Agenda item

Craffu ar Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019-20.

Cofnodion:

Cyflwynodd Alan Burkitt yr adroddiad at atebodd gwestiynau’r aelodau.

Her:

Mae’r strategaeth hon yn gysylltiedig ag 8 arall – a ddylid crynhoi pob un ohonynt a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar bethau penodol?Ai hwn yw’r cynllun trosfwaol, neu ai’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol yw hon? Ym mha fodd y mae’r ddau gynllun yn plethu?

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym gyfrifoldeb i lunio’r strategaeth yma. Mae llawer o waith da’n mynd rhagddo o ran yr agenda yma, ond mae’n anodd iawn plethu’r gwaith; byddai ‘gorgyffwrdd’ yn ddisgrifiad gwell. Mae’n wir y gallent asio’n well o bosib. Ond rydym yn trafod gyda’n gilydd fel grwpiau, felly mae cydweithio cadarnhaol yn digwydd, ac mae’r gwaith ar wahân. Gallem weithio mwy ar gysylltu gyda’n gilydd, dylem gadw hyn mewn cof. Efallai nad yw’r gwaith wedi ei strwythuro mor daclus ac sy’n bosibl, ond mae hyn yn ein brwdfrydedd i wneud cymaint o waith â phosibl.

Mae’n ymddangos bod y gwaith ar Dlodi ac Anghydraddoldeb yn digwydd ar ôl i gyllid gael ei ystyried. I ba raddau y mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yma, neu’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, yn dylanwadu ar y broses gosod cyllidebau ar y cychwyn?

Mae’r ddogfen asesu’n edrych ar y nodweddion gwarchodedig, gan sicrhau nad yw’r bobl rheiny dan anfantais pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau. Rydym yn dueddol o gynhyrchu’r dogfennau yma pan mae adroddiad yn mynd i’r Cabinet neu i’r Cyngor, yn hytrach na’i defnyddio i siapio’r prosesau yn fuan. Nid fel hyn y dylai pethau fod. Golyga hyn nad yw’r asesiad yn benodol i’r penderfyniad hy mae’n digwydd ar ddiwedd y broses, pan mae’n llai effeithiol. O ran y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS), nid dyma’r cynllun ei hun, ond y mesurau diogelu o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb. Y broses y dylid ei defnyddio er mwyn ceisio sicrhau nad ydym yn rhoi pobl dan anfantais yw’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (AEG). Fel sefydliad, mae angen i ni ddechrau edrych ar y ddogfen honno yn gynt.

Mae tudalen 19 yn cyfeirio at y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae wedi dod i’r amlwg fod plant mewn gofal a henoed sy’n ddinasyddion yr UE yn or-ddibynnol ar awdurdodau lleol i wneud cais drostynt. Faint o blant sy’n ddinasyddion yr UE sydd yn ein gofal a faint o henoed sy’n ddinasyddion yr UE sydd yn ein cartrefi gofal?

Nid wyf yn gwybod. Mae’n gwestian da ond nid wyf yn gweithio’n ddigon agos o ran y lefel yma o fanylder. Efallai fod gan Shaz Miah (Swyddog Cydlyniant Cymunedol) atebion, neu efallai mai hi fyddai’n gwneud y gwaith priodol.

Mae gorgyffwrdd posib yn bwysig, gan fod y rhan fwyaf o bethau yn gorgyffwrdd a ni ellir gwahanu dim bron i wahanol adrannau.

Ydi, mae’n anodd gwahanu materion. Mae llawer o waith da’n digwydd, ac mae lefel uchel o ymrwymiad. Mae’r gwahanol grwpiau yn gweithio gyda’u gilydd er mwyn croes gyffwrdd heb ddyblygu gwaith. Y peth pwysicaf i ni yw peidio â methu dim.

Mae angen i ni feddwl mwy am sut yr ydym yn cyflwyno adroddiadau – mae rhai’n ei chael hi’n anodd ymdopi â phrintiau lliw.

Ydi, mae hyn yn rhywbeth y bydd yr arolwg Hygyrchedd yn edrych arno. Mae’r RNIB yn dweud y dylid defnyddio maint ffont Arial 12, a sicrhau bod lliwiau’n cyferbynnu. Byddwn yn crybwyll hyn gyda’r dylunwyr gwefan yn y cyfarfod nesaf.

Cychwynnodd y Fforwm Mynediad i Bawb yn dda – beth yw hanes y fforwm ar hyn o bryd?

Ie, y diweddar Jenny Barnes CAIR (Contact, Action, Inform, Represent) a oedd yn gyrru’r fforwm – cafodd ei lyncu gan Mynediad i Bawb am ein bod eisiau mwy o ymgysylltiad. Nid yw’r fforwm wedi cwrdd ers sbel ond y bwriad yw cynnal cyfarfod yn fuan. Bydd yn cael ei gadeirio gan Tony Crowhurst. Roedd cyfarfod yn Nhorfaen yn ddiweddar a chafwyd presenoldeb da. Bu i nifer o aelodau ymddeol o CAIR wedi i Jenny farw, ond mae gr?p anabledd gweithgar iawn yn y Fenni o hyd. Mae’n bwysig bod y fath waith craffu’n digwydd o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud a mewnbwn allanol yn cael ei roi. Bydd cyfarfodydd ar-lein o fantais a dylai hyn annog presenoldeb.

Crynodeb y Cadeirydd:

Cwestiynodd y Cynghorydd Batrouni ai cael 8 amcan yw’r ffordd fwyaf effeithiol o weithio a gofynnodd sut y maent yn ffitio o gwmpas y strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, ac os yw cynlluniau’n gorgyffwrdd, pa waith sy’n cael ei ddyblygu. Roedd ganddo bryderon, hefyd, o ran cyllid, ac roedd yn teimlo bod hyn wedi bod yn ôl-ystyriaeth, a nododd nad yw’r gyllideb yn adlewyrchu ein cynllun strategol. Cwestiynodd ar pa bwynt y mae’r cynllun Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn effeithio ar y gyllideb o’r cychwyn. Gofynnodd gwestiwn, hefyd, yngl?n â’r Statws Preswylio’n Sefydlog Ewrop, ac roedd eisiau gwybod faint o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a oedd yn dioddef problemau gwybyddol mewn cartrefi gofal – bydd y Cadeirydd yn e-bostio Shaz Miah i ofyn y cwestiwn yma ar ôl y cyfarfod.

Nododd y Cynghorydd Powell a’r Cynghorydd Edwards nad oes modd osgoi gwaith sy’n gorgyffwrdd weithiau. Tynnodd y Cynghorydd Smith sylw at ambell i wall teipio yn yr adroddiad a nododd bod y printiau lliw yn ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr. Gwnaeth gais, hefyd, am ddiweddariad ar Mynediad i Bawb. Ar y pwynt hwnnw, rhoddodd y Cynghorydd Pratt wybod i’r aelodau ei bod wedi mynychu’r cyfarfod a gadeiriwyd gan Torfaen ddoe, gyda’r Swyddog Burkitt. Dywedodd bod y cyfarfod wedi bod o fudd mawr ac yr hoffai ymgysylltu mwy, er mwyn clywed am y problemau y mae’r gymuned anabl yn eu wynebu. Mae’n awyddus i sicrhau bod cyfathrebu effeithiol yn digwydd, ac mae eisiau rhoi ei chefnogaeth lawn.

 

Dogfennau ategol: