Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion y mae'r Adran Cynnal a Chadw Priffyrdd wedi'u hwynebu yn ystod pandemig Covid-19, a'r cyfeiriad o ran symud ymlaen ar gyfer y gwasanaeth hwn (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd Carl Touhig yr adroddiad, ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda Steve Lane a Mark Hand.

Her:

Rydym yn croesawu’r tro pedol o ran toriadau i gyllideb y maes yma. A yw’r broblem o ran pobl yn parcio ar fannau gwyrdd a llacio’r pridd a mwd yn un gyffredinol, a sut y gallwn atal hyn?

Ydi roedd parcio ar leiniau’r broblem yn Magwyr, ac roedd hyn yn gwthio’r mwd ar draws topiau dreiniau. Mae’n broblem gyffredinol ar draws y sir. Hefyd, mae cerbydau mwy’n defnyddio’r ffyrdd bach gan wrthio’r mwd i’r dreiniau – felly mae’n broblem yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Byddwn yn siarad gyda Gorfodaeth Parcio i weld a oes modd i ni stopio pobl rhag parcio ar y lleiniau, er mae hyn hefyd yn fater i’r heddlu. Mae parcio’n dod yn fater cynyddol anodd i breswylwyr, gan nad oedd ffyrdd wedi eu dylunio ar gyfer cymaint o geir. Mae angen i ni wneud mwy o waith o ran addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau a achosir gan barcio anghywir.

Pan fyddwn yn torri gwair, mae’n mynd i bobman – a fyddwn nawr yn ei gasglu?

Y llynedd, cychwynnom ‘Dorri a Chasglu’ mewn rhai ardaloedd, er mwyn symud y daioni o’r gwellt a chefnogi blodau gwyllt i dyfu. Yn hanesyddol, rydym wedi ‘Torri a Gadael’ hy torri’r gwellt a’i adael yn ei le – rydym yn cydnabod bod hyn yn achosi i’r gwair chwythu o gwmpas. Y syniad o ran Torri a Chasglu yw y byddai’r sgubwr yn gweithio’n agos gyda’r sugnydd-gyli a rhai o’n problemau cynnal a chadw eraill. Felly p’unai ein bod yn torri gwrychoedd neu’n torri gwair, gallai’r sgubwr fod yn yr un ardal i’w glirio. Byddem yn gobeithio y byddai’r casglu’n digwydd lai na wythnos yn ddiweddarach.

Calonogol yw clywed bod y dreiniau yn Whitehall Lane yn cael sylw – mae’r ddwy ochr wedi blocio ers blynyddoedd, ac mae hyn yn difrodi wyneb y ffordd.

Rydym yn ceisio bod yn rhagweithiol a thargedu ein gwaith, gan sicrhau ein bod yn cadw’r ffordd yn ddiogel. Gall unrhyw ddeunyddiau sy’n cael ei adael ar y ffordd wneud eu ffordd i’r gyli. Mae pob draen wedi ei dylunio i fod â swmp, felly, yn dechnegol mae gan bob draen swmp ar y gwaelod. Mae deunyddiau trwm yn syrthio i’r swmp dan sylw ac mae’r d?r yn mynd allan o’r peipiau. Y broblem yw, os nad ydym yn gwagio’r swmpiau’n gyflym ac yn ddigon aml, yna mae’r gweddillion trwm yn mynd i mewn i’r peipiau ac i’r all-lifau. Nid yw priffyrdd yn gadael unrhyw fwd na thorion ar y ffordd – trydydd parti sy’n gwneud hyn. CCyfrifoldeb y trydydd parti yw clirio’r gweddillion, er y gallwn eu helpu a’u cefnogi drwy raglennu ein gwaith. Rydym yn bell o fod mewn sefyllfa sy’n ein galluogi i orfodi yn anffodus. Yn achos y prosiect yma, wedi 4 mlynedd, bydd gennym rwydwaith a fydd yn ein galluogi i dargedu ein gwaith hy gwagio’r gyli yn Whitehall Lane yn fwy rheolaidd na gyli sydd mewn canol tref er enghraifft.

Nid yw’n ymddangos bod digon o weithwyr er mwyn rhoi sylw i’r holl broblemau yma – a ydym yn penodi prentiswyr?

Y llynedd, bu i ni benodi pum gweithiwr newydd o gefndir peirianyddol, ac mae pob un ohonynt â mewnbwn i’r gwaith sy’n cael ei drafod. Mae’n rhaff dyn o ran arian: mae’n rhaid i ni gefnogi’r aelodau rheiny o staff drwy ddod ag incwm i mewn o’r tu allan ee am bob punt sy’n cael ei gwario ar lenwi twll yn y ffordd, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i bunt o incwm er mwyn talu am y tarmac. 18 mis yn ôl, bu i ni benodi 2 gadet sy’n dilyn trefn hyfforddi 2 flynedd. Maent yn fedrus a brwdfrydig iawn; ein gobaith yw y byddant yn dod yn aelodau o’r tîm.

Mae nifer o’r problemau ar y cefnffyrdd, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw’r rhain. A oes gennym unrhyw bwerau a fyddai’n eu gwthio i wneud rhywbeth?

Rydym yn gweithio’n agos gyda Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), ac rydym yn rheoli rhai o’r cytundebau cynnal a chadw drostynt yn yr ardal hon. Byddwn yn codi’r pryderon yma gyda’u swyddogion pan fyddwn yn siarad â hwy nesaf. Mae cryn dipyn o lifogydd wedi bod ar bont Llanellen a ffyrdd eraill y maent yn eu cynnal, felly gwyddom fod hyn yn broblem, a gobeithiwn wneud rhywbeth ar y prif ffyrdd yma. Gan ein bod yn gwneud y gwaith cynnal a chadw ar gyfer SWTRA, mae gennym ychydig o ddylanwad dros y rhestr flaenoriaeth, yn yr un modd, maent yn wynebu’r un anawsterau a ni o ran arian, ac maent yn ceisio rhoi sylw i’r rwydwaith gyfan yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd hyd yn oed mwy. Ar hyn o bryd, maent yn edrych ar raglen debyg o fonitro eu holl asedau ar gyfer yr un cod – efallai y gallem dreialu rhywbeth rhyngthym.

Mae’r adroddiad yn ceisio dad-wneud y difrod a wnaeth gan gyni, a dychwelyd i’r sefyllfa flaenorol. Mae’n dweud bod y sefyllfa’n annigonol o ystyried newid hinsawdd ac ati. A ydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, a dreiniau nad ydynt yn addas yn y tymor hir?

Mae hyn yn rhannol oherwydd diffyg cyllid a cheisio gweithio’n unol â’r cod ymarfer newydd ac asesiadau’n seiliedig ar risg. Gwyddom bod diffyg buddsoddiad yng ngweithrediadau priffyrdd ac rydym wedi gorfod gwneud arbedion. Ar rhyw bwynt, bydd angen i ni ail-fuddsoddi mewn darparu gwasanaeth. Nid wyf yn si?r a ydym yn annigonol o ran yr hyn yr ydym yn ei ddarparu, ond erbyn hyn mae’r her o ran mwy o law hefyd yn ychwanegu at y problemau ac yn gwneud pethau’n anoddach i ni o ran sicrhau bod y rhwydwaith yn parhau i lifo. Mae’r cynllun adweithiol/rhagweithiol yn gweithio’n dda iawn, ond ar ôl wynebu 3 neu 4 storm yn syth ar ôl eu gilydd, mae’n anodd iawn dod i ben â’r gwaith sydd ei angen gyda’r ddau gerbyd sydd gennym. Felly, rydym yn gofyn am fuddsoddiad ychwanegol.

O ran cynllunio ar gyfer y dyfodol o ran dreiniau a llifogydd, mae’r gofyn i bob datblygiad tai newydd i ymgorffori cynlluniau dreiniau trefol gynaliadwy yn ei le. Wrth i bethau symud yn eu blaen, byddwch yn gweld rhai o’r pethau yma’n cael eu rhoi ar waith. Bydd hyn yn gofyn am ychydig o newid o ran diwylliant oherwydd mae’r sefyllfa’n ymwneud i raddau helaeth â delio â d?r wyneb ar y safle, yn hytrach na’i gyfeirio i ddreiniau. Felly bydd gylis, dreiniau ochor y ffordd a nodweddion morlynoedd yn cychwyn ymddangos ar safleoedd datblygu. Yn ystod tywydd garw, byddant yn llawn o dd?r Gallai ddychryn preswylwyr, ond byddant yn gwneud yr union beth y’u cynlluniwyd ar eu cyfer. Mae’r rheoliadau rheiny’n berthnasol i nifer o gynlluniau; adfywio canol tref, priffyrdd, ac ati. Felly rydym yn cynllunio dreiniau a fydd yn gweithio yn y tymor hir.

A yw’r system ddraenio bresennol, sy’n methu â delio a tywydd cynyddol wael, felly’n cael eu diddymu?

Mae’r system wedi eu dylunio i ddelio â llifogydd sy’n digwydd unwaith bob deng mlynedd. Mae’r math dan sylw o lifogydd wedi digwydd 5 gwaith yn ystod y 18 mis diwethaf. Cyn belled â’n bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar y system ddraenio, bydd y system yn gallu ymdopi â symiau rhesymol o law. Nid wyf yn si?r y bydd yr afonydd yn ymdopi â’r cynnydd mewn glaw yn ystod digwyddiadau mwy – ac mae’n annhebygol y bydd cwlferti a dreiniau ffordd yn ymdopi ychwaith. Nid wyf yn si?r yngl?n â charthu afonydd ychwaith. Yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yw sicrhau bod y systemau yma’n gweithio i orau eu gallu, bob amser. Dylai hyn gadw’r d?r glaw i ffwrdd o’r ffyrdd yn ystod digwyddiadau cyffredin, ac yn ystod digwyddiad ble gwelir llawer o law, o leiaf byddwn yn gwybod fod y system yn cymryd popeth o fewn ei gallu ar y pwynt hwnnw, cyn iddi or-lifo o bosib.

Os yw gwaith ymchwilio neu lifogydd yn amlygu problem gyda gyli neu bibell aneffeithiol, yna byddai hynny’n cael ei gynnwys yn yr astudiaeth a bydd argymhellion o ran y gwelliannau sydd eu hangen yn cael eu gwneud. Nid yw hyn wedi digwydd hyd yma. Bwriedir cyhoeddi un ymchwiliad, sy’n edrych ar system gofer, mewn ychydig wythnosau, ond mae’r problemau sydd wedi eu gweld hyd yma, yn bennaf wedi ymwneud â chyfaint y d?r glaw, a thir gwlyb. Mae gennym ardaloedd o fewn ein anheddau a rhwydweithiau ffordd sy’n gorwedd ar orlifdir, a diben gorlifdir, yn rannol, yw creu llifogydd, felly byddai’n rhaid i ni sicrhau na fyddai unrhyw waith a fyddai’n cael ei wneud yn atal y gorlifdir rhag gweithredu.

Seilwaith yw’r gwasanaeth pwysicaf, ac rydym wedi ei esgeuluso ers blynyddoedd. Blaenoriaethu’r prif lwybrau yw’r peth iawn i wneud, ond mae’n rhaid ystyried gweddill y seilwaith hefyd.

Byddai’r peiriant ychwanegol ar gyfer prif lwybrau, a byddai hyn yn rhyddhau’r ddau beiriant arall ar gyfer y llwybrau eraill. Mae canol y trefi, yn gyffredinol, yn gwneud canol y trefi ac ardaloedd mwy trefol; byddai’r peiriant mwy yn gwneud y prif ffyrdd. Rydym wedi awgrymu tynnu un o ysgubwyr un o’r trefi llai yn ne’r sir. Un o’r rhesymau dros hyn yw ein bod yn gweld lleihad yn y cwynion sy’n ymwneud ag ysbwriel, er y gallai ysbwriel fod yn mynd i lawr y dreiniau. Felly mae angen i ni edrych ar hynny eto, gan ystyried yr adroddiad yma.

A fyddwch yn gweithio gyda chynghorau tref a chynghorau cymuned er mwyn canfod ble mae’r problemau?

Rydym yn fwy na hapus i gwrdd â Chynghorau Tref a Chynghorau Cymuned i drafod y materion. Gwyddom ble mae’r 25,000 draen ar draws y sir; mae eu plotio gyda’r peirianwaith yn ein galluogi i nodi popeth, gan gynnwys pa waith sydd angen ei wneud yn y dyfodol. Mae’r cod ymarfer yn ymwneud â rhaglennu gwaith ar gyfer y dyfodol ar sail asesiad risg. Wrth blotio’r dreiniau, gallwn orgyffwrdd y wybodaeth gyda manylion llifogydd a gwybodaeth arall.

A oes modd i ni ddefnyddio peiriannau tomwelltu?

Bu i ni brynu 2 beiriant tomwelltu o fewn yr adran cynnal a chadw tiroedd er mwyn tomwelltu’r gwellt yn ôl i mewn, ynghyd â dau beiriant torri gwair sy’n casglu er mwyn symud y gwair ac annog blodau gwyllt i dyfu.

Wrth edrych ar tyllau mewn ffyrdd, a ydym yn rhoi dwy dasg ar waith hy daw’r adroddiad i mewn, yna aiff rhywun allan i’w asesu, cyn delio â’r twll.

Rydym yn ceisio sicrhau bod tyllau mewn ffyrdd a dreiniau dan reolaeth, ond mae’n her fawr o ystyried yr adnoddau sydd gennym. Ar hyn o bryd, oni bai bod damwain wedi bod, rydym yn ymateb drwy anfon tîm i ddelio â’r broblem ac mae modd i ni drwsio’r twll. Os oes pryder gan y tîm yngl?n â chyflwr cyffredinol y ffordd, maent yn adrodd yn ôl ac rydym yn mynd allan er mwyn gwneud asesiad mwy cyffredinol. Felly rydym yn ymateb yn y lle cyntaf, yna’n camu’n ôl ac yn ystyried beth arall y mae modd i ni ei wneud. Os yw’r gwaith yn rhu ddrud neu os y bydd yn cymryd gormod o amser, rydym yn trafod gyda Strategaeth fel y gallant raglennu a nodi’r angen mewn mwy o fanylder.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer helaeth o hysbysebion yngl?n â ffyrdd ar gau yn y papur lleol – a yw’r rhain bob amser yn angenrheidiol, a beth yw’r gost?

Mae’n rhaid i ni hysbysebu gorchmynion rheoliadau traffig, megis cau ffyrdd, yn y wasg, yn ddwy-ieithog. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes rhaid gwneud hyn ar gyfer gwaith brys, ond yn gyffredinol mae gofyn hysbysebu. Bydd angen i ni wirio beth yn union yw cost rhoi’r hysbysebion yn y papur.

Mae ysbwriel yn broblem fawr. Beth yw’r ateb?

Mae gennym raglen addysgu fawr yn ei lle ar hyn o bryd ar gyfer ysbwriel. Trafodwyd y rhaglen yn y pwyllgor hwn oddeutu 18 mis yn ôl. Rydym wedi ymuno â’r ymgyrch sy’n cael ei rhedeg gan Cadw Cymru’n Daclus ar fynd i’r afael ag ysbwriel ar ochor y ffordd – caiff ei gydnabod yn y DU mai dyma un o’r prif broblemau. Gobeithio y bydd deddfwriaeth ychwanegol yn cael ei chyflwyno a fydd yn ein galluogi i roi dirwyon i yrwyr sy’n taflu sbwriel. Mae’n broblem fawr o ran dreiniau, am nad oes angen llawer o ysbwriel i achosi rhwystr. Bydd yr ysgubwr ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth, er na ddylid gorfod ei ddefnyddio er mwyn delio ag ysbwriel.

Mae nifer o drigolion Undy’n siomedig yngl?n â chau Elms Lane. A oes angen i drwyddedau cau ffyrdd bara 18 mis bob amser?

Byddai’r Tîm Priffyrdd mewn sefyllfa well i ateb y cwestiwn yma.

Pa danwydd sy’n cael ei argymell ar gyfer y cerbydau newydd?

Rydym wedi treialu trydan o ran y cerbydau mwy, ond nid ydynt wedi cyrraedd y safon sydd ei angen. Rydym hefyd yn parhau i weithio ein ffordd i mewn i hydrogen. Mae’n debygol y bydd y fflud nesaf yn defnyddio tanwydd diesel, ond ar gyfer cerbydau llai megis faniau, rydym yn defnyddio llawer o drydan. Rydym ar fin caffael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau ysbwriel trydan – mae mwy i’w gweld ar y farchnad na ysgubwyr a sugnwyr-gyli. Rydym wedi edrych ar gerbydau trydan ar gyfer y Jetter; ar hyn o bryd mae popeth yn canolbwyntio ar cityscapes, sef Jetter sy’n gallu gwagio nifer o gylis o fewn radiws fechan o’r depo. Rydym mynd heibio terfyn presennol y peiriannau yma o 17 milltir mewn 7 awr.

Crynodeb y Cadeirydd:

Cytunodd y Cynghorydd Batrouni gyda’r adroddiad. Cwestiynodd a yw parcio ar leiniau gwyrdd, a’r llacio mwd sy’n deillio o hyn, yn cyfrannu at ddreiniau wedi rhwystro, a sut y gellid rhoi stop ar hyn. Mae wedi derbyn nifer o gwynion yngl?n â’r ffaith nad ydym yn casglu gwellt yn y Gwanwyn a’r Haf.

Cododd y Cynghorydd Edwards hefyd bryderon yngl?n â gwellt hir mewn dreiniau ac awgrymodd y dylai gwellt gael ei dorri’n fwy aml. Pwysleisiodd hefyd y byddai gwell rhaglennu o ran torri gwrychoedd ac ysgubo ffyrdd o fudd mawr, yn enwedig yng nghefn gwlad. Tynnodd sylw ar y problemau yn Whitehall Lane a chwestiynodd a ddylem recriwtio prentisiaid i’r tîm; cadarnhaodd Carl Touhig for 5 gweithiwr wedi cychwyn sydd â chefndir mewn peirianneg. Nododd y Cynghorydd mai peth da fyddai annog merched i ymuno â’r maes yma. Cododd bryderon yngl?n â phobl nad ydynt yn byw yn y sir, yn taflu ysbwriel yng nghefn gwlad er gwaethaf arwyddion helaeth.

Gofynnodd y Cynghorydd Powell a oes gennym unrhyw b?er o ran annog Llywodraeth Cymru i wneud gwaith cynnal a chadw ar gefnffyrdd. Awgrymodd y Cynghorydd Groucott fod y systemau blaenorol yn annigonol a gofynnodd a ydym yn cynllunio systemau digonol ar gyfer y dyfodol.

O ran Argymhelliad 2.4 (nodi dreiniau), awgrymodd y Cynghorydd Smith ein bod yn gweithio gyda chynghorau cymuned a chynghorau tref, ac yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chynghorau’n lleol gyda map, gan ofyn iddynt ddangos ble mae’r problemau o ran dreiniau. Cwestiynodd, hefyd, pam nad ydym yn defnyddio peiriannau tomwelltu, a gofynnodd a ydym yn rhoi dwy dasg ar waith o ran tyllau mewn ffyrdd wrth archwilio a gwneud y gwaith. Cododd bwynt yngl?n â gwell cyfathrebu gyda pherchnogion tir o ran cael gwared â gwrychoedd, a cwestiynodd gost rhoi hysbysebion yn y papur er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd am ffyrdd â fydd ar gau; bydd swyddogion yn dod yn ôl i’r pwyllgor gydag union gost. Gofynnodd hefyd pa danwydd a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cerbydau newydd, ac awgrymodd y dylid rhoi nodyn yn yr adroddiad i egluro pam, er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd ein bod yn parhau i ystyried yr amgylchedd.

 

Dogfennau ategol: