Agenda item

Asesiad Risg Strategol Awdurdod Cyfan

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Perfformiad yr Asesiad Risg Strategol :

 

·         Cyllidebau ysgolion a gaiff eu rheoli’n lleol: Soniodd Aelod am y cyfanswm diffyg net o £435k ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol ac mae dadansoddiad Mis 9 yn dangos gostyngiad pellach gan fynd â’r cyfanswm diffyg a ragwelir i £166,000, a holodd os oedd y datganiad yn gywir.

·         Pwyllgor Buddsoddi: Cyfeiriodd Aelod at waith y Pwyllgor Buddsoddi gan nodi’r diffyg mewn rhent a dalwyd gan Lywodraeth Cymru. Holwyd am y rhagolwg gorwariant cyfunol o £836,000. Gofynnodd Aelod os yw hyn yn ffigur neilltuol heb fod yn gysylltiedig â’r incwm a gynhyrchwyd o Barc Hamdden Casnewydd a Castlegate. Dywedwyd fod y swm hwn yn cyfeirio at y diffyg incwm ar wahân i’r cyllid a dderbyniwyd o Gronfa Caledi Covid 19 Llywodraeth Cymru. Mae’r golled net yn sylweddol is gan y cafodd colledion eu gwrthbwyso’n helaeth gan gyllid caledi.

·         Caffael: Yng nghyswllt gweithredu’r Strategaeth Caffael, nodwyd y cynhaliwyd adolygiad strategol. Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd fod yr adroddiad dilynol yn amodol ar benderfyniad Aelod Cabinet unigol a’i fod yn rhan o’r ymgynghoriad ar y gyllideb yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir.

·         Seilwaith: Gofynnodd Aelod pam fod seilwaith wedi gostwng o risg uchel i risg canolig.

·         Fferm Solar: Holodd aelod am y cyfyngiadau mewn cysylltu cynhyrchu ynni newydd posibl gyda’r grid cenedlaethol sy’n cyfyngu’r gallu i ddatblygu ffermydd solar newydd a gofyn sut y caiff hyn ei ddatrys. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y cyfyngiadau ar y grid cenedlaethol sy’n gyffredin yn Ne Ddwyrain Cymru yn effeithio ar y gallu i greu mwy o ffermydd solar. Mae dialog yn mynd rhagddi ar hyn o bryd gyda chwmnïau ynni. Caiff y posibilrwydd o storfa batri i gadw ynni pan fo capasiti ar gael ei ymchwilio fel opsiwn.

·         Holodd y Cadeirydd am rôl y Pwyllgor Archwilio wrth graffu ar yr asesiad risg strategol. Esboniodd y Rheolwr Perfformiad fod yn rhaid i’r Pwyllgor sicrhau ei hunan ar drefniadau rheoli risg. Mae’r perchennog risg yn rhoi diweddariad o fewn y broses rheoli risg. Er efallai nad yw’n ymarferol i berchnogion risg fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, wrth gynnal craffu, gall y Pwyllgor ofyn i bwyntiau technegol gael eu codi tu allan i’r cyfarfod. Gall materion sydd angen esboniad pellach gael eu hystyried gan y Pwyllgor Dethol priodol.

·         Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar ailddatblygu staff Archwiliad Mewnol i’r swyddogaeth Profi Olrhain a Diogelu. Rhoddwyd sicrwydd fod y tîm wedi rhoi cymorth o fis Ionawr 2021 ymlaen. Erbyn 1 Mawrth roedd 80% wedi dychwelyd i’w prif swyddi. Mae un aelod o staff yn parhau ar secondiad tymor hirach i gynorthwyo gyda gweinyddu grantiau busnes.

·         Gofynnodd y Cadeirydd pam na chaiff risgiau lliniaru ar ôl cymryd cam gweithredu (e.e. Risg 1, Risg Bosibl nad: yw’r awdurdod yn parhau’n berthnasol a hyfyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol oherwydd nad oes ganddo fodel cyflenwi cynaliadwy) gan gyfeirio at yr ymyriad a achosir gan y pandemig a llifogydd; amgylchiadau sydd wedi atal lliniaru pellach. Esboniwyd y fod gwahanol ffactorau yn dylanwadu ar bob risg ac y rhoddir ystyriaeth iddynt mewn cyswllt gyda pherchnogion risg, gan gyfrif pa mor bell y mae o fewn rheolaeth y Cyngor i liniaru’r risg. Caiff yr holl risgiau eu hadolygu’n barhaus a maent yn rhoi ystyriaeth i fesurau lliniaru. Gall risgiau gael eu hailasesu os oes newidiadau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Archwilio ar argymhellion yr adroddiad bod:

1.    Aelodau yn defnyddio’r asesiad risg i ystyried effeithlonrwydd trefniadau rheoli risg yr awdurdod ac i ba raddau y caiff y risgiau strategol sy’n wynebu’r awdurdod eu dangos yn briodol; a

2.    Bod aelodau yn craffu, ar sail barhaus, ar yr asesiad risg a deiliaid cyfrifoldeb i sicrhau y caiff risg ei reoli mewn modd priodol.

 

Dogfennau ategol: