Agenda item

Tracio, Olrhain a Diogelu - Diweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol a'r gwasanaethau a ddarperir.

Cofnodion:

Siaradodd Gill Dicken a Louise Driscoll â'r aelodau ac ateb eu cwestiynau.

Diweddarodd y tîm y pwyllgor ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Ym mis Medi, fe ddechreuon ni nodi achosion. Roedd tîm iechyd yr amgylchedd yn gwneud y tracio a’r olrhain yn y cyfnod hwnnw, ac roedd tîm o gynghorwyr o dan Richard Drinkwater. Fe ddechreuon ni gasglu Tracio & Olrhain ar gyfer Caerffili a gogledd Cymru. Ym mis Hydref, daeth yr holl dîm Tracio & Olrhain o dan Iechyd y Cyhoedd a Diogelu'r Amgylchedd. Fe wnaethom ychwanegu strwythur i'r cynghorwyr a datblygu'r tîm. Ym mis Tachwedd, roedd y tîm mewn lle da. Roedd y niferoedd yn cynyddu. Erbyn mis Rhagfyr, fe gyrhaeddon ni niferoedd uchel iawn ond roeddem ni’n cyflogi pobl o bob rhan o’r cyngor – adleoli, o FywydMynwy, gwirfoddolwyr ac ati – ac fe wnaethom ni ddewis yn benodol bobl â chefndir iechyd amgylcheddol neu feddygol, gan roi’r gallu i ni ymateb i achosion a chlystyrau yn gyflym iawn. Pan ddechreuodd y cyfnod atal byr, roeddem yn hyderus y gallem reoli’r clystyrau.

Erbyn mis Chwefror, roedd y niferoedd yn gostwng, felly roeddem yn gallu dechrau lleihau'r tîm. Arhoswn nawr i weld beth sy'n digwydd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf gydag ysgolion ar fin mynd yn ôl, profion Plu  yn mynd ymlaen, a mesurau cloi yn lleddfu'n raddol. Rydym ni'n gwybod nawr y gallwn ni ystwytho'r tîm i fyny ac i lawr pan fo angen.

Rydym ni nawr i lawr i 15 o olrheinwyr, yn gweithio 8 tan 8, 7 niwrnod yr wythnos. Mae niferoedd yn gostwng, felly mae cloi wedi gweithio’n dda iawn yn Sir Fynwy, ochr yn ochr â’r brechlynnau. Ers i ni ddechrau olrhain ym mis Mehefin, rydym wedi cael 4,174 o achosion yn Sir Fynwy; allan o'r rheini, rydym wedi ymateb i 99.7% o fewn cyfnod o 48 awr ar draws Gwent (gydag ystadegau Sir Fynwy ar frig y bwrdd arweinwyr). Mae’n stori o lwyddiant yng Nghymru. O'r 4,174 o’r  achosion hynny, cynhyrchwyd dros 6,000 o gysylltiadau. Rydym hefyd yn gweithio'n agos, ac yn cael cyfarfodydd dyddiol, gyda'n partneriaid eraill yng Ngwent. Mae gennym gyfathrebu da iawn i'n galluogi i ymateb i unrhyw weithleoedd a allai weld clwstwr o achosion. Rydym yn adolygu’r data hynny’n ddyddiol, ac yn adrodd yn wythnosol i ICC a Llywodraeth Cymru ar ein hachosion ac unrhyw bigynnau. Mae gan y tîm gysylltiad da â gweithleoedd, a sefydlwyd cyn Covid.

Hefyd, rydym wedi gwneud llawer o waith gydag ysgolion, sydd bellach yn cyflwyno'r profion Plu, sy'n rhoi canlyniad mewn ychydig funudau. Mae pob aelod o staff wedi cael y pecynnau hyn. Rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'n penaethiaid, sydd wedi bod yn wych wrth weithio gyda ni.

Rydym wedi cael niferoedd isel, o gymharu â gweddill Gwent, oherwydd bod penaethiaid wedi gwneud gwaith gwych yn cael swigod i ynysu. Er, yn flaenorol, byddem yn ynysu'r gr?p blwyddyn gyfan, nawr rydym yn mynd yn ôl ac yn tracio ac yn olrhain i gyfyngu cymaint â phosibl ar nifer y staff a'r plant yr effeithir arnynt. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Will McLean a'i dîm. Mae rhai o'n holrheinwyr yn gyn-athrawon, felly maen nhw'n deall diwylliant yr ysgolion. Rydym wedi bod yn gweithio gyda chartrefi gofal a’r tîm comisiynu hefyd.

Rydym wedi cynnal astudiaethau ar y rhai sy'n ynysu, gan weithio gyda'r tîm Partneriaethau, a chefnogi preswylwyr ar eu pen eu hunain. Mae ôl olrhain wedi bod yn gyflwyniad newydd. Mae Sir Fynwy ar ei phen ei hun ar hyn yng Ngwent. Rydym wedi gwneud hyn o'r dechrau, gan fynd yn ôl bob amser ymhellach na 48 awr, gan annog safleoedd a gweithleoedd i gael pawb sydd wedi ymweld â ni i gysylltu â ni, a'u cynghori i gael prawf. Bu cydymffurfiad da. Nawr, mae Cymru gyfan yn gwneud gwaith ôlolrhain 14 diwrnod. Nid oes rhaid iddynt ynysu os ydynt y tu allan i'r cyfnod heintus o 48 awr ond fe'u cynghorir i gyd i gael eu profi - felly, gobeithio, gallwn ddod o hyd i'r bobl asymptomatig hynny allan yn y gymuned. Ac, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhyddhau canllawiau ar unrhyw un sydd wedi bod yn gyswllt uniongyrchol yn ystod eu cyfnod heintus i gael prawf ddwywaith o fewn yr 8 niwrnod cyntaf. Cawsom 200+ o achosion yr wythnos ym mis Ionawr ac erbyn hyn rydym wedi gostwng i 25 yn ystod y 7 niwrnod diwethaf. Rydym yn disgwyl rhywfaint o gynnydd gyda chyfyngiadau’n cael eu codi ond rydym yn rhagweithiol yn ein hymagwedd gyda busnesau, ysgolion, ac ati.

Her:

Pan fydd yn rhaid i rywun hunan-ynysu, a ydym ni'n gwirio eu bod yn gwneud hynny?

Ar gyfer achos cadarnhaol, mae'r alwad olrhain yn cael ei hategu gan lythyr neu neges SMS. Yna mae'r bobl yn y cartref hwnnw'n cael eu dosbarthu fel cyswllt agos, a chysylltir â nhw bob dydd am 10 niwrnod. Gallant ddewis SMS ond mae'n well gennym ffonio a chael sgwrs go iawn. Rydym yn olrhain eu bod yn ynysu ond hefyd a ydynt yn iach, ac a ddylent fynd am brawf. Mae hyn wedi newid yn ystod yr wythnos ddiwethaf: rydym ni nawr yn dweud wrthynt i ynysu a chael prawf hefyd. Mae’n wahanol yn Lloegr gan ei fod yn cael ei redeg gan gwmni preifat; nid ydynt yn cysylltu â’u holl achosion cadarnhaol, ond yn anfon e-ffurflenni. Fe wnaethom ni roi tro ar e-ffurflenni am wythnos adeg y Nadolig a doedden nhw ddim yn gweithio.

Er ein bod ni ymhellach ar y blaen i wledydd Ewrop gydag imiwneiddiadau, beth sydd wedi’i ddweud am baratoi ar gyfer trydedd don, ac a fyddai ei natur yn wahanol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd arian ar gael ar gyfer Tracio & Olrhain tan fis Medi. Felly byddwn yn cadw tîm craidd o olrheinwyr. Swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd wedi ei gychwyn erioed. Ni sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny oherwydd bod gennym y cysylltiadau lleol, ac rydym yn deall yr ardal. Dyna pam rydym ni’n teimlo ei fod wedi gweithio’n dda iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld trydedd don ar gyfer tua mis Mai, felly bydd y contractau a Phrofi, Olrhain, Diogelu yn parhau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhagweld trydedd don ond nid ar yr un raddfa ag o'r blaen. Yn Tracio & Olrhain, rydym nawr yn monitro'r achosion cadarnhaol sydd wedi cael y brechlyn - mae'n debyg mai dyma fydd sail yr astudiaeth nesaf. Rydym yn cael diweddariadau wythnosol gan ICC ac rydym yn rhan o unrhyw benderfyniadau sy’n digwydd.

Pa mor ddefnyddiol fu ap y GIG?

Nid yw'r ap yn gysylltiedig â Phrofi, Olrhain, Diogelu. Mae'r ap yn dweud wrth y defnyddiwr am ynysu ond mae'n ganllaw - dim ond yn swyddogol y mae angen i rywun ynysu os bydd POD yn cysylltu â nhw. Ni chawsom unrhyw fewnbwn i'r ap na'i weithrediad. Gall cyfweliad olrhain dros y ffôn gymryd hyd at ddwy awr ac nid yw'n gysylltiedig â'r ap o gwbl.

Pa mor ddibynadwy yw'r pecynnau - ydyn nhw'n rhoi canlyniadau ychydig yn wahanol?

Os bydd rhywun yn derbyn positif o'r pecyn yna fe'i cynghorir i fynd i gael prawf swyddogol. Rydym ni wedi bod yn defnyddio’r pecynnau yn ein hysgolion a’n blynyddoedd cynnar, a dim ond 1 achos o’r profion Prawf Llif Unffordd a gawsom. Os oes gan rywun symptomau, rydym yn argymell nad ydynt yn defnyddio'r pecyn ond yn mynd i ganolfan brofi.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolchiadaugwresog gan y pwyllgor i’r tîm am eu gwaith caled. Nododd y Cynghorydd Groucott fod Cymru wedi delio â T&O trwy awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus nag yn Lloegr.