Agenda item

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc: Trafod gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid bryderon plant a phobl ifanc am iechyd meddwl

Cofnodion:

Roedd Charlie-Jade Atkins a Josh Klein wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau yr Aelodau.

Her:

Pa fath o wybodaeth y mae pobl ifanc yn ei ddymuno, a hynny o ran cydberthynas ac addysg rhyw, problemau gyda delweddau’r corff a chyfryngau cymdeithasol, parch a chaniatâd ayyb? Sut ydym yn medru helpu gyda hyn?

Roeddem wedi cael sgwrs dda iawn yn ddiweddar gyda pherson ifanc mewn ysgol uwchradd, a oedd wedi danfon e-bost at y Pennaeth yn mynegi pryderon ac yn cynnig adborth am yr addysg rhyw. Roeddem wedi cwrdd â hi ac roedd hyn yn ddefnyddiol iawn. Roedd wedi ei brawychu gan ddiffyg dealltwriaeth ei ffrindiau. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys: bod yn ddiogel yn gorfforol ac emosiynol, atal cenhedlu, sut i ddod i adnabod y person sydd yn agos i chi, pwysau gan ffrindiau, gwerthoedd teuluol, gyda phwy y dylid siarad er mwyn cael sgwrs dda, teimladau o euogrwydd a gwarth, cymhlethdod sy’n ymwneud gyda phleser a deimlir gan fenywod, disgwyliadau  a hunanwerth, cywirdeb  anatomegol, ac effaith cyfryngau cymdeithasol fel Instagram. Rydym wedi gweithio gyda llawer o bobl ifanc yn ystod y cyfnod clo  sydd yn wynebu heriau o ran materion fel hunanwerth a delweddau o’r corff, a hynny i’r pwynt fel bod rhai a oedd wedi gweithio gyda ni dros y cyfnod clo wedi penderfynu ymatal rhag rhyngweithio gyda ni ar alwadau fideo. Mae ein ffurflen ganiatâd ar-lein yn cynnwys rhoi dewis i bobl ifanc yngl?n â’r ffordd y maent am ryngweithio gyda ni: mae llawer wedi dewis gwneud hyn drwy ffonio neu drwy neges destun, yn hytrach na galwad fideo.  Mae ‘Pornograffi Dial’ a ‘Sexting’ hefyd yn bryderon sylweddol yn ogystal â gwybod am ble i fynd am help, gwybodaeth a dulliau atal cenhedlu, ynghyd â chaniatâd, rheoli risgiau a’r canlyniadau o fethu gwneud hyn.

Mae’n wych i weld ei fod mor ymwybodol o’r hyn y maent yn dymuno. Dylai clinigau iechyd rhywiol fod yn llai  diraddiol a chlinigol. Efallai y byddai sefydlu is-gr?p yn ddefnyddiol er mwyn gweithio ar y materion yma?

Mae’r bobl ifanc yma eisoes yn cael y sgyrsiau yma ac yn chwilio am bobl i siarad gyda hwy – mae’r  ‘Friday Friendlies’ wedi eu sefydlu er mwyn ateb y galw. Byddai’n beth da i Gynghorwyr i fynychu ac ymuno gyda’r sgyrsiau. Roedd yr Aelod Cabinet Sara Jones wedi mynychu sesiwn yn ddiweddar ar Gydraddoldeb Rhywiol, gan roi’r cyfle iddi siarad a gwrando ar bobl ifanc a oedd yn hynod ddefnyddiol.  

Martyn: Pan ein bod yn siarad am addysg rhyw a chydberthynas, un peth yr ydym yn gweld dro a dro yw pan ein bod yn cyrraedd pwynt argyfwng o ran trais yn erbyn menywod, dynion sydd yn gyfrifol am hyn gan amlaf.   Mae yna broblem sylweddol o ran y  gagendor rhwng dynion a menywod. Wrth edrych ar y cwricwlwm newydd i Gymru, mae yna rôl sylweddol i fudiadau ieuenctid i fod yn yr ysgolion a dylanwadu ar  yr hyn sydd yn cael ei ddysgu.

Rydym yn gweithio ar brosiectau Cyfranogiad a Shifftiau ac yn gweld pethau  dros ein hunain. Efallai nad oes digon ohonom yn gweithio yn y meysydd yma. Mae datblygu’r Cwricwlwm newydd yn gyfle gwych i Wasanaethau Ieuenctid i chwarae rhan.  Rydym wedi ein gwahodd i gyfarfod o’r staff ysgolion uwchradd sydd yn gyfrifol am ddatblygu SMRSE: rydym yn mynd i nodi’r gagendor yn y ddarpariaeth yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, gan ystyried yr hyn y mae pobl ifanc wedi dweud wrthym, a’r anghenion sydd wedi eu nodi gan yr ysgol, ac rydym yn mynd i ddatblygu pecynnau teilwredig yn unol gyda’r cwricwlwm newydd. Mae’r sgyrsiau yma newydd ddechrau.  

O ran yr argymhellion, a ydym yn medru helpu drwy alw ar y sawl sydd yn cydlafurio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion  (Aneurin Bevan, Mind, ayyb.) i ddod i’n pwyllgor ac ateb ein cwestiynau?

Mae’r data o’r tabl addysg rhyw a barn pobl ifanc a fynegwyd yn y Gynhadledd Ieuenctid wedi eu rhannu gyda Senedd Ieuenctid Cymru a oedd wedi rhoi adborth i gr?p y cwricwlwm. Mae llawer o’r hyn yr ydym wedi trafod o ran gofynion pobl ifanc eisoes wedi ei rannu’n uniongyrchol.  

Rydych yn sôn am ‘werthoedd teuluol’ - a fydd yna bwyslais ar sefydlu perthynas gref a sefydlog, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol?  

Rydym yn ceisio ffocysu ar ddatblygu dygnwch pobl ifanc gan sicrhau eu bod yn meddu ar y rhwydweithiau a’n derbyn y cymorth cywir. Rydym yn gobeithio y bydd hyn oll yn cael ei ymgorffori yn yr hyn yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu.  

Mae’n bwysig iawn cynnwys trais yn y cartref. Mae perthynas iach yn cynnwys parch a dim trais. Mae’n bwysig cynnwys sefydlu cydberthynas cryf ac iachus, ac nid annog dealltwriaeth fiolegol yn unig.  

Ydy - un o’r themâu a ddaeth i’r amlwg gan y bobl ifanc oedd eu bod am ddysgu mwy nag am yr elfen fiolegol yn unig, ond pob dim arall. Rydym wedi nodi hynny.

Mae pobl ifanc sydd yn cael eu perswadio i dynnu lluniau o’u hunain, sydd wedyn yn cael eu gosod ar-lein  yn bryder sylweddol.  A oes pobl gennym sydd yn medru helpu’r bobl ifanc yma cyn eu bod yn mynd i gythrwfl?  

Oes, mae gwaith ieuenctid yn ymwneud gyda gwrando ar bobl, heb eu beirniadu. Rydym wedi cael llawer o adborth yn ystod y blynyddoedd diwethaf am ‘Sexting’, ac mae adnoddau da iawn ar gael. Pan ein bod yn siarad gyda phobl ifanc a rhieni am y broblem hon, mae’r cyfreithiau yngl?n â hyn yn medru eu synnu h.y. os yw person ifanc sydd o dan 18 mlwydd oed yn tynnu llun o’i hun, mae’n creu ‘delwedd anweddus o blentyn’ ac wrth ddanfon y llun, mae’n ‘dosbarthu’, ac mae’r sawl sydd yn derbyn y llun mewn ‘perchnogaeth’. Pan ddaeth y materion yma i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf,  aeth yr Heddlu i ysgolion gan ddelio gyda’r broblem o safbwynt troseddol, ond wrth i ni ddeall y mater hwn yn well, addysg sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl ifanc.  Mae nawr yn beth positif fod ‘Pornograffi Dial’ yn anghyfreithlon.

Pa gysylltiad sydd gyda’n tîm Iechyd Meddwl a’u gwaith fel y Prosiect  Mynydd Iâ?

Mae’r prosiect Shifft, a’r gwaith iechyd meddwl a llesiant yr ydym yn ei wneud, yn ymatal rhag bod yn glinigol, gan ddefnyddio dulliau ac ymyriadau gwaith ieuenctid. Mae rhwydwaith gwych o’n cwmpas o arbenigwyr iechyd meddwl e.e. rydym wedi gwneud llawer o waith gyda  Papyrus, sef gr?p sydd yn mynd i’r afael gyda hunanladdiad. Mae cronfa dda ardderchog gennym o fudiadau sydd yn medru cynnig cyngor, rhannu atgyfeiriadau ayyb. Mae’r fframwaith yno ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 ac rydym yn datblygu gwasanaethau ar gyfer y sawl rhwng 18 a 25.  Byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau yngl?n â mudiadau eraill i weithio gyda hwy.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r holl aelodau wedi elwa’n sylweddol gan y diweddariad hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm am ei waith.  

Byddai sefydlu is-grwpiau yn ddefnyddiol yn nifer o’r meysydd yma, fel sydd yn cael ei awgrymu gan y Cynghorydd Dymock. Rydym angen gwneud yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddymuno, nid yr hyn y mae’r Cyngor yn credu bod pobl ifanc yn ei ddymuno. Roedd y Cynghorydd  Groucott wedi codi’r pwynt am drais rhywiol, sydd yn bryder sylweddol - rydym angen mynd i’r afael gyda hyn a’r agweddau sydd yn cyfrannu at hyn. Mae cydweithio gydag Aneurin Bevan a Mind ayyb. ar hyn yn syniad da. Awgrymodd y gellid, unwaith y flwyddyn o bosib, trefnu Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc lle y mae’r cyfarfod yn seiliedig ar ddymuniadau a  dyheadau pobl ifanc neu mi allai’r bobl ifanc reoli’r pwyllgor. Roedd Aelodau wedi sôn am bwysigrwydd cydberthynas sydd yn gryf a sefydlog. Roedd y Cynghorydd  Penny Jones wedi crybwyll y tîm iechyd meddwl a chyfrannu at y sesiynau  ‘Friday Friendlies’, gan gynnwys siarad gyda phobl ifanc am wleidyddiaeth a sut y maent yn medru creu newid mewn cymdeithas.  

Rydym yn derbyn yr argymhellion ac yn cynnig ein cefnogaeth i’r gwasanaeth ieuenctid. Dylem feithrin cysylltiadau rhwng Cyngor Sir Fynwy ac  E2C, gan ddefnyddio’r E2C ar gyfer ffordd o ymgysylltu gyda phobl ifanc yn Sir Fynwy er mwyn llywio agendau a’r broses o wneud penderfyniadau.  Bydd y drws i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn parhau ar agor, ac rydym yn hapus iawn i gymryd rhan yn y sesiynau ‘Friday Friendlies’, os yw hynny yn ddefnyddiol. Byddwn yn llunio adroddiad blynyddol o’r hyn a wneir gan wasanaethau ieuenctid fel rhan o’r rhaglen waith.

 

 

Dogfennau ategol: