Dolenni pellach i Bapurau/Gwybodaeth ar gyfer gwybodaeth ac ystyriaeth
Eitem 6.
Dogfen ymgynghori Cymwysterau Cymru (gweler yn neilltuol t. 22-26 yn ymwneud â’r Dyniaethau)
Gweminar - https://youtu.be/Y78x8Ut4GN8
Ffurflen archebu ar gyfer Gweminar Dyniaethau Cymwysterau Cymru – (4 Mawrth)
Cofnodion:
Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar gymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’n cynnig llunio’r ystod o gymwysterau ar gyfer Dyniaethau:
· Adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol;
· Os yn ddichonadwy, creu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol; ac
· Os yn ddichonadwy, creu TGAU integredig mewn Dyniaethau.
Soniodd y Cynghorydd Adnoddau Dynol am rai pwyntiau posibl i’w trafod::
· A ddylai cymwysterau ar wahân fod ar gael ar gyfer pob un o’r pum pwynt;
· Effaith TGAU integredig mewn Dyniaethau ar y gofyniad gorfodol i addysgu Addysg Grefyddol yn 14-16, a’r cwrs llawn. Mae Addysg Grefyddol yn orfodol tan 16 oed;
· Yr angen i gymwysterau fod yn hygyrch i bob dysgwr ac i gael eu gwobrwyo am ddwy flynedd o astudiaeth orfodol o Addysg Grefyddol;
· A ddylai cwrs byr TGAU Addysg Grefyddol barhau;
· Os caiff ei weithredu, byddai’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhan fwyaf o ysgolion a gyllidir yn gyhoeddus i ddilyn maes llafur cyffredin a gytunwyd. A fyddai diwygio hyn i feysydd llafur a gytunwyd yn lleol?
· Er yn caniatáu i rai ysgolion a gyllidir yn gyhoeddus gyda chymeriad crefyddol ddilyn maes llafur enwadol, a fyddai unrhyw gymhwyster diwygiedig y bwriedir iddo gefnogi elfen RVE y cwricwlwm i Gymru yn ddigon hyblyg i gefnogi gwahanol ddulliau gweithredu lleol; a
· Nid yw Cymwysterau Cymru wedi sôn am ymgynghori gyda CYSAG ac awdurdodau lleol.
Y cwestiynau yw:
1. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’n cynigon i adolygu ac ad-drefnu TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol?
2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’n cynnig i greu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw’n ddichonadwy?
3. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’n cynnig i greu cymhwyster TGAU Dyniaethau newydd integredig, os yw’n ddichonadwy?
Cyfrannodd Aelodau CYSAG eu sylwadau fel sy’n dilyn:
· Mae Cymwysterau Cymru yn cyfaddef na ystyrir bod cymhwyster cyfun Dyniaethau yn ddichonadwy. Ychydig o gefnogaeth sydd mewn ysgolion gan e.e. adrannau Hanes a Daearyddiaeth;
· Pryder y byddai’r cynnwys Addysg Grefyddol mewn Dyniaethau integredig yn cael ei wanhau;
· Pryder am ddefnyddio athrawon heb fod yn arbenigol i addysgu’r elfen Addysg Grefyddol. Mae ychwanegu Astudiaethau Cymdeithasol yn ychwanegu at y pryder hwn;
· Mae’n bwysig cadw TGAU Addysg Grefyddol a chynnwys cwrs byr i gynnwys y maes llafur a gytunwyd; mae cymhwyster yn bwysig ar ddiwedd cwrs astudiaeth;
· Dylai pynciau dyniaethau fod ar wahân. Bydd yn rhy anodd i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio ymhellach i deimlo’n barod a hyderus i ddechrau ar gwrs Lefel A mewn pwnc nad ydynt wedi ei astudio ar gyfer TGAU;
· Pryder y byddai cynnwys pob pwnc sy’n rhan yn cael eu gwanhau;
· Mae astudiaethau Estyn yn dangos fod defnydd da ar Addysg Grefyddol yng Nghymru a chanlyniadau da;
· Dylai ysgolion Gwladol a Ffydd gael yr opsiwn i wneud TGAU os dymunant yn ôl ymagwedd enwadol. Mewn ysgol wladol, byddai’n ddefnyddiol os yw myfyriwr eisiau gwneud math ysgol ffydd o TGAU, y dylent gael yr opsiwn hwn yn hytrach na’r TGAU arferol a gynigir mewn ysgolion gwladol;
· Mae llawer o ysgolion yn datblygu cwrs Dyniaethau ar gyfer myfyrwyr iau ym mlynyddoedd 7 ac 8. Mae angen sgiliau mwy penodol i addysgu TGAU;
· Yng nghyswllt y cwrs byr Addysg Grefyddol, mae pryder am gymhwyster NCFE Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (poblogaidd mewn ysgolion) y gellid ei weld fel bod yn cael ei gynnig yn lle Addysg Grefyddol;
· Byddai TGAU Dyniaethau integredig yn tanseilio’r holl bynciau cydrannol gan roi dyfnder annigonol sydd ei angen erbyn 16 oed ac nid yw’n paratoi myfyrwyr ar gyfer Lefel A;
· Dylai’r pum pwnc cael cymhwyster;
· Dylai pob disgybl astudio cwrs byr gorfodol;
· Gall ceisiadau i astudio gradd mewn Addysg Grefyddol neu Ddiwinyddiaeth mewn prifysgolion yn Lloegr, yr Alban a Chymru fod angen TGAU Addysg Grefyddol, yr un fath ar gyfer astudio’r pynciau cydrannol eraill. Ni fyddai Dyniaethau yn ddigonol ac mae’n rhaid i fyfyrwyr Cymru gael cyfle i fod yn gystadleuol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig;
· A allai papur arholiad TGAU gael mwy o opsiynau i gynnwys opsiynau enwadol mewn ysgolion ffydd, neu i roi dewis enwadol i fyfyrwyr mewn ysgolion gwladol eraill;
· Dylid gwrthod TGAU Dyniaethau integredig o blaid cadw TGAU Addysg Grefyddol a gweithredu cwrs byr Addysg Grefyddol sy’n thematig ac yn cwmpasu’r maes llafur a gytunwyd;
· Os oes gan ysgolion Ddyniaethau yn CA3, mae’n anodd symud i bynciau ar wahân yn CA4;
· Gall rhoi’r opsiwn ar gyfer cyrsiau byr danio diddordeb myfyrwyr yn y cwrs llawn. Mae cael arholiadau dosbarth da yn galluogi myfyrwyr CA3 i weld myfyrwyr eraill yn symud ymlaen. Mae Addysg Grefyddol yn sylfaen dda ar gyfer llawer o yrfaoedd;
· Dylai’r cynnig o TGAU Dyniaethau fod yn ychwanegol at bynciau ar wahân;
· Mynegwyd pryder y byddai’r elfen Addysg Grefyddol yn cael ei ddysgu gan athrawon heb fod yn arbenigol. A fyddai hyn yn dibrisio’r cymhwyster ac yn effeithio ar geisiadau prifysgol;
· Mae penaethiaid eisiau canlyniadau mewn meysydd arbenigedd i fesur perfformiad adrannol;
· Mae’n well gan CYSAG i’r teitl fod yn Astudiaethau Crefyddol. Dylai gwerthoedd a moeseg fod yn rhan gyfrannol o’r holl bynciau yn y cwricwlwm.
Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Addysg Grefyddol yn paratoi drafft ymateb ac yn ei gylchredeg i’r gr?p ar gyfer sylwadau.
Dogfennau ategol: