Agenda item

Adroddiad Polisi a Strategaeth y Trysorlys 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro Adroddiad Polisi a Strategaeth y Trysorlys 2020/2021 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor ar 11eg Mawrth 2021. Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gofynnwyd cwestiynau fel a ganlyn:

 

·         Canmolodd Aelod y tîm am gwblhaur gwaith technegol iawn hwn a nododd fod buddsoddiadau cyfun wedi bod yn fwy llwyddiannus na rhai buddsoddiadau eraill.  Gofynnwyd a oes lle i gynyddu'r dull hwn. Cadarnhawyd bod cronfeydd cyfun wedi esgor ar elw da ar fuddsoddiad ar gyfer risg ychwanegol fach, gan nodi eu bod yn fuddsoddiadau tymor hir gydag elfen gyfalaf a bod oddeutu 3-4% o log yn cael ei ddychwelyd yn gyson.  Y terfynau eleni yw uchafswm o £6m. Mae'r awdurdod yn bwriadu cynyddu hyn i fuddsoddiadau o £10m mewn cronfeydd cyfun i adlewyrchu'r trothwy buddsoddi lleiaf i'w gynnal yn y tymor hir i fodloni gofynion deddfwriaeth y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MiFID 2).  Y bwriad yw arallgyfeirio dros nifer o reolwyr cronfeydd cyfun i ledaenu'r risg cymaint â phosibl i ddarparu diogelwch.

 

Gofynnodd y Cadeirydd pa gyfran o'r arian a fuddsoddwyd neu ar adnau oedd y £10m a gynrychiolwyd a dywedwyd wrtho fod buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn gyfredol wedi amrywio rhwng £13m-£33m.  Mae nifer y grantiau a dderbyniwyd oherwydd Covid 19 wedi cael effaith ar falansau. Ar gyfartaledd mae £20m - £23m yn ystod blwyddyn felly byddai'r gyfran oddeutu 50%.

 

·         Gofynnodd Aelod am y strategaeth fenthyca gan fod y cyfraddau'n isel.  Gan gyfeirio at yr adroddiad, ar hyn o bryd mae gan yr awdurdod £171m mewn benthyciadau sy'n codi i £176m y flwyddyn nesaf gyda therfyn benthyciad uchaf yn £225m.  Cwestiynwyd pa mor agos y dylai'r awdurdod symud ymlaen i'r terfyn, os yw hwn yn ddull darbodus neu a ddylai'r awdurdod ystyried lleihau benthyciadau o'r lefel gyfredol ac a oes ffyrdd o wneud hyn. Cwestiynwyd a ywr buddsoddiadau yn ymgais i gydbwysor llyfrau”.  Esboniwyd ei bod yn sefyllfa gymhleth oherwydd y rhagolygon economaidd presennol.  Dylid nodi bod gofyniad benthyca'r awdurdod yn cael ei yrru gan yr angen i ariannu ei raglen gyfalaf nad yw'n cael ei ariannu gan grantiau nac adnoddau mewnol. 

 

Mae Atodiad 5 yn nodi dangosyddion darbodus ar gyfer y flwyddyn sy'n darparu terfyn statudol i swm y ddyled y gellir ei benthyg (Y flwyddyn nesaf yw £246.5m) heb dderbyn cymeradwyaeth gan y Cyngor.  Mae yna ffin weithredol hefyd i fesur benthyca yn ei herbyn ar unrhyw un adeg.  Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn defnyddio adnoddau mewnol yn gyntaf (balansau wrth gefn, cyfalaf gweithio) i ariannu gwariant o ddydd i ddydd cyn tynnu benthyciadau allanol i lawr. Mae benthyciadau tymor byr (e.e. 6 mis) yn log 0-1% ac yn cael eu defnyddio.  Mae benthyciadau tymor hwy yn uwch (e.e. 2% ar gyfer benthyciad 15 mlynedd) ar hyn o bryd.  Bydd angen rheoli'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau nad yw cyfraddau llog cynyddol yn effeithio ar ofynion benthyciad tymor hir yr awdurdod.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhawyd y bydd costau benthyca yn lleihau fel cyfran o gyfanswm y gwariant dros y pedair blynedd nesaf.  Bydd cyfanswm cyllideb refeniw'r awdurdod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn tra bo costau trysorlys yn fwy sefydlog felly byddai disgwyl i'r gyfran ostwng dros y tymor canolig.  Yn y blynyddoedd olaf (2023/24 a 2024/25) gall y cynlluniau buddsoddi cyfalaf fod yn eu babandod felly gall costau benthyca gynyddu wrth i amser fynd yn ei flaen oherwydd benthyca pellach unwaith y bydd cynlluniau buddsoddi cyfalaf yr awdurdod yn fwy sicr.

 

 

·         Holodd Aelod a yw amlder yr adrodd yn ddigonol i Aelodau'r Pwyllgor gadw golwg ar y cynnydd.  O ran adrodd i'r Pwyllgor Archwilio ddwywaith y flwyddyn ar berfformiad trysorlys, eglurwyd bod costau benthyca a gynigiwyd ar gyfer y flwyddyn ac enillion ar fuddsoddiadau yn cael eu cynnwys yn y monitro cyllideb refeniw a adroddir i'r Cabinet dair gwaith y flwyddyn. Hefyd, mae buddsoddiadau di-drysorlys (portffolio masnachol) yn cael eu monitro gan y Pwyllgor Buddsoddi.

·         Gofynnwyd sut y penodwyd Arlingclose yn Gynghorwyr y Trysorlys, beth yw ei gost ac a oes ganddo ddangosyddion perfformiad i ddarparu tystiolaeth bod yr awdurdod yn profi budd.  Esboniwyd bod contract Arlingclose yn agos at ddod i ben gydag opsiwn i ymestyn am flwyddyn arall; mae hyn yn debygol o gael ei ddefnyddio. Ni ellir datgelu cost y contract gan y bydd proses dendro yn cael ei llunio yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.  O ran perfformiad, sicrhawyd Aelodau'r Pwyllgor bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i drafod perfformiad Arlingclose a'i agwedd at y cyngor a ddarperir; mae gwybodaeth a chyngor technegol a ddarperir yn ddyddiol yn sylweddol.

 

Gweithredwyd ar yr argymhellion fel y'u cynhwyswyd yn yr adroddiad fel a ganlyn:

 

1)        Bod y Pwyllgor Archwilio yn ystyried ac yn cymeradwyo cylchrediad ymlaen a chymeradwyaeth y Cyngor llawn Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22 drafft (Atodiad 1) gan gynnwys:

 

           2021/22 Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys

           2021/22 Datganiad Polisi Isafswm y Ddarpariaeth Refeniw

           2021/22 Strategaethau Buddsoddi a Benthyca

 

2)         Mae'r Pwyllgor Archwilio'n parhau i adolygu gweithgareddau trysorlys y Cyngor ar ran y Cyngor trwy dderbyn yr adroddiad rheoli trysorlys canol blwyddyn a'r adroddiad diwedd blwyddyn.

Dogfennau ategol: