd anoddaf hefyd.

 

Mae strategaeth resymegol yn bwysig iawn, ond mae’n peri rhwystredigaeth deall pwy sy’n gyrru’r strategaethau yn eu blaenau. Mae gennym gymaint o botensial ond nid ydym mor dda am gyflawni ar hwnnw. Mae hydrogen, yn benodol, yn gyffrous iawn gan fod iddo botensial anferth fel tanwydd gwahanol.

 

Gyda’r Fargen Ddinesig, mae Sir Fynwy yn cael darn mawr o’r buddsoddiad, ac mae’n ei siapio yn gadarnhaol, gan sicrhau bod Sir Fynwy yn cael mynediad ati. Yr her yn ôl i Sir Fynwy yw gofyn beth mae hi am ei gael o’r fargen. Ni fydd y fargen yn cyflawni dros Sir Fynwy, ond yn hytrach gyda Sir Fynwy. Mae hydrogen yn bwynt pwysig. Rydym wedi dechrau dwyn her at ei gilydd am fflyd yr awdurdod lleol: beth yw’r technolegau sy’n dod i’r amlwg fel hydrogen a beth yw’r modelau busnes newydd y gallem eu defnyddio yn y dyfodol? Mae llawer o’r cwmnïau yn y rhanbarth yn arwain y blaen o ran gweithgynhyrchu systemau gyrru cerbydau trydan blaengar e.e. Riversimple, sy’n arwain ar gynhyrchu hydrogen. Sut allwn ni sicrhau, wrth ddatblygu rhai o’r datrysiadau yma ein bod yn prynu’n weithredol o’r rhanbarth, ac yn creu’r manteision economaidd hynny? Mae hynny’n her fawr.

 

O ran strategaeth, mae gennym un ond mae ar gyfer y Fargen Ddinesig. Nes y bydd gennym endid corfforaethol i weithredu dros y rhanbarth, ac nid dim ond un rhaglen ariannu, ni fydd gennym y cysondeb sy’n cael ei geisio. Mae’r darpariaethau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn y ddeddfwriaeth - mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gweithio tuag at Chwefror fel dyddiad ar gyfer 2022 - yr adeg honno, bydd yn dod yn ofyn statudol a dyletswydd brys i’r rhanbarth gael cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a chynllun datblygu strategol. Felly ar hyn o bryd, fel Bargen Ddinesig, mae’n anodd cael rheolaeth dros rai o’r pethau hyn. Rydym yn gwneud ein gorau dan yr amgylchiadau ond bydd symud at fodel o ddatblygu lle yn rhanbarthol yn ein helpu i ymdrin â rhai o’r problemau hyn yn llawer mwy cynhwysfawr.

 

Gyda’r ddolen Metro i Lannau Hafren, mae’n ymddangos ein bod yn cael ein gwthio i’r cefndir – a yw hynny’n wir mewn ardaloedd eraill hefyd?

 

Mae cam cyntaf y Metro yn ymwneud â’r llinellau craidd yn y cymoedd ond mae cynigion eraill yn awr ar y ffordd a fydd yn effeithio ar y llinellau yng nghymoedd y dwyrain, a byddwn yn dechrau gweld peth o’r pwyslais yn dod y ffordd hon. Mae rhai o’r cyfleoedd cysylltedd trafnidiaeth masnachol ehangach yno. Bydd yr adolygiad ‘Connecting the Union’ yn bwysig iawn, fel y bydd y porth gorllewinol - sy’n gynllun trafnidiaeth cenedlaethol gydag oblygiadau mawr i Dwnnel Afon Hafren, Cas-gwent a’r Fenni.

 

Mae’n bwynt da am ddwyn sgiliau mewn unedau prifysgol at ei gilydd, a defnyddio technoleg i ddysgu’r sgiliau hyn i bobl. Nid oes raid dilyn yr hen fodel bellach. Y cyfan sydd arnom ei eisiau yw’r strategaeth honno i arwain pethau ymlaen.

 

Mae’r cwrs Meistr Seibr yr ydym yn gobeithio ei ddatblygu yn wahanol iawn oherwydd mai dim ond am 1 flwyddyn y mae’n rhedeg a’r cyfan o fewn diwydiant, nid ar sail dosbarth neu theori. Mae’n dangos pa mor bell sydd angen i ni fynd o ran esblygu’r model – nid dysgu yn unig – ond ymarfer hefyd. Gobeithio bydd hyn yn gyfnod da sy’n ein galluogi i werthuso sut y mae dysgu ac addysgu yn datblygu yn y dyfodol.

 

A ellir craffu ar agweddau gwahanol o’r fargen, gan ei bod ar raddfa mor fawr, neu ei gwneud yn haws i gyffredinoli?

 

Sesiwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yw hon heddiw, gan fod gan y Fargen Ddinesig bwyllgor craffu. Fy awgrym i fyddai, mai’r ffordd orau i chi graffu ar yr effaith lleol fyddai meddwl sut y mae hyn wedi ei becynnu yng nghyswllt rhai o’ch materion a blaenoriaethau lleol, a’r rhan y mae’r Fargen Ddinesig yn ei chwarae yn y rheiny. Yna bydd yn fater o Cath Fallon, Frances O’Brien a minnau yn uno’r dotiau hynny a meddwl sut y gallwch gael pecyn cynhwysfawr a gweithredu’r lens craffu pwysig hwnnw yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter: rydym yn barod i drafod a chraffu ar y prosiectau unigol y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhan ohonynt fel rhan o’r rhaglen waith at y dyfodol. Mae rhai o’r prosiectau a rhaglenni yn eistedd gyda gwahanol Bwyllgorau Dethol e.e. Agweddau tai i Oedolion, ond mae hynny’n rhywbeth y gallwn weithio trwyddo gydag aelodau. Mae Sir Fynwy yn cael budd sylweddol o nifer o brosiectau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rydym mewn sefyllfa dda i barhau i wneud hynny, ac rydym yn arwain ar rai ohonynt hefyd.

 

Pa fudd allwn ni ei ddisgwyl o’r Metro yng ngogledd Sir Fynwy, o ystyried nad yw’n cyrraedd Trefynwy?

Roedd Cam 1 y Metro bob amser yn mynd i fod yn gyfyngedig o ran effeithiau oherwydd y buddsoddiad sydd ar gael. Y mae Fframwaith Gwell Metro, yr ydym yn gweithio arno gyda Trafnidiaeth Cymru, sydd yn cyrraedd i ardaloedd pellach. Yn awr mae’n fater o wneud cyflwyniad wedi ei drefnu i bethau fel Banc Seilwaith Cenedlaethol, a siarad â Syr Peter Hendy am gysylltu Adolygiad yr Undeb - oherwydd ei fod yn edrych ar y gororau a’r problemau hyn o ran ffiniau. Ond nid yr hyn yr ydych yn ei weld ar y map Metro ar hyn o bryd yw pen draw'r peth, dim ond y dechrau. Bydd mwy o botensial trwy’r Gronfa Drafnidiaeth Leol a’r Metro Plws i gael ychwanegiadau, ond mae’n bwysig iawn i’r datblygiadau cysylltedd trafnidiaeth hyn fynd gyda’r graen o ran y newid economaidd yr ydych am ei weld. Felly, dim atebion hawdd, ond mae ar radar Trafnidiaeth Cymru. Mae’r materion ffiniau yma yn mynd i fod mor bwysig i ni feddwl amdanynt yn wahanol yn y dyfodol.

 

O ran yr Adolygiad Porth, beth yw rhai o’r pwyntiau gwerthuso allweddol o ran cynnydd?

 

Fe wnaeth yr Adolygiad dair haen o waith gyda ni dros y cyfnod hwn. Fe wnaethant sefydlu’r gwaelodlin economaidd, er aeth hynny’n amherthnasol yn fuan iawn oherwydd y pandemig. Yna fe wnaethant adroddiad ‘blwyddyn i fynd’, yn canolbwyntio’n bennaf ar y buddsoddiad lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn yr adroddiad terfynol, fe wnaethant geisio dwyn y pwyslais ar ansawdd y data a’r dystiolaeth, gan edrych ar gyfoeth y partneriaethau a’r rhwydweithiau yr ydym yn eu llunio, a chyflwyno’r prosiect yn ehangach, er mai dim ond un agwedd oedd hynny. Yr hyn y gwnaethon nhw wirioneddol ein profi arno oedd addasrwydd ar gyfer y dyfodol h.y. a oes gan y fargen hon weledigaeth sy’n mynd â hi tu hwnt i fod yn fargen ddinesig yn unig? A oes ganddi’r gallu i gyrraedd am ragor, ac edrych ar y cynigion gwerth ehangach y mae’n ceisio eu datblygu. Fe gynhaliwyd sesiynau her amrywiol gyda gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru; roedd Sir Fynwy yn rhan o hynny. Rydym yn sicr ei bod yn broses dda ond nid ydym wedi clywed eto gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a ydym wedi mynd trwodd. Bydd y pum mlynedd nesaf yn cynnig rhagor o’r un peth ond bydd y ffocws yn gulach: bydd y pwyslais yn fwy ar brosiectau penodol, a byddwn yn gallu cael rhai o’r metrigau a chamau yn eu lle o ran effaith GBS. Mae’n bwysig nodi fy mod am ddatblygu camau gwahanol e.e. edrych at yr economi llesiant, gan feddwl am yr effaith ar yr economi sylfaenol, ac ati. Rhaid i’r cam nesaf fod yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau rhwng y gwaith a wnaed hyd yn hyn a’r dinasyddion, nad yw’n golygu llawer iddynt ar hyn o bryd.

 

Sut ydych chi’n meddwl y mae’r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn wedi cael ei gyfathrebu i’r cyhoedd, ac a oes gwaith cyfathrebu i’w wneud â’r awdurdodau lleol dan sylw o hyd?

 

Mae rhai o’r rhain yn negeseuon cymhleth a dwys. Mae’n haws eu cyfleu i’r cyhoedd pan fyddant yn berthnasol yn uniongyrchol iddyn nhw. Bydd Zipworld yn bwysig fel buddsoddiad a wnaed gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan eu bod ar y safle ac yn gosod y seilwaith a swyddi’n cael eu hysbysebu. Gobeithio, pan fyddwn yn dechrau’r gwaith ar Dwnnel Afon Hafren bydd arwydd yn dweud ‘Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyfrannu at Sir Fynwy’. Mae’n fater o gynyddu’r gwelededd hwnnw, a gwneud y gwaith yn real i bobl. O ran cyfathrebu, rydym yn gwneud llawer ar y tudalennau busnes (ymhlith pethau eraill), er enghraifft, ond dim ond cyfran benodol o bobl fydd yn darllen hyn. Nid ydym yn y cyfnod eto o wneud i bethau ganu cloch gyda phobl ond mae’n flaenoriaeth ar gyfer y bum mlynedd nesaf.

 

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi taflu goleuni ar fylchau amrywiol, yn arbennig yn ymwneud ag anghyfartaledd a’r gweithlu. Sut ydyn ni’n defnyddio’r economi sylfaenol a’r busnesau llai i liniaru rhai o’r problemau hyn?

 

Rydym wedi bod yn eistedd fel rhan o fwrdd ymgynghorol gweinidogol ar yr economi sylfaenol, yn bennaf oherwydd y gwaith yr ydym yn ceisio ei wneud. Mae’r Gronfa Her wedi cael ei blaenoriaethau ar gyfer cynyddu cyfoeth lleol, gan gydnabod bod llawer o’r sectorau (gofal cymdeithasol, adwerthu, bwyd, twristiaeth, ac ati) wedi cael eu taro’n galed, fel y mae’r data ONS wedi dangos. Mae’r gronfa cynyddu cyfoeth lleol, gan weithio gyda Infuse, yn chwilio am atebion newydd i’r problemau endemig yma.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ei Chronfa Her, y mae Sir Fynwy wedi cael budd ohoni parthed hyfforddiant gofal cymdeithasol. Mae ein cronfa yn awr yn edrych i adeiladu ar hynny. Gobeithio, y bydd y symudiad hwn tuag at arloesedd sy’n fwy seiliedig ar her a meddwl am genhadaeth yn gadael i ni ofyn cwestiynau gwell, oherwydd nid yw’r atebion presennol yn ddigon da.

 

Cododd y Cynghorydd Roden bwynt da am graffu. Mae ar aelodau angen rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n digwydd a beth sydd ar y gweill.

 

Frances O’Brien: Mae’n rhywbeth y gallwn ni weithio arno yn fwy manwl, o ran sut y gallwn ni gyfleu’r wybodaeth honno orau i aelodau, cynghorwyr a’r cyhoedd yn ehangach. Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael ar wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ogystal â phethau fel y podlediad, mae’n fater o’i gael at bawb ar ffurf sydd ar gael yn rhwydd - os byddwn yn gwneud mwy o sesiynau penodol fel hon ar brosiectau penodol neu bethau yr ydym wedi cael arian ar eu cyfer, ac ati.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i Kellie am ei phresenoldeb yma heddiw, a’r wybodaeth a roddwyd. Rydym am sicrhau bod aelodau yn cael gwybod am ddatblygiadau pellach, ac rydym yn gobeithio cael Kellie yn ôl yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae’n sianel rhwng aelodau a’r cydbwyllgor craffu, sydd yn elfen arall y mae angen i ni weithio arni gydag aelodau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu faterion i’w dwyn gerbron.