Agenda item

Adborth gan Estyn: Diweddariad llafar gan y Prif Swyddog ar yr adborth gan Estyn a dderbyniodd y Cyngor yn ddiweddar.

Cofnodion:

Roedd Will McLean wedi siarad ag aelodau ac wedi ateb eu cwestiynau. Mae’r llythyr yr ydym wedi derbyn gan  Estyn yn adlewyrchu’n dda'r gwaith yr ydym ni, ein hysgolion a chydweithwyr yn y GCA, wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod y cyfnod pontio wedi bod mor effeithiol ag sydd yn bosib.  Mae’r llythyr mewn dwy ran: Mawrth-Awst 2020 ac wedi Medi 2020. Mae Gwanwyn 2021 wedi bod yn gyfnod o gyfnod clo a dysgu o bell i lawer a bydd Estyn yn parhau i weithio gyda ni er mwyn asesu a thrafod sut y mae’r cyfnod hwn  wedi ei reoli ‘gystal. Rydym wedi cynnal ein hymweliadau Arolygwyr Cyswllt Awdurdod Lleol bob hanner tymor, er mwyn sicrhau bod Arolygwyr yn deall ein safbwynt a’r penderfyniadau yr ydym yn ei wneud.

Rhai pethau i’w nodi o’r llythyr hwn: o ran Arweinyddiaeth a Chydlafurio, rydym yn bles iawn eu bod yn cydnabod ein cyfathrebu a’n disgwyliadau eglur ar gyfer ysgolion a bod Aelodau wedi gofyn am ddiweddariadau wrth i bethau ddigwydd. Mae ansawdd y cwestiynau a lefel yr heriau gan Aelodau wedi bod yn dda.  

Mae yna sylwadau diddorol yngl?n â’r ffordd yr ydym wedi gweithio ag ysgolion. Nid ydym erioed wedi mabwysiadu ‘un ateb sydd yn addas i bawb’  - rydym yn cydnabod fod pob un ysgol yn meddu ar fathau gwahanol o bwysau,  adeiladau, cymunedau ayyb. Rydym wedi gosod ffiniau a disgwyliadau clir ar gyfer ysgolion ond wedi rhoi’r hyblygrwydd iddynt ymateb mewn modd sydd yn diwallu eu hanghenion lleol. 

Mae’r llythyr yn trafod ein penderfyniad am ddiwedd y tymor: roedd ein plant wedi dychwelyd am dair wythnos yn yr haf, a oedd yn golygu nad oeddem wedi cael wythnos ychwanegol o wyliau yn nhymor yr hydref.  Roedd ysgolion ond wedi cael cynnal 30% o’r disgyblion yn ystod y cyfnod hwn. Yn ei hanfod, roedd plant wedi colli un diwrnod ar ddiwedd tymor yr haf ond wedi elwa o 5 diwrnod yn ystod tymor yr hydref. Yn sgil y lefel isel o ran sut oedd y feirws yn cael ei drosglwyddo yn Sir Fynwy, ni aflonyddwyd ar dymor yr hydref. Roedd y llythyr yn cydnabod na fyddai hyn yn cael effaith gydradd ar ddysgwyr ac rydym wedi mynd i’r afael gyda hyn o ran ein cynllunio a’n disgwyliadau.  

Elfen bositif arall yw bod Estyn wedi siarad gyda’n hysgolion a ddywedodd eu bod yn teimlo ein bod wedi eu cefnogi. Mae’r papur hefyd yn cydnabod y gwaith da a wnaed gan gydweithwyr ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion dysgwyr mwy bregus. Mae’n sôn am gyflenwi technoleg er mwyn sicrhau bod y dysgu cyfunol yn effeithiol, a’r ffordd y sefydlwyd  hybiau gofal plant, a llefydd yn cael eu sicrhau ar gyfer y plant a oedd eu hangen. Wrth edrych yn ôl, mae modd i ni gydnabod pa mor gyflym y bu ein cydweithwyr yn gweithio, yr ymroddiad a roddwyd ganddynt a sut oeddynt wedi cydweithio gyda Phenaethiaid. Roedd y cyflymder o ran sefydlu hybiau gofal plant yn enghraifft dda o’n hymroddiad i gydweithio.  

Mae’r ddogfen hon yn bositif iawn am ein perthynas gyda’r GCA. Rydym wedi bod yn eglur iawn yn ystod y pandemig fod rôl wahanol gennym: rôl yr awdurdod lleol yw cefnogi ysgolion, ‘ymatebion tactegol’ ayyb tra bod y GCA wedi darparu’r lefelau cywir o ddysgu proffesiynol er mwyn caniatáu bod modd datblygu dysgu cyfunol yn sylweddol a’n sicrhau bod arweinwyr  yn mynd i’r afael gyda’r her hon. Mae gwybodaeth wedi ei rhannu yn wythnosol mewn modd ardderchog. 

Mae’r Pwyllgor wedi mynegi pryder yngl?n â’r ffordd y mae’r dyfeisiau wedi eu rheoli. Ysgrifennwyd y ddogfen hon ychydig amser yn ôl; mae’r ffigyrau ar gyfer y nifer o ddyfeisiau  sydd wedi eu darparu nawr dipyn yn uwch na hyn ac mae’r heriau caffael sydd wedi eu nodi yn y llythyr wedi eu lliniaru rhywfaint.  

Mae yna arwyddion positif o’n cefnogaeth ar gyfer dysgwyr bregus:   roedd 84% o’r dysgwyr bregus a nodwyd wedi manteisio ar y cyfle i sicrhau lle yn yr hybiau ysgol; o’r 16% sy’n weddill, roedd rhieni rhai plant ag anghenion cymhleth wedi penderfynu i gadw eu plant adref. Roeddem wedi parhau i weithio hyd at ddiwedd tymor yr haf ac wedi dechrau ar y gwaith o ddychwelyd ym mis Medi.  Roedd hon yn foment bwysig gan fod y sefydlogrwydd yr oeddem yn medru cynnig ar draws y system ysgol yn golygu bod llawer o’n plant wedi cael cyfnodau  di-dor yn yr ysgol. Rydym wedi elwa o gyfraddau trosglwyddo is o’u cymharu gyda rhanbarthau eraill ac roedd y buddsoddiad a wnaed yn nhymhorau’r gwanwyn a haf wedi ein helwa erbyn tymor yr hydref.  

Mae’r llythyr yn cydnabod ein gwaith i gefnogi llesiant ein Penaethiaid. Roeddem wedi cysylltu gyda chyn-Bennaeth ac wedi gofyn iddo ddod 'nôl atom i weithio am gyfnod fel bod rhywun gan Benaethiaid i drafod materion a chafodd hyn ei groesawu. 

Rydym yn parhau gyda’n gwaith gyda rhai o’r ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod wedi eu cefnogi a’u hymgysylltu’n llawn. Mae digwyddiadau sydd wedi eu cynnal gan ein hysgolion y term yma i roi trosolwg i aelodau o’r hyn a gynigir gan ddysgu cyfunol wedi eu croesawu.  Dylai pawb ymfalchïo yn y modd y maent wedi darparu dysgu cyfunol mor effeithiol, a hynny o fewn cyn lleied o amser.

Tra bod tymor  yr haf yn ymwneud gyda darparu gofal plant, y ffocws yn ystod y tymor hwn oedd darparu addysg. Yn gweithio ag ysgolion, rydym wedi adnabod dysgwyr bregus sydd wedi parhau i dderbyn dysgu wyneb i wyneb drwy gydol hyn oll, tra bod y nifer o blant y gweithwyr critigol yn ein hysgolion wedi parhau’n uchel.   Hoffem ddiolch i’n holl gydweithwyr a’r cyrff llywodraethu ac rydym yn edrych ymlaen at ail-agor ysgolion yn llawn o’r 12fed Ebrill. Gyda mesurau yn eu lle ar gyfer Profion Llif Unffordd i athrawon a mesurau pellter cymdeithasol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i gadw cyfraddau yn is – nid ydym wedi cael canlyniad positif o ran y Profion Llif Unffordd.

Her:

A oes unrhyw beth wedi ymddangos o’r ail don sydd wedi ychwanegu at y cymhlethdodau ym mywydau pobl ifanc, yn enwedig o ran y PRU?

Mae’r ddarpariaeth PRU wedi bod yn ddiddorol iawn. Cafodd y plant eu hystyried yn ddysgwyr bregus, ac felly, parhawyd i roi addysg ‘wyneb i wyneb’ iddynt mewn ysgolion, sydd wedi bod yn bositif iawn. Mae’r gwaith a wneir gan y PRU i gefnogi plant yn ein canolfannau a’n darpariaeth fewnol wedi bod yn bwysig iawn.  Mae’r plant yma fel arfer yn wynebu sawl her o ran eu haddysg. Rydym wedi gweld rhai manteision e.e. mae dysgu o bell a dysgu cyfunol wedi bod yn fantais. Mae’r pwysau presennol ar y PRU yn destun pryder ac yn codi cwestiynau yngl?n â’r gallu i ddiwallu anghenion poblogaeth sydd yn tyfu.  Mae yna ychydig o aflonyddwch wedi bod, h.y. symud i adeilad newydd yn Y Fenni ond mae’r gwasanaeth  wedi ymateb yn bositif iawn i hynny. Wrth i ni symud i derm yr haf, byddwn yn cymryd yr amser i weithio yn agos iawn gyda’n dysgwyr er mwyn deall ble mae yna ddiffygion a’r hyn sydd angen ei wneud yn wahanol er mwyn delio gyda hyn.

Rydym yn ffafrio dysgu yn y dosbarth. Gyda dysgu cyfunol, a oes yna ganllawiau wedi eu rhoi i staff yngl?n â threulio gormod o amser ar y sgrin, a’r pwysau y mae hyn wedi rhoi ar lygaid athrawon?

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n hysgolion ar lesiant athrawon. Rydym yn cwrdd gyda’r Cymdeithasau Proffesiynol bob pythefnos (bu’n gyfarfod wythnosol yn ystod y pandemig). Mae llawer o’n hysgolion wedi cynnig cyfuniad o ddysgu o bell cydamserol a  dysgu o bell amghydamserol, ac felly, bydd rhan o’r diwrnod yn cynnwys dysgu byw a rhan eraill yn cynnwys tasgau sydd wedi eu gosod o flaen llaw. Roeddem wedi ceisio taro cydbwysedd rhwng y ddwy elfen hyn. Mae ein hysgolion wedi mabwysiadu dulliau gwahanol e.e. mae dwy ysgol wedi symud i wersi 100 munud, gan sicrhau bod athro ar gael ar y dechrau, yn gosod tasgau ayyb, ac yna mae’n elfen fyw yn dod i ben ac mae’r elfen  amghydamserol yn digwydd, gyda’r athro efallai yn gwirio pethau ar y diwedd. 

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i’r Prif Swyddog am ei ymdrech yntau a’r tîm yn ystod y cyfnod anoddaf hwn, ynghyd ag unrhyw un sydd wedi gweithio yn y sector neu gyda’r sector addysg. Rydym ni, y rhieni a’r disgyblion, yn falch iawn fod plant nawr yn dychwelyd i’r ysgol. Rydym wedi nodi’r pryderon am  PRU, a’r trafferthion o ddysgu ar-lein. Byddai ail flwyddyn, heb unrhyw arholiadau, yn her sylweddol.